Lleoliad: Cyfarfod Aml Leoliad - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH / Rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Elwyn Jones, ar golli ei wraig. Anfonwyd cofion at y
Cadeirydd a’r teulu yn eu colled. Nodwyd hefyd bod y
Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid
yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel
arwydd o barch a choffadwriaeth. Llongyfarchwyd pawb
o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn Sioe Frenhinol Cymru yn ddiweddar ynghyd a
phawb o Wynedd a fu’n cystadlu yng ngemau’r Gymanwlad ym Mirmingham dros yr
Haf. Llongyfarchwyd pawb
o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion. Daeth y prif wobrau i gyd i Wynedd, neu i rai
wedi eu magu yng Ngwynedd, yn arbennig Esyllt Maelor, Morfa Nefyn, gwraig a mam
dau Gynghorydd yng Ngwynedd, ar ennill y Goron. Llongyfarchwyd
disgyblion y Sir ar eu canlyniadau Lefel A a TGAU. Gwahoddwyd y Swyddog
Monitro i egluro natur cyfarfod arbennig. Nododd bod Cadeirydd y Cyngor wedi
derbyn cais wedi ei lofnodi gan bum Aelod o’r Cyngor yn galw am gyfarfod arbennig.
Ategodd fod natur a sgôp y cyfarfod wedi
cael ei osod yn y cais cyfarfod a dyma fyddai yn cynrychioli y busnes i’w
drafod gan gynnwys yr hyn y gellir yn briodol ei gynnig. Atgoffwyd yr Aelodau eu bod, fel corff, yn
cynrychioli’r Awdurdod Addysg Statudol ac fel aelodau yn cyfarfod yn y rôl
honno; ac fel aelodau etholedig bod eu cyflwyniadau a’u datganiadau yn y
cyfarfod yn ddarostyngedig i’r Cod Ymddygiad ac i Safon Gwynedd. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Y COD ADDYSG CYDBERTHYNAS A RHYWIOLDEB PDF 79 KB 1.
Yn unol ag adran 4.12.1 (d) o’r Cyfansoddiad, y
derbyniwyd cais i’r Cadeirydd gan y pum aelod a nodir, yn galw am gyfarfod o’r
Cyngor i ystyried y mater oedd wedi ei gynnwys yn y cais. 2. Pecyn Gwybodaeth a) 1. Cais am Gyfarfod Arbennig 2. Atodiad i’w cais –
copi Gorchymyn Uchel Lys b) 1. Adroddiad yr Adran Addysg 2. Atodiad - Y Cwricwlwm
i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD Gwrthod y cynnig i gyfeirio'r materion, fel a nodwyd yn y cais am
Gyfarfod Arbennig o’r Cyngor Llawn, ar gyfer ystyriaeth frys gan y Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi gyda'r hawl i alw arbenigwyr allanol i mewn i’r
Pwyllgor hwnnw Cofnod: Ar gais y
Cadeirydd, derbyniwyd ac eiliwyd cynnig gan y Cynghorydd Louise Hughes i
gyfeirio'r materion sydd yn ymwneud a chyflwyno’r Cwricwlwm Addysg
Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru o fis Medi 2022, ar gyfer
ystyriaeth frys gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gyda'r hawl i alw arbenigwyr
allanol i mewn i’r Pwyllgor hwnnw. Gwahoddwyd y Cyng.
Louise Hughes i ymhelaethu ar y cynnig. Nododd y sylwadau canlynol: ·
Diolch
am dderbyn cais cyfarfod arbennig ac i bawb am fynychu. ·
Ei
bod wedi galw cyfarfod oherwydd bod effaith cyflwyno Addysg Cydberthynas a
Rhywioldeb yn amlygu pryder a phoen meddwl iddi ynghyd ac anwybodaeth lawn o’r
pwnc. Pwysig felly rhannu gwybodaeth a chynnal trafodaeth agored (gan dderbyn
bydd gwahaniaeth barn) ·
Bod
cyflwyno Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn statudol ac eisoes wedi ei
gyflwyno yn Yr Alban a Lloegr – i’w gyflwyno yng Nghymru 01/09/22 ·
Bydd
yr addysg yn cael ei gynnwys ar draws y cwricwlwm ac nid fel pwnc unigol – hyn
yn peri pryder ·
Bod
achos Adolygiad Barnwrol ynglŷn â chyflwyniad y pwnc wedi ei dderbyn gan
yr Uchel Lys ·
A
yw cyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn diogelu ein plant? Yn eu
gwarchod rhag pwy ac o beth? ·
Bod
cynnwys y cwricwlwm wedi ei selio ar waith Alfred Kinsey sydd yn dyddio’n ôl
i’r 1940au - ymddygiad gwahanol yn y cyfnod yma ·
Ei
bod yn annog cyd Aelodau i ddarllen dogfennaeth Sefydliad Iechyd y Byd
(WHO) ·
Bod
yr addysg yn yr Alban eisoes yn cynnig cyfarwyddiadau eglur i blant 9-12 oed ar
sut i gael rhyw ·
Bod
gemau adnabod a sut i enwi rhannau o’r
corff yn Loegr ac yn yr Alban ar gyfer plant 7-9 oed yn cael eu cynnwys yn y
cyfarwyddiadau a bod yr addysg i ddechrau gyda phlant 3 oed. ·
Yn
ôl ymchwil, ni ddylai plant gael cynnig unrhywbeth nad ydynt yn gallu ei
brosesu - rhaid ystyried bod aeddfedrwydd yn sail i wneud penderfyniadau ·
Fel
Cynghorwyr, rheini a llywodraethwyr dylai’r mater gael ei graffu – yn croesawu
trafodaeth Gwahoddwyd eilydd
i’r cynnig, y Cyng. Gruffydd Williams i gyflwyno sylwadau ·
Nad oedd yn ymwybodol bod ymgynghoriad cyhoeddus
wedi ei gynnal ·
Bod
angen sicrhau tryloywder. Angen rhannu gwybodaeth am derminoleg a themâu'r
cwricwlwm ·
A fydd deunyddiau, hyfforddiant, adnoddau ar gael? ·
Angen sicrhau diogelwch plant drwy sicrhau bod mwy
o gymorth ar gael cyn gweithredu. Cymryd mai athrawon a chymorthyddion yw’r
‘ymarferion’? ·
Angen canllawiau mwy penodol – a oes asesiad
addasrwydd oed a datblygiad wedi ei gwblhau? A oes tystiolaeth wedi ei
gyflwyno? Gwahoddwyd y Cynghorydd Beca Brown i agor yr ymateb fel yr Aelod Cabinet
sydd â chyfrifoldeb am faterion addysg. Nododd y sylwadau isod: ·
Bod y deunydd sydd yn cael ei
rannu ar y cyfryngau cymdeithasol a trwy ddrysau pobol yn ddiweddar, gan griw
sy’n lobïo yn erbyn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn ddeunydd cwbl
anghywir a gwallus · Nad oedd eisiau enwi’r grŵp lobïo na rhoi platfform na chyhoeddusrwydd i bobl sy’n gweithredu mewn ffordd anghyfrifol, ac sydd mewn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |