5 Cais Rhif C16/1430/44/LL - Tir hen Laethdy Moelwyn, Ffordd Penamser, Porthmadog PDF 351 KB
Codi tŷ preswyl
deulawr pedair ystafell wely yng
nghefn gwlad agored ynghyd â gosod tanc septig,
a chreu mynediad gerbydol a ffordd fynediad newydd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Griffiths
Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Codi
tŷ preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd â
gosod tanc septig, a chreu mynediad gerbydol a ffordd fynediad newydd.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2017 er mwyn rhoi cyfle i’r ymgeisydd gyflwyno mwy o
wybodaeth ynglyn a rhai agweddau penodol o’r cais.
Eglurwyd y gofynnwd i’r ymgeisydd am wybodaeth yn
gysylltiedg â menter gwledig yn unol â gofynion Nodyn Cyngor Technegol ar dri
achlysur sef mis Mawrth, Mai a Hydref 2017 ond ni gyflwynwyd unrhyw wybodaeth
ychwanegol ar gyfer ei asesu.
Ers cyflwyno’r cais, nodwyd bod newid amlwg wedi digwydd yn
nhermau polisi o ganlyniad i fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn sydd wedi disodli’r cynllun datblygu blaenorol.
Cyfeirwyd at y ffurflen sylwadau hwyr a oedd yn nodi cais
gan yr ymgeisydd i ohirio trafod a phenderfynu’r cais oherwydd prinder amser er
mwyn cael cyngor arbenigol a chael cyfle i gyflwyno tystiolaeth newydd.
Nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd yr Adran yn gefnogol
i’r cais o ohirio oherwydd ystyrir bod blwyddyn yn amser derbyniol i gyflwyno
gwybodaeth.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan i’r ffin datblygu
ddiffiniedig ar gyfer ardal Porthmadog ac oherwydd hynny fe’i ystyrir fel safle
yng nghefn gwlad. Nodwyd bod
paragraff 4.3.1 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6 ‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau
Gwledig Cynaliadwy’ yn nodi mai un o’r ychydig sefyllfaoedd ble gellir
cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad agored
oedd pan fod angen llety i alluogi gweithwyr amaethyddol neu fenter wledig i fyw
yn eu man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd y byddai p’un a yw hyn yn
hanfodol ai peidio mewn unrhyw achos penodol yn dibynnu ar anghenion y fenter
wledig dan sylw, ac nid ar ddewis nac amgylchiadau personol unrhyw un o’r
unigolion cysylltiedig. Noda NCT 6 y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol asesu
ceisiadau am ganiatad cynllunio ar gyfer anheddau amaethyddol neu fentrau
gwledig newydd yn ofalus i sicrhau y gellir cyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi
arferol o gyfyngu ar ddatblygiad yng nghefn gwlad agored drwy gyfeirio at
dystiolaeth ategol gadarn.
Amlygwyd
bod cyfeiriad yn y cais, yn benodol o fewn y Datganiad Dylunio a Mynediad yn
ogystal â llythyrau o gefnogaeth, at ddefnydd amaethyddol presennol y tir yn
ogystal â chynllun busnes arfaethedig i newid defnydd y tir ar gyfer busnes
cynaliadwy newydd a defnydd o ran o’r tir gan wasanaeth achub mynydd lleol.
Nodwyd ni chyflwynwyd gwybodaeth yn cadarnhau yn union sut fath o fusnes a
fwriedir i’r Gwasanaeth Cynllunio.
Tynnwyd
sylw at bryder ynglyn â maint yr annedd (225m2) sy’n sylweddol fwy
na tai menter wledig arferol sydd yn eithaf tebyg fel arfer i dai fforddiadwy.
