Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Y Cynghorwyr:-
Dylan Bullard, R. Glyn Daniels, Peter Garlick, Annwen Hughes, R. Medwyn Hughes,
Sion Wyn Jones, Dewi Owen, Jason Parry, Dyfrig Siencyn, Hefin Underwood a
Gethin Glyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Eglurodd y Swyddog Monitro, oherwydd natur y cyfarfod, na fyddai
manylion yr ymgeisydd am swydd y Prif Weithredwr yn hysbys hyd
oni fyddai Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion
wedi cyflwyno argymhelliad y pwyllgor dan eitem 7 ar y rhaglen. Gan hynny, byddai
cyfle i unrhyw
aelod ddatgan buddiant yn dilyn
cyflwyno’r argymhelliad. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. COFNODION: Croesawyd y Cynghorydd Beca
Brown, yr Aelod newydd dros Ward Llanrug, i’w chyfarfod cyntaf
o’r Cyngor. Cydymdeimlwyd â’r canlynol:- ·
Y Teulu Brenhinol ar farwolaeth ei Uchelder Brenhinol, Dug Caeredin. ·
Teulu Maldwyn Lewis, Porthmadog, a nodwyd y rhoddid teyrnged lawn iddo
yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor. Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r
sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch
a choffadwriaeth. Llongyfarchwyd y Cynghorydd Annwen Hughes ar ddod yn Nain i ferch
fach, Bowen Eila. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw
ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan
gyfarwyddyd y Cadeirydd. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw
fudd cyhoeddus sydd yn galw
am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus
yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth
yn eithriedig. COFNODION: PENDERFYNWYD Cau’r wasg a’r
cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem ganlynol gan ei
fod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw
fudd cyhoeddus sydd yn galw
am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus
yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth
yn eithriedig. |
|
PENODI PRIF WEITHREDWR Derbyn cyflwyniad ac ystyried argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion. Penderfyniad: Penodi Mr Dafydd Gibbard i’r
swydd Prif Weithredwr, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif
Swyddogion. COFNODION: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion,
y Cynghorydd Dafydd Meurig, argymhelliad
y pwyllgor yn eu cyfarfod ar 16 Ebrill, 2021 i’r Cyngor benodi ymgeisydd yn Brif Weithredwr. Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. Derbyniwyd yr ymgeisydd i
mewn i’r cyfarfod, ac fe’i wahoddwyd i roi
cyflwyniad i aelodau’r Cyngor. Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd yr ymgeisydd
i gyfres o gwestiynau gan yr aelodau. PENDERFYNWYD penodi Mr Dafydd Gibbard i’r swydd Prif Weithredwr,
yn unol ag
argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion. |
|
AIL-AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid ail-agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd. COFNODION: PENDERFYNWYD ail-agor y cyfarfod i’r wasg a’r
cyhoedd. |