Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
CADEIRYDD Ethol Cadeirydd am
2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Dilwyn Morgan yn gadeirydd am 2015/16. Llofnododd y Cynghorydd Dilwyn Morgan ddatganiad
yn derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2015/16. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd am
2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Eric Merfyn Jones yn
is-gadeirydd am 2015/16. Llofnododd y Cynghorydd Eric Merfyn Jones ddatganiad
yn derbyn y swydd o is-gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2015/16. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Eddie Dogan, Gwynfor Edwards, Gweno Glyn, Simon Glyn, Linda Wyn Jones, Llywarch Bowen Jones, Dilwyn Lloyd, Linda Morgan, Peter Read, Gareth Thomas, Gethin Glyn Williams, Gruffydd Williams ac Eurig Wyn. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y Cyngor a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2015 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2015 fel rhai cywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: ·
Datganodd y Cynghorydd Aeron M.Jones fuddiant personol yn eitem 13(a) ar y rhaglen –
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Sian Gwenllian – oherwydd ei fod wedi cynnig
gofod swyddfa i Trinity Mirror. ·
Datganodd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams
fuddiant personol yn eitem 13(a) ar y rhaglen – Rhybudd o Gynnig gan y
Cynghorydd Sian Gwenllian – oherwydd ei fod yn gweithio fel newyddiadurwr. ‘Roedd yr aelodau
o’r farn eu bod yn fuddiannau
sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (1) Croeso Croesawyd y Cynghorydd Glyn Thomas, yr aelod newydd dros
Ward Cadnant, i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor. (2) Llongyfarchiadau Llongyfarchwyd y canlynol:- ·
Y Cynghorydd Liz Saville Roberts a Hywel
Williams ar gael eu hethol yn Aelodau Seneddol.
Gan mai hwn oedd ei chyfarfod olaf fel aelod o’r Cyngor hwn, rhoddodd y
Cynghorydd Liz Saville Roberts anerchiad byr gan nodi y bu’n fraint bod yn
aelod o Gyngor Gwynedd dros nifer o flynyddoedd a’i bod wedi dysgu llawer o’r
profiad. ·
Elfyn Evans o Ddinas Mawddwy a ddaeth yn
drydydd yn yr Ariannin ym mhencampwriaeth ralio’r
byd, ac a oedd ar hyn o bryd yn bedwerydd yn y bencampwriaeth. Nodwyd mai dyma’r
tro cyntaf i Gymro gyrraedd y fath safon. ·
Grŵp Gwerin 9bach ar eu llwyddiant
diweddar yn ennill albwm y flwyddyn gyda’r albwm ‘Tincian’ yng Ngwobreuon Gwerin Radio 2 yn Stadiwm y Mileniwm. ·
Clwb Pêl Droed y Bala ar gyrraedd
cystadleuaeth Cwpan Europa am yr ail dymor yn olynol. (3) Cydymdeimlad Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Glyn Thomas ar golli ei
fam. Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio
am eraill o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid
yn ddiweddar. Safodd y Cyngor fel arwydd
o barch. (4) Dymuniadau
Gorau Dymunwyd yn dda i’r
Cynghorwyr Eddie Dogan a Linda Morgan oedd yn derbyn
triniaeth ar hyn o bryd. (5) Cyffredinol Tynnu sylw at lythyr a anfonwyd at yr aelodau ynglŷn â’r gyfres o weithdai
craffu aelodau ar y toriadau ac anogwyd pawb i fynychu’r sesiynau hollbwysig hyn. Nodwyd bod y Cynghorydd Aeron M.Jones yn chwilio am 12 cynghorydd neu aelodau o staff i redeg neu gerdded am gyfnod o 2 awr ar gaeau Treborth,
Bangor ym mis Mehefin er mwyn
codi arian tuag at Apêl Nyrsus
Macmillan yng Ngwynedd. Atgoffwyd yr aelodau y byddai
2016 yn ganmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon. Nodwyd y cynhelid digwyddiadau o gwmpas mis Mehefin
y flwyddyn nesaf i gofio’r adeg pan gyrhaeddodd y carcharorion y gwersyll-garchar yn Fron-goch, Y Bala a phwysleisiwyd ei bod yn amserol i gysylltu
â Llywodraeth Iwerddon er mwyn hybu
twristiaeth yn yr ardal. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw ohebiaeth,
gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y
Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan y Rheolau
Gweithdrefn. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DIWYGIO CYNLLUN HAWLIAU DIRPRWYEDIG SWYDDOGION Cyflwyno adroddiad
Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad
ar yr angen
i addasu’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion yn dilyn ail strwythuro’r
Adrannau Adnoddau Dynol a Strategol a Gwella er creu
Adran Cefnogaeth Gorfforaethol. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad,
diwygio’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion yn unol ag Atodiad
1 i’r adroddiad a dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol i wneud addasiadau golygyddol i’r Cyfansoddiad sydd yn deillio
o’r newidiadau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR Cyflwyno adroddiad
Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad
yn adolygu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor gan ychwanegu
y byddai’r mater hwn gerbron y Cyngor nesaf hefyd yn
sgil datblygiadau y bore hwnnw. PENDERFYNWYD mabwysiadu dyraniad seddau ar bwyllgorau’r
Cyngor yn unol â’r tabl
isod:- PWYLLGORAU CRAFFU
PWYLLGORAU
ERAILL
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynodd y Cynghorydd Lesley
Day, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd adroddiad blynyddol yn diweddaru’r
aelodau ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael, y datblygiadau
sydd wedi’u gwireddu a’r rhai
sydd ar waith. Ar bwynt o gywirdeb, nododd fod angen
cynnwys y Cynghorydd Beth
Lawton, Pencampwr Iechyd Meddwl, yn y fersiwn
Saesneg o’r rhestr pencampwyr (paragraff 2 o’r adroddiad). Diolchwyd i’r Cynghorydd Lesley Day am ei gwaith yn
symud yr agenda hwn yn ei
flaen. Yn ystod y drafodaeth:- ·
Mynegwyd
siomedigaeth nad oedd adroddiad yr Ymchwiliad Craffu O’r Ysbyty i’r Cartref
(rhan 2) wedi’i gyhoeddi, er iddo gael ei gyflwyno yn Rhagfyr y llynedd. ‘Roedd aelodau’r ymchwiliad wedi gweithio’n
galed iawn ac ‘roedd yr adroddiad, oedd yn feirniadol o’r Gwasanaeth Iechyd ac
Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi ei lastwreiddio ers hynny. ·
Nodwyd y bu’r
cyfweliadau datblygiad personol yn fuddiol dros ben ac anogwyd aelodau eraill i
fanteisio ar y cyfle hwn. (b) Adroddwyd bod angen dewis Cadeirydd ar gyfer 2015/16. PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Thomas Ellis yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am
2015/16. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(a) Yn unol â’r
Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan y Rheolau
Gweithdrefn, bydd y Cynghorydd Sian Gwenllian yn cynnig fel a ganlyn:- “Rwy’n galw ar y cyngor i ddatgan
siom ynghylch penderfyniad Trinity Mirror, cyhoeddwyr
papurau newydd, i gau swyddfa'r Herald yng Nghaernarfon gan roi terfyn
ar bresenoldeb yn y dref sy’n
ymestyn dros 180 mlynedd, a dangos cefnogaeth lwyr i'r newyddiadurwyr a'r aelodau staff eraill sy'n cael
eu heffeithio. Dyma swyddfa ar gyfer y Daily Post, y Caernarfon and Denbigh Herald, yr
Holyhead and Anglesey Mail, y Bangor and Anglesey
Mail ac Yr Herald Gymraeg.
Mae Caernarfon yn gartref traddodiadol i’r wasg ac yn
ganolbwynt pwysig yn fwrdeistrefol, yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Ceir llys y goron,
llys sirol a llys ynadon yn
y dref; yn ogystal â chrwner gogledd orllewin Cymru a phencadlys Cyngor Gwynedd. Galwaf hefyd ar y Cyngor
i wneud popeth o fewn ei allu
i sicrhau parhad presenoldeb staff Trinty Mirror mewn swyddfa yng
Nghaernarfon. Mae gohebwyr yn gweithio yn
y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu,
o stafell newyddion lleol, yn creu
newyddiaduraeth dda - elfen hanfodol o ddemocratiaeth leol a ffynhonnell wybodaeth werthfawr i drigolion Gwynedd a thu hwnt. Pryderaf y byddai cau'r swyddfa bresennol
yn cynrychioli lleihad pellach yn ymrwymiad Trinity Mirror i newyddiaduraeth leol yn y rhanbarth a’i fod yn
arwain y ffordd at gau papurau newydd
yr ydym yn
eu gwerthfawrogi ac sydd wrth galon
y gymuned.” (b) Cyflwyno, er gwybodaeth, lythyr gan y Trysorlys, mewn ymateb i rybudd
o gynnig y Cynghorydd Sian
Gwenllian i gyfarfod Rhagfyr
ynghylch osgoi talu treth (ynghlwm). (c) Cyflwyno, er gwybodaeth,
lythyr gan Brif Weinidog Cymru
mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd R.H.Wyn Williams i’r cyfarfod diwethaf
ynghylch Trident
(ynghlwm). (ch) Cyflwyno, er gwybodaeth, lythyr gan Lywodraeth
Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Craig ab Iago
i’r cyfarfod diwethaf ynghylch ymgyrch
Traws Linc Cymru i ailagor y rheilffordd rhwng Gogledd a De Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Sian Gwenllian, yn unol â’r
Rheolau Gweithdrefn, ac fe’i heiliwyd. “Rwy’n galw ar y cyngor
i ddatgan siom ynghylch penderfyniad Trinity
Mirror, cyhoeddwyr papurau newydd, i gau swyddfa'r
Herald yng Nghaernarfon gan roi terfyn
ar bresenoldeb yn y dref sy’n
ymestyn dros 180 mlynedd, a dangos cefnogaeth lwyr i'r newyddiadurwyr a'r aelodau staff eraill sy'n cael
eu heffeithio. Dyma swyddfa ar gyfer y Daily Post, y
Caernarfon and Denbigh Herald, yr Holyhead
and Anglesey Mail, y Bangor and Anglesey Mail ac Yr
Herald Gymraeg. Mae Caernarfon yn
gartref traddodiadol i’r wasg ac yn
ganolbwynt pwysig yn fwrdeistrefol, yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Ceir llys y goron,
llys sirol a llys ynadon yn
y dref; yn ogystal â chrwner gogledd orllewin Cymru a phencadlys Cyngor Gwynedd. Galwaf
hefyd ar y Cyngor i wneud popeth o fewn ei
allu i sicrhau parhad presenoldeb staff Trinty Mirror mewn swyddfa yng Nghaernarfon.
Mae gohebwyr yn gweithio yn y cymunedau
maen nhw'n eu gwasanaethu, o stafell newyddion lleol, yn creu
newyddiaduraeth dda - elfen hanfodol o ddemocratiaeth leol a ffynhonnell wybodaeth werthfawr i drigolion Gwynedd a thu hwnt. Pryderaf y byddai cau'r swyddfa bresennol
yn cynrychioli lleihad pellach yn ymrwymiad Trinity Mirror i newyddiaduraeth leol yn y rhanbarth a’i fod yn
arwain y ffordd at gau papurau newydd
yr ydym yn
eu gwerthfawrogi ac sydd wrth galon
y gymuned.” Cefnogwyd y cynnig yn unfrydol. PENDERFYNWYD derbyn y cynnig. (b) Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr gan y Trysorlys, mewn ymateb i rybudd
o gynnig y Cynghorydd Sian
Gwenllian i gyfarfod Rhagfyr
ynghylch osgoi talu trethi. PENDERFYNWYD nodi’r llythyr. (c) Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr gan Brif Weinidog
Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd R.H.Wyn Williams i’r cyfarfod diwethaf ynghylch Trident. PENDERFYNWYD nodi’r llythyr. (ch) Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr gan Lywodraeth
Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Craig ab Iago
i’r cyfarfod diwethaf ynghylch ymgyrch Traws Linc
Cymru i ailagor y rheilffordd rhwng Gogledd a De Cymru. PENDERFYNWYD nodi’r llythyr. |