POLISI DYRANIAD YCHWANEGOL GWARCHODAETH LLEIAFSWM STAFFIO
I dderbyn adroddiad llafar ar yr
uchod.
Cofnod:
Atgoffwyd y
Fforwm o’r newid ym mholisi Dyraniad Ychwanegol Gwarchodaeth Lleiafswm Staffio
er mwyn lleihau’r dyraniad gwarchodaeth gyfwerth â’r
elfen balansau dros 5% o’r flwyddyn olaf a gyhoeddwyd
(balansau ar ddiwedd 2014-15 mewn perthynas â
dyraniad gwarchodaeth 2016-17).
Llythyrwyd â’r ysgolion a oedd â gwarged dros drothwy’r balansau gan eu gwahodd i gyflwyno cais i beidio lleihau’r
warchodaeth lleiafswm staffio ar gyfer 2016/17.
Erbyn dydddiad y Fforwm derbyniwyd 11 cais
gydag un cais hwyr sydd heb eu prosesu ac allan o’r 11 bydd 5 o’r ysgolion yn
derbyn y warchodaeth gyfan yn ôl gyda rhan fwyaf o’r arian yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer staffio (sef Pennaeth/ Athro ymhob ysgol).
Mewn ymateb i’r
uchod, amlygwyd anfodlonrwydd gan yr Aelod Cabinet Adnoddau nad oedd y sefyllfa
yn dderbyniol o ystyried bod holl Wasanaethau’r Cyngor yn gorfod cydymffurfio â’u cyllidebau dynodedig.
Ychwanegodd y dylid bod yn gadarn gyda’r ysgolion ac y disgwylir gweld
gwelliant sylweddol ym malansau’r ysgolion flwyddyn
nesaf. Nodwyd yr angen i bob dalgylch
wynebu realiti’r sefyllfa gyda’r angen i brysuro ymlaen gyda threfniadaeth
ysgolion.
Ategodd yr Aelod
Cabinet Addysg yr un pryder ac anfodlonrwydd gyda’r sefyllfa a’i fod yn anodd
iddo mewn cyfarfodydd o’r Cabinet ddadlau achos y Gwasanaeth Ysgolion o
safbwynt toriadau ariannol o ystyried bod swm eithaf sylweddol gan rhai
ysgolion mewn balansau. Awgrymwyd i’r Aelod Cabinet fynegi
anfodlonrwydd y Fforwm wrth Benaethiaid mewn cyfarfod o’r GYDCA ynglyn a defnydd o falansau ac
apelio arnynt i’w defnyddio er mwyn lliniaru’r sefyllfa ar gyfer flwyddyn
nesaf.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi’r uchod.
(b) Cymeradwyo i’r Aelod Cabinet Addysg
gyfleu pryder y Fforwm ynglyn a defnydd o falansau ac i’w hannog i’w lleihau erbyn y flwyddyn nesaf.