4 CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 260 KB
‘The Firecat Country House’, Camlan Uchaf, Mallwyd, SY20 9EP
Ystyried
y cais uchod
Cofnod:
1.
CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – THE FIRECAT COUNTRY HOUSE B&B,
CAMLAN UCHAF, MALLWYD
Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol.
Ar ran yr eiddo: Mr Robin Worgan (ymgeisydd) ac Amber
Worgan
Aelod Lleol: Cynghorydd
John Pughe Roberts
Eraill
a fynychwyd: Arfon Hughes (Cyngor Cymuned Mawddwy), Euron Thomas (Uwch Swyddog Iechyd Amgylchedd
– Cyngor Gwynedd)
a)
Nododd y Cadeirydd bod yr Is Bwyllgor,
yn dymuno gohirio'r cyfarfod er mwyn trefnu ymweliad safle i aelodau’r Is
Bwyllgor ystyried yn llawn y pryderon a fynegwyd gan wrthwynebwyr i’r cais ar
sail mynediad i’r safle.
b)
Amlygodd y Cyfreithiwr bod Diogelwch y
Cyhoedd yn un o egwyddorion Deddf
Trwyddedu 2003. Nododd mai synhwyrol fuasai cynnal ymweliad safle gan mai un o
brif gyfrifoldebau yr Is Bwyllgor yw ystyried diogelwch y cyhoedd
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle ac ail drefnu
gwrandawiad
Dechreuodd
y cyfarfod am 1:15am a daeth i ben am 1:30pm