Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2022/23. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Elwyn Jones
yn Gadeirydd am 2022/23. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn Gadeirydd am
2022/23. Darllenodd a
llofnododd y Cynghorydd Elwyn Jones ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd
Cyngor Gwynedd am 2022/23 ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr. |
|
IS-GADEIRYDD Ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd R.Medwyn Hughes yn Is-gadeirydd am 2022/23. Cofnod: Cynigiwyd ac
eiliwyd dau enw am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd R.Medwyn Hughes a’r
Cynghorydd Beth Lawton. PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd R.Medwyn Hughes yn Is-gadeirydd am 2022/23. Darllenodd y
Cynghorydd R.Medwyn Hughes ddatganiad yn derbyn y swydd o Is-gadeirydd Cyngor
Gwynedd am 2022/23. Gan fod yr
Is-gadeirydd yn bresennol o bell, nodwyd y rhoddid trefniadau mewn lle iddo
arwyddo’r datganiad derbyn swydd ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Elfed Williams. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2022 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn-gynghorydd a chyn-gadeirydd y Cyngor
hwn, Glyn Owen, a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Ioan Thomas. Cydymdeimlwyd hefyd â’r Cynghorydd Nia Jeffreys ar
golli ei thad a’i modryb yn ddiweddar. Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir
oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. Llongyfarchwyd y Cynghorydd Louise Hughes ar dderbyn Tystysgrif Teilyngdod
yr Arglwydd Raglaw am ei brwdfrydedd a’i hymroddiad i Gadetiaid y Fyddin. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y
rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eglurodd y
Cadeirydd bod yr eitem hon wedi ei thynnu oddi ar y rhaglen gan nad oedd yr
Aelodau Cabinet na’r cadeiryddion pwyllgorau mewn lle eto i ateb unrhyw
gwestiynau. Byddai modd i’r aelodau
gyflwyno cwestiwn i gyfarfod nesaf y Cyngor ar 23 Mehefin. |
|
ARWEINYDD Y CYNGOR Penodi Arweinydd
y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Arweinydd y
Cyngor. Cofnod: PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Arweinydd y Cyngor. Rhoddodd yr Arweinydd anerchiad byr gan hysbysu’r Cyngor y byddai’n
cyfweld ar gyfer aelodaeth o’r Cabinet yr wythnos nesaf, a’i fod yn mawr
obeithio y byddai yna gymysgedd da o brofiad a gwaed newydd, a merched hefyd. |
|
CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 283 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol 2022/23 fel a nodir yn Atodiad A i’r adroddiad, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau a nodir yn yr atodiad.
2. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol 3. Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar
sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi - Grŵp
Annibynnol Pwyllgor Craffu Cymunedau Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor Craffu Gofal - Grŵp Annibynnol 4. Mabwysiadu’r uwch-gyflogau ar gyfer
2022/23 gan ofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth adolygu ar gyfer
2023/24. 5. Cadarnhau’r dyraniad swyddi ac oriau ar
gyfer Swyddogion cefnogi grwpiau gwleidyddol a hynny am dymor y Cyngor, oni bai
bod newid sylweddol yng nghydbwysedd gwleidyddol y Cyngor, neu bod grŵp
gwleidyddol â llai na 10% o aelodau. 6. Mabwysiadu’r dyraniad seddau ar gyfer
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru am
dymor y Cyngor hwn oni bai fod adolygiad yn ofynnol oherwydd newid i’r
cydbwysedd gwleidyddol neu ddiffyg ymrwymiad gan aelod unigol. Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth adroddiad ar yr
adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor (a gyhoeddwyd fel papur
ychwanegol i gyd-fynd â’r adroddiad gwreiddiol a gynhwyswyd yn y rhaglen). Nododd y Pennaeth ymhellach, yn dilyn trafodaethau rhwng y ddau arweinydd
grŵp yn gynharach yn yr wythnos, bod dwy gadeiryddiaeth y Grŵp
Annibynnol yn cael eu rhoi i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi a’r Pwyllgor
Craffu Gofal, a bod cadeiryddiaeth y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cael ei rhoi
i Grŵp Plaid Cymru. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Nododd Arweinydd y Grŵp Annibynnol ei bod yn falch bod y grŵp
wedi cael cadeiryddiaeth dau o’r pwyllgorau craffu, a chadeiryddiaeth y Cyngor
yn ogystal. Nododd hefyd, wrth ystyried
yr adroddiad, bod angen cofio y bu lleihad o 75 i 69 yn nifer yr aelodau ar y
Cyngor. PENDERFYNWYD 1. Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac
is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol 2022/23 fel a nodir
yn Atodiad A i’r adroddiad, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau a nodir yn yr
atodiad. 2. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol,
ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol 3. Mabwysiadu
cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a
ganlyn: Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi - Grŵp Annibynnol Pwyllgor Craffu
Cymunedau Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor Craffu
Gofal - Grŵp Annibynnol 4. Mabwysiadu’r
uwch-gyflogau ar gyfer 2022/23 gan ofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth
adolygu ar gyfer 2023/24. 5. Cadarnhau’r
dyraniad swyddi ac oriau ar gyfer Swyddogion cefnogi grwpiau gwleidyddol a
hynny am dymor y Cyngor, oni bai bod newid sylweddol yng nghydbwysedd
gwleidyddol y Cyngor, neu bod grŵp gwleidyddol â llai na 10% o aelodau. 6. Mabwysiadu’r
dyraniad seddau ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Awdurdod Tân ac
Achub Gogledd Cymru am dymor y Cyngor hwn oni bai fod adolygiad yn ofynnol
oherwydd newid i’r cydbwysedd gwleidyddol neu ddiffyg ymrwymiad gan aelod
unigol. |
|
ADDASIADAU I'R CYFANSODDIAD PDF 214 KB Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Mabwysiadu yr addasiadau i’r Cyfansoddiad (Atodiad 1 i’r adroddiad) er
caniatáu gweithredu Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru )
2021. 2.
Derbyn er gwybodaeth yr addasiadau a wnaethpwyd i’r Cyfansoddiad
(Atodiad 1) gan y Swyddog Monitro er ymgorffori darpariaethau Adran 58 Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru ) 2021. 3.
Awdurdodi y Swyddog Monitro i wneud newidiadau i’r Cyfansoddiad sydd yn
deillio o ganlyniad i’r newid yma. Cofnod: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn argymell i’r Cyngor fabwysiadu
addasiadau i’r Cyfansoddiad er caniatáu penodi cynorthwyon i Aelodau ac
Arweinydd Cabinet a gwneud trefniadau sy’n galluogi rhannu swyddi Aelodau Cabinet
ac Arweinydd Cabinet, yn unol ag Adrannau 57 a 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. ·
Ar fater o
gywirdeb, nodwyd bod angen cywiro’r fersiwn Saesneg o Adran 5.9.7 yn yr atodiad
i’r adroddiad i ddarllen “For the avoidance of doubt presence ·
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog Monitro na fyddai yna
unrhyw gyflog ychwanegol yn deillio o sefydlu trefn rannu swyddi Aelodau
Cabinet ac Arweinydd Cabinet. 1.
Mabwysiadu yr addasiadau i’r Cyfansoddiad (Atodiad 1 i’r adroddiad) er
caniatáu gweithredu Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru )
2021. 2.
Derbyn er gwybodaeth yr addasiadau a wnaethpwyd i’r Cyfansoddiad
(Atodiad 1) gan y Swyddog Monitro er ymgorffori darpariaethau Adran 58 Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru ) 2021. 3.
Awdurdodi y Swyddog Monitro i wneud newidiadau i’r Cyfansoddiad sydd yn
deillio o ganlyniad i’r newid yma. |
|
YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL PDF 160 KB (a) Cyflwyno, er gwybodaeth – Llythyrau gan S4C, Chwaraeon
Cymru a Llywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y cyn-Gynghorydd Judith
Humphreys i gyfarfod 3 Mawrth, 2022 o’r Cyngor ynglŷn â merched mewn chwaraeon. (b) Cyflwyno, er gwybodaeth – Llythyr gan Llywodraeth
Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig
y Cynghorydd Beca Brown i gyfarfod
3 Mawrth, 2022 o’r Cyngor ynglŷn â FareShare. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth:- (a) Llythyrau
gan S4C, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y
cyn-gynghorydd Judith Humphreys i gyfarfod 3 Mawrth, 2022 o’r Cyngor
ynglŷn â merched mewn chwaraeon. (b) Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd
o gynnig y Cynghorydd Beca Brown i gyfarfod 3 Mawrth, 2022 o’r Cyngor
ynglŷn â FareShare. |