8 CYNLLUN GWEITHREDU CYSAG GWYNEDD PDF 252 KB
I ystyried y cynllun gweithredu.
(Copi’n amgaeedig)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynwyd cynllun
gweithredu am y flwyddyn
2016-17.
Cyfeiriwyd, yn ei
absenoldeb, at sylw anfonwyd gan Mr Cynrig Hughes ynglyn
ag arsylwi arfer dda yn yr ysgolion ac roedd o’r farn
y dylid gwneud ymgais yn weddol fuan i wneud hyn gan fod y mater wedi ei drafod
ers sawl blwyddyn bellach gan CYSAG Gwynedd a dim gweithrediad ar y mater hyd
yma.
Mewn ymateb
i’r uchod, awgrymodd Ymgynghorydd Her GwE i gynnal cyfarfod CYSAG tymor yr haf
ar ffurf wahanol ac i roi gwahoddiad i oddeutu 4 o athrawon i’r cyfarfod
i roi cyflwyniad ar eu harferion
gorau a / neu bryderon. Awgrymwyd ymhellach er mwyn hwyluso’r
trefniadau i ofyn i’r Swyddog Gwella
Ansawdd Addysg Cynorthwyol
:
·
Anfon at ysgolion i ganfod a fyddai Penaethiaid yn fodlon rhyddhau athrawon i fynychu
·
Ymchwilio a fyddai modd digolledu ysgolion am
ryddhau athrawon
·
Canfod a fyddai ysgolion yn fodlon
gwahodd Aelodau CYSAG i arsylwi
arferion da yng nghyswllt addoli ar y cyd
Addawodd Ymgynghorydd
Her GwE y byddai’n darparu briff eithaf clir
i ysgolion ar gyfer yr uchod.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi’r cynllun gweithredu ar gyfer
2016-17.
(b) Gofyn i’r Swyddog
Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol weithredu yn unol â’r
pwyntiau bwled uchod yn dilyn
derbyn briff gan Ymgynghorydd Her GwE.
8. CYNLLUN GWEITHREDU CYSAG GWYNEDD PDF 249 KB
I ystyried y cynllun gweithredu.
(Copi’n amgaeedig)
Dogfennau ychwanegol: