6 DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG YN NALGYLCH YSGOL Y BERWYN PDF 340 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gohirio’r ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad er
mwyn ystyried yr ohebiaeth ddiweddaraf
a dderbyniwyd gan yr Eglwys yng
Nghymru ynghyd a’r farn gyfreithiol
a dderbyniwyd hefyd.
Rhoi amser i swyddogion gynnal trafodaethau lleol pellach.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas.
PENDERFYNWYD
Gohirio’r ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad er
mwyn ystyried yr ohebiaeth ddiweddaraf
a dderbyniwyd gan yr Eglwys yng
Nghymru ynghyd a’r farn gyfreithiol
a dderbyniwyd hefyd.
Rhoi
amser i swyddogion
gynnal trafodaethau lleol pellach.
TRAFODAETH
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg y sefyllfa yn dilyn yr
ohebiaeth ddiweddar gyda’r Eglwys Yng
Nghymru. Nododd fod y Cabinet wedi penderfynu ar yr
2il o Fehefin
2015 i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant
ac Ysgol y Berwyn a sefydlu
Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg gyda statws Gwirfoddol
a Reolir, Eglwys yng Nghymru yn
ei le. Mae’r cynllun wedi bod yn mynd rhagddo
gyda’r effaith eisoes yn cael
ei weld yn Y Bala, gyda’r adnoddau
diwylliannol a’r cae 3G yn cael
eu defnyddio. Pwysleisiwyd mai mater llywodraethu sydd o dan sylw, a bod
y cynllun
yn parhau.
Ym Medi
2016 cyfarfu’r Pennaeth Addysg a’r Esgobaeth
er mwyn eu
diweddaru ar gynnydd y cynllun. Yn fuan wedi’r cyfarfod derbyniwyd llythyr bygythiol gan gynrychiolwyr
cyfreithiol yr Esgobaeth oedd yn gwneud dau
brif bwynt. Yn gyntaf: “The Diocese of St
Asaph will not be able to consider such a school so promoted as a Church in Wales school.” Ac yn ail: “For
a local authority to force site trustees into a position where their private
value is unnecessarily reverted is most improper.” Nododd yr
Aelod Cabinet fod y sefyllfa yn parhau
i ddatblygu, gyda’r Adran Addysg
yn cynnal deialog gyda’r Esgobaeth.
Nododd y Swyddog Monitro ei fod
yn hyderus fod y broses gyfreithiol wedi ei dilyn
yn briodol. ‘Roedd wedi ceisio
eglurhad pellach ar rai pwyntiau a nodwyd, a phwysleisiodd bwysigrwydd ystyried y cyngor yma pan fyddai’n cael ei
dderbyn.
Sylwadau
yn codi:
- Syndod nad oedd
ystyriaeth wedi ei roi i Addysg y plant yng ngohebiaeth yr Eglwys, gan mai
hynny sy’n ganolog i’r cynllun.
- Rhwystredigaeth fod oedi
yn y prosiect a’r buddion sy’n deillio
ohono.
- Anghrediniaeth ar y
datblygiadau, gan bwysleisio mai mater o lywodraethiant
sydd yma, fydd ddim yn arafu’r gwaith adeiladu o gwbl.
- Fod angen rhannu
gwybodaeth am y sefyllfa’n lleol.
Awdur: Iwan T Jones