Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 10/07/2017 - Fforwm Cyllideb Ysgolion (eitem 6)

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Cofnod:

Eitem 4 – Ymgynghoriad ar newid geiriad Cynllun Ariannu Ysgolion mewn perthynas â throsglwyddo balansau ysgolion sy’n cau           

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Ysgolion bod y Cabinet yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2017 wedi cymeradwyo newid geiriad cymal 4.8 o’r Cynllun Ariannu Ysgolion yn unol â’r geiriad isod:

 

“Bydd gweddill unrhyw ysgol sy’n cau (boed y gweddill hwnnw yn warged neu’n ddiffyg) yn eiddo i’r awdurdod; ni ellir ei drosglwyddo fel gweddill i unrhyw ysgol arall, heblaw i ysgol a sefydlwyd fel canlyniad i’r cau hwnnw.  Mewn sefyllfa o’r fath trosglwyddir y gweddill i’r ysgol newydd o dan ddarpariaethau Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010.

 


Cyfarfod: 04/07/2016 - Fforwm Cyllideb Ysgolion (eitem 6)

MATERION YN CODI O’R COFNODION