Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 09/03/2017 - CYSAG (eitem 8)

8 CYNLLUN GWEITHREDU CYSAG GWYNEDD pdf eicon PDF 252 KB

I ystyried y cynllun gweithredu.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd cynllun gweithredu am y flwyddyn 2016-17.

 

Cyfeiriwyd, yn ei absenoldeb, at sylw anfonwyd gan Mr Cynrig Hughes ynglyn ag arsylwi arfer dda yn yr ysgolion ac roedd o’r farn y dylid gwneud ymgais yn weddol fuan i wneud hyn gan fod y mater wedi ei drafod ers sawl blwyddyn bellach gan CYSAG Gwynedd a dim gweithrediad ar y mater hyd yma.

 

Mewn ymateb i’r uchod, awgrymodd Ymgynghorydd Her GwE i gynnal cyfarfod CYSAG tymor yr haf ar ffurf wahanol ac i roi gwahoddiad i oddeutu 4 o athrawon i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar eu harferion gorau a / neu bryderon.  Awgrymwyd ymhellach er mwyn hwyluso’r trefniadau i ofyn i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol :   

 

·         Anfon at ysgolion i ganfod a fyddai Penaethiaid yn fodlon rhyddhau athrawon i fynychu

·         Ymchwilio a fyddai modd digolledu ysgolion am ryddhau athrawon

·         Canfod a fyddai ysgolion yn fodlon gwahodd Aelodau CYSAG i arsylwi arferion da yng nghyswllt addoli ar y cyd

 

Addawodd Ymgynghorydd Her GwE y byddai’n darparu briff eithaf clir i ysgolion ar gyfer yr uchod.

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi’r cynllun gweithredu ar gyfer 2016-17.

 

                                    (b)       Gofyn i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol weithredu yn unol â’r pwyntiau bwled uchod yn dilyn derbyn briff gan Ymgynghorydd Her GwE.

 


Cyfarfod: 15/02/2017 - CYSAG (eitem 8.)

8. CYNLLUN GWEITHREDU CYSAG GWYNEDD pdf eicon PDF 249 KB

I ystyried y cynllun gweithredu.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol: