skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Elin Hywel, Kim Jones, June Jones, Meryl Roberts ac Elfed Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 473 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2022 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Swyddog Monitro fuddiant personol yn eitem 7 - Adolygiad Blynyddol – Polisi Tâl y Cyngor 2023/24, ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol, gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau.

 

Roedd o’r farn bod gan y swyddogion fuddiant o sylwedd, ac ynghyd â’r ddau Gyfarwyddwr Corfforaethol, Y Pennaeth Cyllid Statudol, y Pennaeth Tai ac Eiddo, Y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth a’r Pennaeth Economi a Chymuned, gadawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem, gan nad oeddent angen bod yn bresennol i gynghori.  Arhosodd y Prif Weithredwr i mewn yn y cyfarfod i gynghori.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn-gynghorydd Caerwyn Roberts, a fu farw’n ddiweddar, a rhoddwyd teyrnged iddo gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn. 

 

Cydymdeimlwyd â’r canlynol hefyd:-

 

·         Teulu’r cyn-gynghorydd Dafydd Thomas, Penmorfa, a fu’n aelod o’r Cyngor hwn a’r cyn-Gyngor Sir Gwynedd am sawl blwyddyn.

·         Steffan Jones, Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, ar golli ei Dad.

·         Teulu Syr Meuric Rees, Escuan, Tywyn, cyn-Arglwydd Raglaw Gwynedd a fu farw ddoe.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Llongyfarchwyd syrffiwr o Wynedd oedd wedi creu hanes drwy ddod yn bencampwr byd syrffio cyntaf Cymru.  Enillodd Llywelyn 'Sponge' Williams fedal aur i Gymru ym Mhencampwriaethau Para Syrffio'r Byd ISA 2022 yng Nghaliffornia.

 

Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Dr Kathryn Whittey o Lanelltyd, yn un o 180 o ferched a ddewiswyd o 25 gwlad gan Homeward Bound, i deithio i Antarctica gydag arweinwyr benywaidd mewn gwyddoniaeth, sydd wedi ymrwymo i arwain, dylanwadu a chyfrannu at gynaliadwyedd ein planed.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 248 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

Pa drefniadau a wnaed gan yr Adran Addysg i sefydlu faint yn union o blant Gwynedd sy’n cael addysg drwy gyfrwng y Saesneg?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae’n braf derbyn cwestiynau fel hyn achos mae’n gyfle i mi allu datgan a’ch atgoffa unwaith eto pa mor unigryw ac arloesol ydi ein sefyllfa ni yn y sir yma.  Mae cyd-destun Gwynedd, wrth gwrs, yn wahanol i’r mwyafrif llethol o siroedd Cymru yn yr ystyr bod ein hysgolion ni yn bodoli o fewn cyd-destun sy’n gydnaws â’n nod o sicrhau dwyieithrwydd i bawb.  Mae’r ddwy iaith yn gyfrwng dysgu i wahanol raddau, ac oherwydd hynny, wrth gwrs, mae holl blant Gwynedd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n sefyllfa unigryw ac yn glod i weledigaeth Gwynedd ers blynyddoedd lawer erbyn hyn.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

“O ystyried nad oes yna unrhyw ddisgyblion yn astudio o leiaf 3 pwnc Cyfnod Allweddol 4 drwy gyfrwng y Gymraeg, oni bai am Gymraeg, yn Ysgol Friars, a bod y sefyllfa rhywbeth yn debyg yn Ysgol Tywyn, a bod yna nifer nid ansylweddol o ddisgyblion mewn ysgolion eraill, Dyffryn Nantlle, er enghraifft, nad ydyn nhw’n astudio o leiaf 3 pwnc Cyfnod Allweddol 4 drwy gyfrwng y Gymraeg, a fyddai’n deg dweud bod yna rai cannoedd o blant yn ysgolion uwchradd Gwynedd sy’n gallu osgoi addysg Gymraeg yn gyfan gwbl, ac mae’n debyg mai Saesneg fyddai iaith addysg y rheini?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“O ran osgoi’r Gymraeg, o ystyried bod y Gymraeg yn rhywbeth sy’n mynd y tu hwnt i wersi ac yn digwydd mewn cyfnodau bugeiliol, gwasanaethau, chwaraeon, ac ati, rwy’n meddwl ei bod yn anodd iawn iawn i rywun osgoi’r Gymraeg mewn unrhyw ysgol yng Ngwynedd.

 

Fel y gwyddom i gyd, mae gennym 2 ysgol uwchradd yng Nghategori 3 Trosiannol yn y sir, ac mae yna waith caled yn digwydd yn y fan honno er mwyn gwella’r ddarpariaeth yn yr ysgolion hynny.  Mae yna Swyddog Datblygu’r Gymraeg wedi ei chyflogi yn Ysgol Friars.  Mi fuaswn yn tynnu sylw at y ganran sydd, efallai, y mesurydd mwyaf pendant sydd gennym o ran nifer y plant sy’n medru’r Gymraeg yng Ngwynedd, ac mae 88% o’r plant rhwng 5 ac 15 oed yn medru’r Gymraeg o gymharu â 64% o’r boblogaeth gyffredin, sy’n dangos llwyddiant addysg Gymraeg y sir, ond wrth gwrs, mae angen gweithio hefo’r ysgolion a nodwyd a gweithio ar draws y sector yn gyffredinol.  Dyna pam bod Fforwm Iaith newydd ei sefydlu er mwyn cadw’r CSGA (Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg) ar drac, a dyna pam bod yna Grŵp Tasg a Gorffen yn ymchwilio i mewn i’r ddarpariaeth bresennol ar draws y sector uwchradd i gyd.  Hefyd, dyna pam rydw i’n edrych ymlaen yn arw i weld beth fydd y canfyddiadau a ddaw o’r gwaith ymchwil hynny, ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2023/24 pdf eicon PDF 267 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2023 / 24.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion, y Cynghorydd Dafydd Meurig adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2023/24.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Nododd aelod na allai gefnogi’r argymhelliad gan fod rhai prif swyddogion yn llawer llai parod eu cymorth nag eraill.  Nododd ei rhwystredigaeth hefyd bod Galw Gwynedd yn aml yn methu rhoi galwadau drwodd i’r adrannau gan fod neb yn ateb.

 

Holwyd sut y daethpwyd i’r casgliad bod risg i allu’r Cyngor i recriwtio a chadw i rai swyddi uwch swyddogion.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Bod y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion wedi ystyried dau adroddiad dros gyfnod o 3 blynedd yn edrych ar y lefel risg, gan edrych ar faint o swyddi sydd wedi bod ar gael mewn awdurdodau eraill ac mewn sefydliadau cyhoeddus eraill.

·         Nad oedd yna unrhyw ymgeisydd allanol ar y 7 rhestr fer fwyaf diweddar am swydd pennaeth yng Nghyngor Gwynedd.  Nid oedd hynny i ddweud nad oedd y rhai a benodwyd i’r swyddi yn gwneud gwaith ardderchog, ond roedd y Cyngor yn methu denu ymgeiswyr allanol o gwbl.

·         Bod y Cyngor yn cystadlu, nid yn unig yn erbyn cynghorau eraill, ond yn erbyn sefydliadau cyhoeddus eraill a sefydliadau cenedlaethol, a phe na lwyddid i ddenu neb i mewn, bod risg gwirioneddol o fethu gweithredu ar y lefel yma.

·         Er bod yr adroddiad hwn yn ymwneud yn benodol â swyddi prif swyddogion, ei bod yn galonogol gallu adrodd bod £1.7m ychwanegol yn cael ei gynnig yn y gyllideb eleni er mwyn ymdrin â chyflogau swyddi gofalwyr, a thrwy hynny gyfarch y risg sylweddol o fethu recriwtio yn y maes yma gobeithio.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2023/24.

 

 

8.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD - 2023-28 pdf eicon PDF 126 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28.  Manylodd hefyd ar y cyd-destun gwleidyddol sy’n sail i’r holl gynllun.  Nododd:-

 

·         I gyflawni’r cynlluniau, bod rhaid cael adnoddau digonol, a bod y pwysau ariannol sylweddol ar y Cyngor o ganlyniad i chwyddiant a’r argyfwng costau byw yn cael effaith ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau.

·         Y dymunai wneud yn berffaith glir mai cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan yn bennaf yw hyn, ond bod neges yma hefyd i’r Gweinidogion Llafur yng Nghaerdydd, sy’n rhannu’r un egwyddorion sylfaenol â ni, heblaw am y ffaith ein bod ni’n dymuno gweld ein cenedl yn rheoli ein gwlad ein hunain.

