Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Endaf Cooke, Annwen
Daniels, Selwyn Griffiths, Sian Gwenllian, Annwen Hughes, Peredur Jenkins,
Dyfrig Jones, Linda Wyn Jones, Eryl Jones-Williams, Beth Lawton, Linda Morgan, W.Roy Owen, Peter Read, Caerwyn Roberts, Mair Rowlands,
Glyn Thomas, Ioan Thomas, Gethin Glyn Williams, Mandy Williams-Davies ac Eurig
Wyn. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llongyfarchwyd:- ·
Y Cynghorydd Charles Wyn
Jones ar ennill gradd Baglor mewn Diwinyddiaeth (Bth)
gyda chlod drwy Athrofa Ddiwinyddol De Affrica. ·
Pawb a enillodd wobr yn
Seremoni’r Cyngor ar ei Orau a Gwobr Goffa Dafydd Orwig yr wythnos
ddiwethaf. Diolchwyd hefyd i bawb fu
ynghlwm â’r seremoni. ·
Janet Williams, Rhiant
Maeth gyda’r Cyngor ar ennill y Wobr Dinasyddiaeth yng Ngwobrau Gŵyl Ddewi
eleni. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim. |
|
Ystyried cwestiwn a roddwyd rhybudd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eglurodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Eurig
Wyn wedi cyflwyno cwestiwn cyn y Cyngor diwethaf, ond i’r cwestiwn ddod i law
ar ôl y dyddiad cau, a’i fod felly am ganiatáu i’r cwestiwn gael ei ofyn yn y
cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor. Cwestiwn gan y
Cynghorydd Eurig Wyn (a ofynnwyd gan y Cynghorydd Hefin Williams yn absenoldeb
y Cynghorydd Eurig Wyn) “Pa fudd cymunedol ariannol a gyflwynir i gymuned Waunfawr o ganlyniad
i’r difrod a wnaed i’w hardal yn sgil datblygiadau FIRST HYDRO i sefydlu
cynllun trydan dŵr yn eu hardal?” Ateb gan y Cynghorydd
Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio (Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.) “Yn y bôn, nid yw ystyriaeth cyfraniadau i
gymunedau lleol yn rhan o’r system gynllunio ac nid ydym yn ymwybodol o fudd
cymunedol ariannol penodol a roddwyd i gymuned Waunfawr yn sgil datblygu Gorsaf
Bŵer Dinorwig. Er hyn, rhaid nodi
bod y budd economaidd mae’r cynllun yma wedi’i ddarparu yn ystod y cyfnod
adeiladu ac yn ystod y cyfnod gweithredu hyd heddiw wedi bod yn sylweddol i’r
ardal leol, sydd ei hun yn fudd i’r gymuned.” Cwestiwn atodol gan y
Cynghorydd Eurig Wyn (a ofynnwyd gan y Cynghorydd Hefin Williams yn absenoldeb
y Cynghorydd Eurig Wyn) “A gytuna’r Cyngor ymchwilio drwy’r Adran
Gynllunio i ddatblygiadau cyffelyb yn yr Alban lle mae Cynghorau Sir a’r Senedd
wedi creu strategaeth effeithiol i ariannu cynlluniau o’r fath a gofalu darparu
budd-dal i’r cymunedau?” Ateb gan y Cynghorydd
Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio (Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.) “Mae canllawiau llywodraeth yr Alban yn
pwysleisio hefyd bod budd cymunedol ariannol yn drefniant gwirfoddol sydd yn
hollol ar wahân i’r broses gynllunio ac felly mae’r un peth yn wir yn y fan
honno, ond mae’r gwaith cychwynnol wedi’i wneud gan swyddogion o Wasanaeth
Eiddo ac Adran Economi a Chymuned y Cyngor i geisio
edrych ar y buddiannau economaidd cymunedol all fod ynghlwm â datblygiadau ynni
adnewyddol.
Hefyd, mae’n bwysig dweud, mewn sefyllfaoedd lle mae cynlluniau adnewyddol ar dir lle mae’r Cyngor yn dirfeddiannwr, ac mae
hyn yn wir yng Nglyn Rhonwy, sef cais sy’n cael ei
ystyried ar hyn o bryd, mi fydd y Cyngor yn ystyried cyfleoedd i negodi buddion
cymunedol fel rhan o drefniant ar gyfer trosglwyddo tir.” |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD PDF 200 KB Yn unol â rhan 4.12.1 (d) o’r Cyfansoddiad derbyniwyd
llythyr gan Cyng. Aled Evans a oedd wedi cael ei arwyddo gan 9 o gynghorwyr
eraill a oedd yn gofyn am gyfarfod o’r Cyngor i drafod: “agwedd ar y Cynllun
Datblygu Lleol (Gwynedd a Môn), sef y dull aed ati i gloriannu effaith y
cynllun arfaethedig hwn ar yr iaith Gymraeg. Teimlwn nad ydyw’r hyn a wnaed ynddo yn dderbyniol o ran amddiffyn y Gymraeg a hoffem ystyried camau pellach i ddadwneud y diffyg hwn.” Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Eglurodd y
Cadeirydd, yn unol â rhan 4.12.1(d) o’r Cyfansoddiad, y derbyniwyd llythyr gan
y Cynghorydd Aled Evans, oedd wedi ei arwyddo gan 9 o gynghorwyr eraill yn
gofyn am gyfarfod arbennig o’r Cyngor i drafod: “agwedd ar y Cynllun Datblygu Lleol (Gwynedd a Môn), sef y dull aed ati
i gloriannu effaith y cynllun arfaethedig hwn ar yr iaith Gymraeg. Teimlwn nad ydyw’r hyn a wnaed ynddo yn
dderbyniol o ran amddiffyn y Gymraeg a hoffem ystyried camau pellach i
ddadwneud y diffyg hwn.” Pwysleisiodd y
Cadeirydd mai’r mater hwn yn unig fyddai’n cael ei drafod ac na fyddai modd yn
gyfansoddiadol i drafod unrhyw agwedd arall o’r cynllun. Rhoddodd y Swyddog
Monitro arweiniad parthed y sefyllfa gyfreithiol gyffredinol a chyfansoddiadol
ynglŷn â’r drafodaeth, gan nodi:- ·
Bod datblygiad y Cynllun Adnau yn fater sydd yn nwylo’r Pwyllgor Polisi
Cynllunio ar y Cyd ar y Cyd a bod y penderfyniadau ar yr ymgynghoriad, yr
ymateb i’r ymgynghoriad a’i gyflwyniad ar gyfer ymchwiliad annibynnol wedi eu
dirprwyo gan y Cyngor hwn i’r Cyd-bwyllgor ers 2011. ·
Ar 29 Ionawr eleni, y penderfynodd y Cyd-bwyllgor dderbyn bod y cynllun
yn mynd ymlaen i ymchwiliad annibynnol, ac ar y sail hynny, hysbysebwyd y
penderfyniad a chychwynnwyd ar y gwaith paratoi. ·
Bod y penderfyniad hwn yn unol â hawliau dirprwyedig y Cyd-bwyllgor, oedd
yn fodlon, ar ran Cyngor Gwynedd, bod y cynllun yn gadarn i fynd ymlaen i’r
ymchwiliad a bod y broses a’r ymateb yn gadarn i fynd ymlaen i ymchwiliad. Gan hynny, nid oedd yn gyfreithiol bosib’,
i’r Cyngor wyrdroi’r penderfyniad yma. ·
Ei fod yn benderfyniad ar y cyd ag Ynys Môn a bod yna arwyddocâd i’r
penderfyniad yna hefyd i’r sawl sydd wedi cefnogi neu wrthwynebu’r cynllun. ·
Bod yna broses sy’n caniatáu i’r gwrthwynebiadau i’r cynllun gael sylw
gan yr Arolygydd a’i bod yn debygol y byddai yna wrandawiadau ar yr ymateb i
rai o’r materion yma hefyd ac felly byddai’r gwrthwynebiadau yn cael eu
cloriannu. ·
Nad oedd y cais am gyfarfod arbennig o’r Cyngor yn nodi rhybudd o gynnig
penodol, eithr yn gofyn am drafodaeth yn unig.
Yn ôl Cyfansoddiad y Cyngor, i gael trafodaeth, ‘roedd yn rhaid cael
cynnig, ac un o’r amgylchiadau prin lle gellid gwneud cynnig heb rybudd oedd
drwy argymhelliad gan Aelod Cabinet. Gan
hynny, bwriadai’r Aelod Cabinet Cynllunio roi cynnig gerbron er mwyn agor y
drafodaeth. Mater i’r aelodau wedyn
fyddai ystyried a oeddent am dderbyn y cynnig neu roi gwelliannau priodol
ymlaen. Cynigiwyd ac
eiliwyd i roi’r Rheolau Gweithdrefn o’r neilltu er mwyn caniatáu i unrhyw aelod
wneud cynnig gerbron y Cyngor. Galwyd am bleidlais
gofrestredig ar y cynnig i roi’r Rheolau Gweithdrefn o’r neilltu. Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol:- O blaid: (32) Y Cynghorwyr - Craig ab Iago, Anwen Davies, Elwyn Edwards, Trevor Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Jean Forsyth, Gweno Glyn, Simon Glyn, Alwyn Gruffydd, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Sian Wyn Hughes, Aeron Jones, Aled Wyn Jones, Brian Jones, Elin Walker Jones, Eric Merfyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |