Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi
cofnodion y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Mai, 2025 fel rhai
cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan
Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2024/25 Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau. Dogfennau ychwanegol: |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH DEMOCRATIAETH 2024/25 Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: |
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - GWEITHREDU CYNLLUN BUSNES 'ADDAS I'R DYFODOL' Cyflwyno adroddiad
Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau. Dogfennau ychwanegol: |
|
ARGYMHELLIAD PANEL CYFWELD - PENODI AELODAU LLEYG O'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Cyflwyno adroddiad
Cadeirydd y Panel Cyfweld. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHYBUDDION O GYNNIG |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rhys Tudur Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Rhys Tudur yn cynnig fel a ganlyn:- O ystyried y shifft iaith a
welwyd yng Ngwynedd o gyfrifiad i gyfrifiad, mae'r Cyngor hwn yn croesawu ymateb
Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac yn galw ar y
Llywodraeth i gyflwyno ar fyrder, fesurau'n rhoi grymoedd a chyllid i
awdurdodau lleol wrthweithio shifft iaith. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gwynfor Owen Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig fel a ganlyn:- Yn sgîl y datguddiad bod gwelliannau i’r rheilffordd rhwng Rhydychen a
Chaergrawnt wedi cael eu newid o fod yn gynllun ar gyfer Lloegr i fod yn
gynllun ar gyfer Lloegr a Chymru, a hefyd yn sgil yr arian pitw a gyhoeddwyd yn
adolygiad gwariant Llywodraeth San Steffan o £450m dros 10 mlynedd, mae Cyngor
Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymru yn
ei chyfanrwydd yn cael ei datganoli i Gymru ar fyrder. Mae’r Cyngor yma o’r farn bod Gwynedd a
Chymru yn colli allan yn sylweddol ar fuddsoddiad wrth fod ynghlwm i Loegr ar y
materion yma. Credwn y dylai Cymru gael
yr un hawliau ag sydd gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Jina Gwyrfai Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Jina Gwyrfai yn cynnig fel a ganlyn:- Wrth ystyried a) bod Amaeth
yn un o brif ddiwydiannau Cymru, a bod canran uchel o economi Gwynedd yn
gysylltiedig â’r byd amaethyddiaeth. b) bod
sefydlogrwydd y fferm deuluol yn gyfraniad hollbwysig ac amhrisiadwy at gadw’r
iaith Gymraeg yn ein cymunedau Cymraeg c) bod y
diwydiant amaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu cyfrannu’n o lew at
stoc bwyd y ‘Deyrnas Unedig’ mewn oes o ansicrwydd cynyddol, ond bod y stoc yn
isel Noda’r Cyngor, gyda thristwch mai bygythiad
yw’r Ddeddf Treth Etifeddiaeth i’r uned ffermio draddodiadol, i economi y wlad
ac i gefn gwlad Cymru, yn enwedig i’r ardaloedd Cymraeg. (Mae’n hysbys bod o leiaf dau ffermwr wedi
cyflawni hunanladdiad ers pasio’r Ddeddf a bod teuluoedd a gweithwyr a busnesau
lleol cysylltiedig yn wynebu chwalfa os daw y Ddeddf i rym yn 2026.) Galwaf felly ar Gyngor Gwynedd i bwyso ar
Lywodraeth Cymru i weithredu trwy:- i)
bwyso ar Lywodraeth San Steffan i gydnabod bod y diwydiant ffermio yn
hollbwysig i strategaeth diogelwch y DU, ac i eithrio ffermydd teuluol sy’n
cynhyrchu bwyd o’r dreth newydd pan ddaw i rym. ii)
erfyn ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu
ymchwil i asesu effaith y Ddeddf ar economi Cymru a chymunedau Cymraeg; hefyd i
weithredu mesurau lliniarol digonol er mwyn diogelu’r diwydiant amaeth sydd mor
allweddol i ddyfodol cymunedau cefn gwlad ein gwlad. |
|
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL (1) Llythyr gan Lywodraeth y DU mewn
ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 6 Mawrth, 2025
o’r Cyngor ynglŷn â’r Awdurdodaeth
Gyfiawnder. (2) Llythyr gan GLlLC mewn ymateb i Rybudd o
Gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 6 Mawrth, 2025 o’r Cyngor ynglŷn
â’r Awdurdodaeth Gyfiawnder. (3) Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i
Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 6 Mawrth, 2025 o’r Cyngor
ynglŷn â’r Awdurdodaeth Gyfiawnder. (4) Llythyr
gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elfed Wyn ap
Elwyn i gyfarfod 6 Mawrth, 2025 o’r Cyngor ynglŷn â phwerau darlledu a’r cyfryngau. (5) Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i
Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elin Hywel i gyfarfod 1 Mai, 2025 o’r Cyngor ynglŷn
â diwygio lles. (6) Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i
Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Gwynfor Owen i gyfarfod 1 Mai, 2025 o’r Cyngor ynglŷn
â’r cynnydd yn y cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr. Dogfennau ychwanegol:
|