skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Alan Jones Evans, Alwyn Gruffydd, Sian Wyn Hughes, Edgar Wyn Owen, Elfed P. Roberts, Gareth A.Roberts, Mike Stevens, Hefin Underwood a Cemlyn Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 537 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 18 Mai, 2017 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 18 Mai, 2017 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gan gyfeirio at eitem 9 ar y rhaglen – Adolygiad o Ffiniau Etholaethol Gwynedd, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd o’r farn bod yr adroddiad yn cynrychioli buddiant oherwydd ei fod yn ymgynghoriad ar fater na fydd yn dod i rym am bum mlynedd a bod unrhyw effaith yn ddarostyngedig i nifer o ffactorau eraill fod yn weithredol.

 

Datganodd y Cynghorydd Peter Read fuddiant personol yn eitem 19(A) ar y rhaglen – rhybudd o gynnig ganddo ynglŷn â dosbarthu cadeiriau olwyn yng Ngogledd Cymru oherwydd ei fod yn ddefnyddiwr y gwasanaeth.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 19(C) ar y rhaglen – rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Glyn Daniels ynglŷn ag ysbyty newydd Blaenau Ffestiniog, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Linda Ann Jones oherwydd ei bod yn aelod o Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Blaenau Ffestiniog, yn cynrychioli pobl ag anableddau dysgu yn ardal y Blaenau.

·         Y Cynghorydd Glyn Daniels oherwydd ei fod yn aelod o’r Pwyllgor Amddiffyn.

·         Y Cynghorydd Gareth Thomas oherwydd bod ei gwmni wedi cyflawni gwaith i’r Bwrdd Iechyd ar gychwyn y broses ymgynghori.

·         Y Cynghorydd Elin Walker Jones oherwydd ei bod yn gyflogedig gyda’r Gwasanaeth Iechyd.

 

Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Cydymdeimlad

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Alwyn Gruffydd ar golli ei Dad yn ddiweddar.  Nodwyd y bu Mr E.H.Griffiths yn aelod gweithgar iawn o Gynghorau Gwynedd a Dwyfor yn ei ddydd a thalwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Owain Williams.

 

Cydymdeimlwyd hefyd â theulu Irfon Williams o Fangor, ymgyrchydd canser a sylfaenydd ymgyrch Hawl i Fyw.

 

Nodwyd bod y Cyngor hefyd yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

(2)     Llongyfarchiadau

 

Llongyfarchwyd pawb o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar.

 

(3)     Nodyn

 

Nodwyd y gadawyd Pecynnau Cyflwyno’r Gwasanaeth Llyfrgell ym mlychau post yr aelodau a gofynnwyd i bawb eu casglu cyn gadael ar y diwedd.

 

Eglurwyd, er nad oes gan bob aelod o’r Cyngor lyfrgell yn ei ward, bod y gwasanaeth yn paratoi cynnig digidol ar lein, sydd ar gael i drigolion Gwynedd sydd â mynediad at y We.  Nodwyd hefyd bod llyfrgell deithiol y gwasanaeth yn ymweld â nifer fawr o wardiau gwledig a bod y Gwasanaeth Cartref ar gael i’r rhai hynny sy’n gaeth i’w tai.

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

AELODAETH Y PANEL HEDDLU A THROSEDD

 

Nid oedd yr eitem hon wedi’i chynnwys ar y rhaglen, ond cytunodd y Cadeirydd i’w thrafod fel mater brys o dan Adran 100B(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972 oherwydd bod sedd ar y Panel wedi dod yn wag a bod angen penodi aelod o’r panel cyn gynted â phosib’. 

 

Nododd y Cadeirydd:-

 

·         Fel yr adroddwyd i gyfarfod diwethaf y Cyngor llawn, ei bod yn ofynnol i’r Cyngor adnabod un aelod o Grŵp Plaid Cymru ac un aelod o’r Grŵp Annibynnol i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd.

·         Ymhellach i enwebu’r Cynghorydd Dilwyn Morgan yn aelod o’r panel, y bu iddo ymddiswyddo o’r penodiad yn sgil pwysau gwaith, ac felly ‘roedd sedd Grŵp Plaid Cymru ar y panel wedi dod yn wag.