·         Bod y Gweinidogion yn Llundain yn sarhau Llywodraeth Cymru, ein setliad datganoledig a’n gweinidogion, ac yn ein trin gyda sen.  Roedd y Levelling-Up Fund a’r Shared Prosperity Fundyn enghreifftiau clir o hyn.  Rhoddwyd addewid i ni yn flaenorol y byddai Cymru yn derbyn ‘not one penny less of European money, ond byddem yn derbyn £1.2bn yn llai dros y 3 blynedd nesaf.  Nid oedd yna unrhyw beth yn y ‘Shared Prosperity Fund sy’n fwy na’r hyn rydym ni’n haeddu – ein harian ni ydyw!

·         Y bu awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn paratoi am flynyddoedd ar gyfer gwneud buddsoddiad rhanbarthol ar gyfer y cyfnod wedi i’r cronfeydd Ewropeaidd ddod i ben, ond roedd Llywodraeth San Steffan wedi diystyru’r cynlluniau hynny yn llwyr.  Nid oedd ganddynt gynllun hirdymor ar gyfer dosbarthu’r arian, ac nid oedd yn glir sut roeddent yn dod i benderfyniad ar nifer o’r cronfeydd yma.

·         Y bu Cyngor Gwynedd yn ffodus o gael arian ar gyfer yr ardaloedd llechi, ond ni lwyddwyd i gael arian ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr, ac roedd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn ei gyhuddo o fynd y tu ôl i’r drefn ddatganoledig yn y cais i’r gronfa i gael ffordd osgoi i Lanbedr.  Nid oedd am ymddiheuro am hynny, gan mai ein harian ni ydoedd!

·         Y dymunai alw ar ei gyfeillion yn y Blaid Lafur yng Nghymru, sy’n rhannu’r un egwyddorion sylfaenol â ni o ran tegwch cymdeithasol, i sefyll i fyny am unwaith dros Gymru, a gwrthod mynd ar ofyn Llundain.

·         Iddo wneud datganiad yn y dyddiau diwethaf ynglŷn â gwyliau banc, a’i bod yn sarhaus mai Cymru yw’r unig ran o’r wladwriaeth ddatganoledig sydd heb yr awdurdod i benderfynu ar ei gwyliau banc ei hun.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes a’i dîm am y gwaith o baratoi Cynllun y Cyngor.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd bod yr uchelgais a’r weledigaeth i’w gweld yn glir drwy’r cynllun cyfan.

·         Nodwyd bod yna ddyheadau clodwiw yma, ond dyheadau’n unig, a phwysleisiwyd y dylai cynllun gynnwys strategaeth, amserlen a meini prawf i fesur llwyddiant.  Mewn ymateb, eglurwyd bod yna brosiectau yma, ac y bydd yna fesuryddion ac adrodd yn ôl ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

STRATEGAETH CYFALAF 2023/24 (YN CYNNWYS STRATEGAETH BUDDSODDI A BENTHYCA) pdf eicon PDF 544 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023/24

 

Cofnod:

Cyflwynodd  yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn rhoi trosolwg lefel uchel ar y modd y mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheolaeth trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol.  ‘Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o sut y rheolir risgiau cysylltiedig, a’r goblygiadau i gynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol.

 

Nododd aelod fod cyflwyniad diweddar Arlingclose, Ymgynghorwyr Rheolaeth Trysorlys y Cyngor, ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Aelodau Cabinet wedi bod yn hynod fuddiol o safbwynt dealltwriaeth o’r maes cymhleth a thechnegol hwn, ac awgrymodd y byddai’n dda o beth petai holl aelodau’r Cyngor yn cael y cyfle i fynychu’r cyflwyniad blynyddol hwn. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023/24.

 

10.

CYLLIDEB 2023/24 pdf eicon PDF 270 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1. Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-

 

(a) Sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer 2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol).

 

(b) Sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn 2023/24 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

2.  Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 6 Ionawr 2023, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2023/24 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a) 56,182.77 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.

 

(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned –

 

Aberdaron

    608.85

 

Llanddeiniolen

       1,871.98

Aberdyfi

    1,195.87

Llandderfel

   523.58

Abergwyngregyn

      126.33

Llanegryn

     172.23

Abermaw (Barmouth)

