12 ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET ADDYSG PDF 183 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
Cymeradwyo’r ffigyrau
proffil amgen isod ar gyfer
Cynllun P7 Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol:
2016/17 |
2017/18 |
2018/19 |
2019/20 |
Cyfanswm |
26,238 |
98,356 |
436,004 |
247,863 |
808,461 |
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Gareth Thomas
PENDERFYNWYD
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
Cymeradwyo’r ffigyrau
proffil amgen isod ar gyfer
Cynllun P7 Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol:
2016/17 |
2017/18 |
2018/19 |
2019/20 |
Cyfanswm |
26,238 |
98,356 |
436,004 |
247,863 |
808,461 |
TRAFODAETH
Adroddodd yr Aelod Cabinet addysg fod perfformiad
yr adran Addysg yn gyffredinol
dda, yn enwedig
yn y sector uwchradd. Fodd bynnag
bu perfformiad y sector gynradd wedi bod yn statig, yn
enwedig yn y cyfnod sylfaen, ac felly ‘roedd amser edrych
yn fanylach ar hynny.
Mae canlyniadau CA4
Gwynedd wedi bod y gorau yng Nghymru ers
4 mlynedd bellach ac mae hynny
i’w ganmol. Er mwyn parhau
gyda’r safonau uchel yma sefydlwyd
Bwrdd Ansawdd Sirol er mwyn
i’r Awdurdod a GwE gael
darlun cyflawno berfformiad y sector uwchradd a chynradd. ‘Roedd gweithredu’r model newydd o gefnogi ysgolion hefyd yn dwyn
ffrwyth, gyda 89.2% o ysgolion Gwynedd wedi eu categoreiddio
yn y dyfarniadau uchaf a dim un o ysgolion Gwynedd
mewn categori statudol.
Nododd fod angen cysoni a gwella perfformiad ym
mhynciau mathemateg a Saesneg, gyda gwaith wedi dechrau gyda Phrifysgol Bangor
er mwyn adnabod darpar athrawon a’u hyfforddi.
Bu rhywfaint o gynnydd wrth ganfod arbedion yn yr
adran, ond ‘roedd cydweithio gyda Môn i gyflawni arbedion cynllun
Trawsffurfio’r Ddarpariaeth Adnoddau Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad wedi achosi
llithro yn yr amserlen oherwydd trafodaethau i ymuno mewn partneriaeth
ffurfiol. Golyga’r llithriad yma fod angen ail broffilio’r cynllun arbedion.
Awdur: Iwan Trefor Jones