Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr:-
Alan Jones Evans, Annwen Hughes, Peredur Jenkins, Eric Merfyn Jones, Linda
A.W.Jones, Dilwyn Lloyd, Dafydd Owen, Jason Parry, Gareth A.Roberts a Mair
Rowlands. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â’r canlynol:- ·
Y Cynghorydd Peredur Jenkins a’r teulu ar golli ei wraig yn ddiweddar. ·
Teulu Gerald Williams, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd – a gadwodd gartref Hedd
Wyn dros y blynyddoedd. ·
Teulu Sian Rhys Elis, Gweithiwr Cymdeithasol yn yr Adran Blant. Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir
oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. Estynnwyd dymuniadau gorau am wellhad buan i’r
Cynghorwyr Louise Hughes, Alan Jones-Evans a Beth Lawton. Llongyfarchwyd Tim Pêl-droed Cymru ar eu
llwyddiant yng Nghystadleuaeth yr Euros, a dymunwyd pob lwc i Dîm Denmarc am
weddill y gystadleuaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD PDF 413 KB (a) Nodi,
yn unol ag adran 4.12.1 (d) o’r Cyfansoddiad, y derbyniwyd llythyr gan y
Cynghorydd Gruffydd Williams, wedi ei arwyddo gan bum aelod arall, yn galw am
gyfarfod o’r Cyngor i drafod yr isod yng nghyd-destun yr argyfwng tai sy’n
bodoli o fewn y sir:- “Bod
y Cyngor hwn yn edrych ar frys ar y Cynllun Datblygu Lleol (basiwyd 28.7.2017)
gyda golwg i’w adolygu a’i ddiweddaru o ran polisïau cynllunio a’r iaith
Gymraeg. Byddai’n ddymunol rhoi
blaenoriaeth neilltuol i hyn, heibio yr hyn a nodwyd fel yr amser monitro
arferol o fewn y Cynllun ei hun, a chyflwyno cynigion sy’n cyfateb i adroddiad
Dr. Simon Brooks “Ail Gartrefi – Datblygu Polisiau Newydd yng Nghymru” a
gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn
dilyn y Pandemig a’r ffaith na fydd yna Wylfa B, disgwylir y bydd cyfarfod o’r
fath yn cyfarch y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i gydymffurfio â
Deddf Llesiant Cymru, Cymru sydd yn fwy cyfartal a Chymru â diwylliant bywiog
lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.” (b) Pecyn Gwybodaeth (i) Adroddiad yn amlinellu’r broses statudol ar gyfer adolygu
Cynllun Datblygu Lleol. (ii) Adroddiad Dr. Simon Brooks – “Ail Gartrefi
– Datblygu Polisiau Newydd yng Nghymru”. (iii) Ymateb i’r adroddiad yn (ii) uchod –
adroddiad i’r Cabinet ar 15 Mehefin, 2021. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y Cyngor
hwn yn edrych ar frys ar y Cynllun Datblygu Lleol (basiwyd 28.7.2017) gyda
golwg i’w adolygu a’i ddiweddaru o ran polisïau cynllunio a’r iaith
Gymraeg. Byddai’n ddymunol rhoi
blaenoriaeth neilltuol i hyn, heibio yr hyn a nodwyd fel yr amser monitro
arferol o fewn y Cynllun ei hun, a chyflwyno cynigion sy’n cyfateb i adroddiad
Dr Simon Brooks “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” a
gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn dilyn y
Pandemig a’r ffaith na fydd yna Wylfa B, disgwylir y bydd cyfarfod o’r
fath yn cyfarch y newidiadau
angenrheidiol sydd eu hangen i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cymru, Cymru sydd
yn fwy cyfartal a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Felly, yn
wyneb yr argyfwng tai a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bod
rhaid symud ar frys i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol; bod y broses yma’n
cymryd sylw llawn o farn aelodau a’r gymuned, a bod y Cyngor yn symud ymlaen
cyn gynted ag y bo’r modd i baratoi’r Adroddiad Adolygu, a chyflwyno Cytundeb
Cyflawni gerbron y Cyngor. Hefyd, bod y
Cyngor yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i bwyso am gael
hawl gweithredu ar amserlen fyrrach. Cofnod: Nodwyd, yn unol ag Adran 4.12.1(d) o’r Cyfansoddiad, y derbyniwyd llythyr
gan y Cynghorydd Gruffydd Williams, wedi ei arwyddo gan bum aelod arall, yn
galw am y cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor i drafod adolygu a diweddaru’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd o ran polisïau cynllunio a’r iaith Gymraeg yng
nghyd-destun yr argyfwng tai sy’n bodoli o fewn y sir. Gwahoddwyd y Cynghorydd Gruffydd Williams i esbonio’r mater gerbron. Nododd:- ·
Y dymunai ddiolch i
bawb fu’n rhan o hwyluso’r cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor. ·
Bod y rheswm dros alw’r cyfarfod yn amlygu ei hun yn ddyddiol
yn y papurau a chyfryngau o bob math, yn ogystal â bod yn destun sgyrsiau
ledled y sir y dyddiau hyn, sef yr argyfwng cartrefi i bobl leol yn ein
cymunedau. ·
Bod yna ddigon o dai
yn y sir, ond bod y prisiau y tu hwnt i gyrraedd pobl leol, a bod hynny, yn ei
dro, yn amddifadu’r bobl hynny o’u hawl sylfaenol i fyw yn eu cynefin. ·
Nad oedd neb, ddim
hyd yn oed y Cyngor hwn, wedi mynd i’r afael o ddifri â’r argyfwng. Cafwyd adroddiadau cydnabyddedig dros y
blynyddoedd yn cynnig datrysiad i’r broblem, ond ni ddigwyddodd unrhyw beth, a
phryderid na fyddai unrhyw beth yn dod o adroddiadau ac argymhellion diweddar
chwaith, oni fo’r Cyngor hwn yn mynnu newid. ·
Pan fabwysiadwyd y
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd bedair blynedd yn ôl ar bleidlais fwrw’r
Cadeirydd, lleisiwyd pryderon am effaith y Cynllun ar ein cymunedau lle mae’r
iaith Gymraeg yn dal yn iaith hyfyw. Yn
anffodus, roedd y diffygion amlygwyd yr adeg hynny wedi dod yn fwy amlwg, os
nad wedi’u gwireddu’n gyfan gwbl erbyn hyn. ·
Er y byddai’r gwaith
o adolygu’r polisïau yn cychwyn mis nesaf fel sy’n ofynnol yn ôl y drefn,
byddai’n sioc i lawer ddeall pa mor hirfaith yw’r amserlen ar gyfer cynnal
adolygiad o’r fath. ·
Yn ystod cyfarfod mabwysiadu’r Cynllun yn 2017, cafwyd
addewidion gan yr Aelod Cabinet ar y pryd y byddai modd lleihau unrhyw niwed
i’r Gymraeg drwy gryfhau’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar yr Iaith Gymraeg, ac
y byddai’r Cabinet yn sefydlu pwyllgor craffu arbennig i fynd i’r afael â’r
mater. Ar ôl 15 cyfarfod a rhagor gyda’r
swyddogion, cadarnhawyd y pryderon bod y Canllawiau Atodol yn ddibwrpas, oni
bai eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer ceisiadau ar hap. ·
Y bu i’r Aelod
Cabinet hefyd roi addewid yn y cyfarfod hwnnw y byddai’r Cynllun yn cael ei
fonitro’n flynyddol, ac y byddai’n bosib’ newid y polisïau o fewn 4 blynedd, pe
gwelid nad oeddent yn gweithio. Ond
cafodd y Cyngor ei gamarwain yn 2017, gan y byddai yna gyfnod ychwanegol o 3.5
mlynedd cyn y byddai unrhyw newidiadau yn cael eu gwireddu. ·
Mai dogfen farw yw’r Cynllun, a bydd yr iaith Gymraeg
wedi marw hefyd, oni fo’r Cyngor hwn yn gwneud penderfyniadau radical a
phellgyrhaeddol. · Mai argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor yn Rhagfyr 2020 oedd i gadw’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi yn 50%, ond drwy bwysau gan aelodau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |