Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Lesley Day, Gweno
Glyn, Louise Hughes, Anne Lloyd Jones, Brian Jones, Eric
Merfyn Jones, Beth Lawton, June
E.Marshall, Dafydd Meurig, Linda
Morgan, W.Roy Owen, Nigel Pickavance, Peter Read a Mike Stevens. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2015 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2015
fel rhai cywir. . |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd
Aeron Jones fuddiant personol yn eitem 12 ar y rhaglen - Taflen Benderfyniad
Brys Aelod Cabinet - oherwydd ei fod yn rheolwr ar gwmni yng Nghaernarfon all gael buddiant o’r cynnig dan sylw. ‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Datganodd yr aelodau
canlynol fuddiant personol yn eitem 13(B) ar y rhaglen – Rhybudd o gynnig y
Cynghorydd Ioan Thomas, am y rhesymau a nodir:- ·
Y
Cynghorydd W.Tudor Owen – oherwydd ei fod yn
Gadeirydd Bwrdd Gisda. ·
Y
Cynghorydd Siân Gwenllian – oherwydd ei bod yn aelod o Fwrdd
Rheoli Gisda. ·
Y
Cynghorydd Gwen Griffith – oherwydd ei bod yn Gadeirydd Mantell Gwynedd. ·
Y
Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd ei bod yn aelod
o Gwmni Seren. ‘Roedd yr aelodau o’r farn
eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (1) Cydymdeimlad Cyfeiriwyd at farwolaeth
ddisymwth y Cynghorydd Bob Wright fu’n cynrychioli Ward De Pwllheli ar y Cyngor
hwn ers 2008, a chyn hynny yn aelod o Gyngor Dosbarth Dwyfor am sawl blwyddyn
cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996.
Darllenodd y Cadeirydd deyrnged iddo a baratowyd gan y Cynghorydd Peter
Read, a chydymdeimlwyd â’r teulu yn eu profedigaeth. Cydymdeimlwyd hefyd â
theulu Robin Llyr Evans, 20 oed o Lanbedrog,
a fu farw yn dilyn damwain erchyll yn Tsieina. Nodwyd bod y Cyngor yn
dymuno cofio hefyd am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn
ddiweddar. Safodd y Cyngor fel arwydd
o barch. (2) Gwellhad Buan Dymunwyd gwellhad buan i’r Cynghorydd Linda Morgan oedd yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd ac
hefyd i’r Cynghorwyr Peter Read a Louise Hughes yn dilyn anhwylder diweddar. (3) Dymuniadau Gorau Estynnwyd dymuniadau gorau i’r
cyn-gynghorwyr Eddie Dogan a Llywarch Bowen Jones,
oedd wedi gorfod rhoi’r gorau i’w gwaith fel cynghorwyr oherwydd afiechyd. ‘Roedd Eddie Dogan
wedi gwasanaethu llywodraeth leol ers dros ddeugain mlynedd gan ddechrau gyda’r
hen Gyngor Gwyrfai a bu wedyn yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Arfon cyn cael ei
ethol i gynrychioli Ward Dewi ar y Cyngor hwn yn 1996. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Dinas Bangor am 43
o flynyddoedd. ‘Roedd Llywarch Bowen
Jones wedi’i ethol i gynrychioli Ward Llanaelhaearn yn 2012 a bu yntau’n aelod gwerthfawr o’r Cyngor hwn. Nodwyd y gwelid colled fawr ar eu
holau ac ‘roedd y Cyngor am anfon eu dymuniadau gorau, ynghyd â’u diolchiadau, at y ddau. Nodwyd bod cynlluniau ar waith i
gynnal isetholiadau Dewi a Llanaelhaearn ar 19 Tachwedd ac isetholiad De
Pwllheli ar 26 Tachwedd. Dymunwyd yn dda
i’r Cynghorydd Roy Owen a’r teulu yn
dilyn y digwyddiadau diweddar a nodwyd hefyd bod meddyliau pawb gyda’r Cynghorydd
Eric Merfyn Jones a’r teulu. (4) Croeso Croesawyd y Cynghorydd Sian
Hughes, yr aelod newydd dros Ward Morfa Nefyn, i’w
chyfarfod cyntaf o’r Cyngor. (5) Llongyfarchiadau Llongyfarchwyd Elfyn Evans ar sicrhau’r canlyniad
gorau erioed i Gymro mewn
Pencampwriaeth Rali’r Byd. Llwyddodd Elfyn Evans i ddod yn
ail yn y Tour de Corse, sef
rownd Ffrengig Pencampwriaeth Rali’r Byd FIA eleni a dymunwyd bob llwyddiant iddo yn Rali
Cymru Prydain Fawr ar 12-15 Tachwedd. Llongyfarchwyd y Tîm Cenedlaethol am
wneud mor dda yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd a dymunwyd yn dda iddynt yn
eu gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn nesaf.