    1,285.44

Llanelltyd

     323.96

Arthog

      709.28

Llanengan

  2,586.58

Y Bala

      805.47

Llanfair

     369.71

Bangor

    4,268.54

Llanfihangel y Pennant

     257.09

Beddgelert

      348.15

Llanfrothen

     241.18

Betws Garmon

      145.50

Llangelynnin

     469.53

Bethesda

    1,695.61

Llangywer

     154.57

Bontnewydd

      462.48

Llanllechid

     361.11

Botwnnog

      485.84

Llanllyfni

  1,455.91

Brithdir a Llanfachreth

      467.94

Llannor

     930.15

Bryncrug

      346.51

Llanrug

  1,151.24

Buan

      236.07

Llanuwchllyn

     330.26

Caernarfon

    3,699.26

Llanwnda

     820.41

Clynnog Fawr

      493.91

Llanycil

     218.04

Corris

      324.86

Llanystumdwy

     936.33

Criccieth

      995.98

Maentwrog

     318.33

Dolbenmaen

      659.77

Mawddwy

     389.38

Dolgellau

    1,300.53

Nefyn

  1,678.16

Dyffryn Ardudwy

      870.27

Pennal

     245.61

Y Felinheli

    1,196.12

Penrhyndeudraeth

     822.10

Ffestiniog

    1,855.12

Pentir

  1,300.28

Y Ganllwyd

        90.22

Pistyll

     282.17

Harlech

      876.70

Porthmadog

  2,277.83

Llanaelhaearn

      480.92

Pwllheli

  1,833.57

Llanbedr

      365.94

Talsarnau

     362.74

Llanbedrog

      847.20

Trawsfynydd

     519.28

Llanberis

      793.84

Tudweiliog

     502.47

Llandwrog

    1,063.40

Tywyn

  1,779.26

Llandygai

    1,029.59

 

Waunfawr

     566.22

 

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2023/24 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

                       

(a)   

£505,479,830

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

 

(b)   

£185,199,940

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

 

(c)   

£320,279,890

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

 

(ch)

£227,347,266

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.

 

(d)   

£1,654.11

Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod,  ...  view the full Penderfyniad text for item 10.

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd, yn unol â’r Cyfansoddiad, bod rhaid i’r Pennaeth Cyllid dderbyn rhybudd o unrhyw welliant i’r gyllideb yn ysgrifenedig ymlaen llaw, a bod rhaid i’r gwelliant hwnnw arwain at gyllideb hafal, os am gael ei drafod.  Roedd holl aelodau’r Cyngor wedi’u hatgoffa o hynny'r wythnos cynt, a gan na dderbyniodd y Pennaeth Cyllid unrhyw rybudd o welliant erbyn yr amser cau dynodedig, ni fyddai modd i’r Cyngor ystyried unrhyw welliant i’r gyllideb.

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas:-

 

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2023/24;

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 4.95%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Diolchodd i staff yr Adran Gyllid am eu holl waith yn paratoi’r gyllideb.

 

Atgoffodd y Pennaeth Cyllid yr aelodau o rai o’r prif risgiau yn Atodiad 10 i’r adroddiad, a chadarnhaodd, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau lliniaru, ei fod o’r farn bod Cyllideb y Cyngor am 2023/24 yn gadarn, yn ddigonol, ac yn gyraeddadwy.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Holwyd pa fath o gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy’n cael trafferth talu’r Dreth Cyngor.  Mewn ymateb, eglurwyd y gofynnid yn gyntaf i bobl sicrhau eu bod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Treth Cyngor.  Pryderid bod yna nifer o bobl yn y sir sydd naill ai ddim yn sylweddoli eu bod yn cymhwyso, neu ddim yn ymwybodol o’r cynllun.  Pwysleisiwyd yr angen i unrhyw un sy’n bryderus ynglŷn â’i sefyllfa gysylltu â’r Adran Gyllid rhag blaen cyn mynd i drafferthion.

·         Holwyd faint o bobl sydd wedi methu talu a faint o wysiadau sy’n cael eu hanfon allan a chost hynny i’r Cyngor.  Gofynnwyd hefyd pam bod llinell ffôn y Gwasanaeth Trethi yn cau am 2.00yp bob dydd.  Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid nad oedd y ffigurau gwysiadau ganddo i law, ond y gallai gael y wybodaeth i’r aelod.  O ran y llinell ffôn, eglurodd fod trosiant staff wedi bod yn broblem yn yr uned, ond bod y sefyllfa yn sefydlogi bellach.  Eglurodd hefyd fod yna waith prosesu gwybodaeth yn dilyn pob galwad ffôn, a bod yna wybodaeth yn cyrraedd drwy’r post a thrwy e-bost hefyd, sydd angen ei brosesu.  Nododd ymhellach y comisiynwyd gwaith gan y Tîm Ffordd Gwynedd i edrych ar y llif gwaith o fewn y Gwasanaeth Trethi i edrych pam bod niferoedd y galwadau ffôn mor uchel, ac i weld oes modd ail-gynllunio’r gwaith fel nad yw pobl yn ffonio.

