Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2026 fel rhai cywir. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
|
CWESTIYNAU Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. |
|
|
Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2025-26 Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2025-26 Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
RHYBUDDION O GYNNIG |
|
|
RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD CAI LARSEN Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Cai Larsen yn cynnig fel a ganlyn:- Mae’r Cyngor hwn: Yn nodi’r cynnydd yn nifer y cartrefi modur a faniau
gwersylla sy’n defnyddio lleoliadau ar draws Gwynedd i barcio ac aros dros nos,
gan gynnwys cilfannau, meysydd parcio, ardaloedd arfordirol a mannau prydferth;
Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall ymwelwyr
sy’n defnyddio cartrefi modur a faniau gwersylla ei wneud i economi Gwynedd, ac
yn croesawu ymwelwyr sy’n defnyddio cyfleusterau priodol ac sy’n parchu ein
cymunedau a’n hamgylchedd; Yn mynegi pryder, fodd bynnag, ynghylch achosion lle mae
cerbydau’n aros am gyfnodau
estynedig mewn mannau nad ydynt
wedi eu bwriadu
ar gyfer hynny, gan feddiannu mannau
parcio, achosi problemau i drigolion
a defnyddwyr eraill, a rhoi pwysau ar rai o ardaloedd mwyaf sensitif a phoblogaidd y sir; Yn nodi bod y Cyngor eisoes wedi sefydlu
safleoedd Arosfannau pwrpasol ar gyfer cartrefi modur, ond bod problemau parcio ac aros dros nos amhriodol yn
parhau mewn nifer o leoliadau; Yn cydnabod bod cyfyngiadau ar gapasiti
ac adnoddau dynol y Cyngor yn gallu ei
gwneud yn anodd gweithredu ym mhob lleoliad
ar yr un pryd, ond nid yw’n derbyn y dylai diffyg capasiti i weithredu ym
mhobman olygu na ellir mynd
i’r afael â phroblemau amlwg a pharhaus mewn lleoliadau
penodol. Felly, mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet a’r Aelod
Cabinet perthnasol i fynd i’r afael
â’r problemau sy’n deillio o barcio ac aros dros nos amhriodol gan
gartrefi modur a faniau gwersylla ar draws
Gwynedd, ac i ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i
ddod â gwell rheolaeth ar y sefyllfa. |
|
|
RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD PAUL ROWLINSON Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Paul Rowlinson yn cynnig fel a ganlyn:- Mae’r Cyngor
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae’r Cyngor yn
galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG i ystyried pa gamau y gallent eu
cymryd / pa reoliadau y gallent eu cyflwyno, er mwyn mynd i’r afael â’r
broblem. |
|
|
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Huw Rowlands i gyfarfod 2 Gorffennaf 2026 o’r Cyngor ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. |