5 Cais Rhif C16/1575/08/LL - The Fountain, Portmeirion PDF 234 KB
Cais ôl-weithredol i gadw bwrdd gwyddbwyll ar lawnt Pentref Portmeirion.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cais ôl-weithredol i gadw bwrdd gwyddbwyll ar lawnt
Pentref Portmeirion.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod y safle wedi
ei leoli o fewn pentref Portmeirion a oedd hefyd yn Ardal Gadwraeth. Nodwyd bod
y safle yn ogystal wedi ei gynnwys ar y Gofrestr o Dirluniau, Parciau a Gerddi
Hanesyddol (gradd II*), a sawl adeilad rhestredig gerllaw. Roedd y safle hefyd
o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.
Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd
a oedd yn datgan nad oedd y datblygiad yn addas nac yn gweddu i’r safle.
Nodwyd bod cyfiawnhad wedi ei gyflwyno dros y gwaith a oedd yn
ymwneud â chyflwr y tir a oedd yn troi’n wlyb a mwdlyd yn aml. Ni ystyriwyd y byddai caniatáu’r cais yn achosi niwed arwyddocaol i
gymeriad pensaernïol neu hanesyddol yr adeiladau rhestredig na’r Ardal
Gadwraeth.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.