·         Nododd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant y dymunai erfyn yn daer ar ei gyd-aelodau i gefnogi’r bid £1.5m am gyflogau staff.  Eglurodd fod swydd-ddisgrifiadau holl staff rheng flaen y maes gofal oedolion mewnol wedi cael eu hadolygu a’u hail arfarnu ac y golygai’r bid, o gael ei basio, y gellid codi’r cyflogau i gyd-fynd â’r arfarniad newydd.

·         Nodwyd ei bod yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

STRATEGAETH CYFRANOGIAD pdf eicon PDF 299 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Strategaeth Cyfranogiad.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Strategaeth Cyfranogiad, sy’n nodi’r ffyrdd y caiff pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhroses y Cyngor o wneud penderfyniadau, yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Mynegwyd siomedigaeth mai ond 89 o bobl oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar y strategaeth.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Fel gyda sawl ymgynghoriad arall, y gallai fod yn anodd denu diddordeb ymysg y cyhoedd ar rai pynciau, yn enwedig pynciau nad ydynt yn effeithio ar bobl yn uniongyrchol yn eu cymunedau o ddydd i ddydd.

·         Y cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor ac ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda chopïau ar gael yn y llyfrgelloedd yn ogystal.  Yn amlwg, nid oedd yn bwnc oedd wedi tanio diddordeb mawr, a cheisid dysgu gwersi o hynny er mwyn gweld oes ffordd well o’i wneud yn y dyfodol.

 

Nodwyd y cafwyd enghraifft yn gynharach yn y cyfarfod hwn o aelod o’r cyhoedd yn dymuno cymryd diddordeb yn nhrafodaethau’r Cyngor, ond yn cael ei wrthod, a holwyd, petai’r aelod oedd yn galw am roi’r rheolau sefydlog o’r neilltu wedi crybwyll yr union gymal o’r Cyfansoddiad, h.y. 4:17:3, yn hytrach na 4:17 yn gyffredinol, a fyddai’r aelod o’r cyhoedd wedi cael gofyn ei gwestiwn.

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro:-

 

·         Nad dyma’r lle i ail-agor y drafodaeth ar y mater, ac y byddai’n hapus i drafod y drefn gyda’r aelod ar ôl y cyfarfod.

·         Bod bwriad i adeiladu ar y strategaeth a chynyddu’r ymwybyddiaeth o’r cymryd rhan, gan gynnwys cefnogi gallu’r cyhoedd i ofyn cwestiwn ac i ddeall y drefn, fel ei fod yn llawer mwy eglur, nid yn gymaint yn y Cyfansoddiad, ond ar wefan y Cyngor, ayb.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Strategaeth Cyfranogiad.

 

 

12.

CALENDR PWYLLGORAU 2023/24 pdf eicon PDF 106 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth galendr ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2023/24.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2023/24.

 

13.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 153 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth:-

 

(i)            Llythyrau gan Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Chadeirydd (Grŵp Rheoli PGAB) a Phrif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Llio Elenid Owen i gyfarfod 1 Rhagfyr 2022 o’r Cyngor ynglŷn â dyfodol canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yn Ninas Dinlle a’r Trallwng.

(ii)          Llythyrau gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU ac Avanti West Coast mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Huw Rowlands i gyfarfod 1 Rhagfyr 2022 o’r Cyngor ynglŷn â gwella gwasanaethau trenau yng Ngwynedd.

(iii)         Llythyr gan Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn i gyfarfod 1 Rhagfyr, 2022 o’r Cyngor ynglŷn ag ail-agor rheilffyrdd Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth:-

 

(i)         Llythyrau gan Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Chadeirydd (Grŵp Rheoli PGAB) a Phrif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Llio Elenid Owen i gyfarfod 1 Rhagfyr 2022 o’r Cyngor ynglŷn â dyfodol canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yn Ninas Dinlle a’r Trallwng.

(ii)        Llythyrau gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU ac Avanti West Coast mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Huw Rowlands i gyfarfod 1 Rhagfyr 2022 o’r Cyngor ynglŷn â gwella gwasanaethau trenau yng Ngwynedd.

(iii)      Llythyr gan Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn i gyfarfod 1 Rhagfyr, 2022 o’r Cyngor ynglŷn ag ail-agor rheilffyrdd Cymru.

 

Atodiadau pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol: