Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Endaf Cooke, Gweno Glyn, Aeron M. Jones, Dyfrig Wynn Jones, Linda A. W. Jones, June E. Marshall, Dewi Owen, Peter Read a Hefin Underwood.

 

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 303 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Mai, 2016 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Mai, 2016 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlad

 

Cydymdeimlwyd â theulu Jo Cox, AS, a lofruddiwyd mewn amgylchiadau erchyll yn Swydd Efrog yn ddiweddar a thalwyd teyrnged iddi gan y Cynghorydd Gwen Griffith.

 

Cydymdeimlwyd â theulu’r diweddar Athro Gwyn Thomas, bardd, ysgolhaig a beirniad llenyddol.

 

Nodwyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

Llongyfarchiadau

 

Llongyfarchwyd yr holl bobl ifanc a phlant o Wynedd fu’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili.

 

Llongyfarchwyd Elin Thomas, yn enedigol o Llannor, Pen Llŷn, am gynrychioli Cymru a chanu’r anthem genedlaethol Gymreig ar ddechrau’r tair gêm rygbi rhyngwladol diweddar rhwng Seland Newydd a Chymru, a dymunwyd bob llwyddiant iddi i’r dyfodol.

 

Materion Eraill

 

Ad-drefnu Llywodraeth Leol

 

Adroddwyd y cyhoeddodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ddatganiad ar y 23ain o Fehefin yn cadarnhau:-

 

·         Y bydd cynghorwyr lleol sy’n cael eu hethol yn etholiad Mai 2017 yn gwasanaethu tymor pum mlynedd (Mai 2017 i Mai 2022) ac y bydd hyn yn cyd-fynd â chylch etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd hefyd nawr yn bum mlynedd.

·         Na fyddai unrhyw adolygiad i ffiniau etholaethau cyn yr etholiad ym mis Mai, a olygai y byddai 75 aelod etholedig yn parhau i wasanaethu ar Gyngor Gwynedd o Fai 2017 ymlaen.

 

Byddai mwy o wybodaeth am adolygu llywodraeth leol i ddilyn erbyn tymor yr hydref.

 

Dadorchuddio Plac

 

Adroddwyd bod croeso i bawb fod yn bresennol mewn seremoni ym Mhlas Llanwnda, Stryd y Castell, Caernarfon am 11.45yb ar ddydd Gwener, 1 Gorffennaf, i ddadorchuddio carreg gofeb ar gyfer yr Uwch Gapten Lionel Wilmot Brabazon Rees, sef yr unig berson o Wynedd i dderbyn y Groes Fictoria yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Coffau Brwydr Coed Mametz

 

I nodi canrif ers Brwydr Coed Mametz, Brwydr Gyntaf y Somme yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, estynnwyd gwahoddiad i bawb i Agoriad Swyddogol Gardd Goffa’r Rhyfel Mawr yng Nghastell Caernarfon am 12.00yb ar ddydd Iau, 7 Gorffennaf.  Nodwyd y cynhelir gweithgareddau eraill fel rhan o Agoriad yr Ardd Goffa yn y Castell hefyd gyda Chôr Rygbi Gogledd Cymru a Band y Signalau Brenhinol yn cymryd rhan.

 

Seremoni y Cyngor ar ei Orau

 

Nodwyd:-

 

·         Bod Seremoni flynyddol y Cyngor ar ei Orau yn gyfle i ddathlu holl waith ardderchog y 7,000 o staff sy’n gweithio i Gyngor Gwynedd i ddarparu amrediad o wasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau trigolion y sir, aelodau staff sy’n mynd tu hwnt i’w swydd ddisgrifiad i roi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth maent yn ei wneud.

·         Bod y pum gwobr sy’n cael eu cyflwyno yn ystod y Seremoni yn ymwneud â gwerthoedd y Cyngor sef Gwerth am Arian, Positif, Gweithio fel Tïm, Parch a Gwasanaethu, sef pum gwerth sy’n graidd i egwyddorion y Cyngor ac yn arwain ei ffordd o weithio gan amlygu beth sy’n bwysig os am ddarparu’r gwasanaethau gorau i bobl Gwynedd.

·         Bod nifer fawr o enwebiadau yn cael eu derbyn ar gyfer y gwobrau, a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

A oes modd i’r Aelod Cabinet wneud datganiad ynglŷn â’r diffyg torri gwair yng Ngwynedd?

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

“Mae’r Aelod yn ymwybodol o’r sefyllfa ariannol anodd iawn sy’n wynebu’r Awdurdod hwn ac o benderfyniad y Cyngor hwn ar 3 Mawrth, 2016 i weithredu 49 toriad i wasanaethau oedd yn cynnwys lleihau nifer o doriadau gwair mewn rhai lleoliadau.

 

O ganlyniad bydd yn rhaid i ni, yn anffodus, dderbyn bod hyn yn golygu dirywiad mewn edrychiad rhai lleoliadau ar adegau o’r flwyddyn a pham fydd amrywiaethau yn y tymor tyfu fel yn achos eleni.

 

Mae’r Adran berthnasol yn monitro effaith gwireddu’r newid yn ofalus, yn sicrhau bod lleoliadau lle mae pryderon o ran diogelwch yn derbyn blaenoriaeth ac yn addasu’r rhaglenni torri lle yn bosib’ er mwyn ceisio lliniaru effaith y newid hwn. Bydd yr addasiadau i’r rhaglenni torri yn parhau am yr hyn sy’n weddill o’r tymor tyfu a’r flwyddyn.  Hoffwn ddiolch o ddifri’ i staff Cynnal Tiroedd am sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni er y newidiadau.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

“Ydi’r Aelod Cabinet yn fodlon ystyried rhoi cyfrifoldeb torri gwair i gynghorau cymuned a thref neu gael strategaeth newydd yn yr adran?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

“Mae Cyngor Gwynedd, wrth gwrs, yn fodlon gweithio hefo cynghorau cymuned ym mhob maes sy’n bosib’, ac mae hwn yn un o’r meysydd sydd yn bosib’, ond rhaid bod yn ofalus nad ydym yn ei basio drosodd heb sicrwydd gan y cynghorau cymuned ar rai materion, e.e. ynglŷn ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a hefyd eu bod yn derbyn y cyfrifoldeb os bydd damwain yn digwydd ac mae hyn i mi yn rhywbeth y dylent ei ystyried o ddifri’.  Mi fyddwn i’n fodlon trafod unrhyw ddatrysiad sy’n well na’r hyn ‘rydym yn ei wneud ar hyn o bryd.  ‘Rwy’n llongyfarch yr adran oherwydd mae wedi bod yn dymor tyfu anodd iawn hefo tywydd mor gyfnewidiol ac ‘rydym i gyd wedi profi hynny yn ein gerddi yn gyffredinol ac ‘rwy’n meddwl bod yr adran a’r gweithwyr sydd wedi bod ar y rheng flaen wedi gwneud gwaith rhyfeddol yn y misoedd sydd wedi pasio.”

 

(2)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Aled Evans

 

“A wnaiff yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am gynllunio adrodd ar y camau a gymerir i wneud yn siŵr y bydd datganiadau ardrawiad ieithyddol a ddarperir gyda cheisiadau cynllunio o dan y CDLL yn ddiduedd, fel na bo ymgeisydd yn darparu y fath ddatganiad fel rhan o’i gyflwyniad am ganiatâd i unrhyw ddatblygiad?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Ar hyn o bryd ‘rydym yn penderfynu ceisiadau cynllunio yn ôl y Cynllun Datblygu Unedol presennol ac mae’r cwestiwn yn ymwneud â’r Cynllun Datblygu Lleol, fydd yn cael ei fabwysiadu gobeithio gan y Cyngor ym mis Mawrth y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2015/16 pdf eicon PDF 105 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol a Chyfarwyddwr Corfforaethol  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2015/16.

 

Yn ei chyflwyniad, rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg o berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngwynedd dros y flwyddyn a fu, gan amlygu’r elfennau hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus, a chyfeirio hefyd at rai materion sydd angen sylw.  Rhoddodd flas hefyd ar gyfeiriad y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r dyfodol gan amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

 

Manteisiodd ar y cyfle hefyd i gydnabod arweiniad a chefnogaeth yr Aelodau Cabinet yn y maes gofal, y Cynghorwyr W.Gareth Roberts a Mair Rowlands.  Diolchodd i’r holl staff, y darparwyr a’r partneriaid am eu hymrwymiad a’u gwaith caled wrth sicrhau fod plant, pobl ifanc ac oedolion bregus a’u teuluoedd yn derbyn y gwasanaethau gorau bosib’.  Diolchodd hefyd i bawb sydd yn gofalu yn anffurfiol am aelod o’r teulu neu am gymydog, gan nodi bod eu cyfraniad yn amhrisiadwy.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd y Cyfarwyddwr i gyfres o gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau mewn perthynas â:-

 

·         Chynlluniau i gwrdd â’r prinder nyrsys gofal dementia dwys yn Ne Meirionnydd.

·         Y diffyg gwasanaethau / problemau gyda’r gwasanaethau yn Ne Meirionnydd a sut i gyfarch y problemau hynny yn yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni.

·         Cynlluniau i sicrhau bod y garfan o blant sydd ag anghenion cymhleth iawn, ond ddim yn derbyn gwasanaeth gan Derwen na’r Cyngor, yn derbyn y gefnogaeth briodol.

·         Siomedigaeth nad oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at drefniadau’r Cyngor er sicrhau bod oedolion hefo awtistiaeth yn derbyn gwasanaethau digonol.  Nododd y Cyfarwyddwr nad oedd yn ymarferol cynnwys popeth yn yr adroddiad, ond y byddai’n derbyn y sylw ar gyfer y flwyddyn nesaf.

·         Pwysigrwydd y gwaith ataliol yn y maes cyfiawnder ieuenctid a’r angen i ddatgan siomedigaeth y Cyngor, drwy’r Aelod Cabinet, yn y partneriaethau statudol am leihau’r ariannu sydd ar gael ganddynt i gynnal y gwasanaeth.

·         Nifer y plant sy’n gorfod mynd allan o Wynedd i dderbyn gofal.  Nododd y Cyfarwyddwr nad oedd yn siŵr o’r union ffigurau, ond y gallai eu rhannu gyda’r aelod ar ôl y Cyngor.

·         Yr angen i aelodau sy’n llywodraethwyr ysgolion roi sylw i ddiogelu yn eu cyfarfodydd llywodraethwyr a’r gwaith da i godi ymwybyddiaeth holl staff y Cyngor am y maes diogelu a’r angen i barhau i wneud hynny.

·         Yr amser mae’n gymryd i drawsffurfio’r gwasanaethau.

·         Effaith yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth ar forâl a throsiant staff.

·         Sut i gyfarch y don arall o fewnlifiad fydd yn digwydd, os bydd amod 50 o Gytundeb Lisbon yn cael ei wireddu, wrth i bobl ddychwelyd adref o’r cyfandir er mwyn parhau i dderbyn triniaeth feddygol am ddim.

·         Y sôn diweddar fod pobl ag afiechyd meddwl sy’n cyfeirio eu hunain am driniaeth i sefydliad lleol yn cael eu troi i ffwrdd.  Nododd y Cyfarwyddwr na allai ateb y sylw penodol ond y gallai drafod y mater gyda’r Bwrdd Iechyd petai’r aelod yn dod ag enghreifftiau iddi.

·         Trefn gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r broses apêl.  Nododd y Cyfarwyddwr y gallai rannu’r dogfennau hyn gyda’r aelodau.

·         Y gwaith sy’n digwydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

10.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Annwen Hughes

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Annwen Hughes yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Fel Cynghorwyr, rydym yn gwbl ymwybodol o'r dioddefaint a orfodir ar nifer o drigolion Gwynedd o ganlyniad i doriadau ariannol llym llywodraeth San Steffan. Credwn, fodd bynnag, bod dewis arall i’r ymosodiad ideolegol yma ar wasanaethau cyhoeddus sy’n cael effaith andwyol ar bobl leol. Y dewis amgen yw trethu a hynny trwy drethiant trafodion ariannol ar weithgareddau sydd wedi cyflymu cyfoeth nifer o fancwyr barus Llundeinig yn ddiweddar, ar draul tlodi'r boblogaeth ehangach. Erfyniaf ar Gynghorwyr Gwynedd i gefnogi fy ngalwad ar Lywodraeth San Steffan i wneud defnydd helaeth o’r dreth trafodion ariannol, treth Twm Sion Cati, gan ddefnyddio'r arian i wrthdroi'r lleihad parhaus yn y grant canolog gaiff ei ddyrannu i gynghorau sir, gan gynnwys Gwynedd.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Cynghorydd Annwen Hughes, yn wyneb y farchnad ariannol bresennol a chanlyniad refferendwm yr UE, ei bod am dynnu ei chynnig yn ôl gan fod angen iddi ail-edrych ar y mater.

 

 

11.

Rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Mandy Williams Davies

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Mandy Williams Davies yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar fanc HSBC i ail ystyried eu penderfyniad i gau eu canghennau ym Mlaenau Ffestiniog, Abermaw a Thywyn, gan ddatgan ein pryder am yr effaith negyddol ar fusnesau a thrigolion yn y trefi allweddol yma o’r sir.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar fanc HSBC i ail ystyried eu penderfyniad i gau eu canghennau ym Mlaenau Ffestiniog, Abermaw a Thywyn, gan ddatgan ein pryder am yr effaith negyddol ar fusnesau a thrigolion yn y trefi allweddol yma o’r sir.”

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Siomedigaeth ynglŷn â diffyg cyswllt y banc â’r dref ynglŷn â’u bwriad.

·         Ei bod yn destun pryder pan mae gwasanaethau yn dechrau gadael prif drefi’r sir heb gynllun tymor hir.

·         Er bod dulliau pobl o fancio yn newid, bod gan y banciau ddyletswydd i’r gymuned ac y dylent feddwl sut maent am gynnal gwasanaethau a moderneiddio, ond heb ddiflannu’n llwyr o’r trefi gwledig.

·         Bod y banciau yn gwrando ar eu cyfranddalwyr yn hytrach na’u cwsmeriaid.

·         Gall methu bancio arian yn lleol arwain at fusnesau yn gorfod cau.

·         Bod angen i’r Cyngor fynd at HSBC i drafod gyda meddyliau agored ac awgrymiadau positif.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i ychwanegu at y cynnig bod y Cyngor hwn yn estyn gwahoddiad i fanc HSBC am drafodaeth ar y mater.

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau a nodwyd gyda chaniatâd y Cyngor a’r eilydd.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig diwygiedig, ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig gwreiddiol, wedi’i addasu fel a ganlyn:-

 

“Bod Cyngor Gwynedd yn:-

(a)     Galw ar fanc HSBC i ail ystyried eu penderfyniad i gau eu canghennau ym Mlaenau Ffestiniog, Abermaw a Thywyn, gan ddatgan ein pryder am yr effaith negyddol ar fusnesau a thrigolion yn y trefi allweddol yma o’r sir.

(b)     Estyn gwahoddiad i fanc HSBC am drafodaeth ar y mater.