8 GRANTIAU YSGOLION 2016/17 PDF 239 KB
I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr
uchod.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Addysg ynglyn a Grantiau Ysgolion 2016/17 a thywyswyd y Fforwm drwy’r cynnwys gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau
Addysg.
Cyfeiriwyd at y grantiau yn unigol
gan nodi:
Grant Amddifadedd
Disgyblion - £2,203,350 - grant ar sail nifer disgyblion gyda hawl i
ginio am ddim er mwyn gwella safonau llythrennedd, rhifedd a hefyd i gau’r
bwlch rhwng plant difreintiedig a’u cyfoedion.
Grant Gwella Addysg - £4,171,818 –
grant i godi safonau addysgu.
Grant 6ed Dosbarth
(£3,277,221) - O’r 14 ysgol uwchradd, 7 yn darparu cyrsiau 6ed dosbarth gyda’r
grant uchod yn cael ei ddyrannu ar sail cyfuniad o nifer disgyblion / nifer
cyrsiau, amddifadedd, gwasgaredd ac addysg cyfrwng
Gymraeg.
Cadarnhawyd nad oedd y grantiau
uchod yn ddibynnol ar arian Ewrop.
Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid o
safbwynt y GGA mai un swm o arian a dderbynnir
yn rhanbarthol ac yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar ystadegau.
Cyfnod Sylfaen : fformiwla
penodol yn bennaf ar sail disgyblion cyfnod sylfaen gyda gofyn i weithio tuag
at cymhareb o 1:8 oedolyn i ddisgyblion yn y blynyddoedd meithrin a derbyn a chymharbe o 1:15 yn blynyddoedd 1 a 2. Nodwyd bod gweddill y GGA yn cael ei ddyrannu
ar sail 80% nifer disgyblion a 20% ar sail niferoedd cinio am ddim.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.