Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Cabinet (eitem 6)

6 DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG YN NALGYLCH YSGOL Y BERWYN pdf eicon PDF 340 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio’r ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad er mwyn ystyried yr ohebiaeth ddiweddaraf a dderbyniwyd gan yr Eglwys yng Nghymru ynghyd a’r farn gyfreithiol a dderbyniwyd hefyd.

 

Rhoi amser i swyddogion gynnal trafodaethau lleol pellach.

COFNODION:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas.

 

PENDERFYNWYD

 

Gohirio’r ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad er mwyn ystyried yr ohebiaeth ddiweddaraf a dderbyniwyd gan yr Eglwys yng Nghymru ynghyd a’r farn gyfreithiol a dderbyniwyd hefyd.

 

Rhoi amser i swyddogion gynnal trafodaethau lleol pellach.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg y sefyllfa yn dilyn yr ohebiaeth ddiweddar gyda’r Eglwys Yng Nghymru. Nododd fod y Cabinet wedi penderfynu ar yr 2il o  Fehefin 2015 i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn a sefydlu Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg gyda statws Gwirfoddol a Reolir, Eglwys yng Nghymru yn ei le. Mae’r cynllun wedi bod yn mynd rhagddo gyda’r effaith eisoes yn cael ei weld yn Y Bala, gyda’r adnoddau diwylliannol a’r cae 3G yn cael eu defnyddio. Pwysleisiwyd mai mater llywodraethu sydd o dan sylw, a bod  

y cynllun yn parhau.

 

Ym Medi 2016 cyfarfu’r Pennaeth Addysg a’r Esgobaeth er mwyn eu diweddaru ar gynnydd y cynllun. Yn fuan wedi’r cyfarfod derbyniwyd llythyr bygythiol gan gynrychiolwyr cyfreithiol yr Esgobaeth oedd yn gwneud dau brif bwynt. Yn gyntaf: “The Diocese of St Asaph will not be able to consider such a school so promoted as a Church in Wales school.” Ac yn ail: “For a local authority to force site trustees into a position where their private value is unnecessarily reverted is most improper.” Nododd yr Aelod Cabinet fod y sefyllfa yn parhau i ddatblygu, gyda’r Adran Addysg yn cynnal deialog gyda’r Esgobaeth.

 

Nododd y Swyddog Monitro ei fod yn hyderus fod y broses gyfreithiol wedi ei dilyn yn briodol.Roedd wedi ceisio eglurhad pellach ar rai pwyntiau a nodwyd, a phwysleisiodd bwysigrwydd ystyried y cyngor yma pan fyddai’n cael ei dderbyn.

 

Sylwadau yn codi:

-       Syndod nad oedd ystyriaeth wedi ei roi i Addysg y plant yng ngohebiaeth yr Eglwys, gan mai hynny sy’n ganolog i’r cynllun.

-       Rhwystredigaeth fod oedi yn y prosiect a’r buddion  sy’n deillio ohono.

-       Anghrediniaeth ar y datblygiadau, gan bwysleisio mai mater o lywodraethiant sydd yma, fydd ddim yn arafu’r gwaith adeiladu o gwbl.

-       Fod angen rhannu gwybodaeth am y sefyllfa’n lleol.

 

Awdur: Iwan T Jones