Dymunwyd yn dda hefyd i’r Tîm Pêl-droed Cenedlaethol sy’n chwarae gêm
allweddol yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 yn erbyn Bosnia-Herzegovina
nos Sadwrn a nodwyd bod y Cyngor yn ymfalchïo yn llwyddiant yr aelodau hynny
o’r ddwy garfan sydd â chysylltiad agos â Gwynedd. (6) Nodyn Nodwyd bod cynigion drafft y Panel Annibynnol ar Gyflogau a Threuliau
Aelodau i law ac y bwriedid cylchredeg y ddogfen trwy Rhaeadr
gan wahodd yr aelodau i
gynnig sylwadau. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym
marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran
4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion
Jones “Beth yw barn yr Arweinydd
ar wastraffu arian cyhoeddus gydag ymgynghorwyr allanol?” Ateb gan y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd y Cyngor (Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Arweinydd
i’r aelodau ymlaen llaw.) “Mae’n debyg ein bod i gyd
yn y Siambr yn gallu datgan nad ydym yn awyddus i weld gwastraffu arian
cyhoeddus ym mha bynnag sefyllfa. ‘Rwy’n
credu bod gwaith gennym i gyd i sicrhau bod unrhyw wariant cyhoeddus yn digwydd
yn y ffordd fwyaf priodol a mwyaf effeithlon.
Fel mae’r ateb yn amlinellu mae yna le bob amser i holi a stilio a
chraffu ar wariant y Cyngor ac yn wir dyna ydi gwaith y pwyllgorau craffu a’r
Pwyllgor Archwilio ac mae’r Pwyllgor Archwilio wedi penderfynu gwneud darn o
waith i edrych ar wariant gydag ymgynghorwyr allanol a daw’r adroddiad yna
gerbron yr aelodau maes o law. Nid wyf
yn rhagdybio beth fydd canlyniad y gwaith hwnnw ond ‘rydw i wedi dweud bod yna
le i ni gomisiynu gwaith gan gyrff allanol ac asiantaethau allanol i’n
cynorthwyo yn y broses. Yr enghreifftiau
‘rwy’n meddwl amdanynt yw lle mae’r Cyngor yn ceisio creu newid. Yn amlwg, mae’n rhaid i ni gael rhywun hyd
braich i fod ynghanol y gwaith hwnnw ac i ni beidio bod yn ddwy ochr y ddadl ar
yr un pryd. Nid yw hynny’n
bosib’. Mae angen cael presenoldeb pobl
annibynnol yn y sefyllfa yna er tegwch i bawb, ac ynghlwm â hynny, wrth gwrs,
mae yna wariant. Gadewch i ni weld beth
fydd ffrwyth gwaith y gweithgor sy’n edrych ar hwn.” Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones “Mae’r Arweinydd yn dweud
yn ei ymateb ysgrifenedig, os nad yw’r sgiliau
arbenigol neu gapasiti angenrheidiol i'w gael o fewn
y Cyngor, y byddwn yn defnyddio ymgynghorwyr allanol. ‘Rwy’n meddwl bod hynny’n
reit sarhaus. Mae gennym 7000 o staff yn
gweithio i Gyngor Gwynedd ac ‘rwy’n credu bod yna sgiliau ffantastig yn y
Cyngor yma i ddelio gyda’r gwaith sydd angen ei wneud gan yr ymgynghorwyr
allanol yma. Ydi’r Arweinydd yn barod i
