5 Cais Rhif C17/0198/30/LL - Pwll Melyn, Rhiw, Pwllheli PDF 356 KB
Cais i gadw
gwaith o adeiladu modurdy / storfa.
AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cais i gadw gwaith o
adeiladu modurdy / storfa.
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y
gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2017 er
mwyn ail-asesu’r cais o ran dyluniad ac angen a’r disgrifiad bellach wedi newid
i “adeiladu mordurdy/storfa” yn hytrach nag adeiladu adeilad amaethyddol. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y
cyfarfod ac felly yn gyfarwydd o gyd-destun y cais o fewn y tirwedd a’r AHNE.
Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 9 Chwefror sy’n dangos yr adeilad wedi ei wthio
ymhellach yn ôl o’r tŷ rhestredig a’r dyluniad wedi newid i fod yn do brig
yn hytrach na “mono pitch”, a’r gorffeniad yn bren ynghyd â lleihad yn yr
uchder.
Cyfeiriwyd at y polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol ynghyd a’r
ymatebion i’r ail-ymgynghoriad o fewn yr adroddiad. Ni dderbyniwyd
gwrthwynebiad i’r cynllun diwygiedig.
O safbwynt yr asesiad, noda’r ymgeisydd bod yr adeilad yn angenrheidiol ar
gyfer defnydd amlbwrpas i gynnwys storio, lle i gysgodi anifeiliad yn ystod
tywydd garw achlysurol.
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, ni ystyrir y byddai’r datblygiad
arfaethedig yn ei ffurf diwygiedig yn amharu ar yr AHNE.
Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt mwynderau cyffredinol a
phreswyl, materion bioamrywiaeth, priffyrdd, cadwraeth/adeilad rhestredig a’i
fod yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y
rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. O
ran y pryderon a godwyd ynglyn â’r adeilad rhestredig Bwthyn Pwll Melyn, cynhaliwyd
cyfarfod gyda Swyddog Cadwraeth a Swyddog Gorfodaeth yn dilyn penderfyniad y
Pwyllgor blaenorol ac fe nodwyd bod y cynlluniau diwygiedig yn cydymffurfio â
sylwadau y swyddogion hynny, a pholisi PS20 o’r CDLl ynghyd â Pholisi Cynllunio
Cymru.
Argymhelliad y swyddogion ydoedd caniatau’r cais yn unol â’r amodau a
restrir yn yr adroddiad.
(b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
(c) Nododd
Aelod bod y pryderon oedd ganddo ynglyn â bwthyn rhestredig wedi eu lleddfu yn dilyn iddo fynychu’r ymweliad safle wrth weld
bod yr adeilad arfaethedig wedi ei leihau mewn
maint ac wedi ei osod ymhellach yn ôl.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1.
Unol
a’r cynllun diwygiedig dyddiedig 9 Chwefror 2018;
2.
Dim
carafan i’w lleoli o fewn y cwrtil estynedig;
3.
Staenio’r
gorchudd bordiau pren allanol yn lliw brown tywyll;
4.
To’r
adeilad i fod o liw llwyd tywyll BS 18 B 29;
5.
Tynnu
strwythur presennol i lawr yn ei gyfanrwydd ac adfer y tir i’w gyflwr
gwrieddiol cyn dechrau gwaith ar yr adeilad a ganiateir yma.
7 Cais Rhif C17/0198/30/LL Pwll Melyn, Rhiw, Pwllheli PDF 256 KB
Cais ol-weithredol ar gyfer cadw adeilad amaethyddol
AELOD LLEOL:
Cynghorydd W Gareth Roberts
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw adeilad amaethyddol
a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais cynllunio ôl-weithredol
ydoedd i gadw adeilad amaethyddol o ffrâm dur oedd yn y broses o gael ei
adeiladu. Awgrymir y ffrâm bresennol adeilad gyda rhediad to mono pitch, ond bwriedir cwblhau‘r adeilad gyda tho brig.
Byddai gorffeniad allanol yr adeilad yn gymysgedd o wal blociau concrid a
gorchudd proffil dur o liw gwyrdd tywyll. Lleoli’r yr adeilad yng nghefn gwlad
tu allan i unrhyw ffin datblygu, ac mewn cae amaethyddol o fewn Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn. Mae’n gorwedd 5.5 medr oddi wrth dŷ
annedd unllawr sydd yn adeilad rhestredig gradd II.
Tynnwyd sylw ar y polisïau perthnasol oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad
ynghyd a’r sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Amlygwyd bod yr egwyddor o ganiatáu adeiladau at ddefnydd amaethyddol yng
nghefn gwlad wedi ei sefydlu gan Bolisi D9 CDUG sydd yn cymeradwyo cynigion i godi
adeiladau ar gyfer dibenion amaethyddol os ydynt yn rhesymol angenrheidiol.
Datgan asiant yr ymgeisydd bod yr adeilad yn angenrheidiol ar gyfer cadw
anifeiliaid yn ystod tywydd garw achlysurol, ac i gadw offer yn gysylltiedig ag
anifeiliaid sydd yn pori’r tir, ac amaethu. Gan nad oedd manylion anifeiliaid
wedi eu cyflwyno ystyriwyd cynnwys amod oedd yn cyfyngu defnydd yr adeilad at
bwrpas amaethyddol yn unig, ac y dylid ei ddymchwel petai defnydd amaethyddol
yn darfod o fewn cyfnod o 10 mlynedd. Yn ddarostyngedig i gynnwys yr amod
uchod, ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cydymffurfio a pholisi C1 a D9 CDUG, ac
na fyddai’n tanseilio Polisi PCYFF 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Gyda’r safle yn gorwedd mewn man amlwg o fewn AHNE Llyn ystyriwyd yr angen i
leihau unrhyw ardrawiad ar fwynderau gweledol yr AHNE. O ganlyniad, derbyniwyd cynllun diwygiedig (30 Mawrth
2017) yn dangos adeilad bwriedig gyda tho brig, gyda
gostyngiad uchder yr adeilad terfynol yn 3.7 medr uwchlaw lefel daear -
gostyngiad 0.4 medr. Yn ogystal roedd bwriad gorchuddio’r adeilad gyda setiau
proffil gwyrdd tywyll, gan ei fod yn lleihau ardrawiad adeiladau ar safleoedd
amlwg yn y dirwedd. Derbyniwyd sylwadau'r Swyddog AHNE yn nodi y byddai’r
addasiadau yn gwneud yr adeilad yn llai amlwg o’r ffordd..
Eglurwyd bod tŷ annedd agosaf (heblaw eiddo'r ymgeisydd) i’r adeilad bwriedig wedi ei leoli oddeutu 30 medr o’r safle. Oherwydd
maint y bwriad a’i leoliad mewn
perthynas â’r eiddo cyfagos ni ystyriwyd bod yr
adeilad bwriedig yn achosi difrod arwyddocaol i’r
eiddo hwnnw. Yn ychwanegol, ni ystyriwyd bod y bwriad yn amharu ar breifatrwydd
rhesymol defnyddwyr yr eiddo sydd gerllaw nac yn golygu gor-ddatblygiad
o’r safle.
Wedi ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, amlygywd bod y datblygiad yn dderbyniol ar sail egwyddor,
lleoliad, defnydd, dyluniad, deunyddiau ac effaith ar amwynder gweledol, ac ei
fod yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chyngor cynllunio lleol a
chenedlaethol.
b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
· mai cwt bychan oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7