Cyfeiriwyd at yr asesiad cyflawn a oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad, ac ategwyd mai’r prif fater ydoedd na dderbyniwyd unrhyw wybodaeth pellach i gefnogi ty menter wledig er gwaethaf gwneud cais amdano ers ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
5 Cais Rhif C16/1430/44/LL - Tir hen Laethdy Moelwyn, Ffordd Penamser, Porthmadog PDF 355 KB
Codi tŷ preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd â gosod tanc septig, a chreu mynediad gerbydol a ffordd fynediad newydd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Grifffiths
Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Codi
tŷ preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd a
gosod tanc septig, a chreu mynediad cerbydol a ffordd fynediad newydd.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli tu allan i’r ffin
datblygu ddiffiniedig ar gyfer ardal Porthmadog ac oherwydd hynny fe’i hystyrir fel safle yng nghefn gwlad.
Nodwyd bod paragraff 4.3.1 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6
‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy’ yn nodi mai un o’r ychydig
sefyllfaoedd ble gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl
newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad agored oedd pan fod angen llety i
alluogi gweithwyr amaethyddol neu fenter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n
agos ato. Ymhelaethwyd y byddai p’un a yw hyn yn hanfodol ai peidio mewn unrhyw
achos penodol yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar
ddewis nac amgylchiadau personol unrhyw un o’r unigolion cysylltiedig.
Amlygwyd bod cyfeiriad yn y cais, yn benodol o fewn y
Datganiad Dylunio a Mynediad yn ogystal â llythyrau o gefnogaeth, at ddefnydd
amaethyddol presennol y tir yn ogystal â chynllun busnes arfaethedig i newid
defnydd y tir ar gyfer busnes cynaliadwy newydd a defnydd o ran o’r tir gan
wasanaeth achub mynydd lleol. Nodwyd ni chyflwynwyd gwybodaeth yn cadarnhau yn
union sut fath o fusnes a fwriedir i’r Gwasanaeth Cynllunio.
Nodwyd serch hyn, ei fod yn ymddangos fod defnydd
amaethyddol sefydledig ar y tir, ac felly yn unol â gofynion NCT 6, pe byddai’r
cais ar gyfer tŷ i weithiwr amaethyddol neu fenter wledig llawn amser,
byddai angen cyflwyno gwybodaeth sy’n ymwneud a’r profion swyddogaethol, amser,
ariannol ac anheddau amgen er mwyn profi angen a chyfiawnhad am godi tŷ
yng nghefn gwlad agored. Nodwyd hefyd na ellir ystyried y tŷ i fod yn
dŷ fforddiadwy am y rhesymau a amlygwyd yn yr adroddiad.
Nodwyd y derbyniwyd llythyrau o gefnogaeth gan unigolion
lleol ac eraill i’r bwriad, rhoddwyd sylw llawn i’r holl faterion cynllunio
perthnasol a nodwyd yn y sylwadau a dderbyniwyd.
Tynnwyd sylw bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno ymholiad
ffurfiol cyn cyflwyno cais ar gyfer y bwriad fel y dangosir o dan gyfeirnod
Y16/000248. Cadarnhawyd mewn ymateb ffurfiol ar y pryd y byddai bwriad o’r fath
yn groes i ofynion polisïau perthnasol ac na fyddai’r Awdurdod o ganlyniad, yn
gallu cefnogi’r cynnig.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod rheidrwydd i’r tŷ fod
ar y safle yma i reoli’r
fferm sefydledig gyda 90 erw o dir;
·
Bod paragraff 4.5.1 o NCT
6 yn nodi y gall fod yn briodol
a’i fod yn
angenrheidiol i’r tŷ fod ar
y safle er mwyn rheoli’r fferm
ar ei ffurf
bresennol a menter wledig arall;
·
Bod y bwriad yn dderbyniol o ran paragraffau 4.5.3 a 4.6 o NCT 6;
·
Bod adfail yn bresennol ar
safle’r cais;
·
Nad oedd risg llifogydd ar y safle;
· Y byddai’r bwriad yn darparu cartref i deulu a sicrhau parhad busnes teuluol gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5