ymddiheuro am wastraffu arian cyhoeddus?” Ateb gan y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd y Cyngor “Nid sarhaus yw cydnabod nad oes gennym y sgiliau i gyd bob amser. Onid realiti’r sefyllfa ydi hynny? Nid ydym i gyd yn arbenigwyr ar bob dim. Mae yna sefyllfaoedd lle ‘rydym angen cymorth a chyngor arbenigol. Onid y peth cyfrifol i wneud yn y sefyllfa yna ydi sicrhau ein bod yn cael cyngor priodol annibynnol ac addas. Yn wir, oni bai ein bod yn gwneud hynny, mae yna le i ni gael ein herio. Byddai Swyddfa Archwilio Cymru ar ein pennau ac mi fyddai yna sefyllfaoedd lle gallem gael ein herio. Mae yna fymryn bach o realiti hefyd, sef wrth i ni leihau’r gweithlu, nid oes gennym y capasiti i wneud pob dim. Mae’n amhosibl. Nid oes yna ddigon o oriau yn y dydd i wneud pob dim ac mae hynny yn isgynnyrch o wynebu toriadau sy’n golygu ein bod yn lleihau niferoedd staff. Ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2014/15 PDF 44 KB Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn argymell i’r
Cyngor gymeradwyo’r ddogfen yn ddarlun cytbwys, teg a chywir o berfformiad y
Cyngor yn ystod 2014/15, a’i fabwysiadu. Diolchodd yr Arweinydd i’r swyddogion hynny fu ynghlwm â’r gwaith. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r adroddiad yn adlewyrchiad cytbwys, teg a chywir o berfformiad y
Cyngor yn ystod 2014/15, a’i fabwysiadu. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL TROSOLWG A CHRAFFU GWYNEDD 2014-15 PDF 339 KB Cyflwyno:- (a) Adroddiadau Blynyddol y tri Phwyllgor Craffu ar gyfer 2014/15 (ynghlwm). (b) Rhaglen Waith y tri Phwyllgor Craffu ar gyfer 2015/16 (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiadau blynyddol y tri phwyllgor craffu ar gyfer 2014/15 ynghyd â’u rhaglenni gwaith ar gyfer 2015/16. Pwyllgor
Craffu Corfforaethol Manylodd
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, y Cynghorydd Dyfrig Jones, ar gylch
gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod 2014/15, gan ddiolch i’r Is-gadeirydd, y
Cynghorydd Jason Humphreys, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion am eu cefnogaeth. Pwyllgor
Craffu Gwasanaethau Yn
absenoldeb Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau, manylodd y
Cynghorydd Alwyn Gruffydd ar gylch gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod
2014/15, gan ddiolch i’r Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Read a’r Is-gadeirydd, y
Cynghorydd Beth Lawton, aelodau’r pwyllgor a’r
swyddogion am eu cefnogaeth. Yn
ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Cyfeiriwyd at lwyth gwaith hynod o drwm y Pwyllgor
Craffu Gwasanaethau a nodwyd yr angen i adolygu’r Cyfansoddiad fel bod y tri phwyllgor
craffu yn rhannu’r gwaith yn decach.
Nododd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol fod y drefn bresennol
yn seiliedig ar fodel a orfodwyd ar y Cyngor yn dilyn yr etholiad diwethaf ac y
byddai’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol yn cefnogi ymgais i sicrhau gwell
cydbwysedd rhwng llwyth gwaith y gwahanol bwyllgorau craffu. ·
Holwyd a oedd yr Arweinydd a’r Cabinet yn talu digon
o sylw i argymhellion y pwyllgorau craffu?
