Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/02/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C16/1575/08/LL - The Fountain, Portmeirion pdf eicon PDF 234 KB

Cais ôl-weithredol i gadw bwrdd gwyddbwyll ar lawnt Pentref Portmeirion.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gareth Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ôl-weithredol i gadw bwrdd gwyddbwyll ar lawnt Pentref Portmeirion.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn pentref Portmeirion a oedd hefyd yn Ardal Gadwraeth. Nodwyd bod y safle yn ogystal wedi ei gynnwys ar y Gofrestr o Dirluniau, Parciau a Gerddi Hanesyddol (gradd II*), a sawl adeilad rhestredig gerllaw. Roedd y safle hefyd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. 

 

Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd a oedd yn datgan nad oedd y datblygiad yn addas nac yn gweddu i’r safle.

 

Nodwyd bod cyfiawnhad wedi ei gyflwyno dros y gwaith a oedd yn ymwneud â chyflwr y tir a oedd yn troi’n wlyb a mwdlyd yn aml. Ni ystyriwyd y byddai caniatáu’r cais yn achosi niwed arwyddocaol i gymeriad pensaernïol neu hanesyddol yr adeiladau rhestredig na’r Ardal Gadwraeth.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.