Awgrymwyd bod yr aelod yn codi’r mater yn uniongyrchol gyda’r Arweinydd
a’r Cabinet. Nodwyd ymhellach nad oedd y
pwyllgor craffu yn cael gwybod faint o weithiau mae’r Cabinet yn derbyn /
gwrthod eu hargymhellion. ·
Canmolwyd y prosiect Vanguard yn Ysbyty Alltwen a
mynegwyd dymuniad i weld adroddiad gan Morwena
Edwards, Cyfarwyddwr Corfforaethol, yn hysbysu pobl Gwynedd o lwyddiant y
peilot. ·
Nodwyd bod y pwyllgor craffu wedi holi droeon faint
o arian sy’n cael ei wario ar ymgynghorwyr, ond heb gael ymateb. Pwyllgor
Craffu Cymunedau Manylodd
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, y Cynghorydd Angela
Russell, ar gylch gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod 2014/15 gan ddiolch i’r
Is-gadeiryddion yn ystod y flwyddyn, y Cynghorwyr Mandy
Williams-Davies a Caerwyn Roberts, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion am eu
cefnogaeth. Diolchodd
yr Arweinydd i gadeiryddion, is-gadeiryddion ac aelodau’r tri phwyllgor craffu
am eu holl waith gan nodi bod yr adroddiad yn amlygu’n glir pa bynciau gafodd eu craffu, beth oedd diben y craffu a beth sydd wedi
digwydd i’r argymhellion yn deillio o hynny. The annual reports of the three scrutiny committees for 2014/15 were submitted together with their work
programmes for 2015/16. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGOR SAFONAU CYNGOR GWYNEDD 2014/15 PDF 64 KB Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Dr Einir Young, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r Cyngor i gyflwyno adroddiad
blynyddol y Pwyllgor Safonau am 2014/15. Manylodd
Dr Einir Young ar brif bwrpas y pwyllgor o hybu a chynnal safonau uchel o
ymddygiad gan gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig Cyngor Gwynedd a chynghorau
cymuned a thref Gwynedd gan gyfeirio at aelodaeth y pwyllgor a’r gwaith a
gyflawnwyd yn ystod 2014/15. Diolchodd i
Gwilym Ellis Evans, fu’n Gadeirydd y pwyllgor am 10 mlynedd, am ei waith diwyd
a’i ymroddiad ac hefyd i Sam Soysa, fu’n
Is-gadeirydd, cyn i’w gyfnod ar y pwyllgor ddod i ben. Diolchodd hefyd i’r Swyddog Monitro a’r
swyddogion eraill sy’n rhoi cefnogaeth i’r pwyllgor. Diolchwyd
i Dr Einir Young am gyflwyno’r adroddiad. |
|
Cyflwyno’r ddogfen ymgynghorol a sylwadau drafft y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd er ystyriaeth
gan y Cyngor llawn (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd
y Cynghorydd Tom Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd,
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn nodi, fel rhan o’r rhaglen
diwygio llywodraeth leol, y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn i Gomisiwn
Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gynnal adolygiad o drefniadau etholiadol ar
gyfer ardaloedd awdurdod lleol newydd arfaethedig. Gofynnwyd i’r Cyngor ystyried argymhellion y
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar y mater ynghyd â barn y pwyllgor ar y
newidiadau sydd dan sylw ar gyfer etholiadau 2017. Mynegodd
aelod ddiffyg hyder yn yr holl broses ar y sail bod cynnig llwgrwobr i
gynghorwyr o flwyddyn ychwanegol heb unrhyw fandad ac ar dâl llawn yn dangos pa
mor isel mae’r broses wedi disgyn. PENDERFYNWYD (a)
Cyflwyno’r sylwadau ar gynnwys y Cyfarwyddiadau Drafft
i’r Comisiwn Ffiniau sydd wedi eu crynhoi yn Atodiad A i’r cofnodion hyn. (b) Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ddatgan
y farn y byddai’n anaddas gweithredu’r newidiadau sydd dan sylw ar
gyfer etholiadau 2017 gyda newid mor
sylfaenol o ran ffiniau i ddilyn mor
fuan yn sgil
yr ad-drefnu. |
|
TAFLEN BENDERFYNIAD BRYS AELOD CABINET PDF 7 KB Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Economi (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet
Economi adroddiad er gwybodaeth yn nodi y cyflwynwyd taflen benderfyniad Aelod
Cabinet ynghylch Ardal Gwella Busnes (AGB) Bangor a Chaernarfon
Arfaethedig - Pleidleisiau Cyngor Gwynedd fel penderfyniad brys yn unol â rhan
7.25.2 o’r Cyfansoddiad fel na fyddai’r drefn galw i mewn yn berthnasol yn yr
achos hwn er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn medru cyflwyno pleidleisiau cyn y
dyddiad cau. Nododd fod y drefn yma’n caniatáu gwneud penderfyniad gyda chydsyniad Cadeirydd
y Cyngor, ond ‘roedd yn ofynnol adrodd ar hynny i’r Cyngor nesaf. Derbyniwyd cytundeb y Cadeirydd fod y mater
dan sylw yn un brys a bod y penderfyniad a gynigid yn
rhesymol o dan yr amgylchiadau. Yn
ystod y drafodaeth:- ·
Croesawyd y ffaith bod y cynllun yn ei le a
diolchwyd i’r Aelod Cabinet am ei gwaith. ·
Nodwyd bod y Llywodraeth ganolog yn Lloegr wedi
penderfynu bod cynghorau lleol Lloegr am gael cadw’r dreth fusnes i gyd er mwyn
ei fuddsoddi’n lleol ac awgrymwyd cysylltu gyda Llywodraeth Cymru i ofyn am
gyflwyno’r un amodau yng Nghymru.
Atebodd y Prif Weithredwr y byddai’n rhaid i bwyllgor craffu edrych ar
hyn yn gyntaf er mwyn gweld a fyddai trefn o’r fath yng Nghymru yn arwain at
fudd i Wynedd neu beidio. PENDERFYNWYD
nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |
|
(A) Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan
Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Walker
Jones yn cynnig fel a ganlyn:- “Galwaf ar fy nghyd-gynghorwyr i gefnogi cais i ysgrifennu at John Penrose, AS i ofyn
am newid yn y ddeddf i ganiatáu i ni sy'n dymuno
adnabod ein hunain fel Cymry
yn hytrach nag fel Prydeinwyr ar Gofrestr Etholiadol,
pasports, ac unrhyw ddogfennaeth swyddogol arall berthnasol. Yn ddiweddar, anfonwyd Ffurflen Ymholiad Etholiadol i bob cartref yng Ngwynedd. Un o'r pethau sy'n cael
ei gofrestru ar y Ffurflen yw
cenedligrwydd, ond nid oes hawl
gan Gymro/ Gymraes i gofnodi ei hun fel
Cymro / Cymraes.
Anfonir y Ffurflen gan ein Cyngor
i bob cartref yng Ngwynedd, ac er fod y Cyngor â chyfrifoldeb am weinyddu’r Gofrestr Etholiadau yng Ngwynedd, mae’n
gyfundrefn sy’n gweithredu trefn statudol ar gyfer
cynnal etholiadau. Rhaid dilyn y gyfundrefn ar gyfer cynnal
y gofrestr etholiadol er mwyn sicrhau
hawliau dinasyddion Gwynedd
i bleidleisio. Nid Gwynedd sy'n gyfrifol am y gyfundrefn. Nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol
am y gyfundrefn.
Os am newid y drefn, rhaid cysylltu
efo John Penrose, AS, chwip
y Llywodraeth yn San
Steffan, Comisiynydd yr Arglwydd o Drysorlys ei Mawrhydi ac Ysgrifennydd Seneddol (Gweinidog ar gyfer
Diwygio Cyfansoddiadol). Galwaf ar fy
nghydgynghorwyr i gefnogi hawl Cymry i alw
eu hunain yn Gymry. Galwaf
ar fy nghydgynghorwyr
i ddatgan cefnogaeth i ni, fel Cyngor
Gwynedd, ysgrifennu at John Penrose i newid y ddeddf.” (B) Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan
Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Ioan Thomas yn cynnig fel
a ganlyn:- “Bod Cyngor
Gwynedd yn:- (1) Cydnabod ac yn cefnogi’r gwaith da y mae Gwynedd wedi ei wneud o ran darparu ystod o lety a / neu wasanaethau
cefnogi i bobl ddiamddiffyn i’w helpu i gynnal neu adennill eu
lle yn y gymuned yng Ngwynedd. (2) Cefnogi parhad rhaglen ataliol Cefnogi Pobl a ariennir gan Lywodraeth
Cymru i gynorthwyo a chefnogi pobl ddiamddiffyn
a phobl ar yr ymylon i fyw’n
annibynnol a chydag urddas yn eu
cymunedau drwy ddarparu cefnogaeth gyda thai a gwasanaethau’r
Cyngor. (3) Galw ar Lywodraeth
Cymru i ddiogelu’r grant Cefnogi Pobl, yn
hytrach na’i leihau ymhellach. (4) Cefnogi ymgyrch ar y cyd Cymorth
Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru, “Gadewch i ni barhau
i Gefnogi Pobl”, i ddiogelu’r grant Cefnogi Pobl. (5) Gwahodd Aelodau Etholaeth a Rhanbarthol Cynulliad Cymru i gefnogi’r cynnig hwn.” (C) Cyflwyno, er gwybodaeth, lythyr gan Alun Cairns AS, Is-Ysgrifennydd
Gwladol Seneddol Cymru, mewn ymateb
i rybudd o gynnig y Cynghorydd Wyn Williams i’r cyfarfod blaenorol ynghylch datganoli pwerau Ystad y Goron (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynwyd y rhybudd o
gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones, dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd. “Galwaf ar fy
nghyd-gynghorwyr i gefnogi cais i
ysgrifennu at John Penrose, AS i ofyn
am newid yn y ddeddf i ganiatáu
i ni sy'n
dymuno adnabod ein hunain fel
Cymry yn hytrach nag fel Prydeinwyr ar Gofrestr
Etholiadol, pasborts, ac unrhyw ddogfennaeth swyddogol arall berthnasol. Yn ddiweddar, anfonwyd Ffurflen Ymholiad Etholiadol i bob cartref yng
Ngwynedd. Un o'r pethau sy'n
cael ei gofrestru
ar y Ffurflen yw cenedligrwydd, ond nid oes
hawl gan Gymro/ Gymraes i gofnodi ei
hun fel Cymro
/ Cymraes. Anfonir y Ffurflen gan ein Cyngor
i bob cartref yng Ngwynedd, ac er bod y Cyngor â chyfrifoldeb am weinyddu’r Gofrestr Etholiadau yng Ngwynedd, mae’n
gyfundrefn sy’n gweithredu trefn statudol ar gyfer
cynnal etholiadau. Rhaid dilyn y gyfundrefn ar gyfer cynnal
y gofrestr etholiadol er mwyn sicrhau
hawliau dinasyddion Gwynedd i bleidleisio. Nid Gwynedd sy'n gyfrifol
am y gyfundrefn. Nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y gyfundrefn. Os am newid y drefn,
rhaid cysylltu efo John Penrose, AS, chwip y Llywodraeth yn San Steffan, Comisiynydd yr Arglwydd o Drysorlys
ei Mawrhydi ac Ysgrifennydd Seneddol (Gweinidog ar gyfer
Diwygio Cyfansoddiadol). Galwaf ar fy
nghyd-gynghorwyr i gefnogi hawl Cymry
i alw eu
hunain yn Gymry. Galwaf ar
fy nghyd-gynghorwyr i ddatgan cefnogaeth
i ni, fel
Cyngor Gwynedd, ysgrifennu at John Penrose i newid y ddeddf.” Cefnogwyd y cynnig. PENDERFYNWYD derbyn y cynnig. (b) Cyflwynwyd y rhybudd o
gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Ioan Thomas, dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac
fe’i eiliwyd. “Bod
Cyngor Gwynedd yn:- (1) Cydnabod ac yn cefnogi’r gwaith da y mae Gwynedd wedi ei wneud o ran darparu ystod o lety a / neu wasanaethau
cefnogi i bobl ddiamddiffyn i’w helpu i
gynnal neu adennill eu lle
yn y gymuned yng Ngwynedd. (2) Cefnogi parhad rhaglen ataliol Cefnogi Pobl a ariennir gan Lywodraeth
Cymru i gynorthwyo
a chefnogi pobl ddiamddiffyn a phobl ar yr ymylon
i fyw’n annibynnol
a chydag urddas yn eu cymunedau
drwy ddarparu cefnogaeth gyda thai a gwasanaethau’r Cyngor. (3) Galw ar Lywodraeth
Cymru i ddiogelu’r
grant Cefnogi Pobl, yn hytrach na’i
leihau ymhellach. (4) Cefnogi ymgyrch ar y cyd Cymorth
Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru, “Gadewch i ni
barhau i Gefnogi Pobl”, i ddiogelu’r grant Cefnogi Pobl. (5) Gwahodd Aelodau Etholaeth a Rhanbarthol Cynulliad Cymru i gefnogi’r cynnig
hwn.” Cefnogwyd y cynnig. PENDERFYNWYD derbyn y
cynnig. (c) Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr gan Alun
Cairns, AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, mewn ymateb i rybudd o
gynnig y Cynghorydd Wyn Williams i’r cyfarfod diwethaf ynghylch datganoli
pwerau Ystâd y Goron. PENDERFYNWYD nodi’r llythyr
â siomedigaeth. |