 

PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd Peter Read (Plaid Cymru) yn aelod o’r Panel Heddlu a Throsedd am y cyfnod hyd yr etholiadau llywodraeth leol nesaf.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron Jones

 

“Beth mae’r Cyngor am wneud am y carafanau a’r faniau sy’n parcio tros nos ar draethau Dinas Dinlle, ar lecyn y Foryd, ble mae arwyddion gan y Cyngor hwn, ‘Dim Parcio Tros Nos’ i fyny, ond yn cael eu hanwybyddu gan yr ymwelwyr?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Datblygu’r Economi, y Cynghorydd Ioan Thomas (ac hefyd ar ran yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig)

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

"Nid ydym yn annog ymwelwyr i ddefnyddio'r llecynnau yma ar gyfer parcio dros nos.  Yn ymarferol mae’n anodd i’r Cyngor orfodi drwy symud cerbydau yn syth, oherwydd yr amser mae’n gymryd i gyflwyno rhybuddion ffurfiol, ac yna chyflwyno cais am orchymyn meddiant yn y llys sirol lleol.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Aeron Jones

 

“Faint o sicrwydd all yr Aelod Cabinet roi bod perchnogion y faniau yma ddim yn arllwys eu toiledau cemegol a gwastraff dŵr yn y llecynnau hyn a’u bod yn cael eu cosbi yn y dyfodol am barcio dros nos?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Datblygu’r Economi, y Cynghorydd Ioan Thomas

 

“Mi wnaf gyd-drafod gyda’r Aelod Cabinet Amgylchedd a’r swyddogion perthnasol a rhoi ateb llawn i chi maes o law, ond ‘rwy’n deall eich pryder.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Sut mae’r Arweinydd am sicrhau cydraddoldeb a chyfleoedd i weithio i Gyngor Gwynedd, yn enwedig i ferched?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Arweinydd i’r cwestiwn i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Mae pawb, yn amlwg, yn gytûn yma ein bod am hyrwyddo cydraddoldeb ar draws unrhyw ryw neu ffiniau neu hiliaeth, ayb, ac mae ein polisïau yn adlewyrchu hynny.  Mae’r Cyngor wrthi’n gwneud gwaith i geisio adnabod cyfleon i hyrwyddo rôl merched oddi fewn y Cyngor ac felly ‘rydym yn ymwybodol iawn o fod angen gwella pethau, fel yr ydym mewn sawl maes.  Mae’r Dirprwy Arweinydd, sy’n gyfrifol am gydraddoldeb ac adnoddau dynol, yn mynd i ymwneud â’r gwaith yma ac yn mynd i adrodd ar gynnydd a’r datblygiadau yn yr holiaduron, ac yn y blaen, ‘rydym wedi ddatblygu’n ddiweddar.  Mae hithau wedi tynnu fy sylw at gomisiwn llywodraeth leol traws bleidiol sy’n edrych ar rôl merched ym myd llywodraeth leol a bydd hi’n awyddus iawn i gyfrannu at y drafodaeth honno ac i ddysgu oddi wrth unrhyw argymhellion fydd ganddynt.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Allan o’r 10 Aelod Cabinet, faint sy’n ddynion a faint sy’n ferched?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

"Mae yna 1 ferch, sef y Dirprwy Arweinydd, a 9 o ddynion.  ‘Rydw i’n falch iawn o record fy mhlaid lle mae merched yn y cwestiwn.  Mae gen i Ddirprwy Arweinydd yn ferch, mae gennym ni Gadeirydd y Cyngor yn ferch; mae gennym ni Is-gadeirydd y Cyngor yn ferch.  Mae gennym ni Aelod Cynulliad Arfon yn ferch.  Mae gennym Aelod Seneddol yn Nwyfor / Meirionnydd sy’n ferch, ac nid yn unig hynny, ond yn wir yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD GWYNEDD 2016/17 pdf eicon PDF 47 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r ddogfen yn ddarlun cytbwys, teg a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2016/17, a’i fabwysiadu.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r swyddogion hynny fu ynghlwm â’r gwaith.

 

Ymatebodd yr Arweinydd a’r swyddogion perthnasol i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau mewn perthynas â:-

 

·         Y canran o wariant caffael y Cyngor sydd yn mynd i gwmnïau sydd â’u pencadlys yng Ngwynedd.

·         Ffurf a gweithrediad Panel Trigolion Gwynedd a’r grwpiau ffocws.

·         Yr amrywiaeth o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y diwrnodau calendr ar gyfartaledd a gymerwyd i roi Grant Cyfleusterau i’r Anabl.  Eglurwyd bod hwn yn ddangosydd sy’n gallu bod yn anodd ei reoli gan fod y gwaith yn dueddol o fod yn waith sylweddol sy’n cymryd amser i’w gynllunio, a bod oedi yn gallu digwydd hefyd.  Cytunodd yr Arweinydd i graffu’r sefyllfa os nad yw’r perfformiad cystal ag y bu.

·         Pryder bod pwysau gwaith yn arwain at gynnydd mewn absenoldebau salwch staff.  Nodwyd, er bod y Cyngor hwn yn parhau yn y chwartel uchaf, bod hyn yn rhywbeth i gadw golwg arno ac awgrymwyd bod lle i bwyllgor craffu edrych ar hyn hefyd.

·         Y cynnydd sylweddol yn y buddsoddiad i’r sir drwy law prosiectau a phryder na fydd modd cynnal y lefel yma o fuddsoddiad i’r dyfodol o ganlyniad i golli arian Ewrop.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad yn adlewyrchiad cytbwys, teg a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2016/17, a’i fabwysiadu.

 

9.

ADOLYGIAD O FFINIAU ETHOLAETHOL GWYNEDD pdf eicon PDF 260 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol)  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, y Cynghorydd R.Medwyn Hughes, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gyflwyno sylwadau i’r Comisiwn Ffiniau ar eu hadolygiad o ffiniau etholaethol Cyngor Gwynedd.

 

Cyfeiriodd hefyd at gynnwys papur ychwanegol a ddosbarthwyd i'r aelodau oedd yn diweddaru’r Cyngor ar gynigion ar gyfer ardal Dinas Bangor a chynigion ar gyfer ardal Pen Llþn yn dilyn trafodaethau lleol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant bod mwy o ystyriaeth yn cael ei roi i Ardal Pen Llþn ac Ardal Bangor oherwydd yr amgylchiadau unigryw yn yr ardaloedd hynny, sef nifer y trethdalwyr sy’n byw yn rhai o’r ardaloedd ym Mhen Llþn, llawer sy’n talu’r dreth lawn a mwy, wardiau Bangor, sydd gyda niferoedd uchel o fyfyrwyr, ac eto ddim yn dod i ystyriaeth yn y papur hwn, a ward Marchog, sy’n ardal Cymunedau’n Gyntaf, ac felly’n unigryw eto.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd yr amserlen yn caniatáu rhoi mwy o ystyriaeth i gynigion penodol gan fod rhaid i ymateb y Cyngor gyrraedd y Comisiwn Ffiniau erbyn y bore canlynol.

 

Mewn ymateb i sylw nad oedd y cynghorau cymuned wedi rhoi llawer o ymateb i’r adolygiad, eglurodd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol fod hyn ynghlwm â’r anhawster gyda’r amserlen, oedd yn pontio’r cyfnod etholiad i’r cynghorau hynny, fel y Cyngor hwn.  Nododd fod pob cyngor cymuned wedi derbyn llythyr gan y Comisiwn a bod y Cyngor hwn wedi cysylltu’n benodol â chynghorau cymuned yn yr ardaloedd oedd yn cael eu heffeithio gan y cynigion.

 

Mewn ymateb i’r gwelliant, nododd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol y gallai gynnwys y pwyntiau ynglþn â sefyllfa unigryw ardaloedd Pen Llþn a Bangor yn y llythyr at y Comisiwn.

 

Nodwyd bod y Grðp Annibynnol wedi cyflwyno rhai sylwadau ychwanegol i’w cymhorthydd yn eu cyfarfod grðp y bore hwnnw a chytunwyd bod yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol yn cysylltu â’r swyddog i gael y sylwadau hynny.

 

Gyda chydsyniad y Cyngor, tynnodd y cynigydd ei welliant yn ôl gan fod sylwedd y gwelliant yn mynd i gael ei ymgorffori yn ymateb y Cyngor i’r adolygiad.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu na ddylid cynnig unrhyw newidiadau i’r etholaethau a ganlyn:-

 

·         Arfon – Arllechwedd, Bethel, Deiniolen, Dewi (Bangor), Gerlan, Glyder (Bangor), Y Groeslon, Llanberis, Llanrug, Ogwen, Pentir, Penygroes, Tregarth a Mynydd Llandygai, Waunfawr, Y Felinheli.

 

·         Dwyfor – Abererch, Criccieth, Dolbenmaen, Efail Newydd / Buan, Llanystumdwy, Nefyn, Porthmadog (Dwyrain), Porthmadog (Gorllewin), Porthmadog (Tremadog), Pwllheli (De), Pwllheli (Gogledd).

 

·         Meirionnydd – Aberdyfi, Abermaw, Brithdir a Llanfachreth / Y Ganllwyd / Llanelltyd, Bowydd a Rhiw, Corris a Mawddwy, Dolgellau (De), Dolgellau (Gogledd), Penrhyndeudraeth, Y Bala.

 

(b)     Cymeradwyo’r cynigion penodol a argymhellwyd gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu (ac a amlygir yn llawn yn yr adroddiad – paragraffau 9.1 – 9.9) yng nghyswllt yr etholaethau a ganlyn:-

 

·         Ardal Tref Caernarfon

·         Ardal Ffestiniog

·         Ardal Tywyn

·         Ardal Trawsfynydd, Harlech, Dyffryn Ardudwy a Llanbedr

·         Ardal Llanrug

·         Ardal Llanllyfni, Talysarn a Nantlle

·         Ardal Clynnog, Trefor a Llithfaen

·         Ardal  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016-17 CYFARWYDDWR GWASANAETHAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 554 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2016/17.

 

Yn ei chyflwyniad, rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg o sut y darparwyd y gwasanaethau cymdeithasol dros y flwyddyn a fu a’r prif flaenoriaethau ar gyfer 2017/18.  Nododd bod yr adroddiad yn ymgais i wneud asesiad o ba mor effeithiol yw gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer oedolion, plant a theuluoedd yng Ngwynedd.

 

Manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i’r holl staff am eu gwaith di-flino ac ymroddedig eto eleni.  Diolchodd yn arbennig i Marian Parry Hughes (Pennaeth Plant a Theuluoedd), Aled Davies (Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant) a Llinos Edwards (Uwch Swyddog Gweithredol), fu’n gweithio’n agos gyda hi ar y gwaith o lunio’r adroddiad blynyddol.  Diolchodd hefyd i aelodau’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau am eu gwaith a’u sylwadau adeiladol ac i’r Aelodau Cabinet yn y maes gofal, y Cynghorwyr W.Gareth Roberts a Mair Rowlands am eu cefnogaeth dros y flwyddyn.  Nododd hefyd ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cynghorydd Dilwyn Morgan, oedd wedi cymryd drosodd y portffolio plant a phobl ifanc.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands i’r Cyfarwyddwr am bob cefnogaeth yn ystod ei chyfnod fel Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc, gan ddiolch hefyd i holl staff y gwasanaethau cymdeithasol, sy’n gwneud gwaith anodd iawn.  Diolchodd i’r rhieni maeth hefyd a dymunodd yn dda i’w holynydd, y Cynghorydd Dilwyn Morgan, wrth iddo gymryd drosodd y portffolio.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd y Cyfarwyddwr i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau mewn perthynas â:-

 

·         Yr angen am greu mesuryddion penodol ar gyfer plant ag awtistiaeth.

·         Pwysigrwydd ymyrraeth gynnar.

·         Y cynnydd yn nifer y plant sy’n dod i ofal.

·         Anhawster cael mynediad i wasanaethau Derwen.

·         Y risgiau sy’n wynebu’r gwasanaeth ac effaith y toriadau.

·         Pwysigrwydd gofal ysbaid.

 

Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr a’i staff am eu holl waith yn ystod y flwyddyn.

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2016-17 pdf eicon PDF 669 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu 2016-17  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Fforwm Craffu, y Cynghorydd Angela Russell, adroddiad blynyddol Craffu ar gyfer 2016/17.  Diolchodd i’r Cynghorydd Beth Lawton, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau a’r cadeiryddion craffu eraill am eu gwaith gan nodi ei bod yn bwysig bod y pwyllgorau newydd yn adeiladu ar y gwaith da a gyflawnwyd, ond yn gwneud mwy o graffu ymlaen llaw.  Diolchodd hefyd i bawb fu’n aelodau o’r pwyllgorau craffu dros y 5 mlynedd ddiwethaf ac i Arwel Ellis Jones (Uwch Reolwr – Cefnogaeth Gorfforaethol), Vera Jones (Rheolwr Democratiaeth), Gareth James (Rheolwr Cefnogi Aelodau a Chraffu) a gweddill y Tim Cefnogi Aelodau am bob cymorth.

 

12.

PENODI AELODAU ETHOLEDIG AC AELOD PWYLLGOR CYMUNEDOL O'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 208 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands, adroddiad ar y broses o benodi Aelodau Etholedig ac Aelod Pwyllgor Cymunedol o’r Pwyllgor Safonau, gan wahodd y Cyngor i dderbyn argymhelliad y Grŵp Busnes i benodi’r Cynghorydd Dewi Roberts, Abersoch, fel Aelod Etholedig o’r Pwyllgor.  Nododd hefyd fod dwy sedd ar ôl ar y pwyllgor ar gyfer aelodau etholedig.

 

Cyfeiriodd yn ogystal at gynnwys papur ychwanegol a ddosbarthwyd i’r aelodau oedd yn adrodd ar drafodaethau’r Panel o’r Pwyllgor Safonau a gyfarfu ar 12 Mehefin i gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd Aelod Pwyllgor Cymunedol o’r Pwyllgor Safonau.  Nododd:-

 

·         Y cynhaliwyd y cyfweliadau gan banel o 3 Aelod Annibynnol gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

·         Y cyfwelwyd 7 Cynghorydd Cymuned a enwebwyd gan eu cynghorau.

·         Yn dilyn ystyriaeth ofalus a thrylwyr o’r ceisiadau, y penderfynodd y Panel argymell penodi Mr Richard Parry Hughes, a enwebwyd gan Gyngor Cymuned Llannor, i’r swydd.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Penodi’r Cynghorydd Dewi Roberts, Abersoch i weithredu fel Aelod Etholedig o’r Pwyllgor Safonau am oes y Cyngor.

(b)     Penodi Mr Richard Parry Hughes fel Aelod Cymunedol o’r Pwyllgor Safonau am gyfnod y Cyngor Cymuned.

 

13.

PENODI AELOD LLEYG I'R PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 196 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, y Cynghorydd R.Medwyn Hughes, adroddiad ar y broses o benodi Aelod Lleyg i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. 

 

Cyfeiriodd hefyd at gynnwys papur ychwanegol a ddosbarthwyd i’r aelodau oedd yn adrodd ar drafodaethau’r Panel a gyfarfu ar 13 Mehefin i gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swydd.  Nododd:-

 

·         Y cynhaliwyd y cyfweliadau gan banel yn cynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, wedi’u cynghori gan y Swyddog Cyllid Statudol a’r Swyddog Monitro.

·         Y cyfwelwyd tri ymgeisydd am rôl yr Aelod Lleyg ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, ac yn dilyn ystyriaeth ofalus a thrylwyr o’r ceisiadau, y penderfynodd y Panel argymell penodi Mrs Sharon Warnes i’r swydd.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â rôl yr aelod lleyg ar y pwyllgor, eglurodd y Swyddog Monitro bod gofyn statudol bod o leiaf un aelod lleyg ar Bwyllgor Archwilio ac mai amcan y ddeddfwriaeth oedd dod â llais annibynnol i mewn i drafodaethau’r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD penodi Mrs Sharon Warnes fel Aelod Lleyg o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am gyfnod o 4 blynedd.

 

14.

PORTFFOLIOS CABINET pdf eicon PDF 110 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn datgan yn ffurfiol bod y Cyfansoddiad wedi ei addasu yn sgil penodi’r Cabinet newydd ac ail-drefnu’r Portffolios.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

15.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2016-17 pdf eicon PDF 666 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ei adroddiad blynyddol ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yng nghyswllt y gefnogaeth sydd wedi ei datblygu, ac wrthi’n cael ei datblygu, ar gyfer aelodau.

 

Diolchodd y Pennaeth i gadeiryddion y pwyllgor yn ystod cyfnod y Cyngor blaenorol, y cyn Gynghorwyr T.G.Ellis a Lesley Day a’r Cynghorydd Dewi Owen, ac hefyd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones fu’n Is-gadeirydd am dair blynedd.

 

16.

PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD

Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

[Yn unol a gofynion adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor Llawn sydd i benodi cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli ar y weithrediaeth.  .]

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2017/18.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2017/18.

 

 

17.

DISGRIFIADAU O ROLAU pdf eicon PDF 223 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu cyfres o ‘ddisgrifiadau o rolau’ ar gyfer y rolau a nodir isod:-

 

·         Aelod o’r Cabinet

·         Arweinydd y Cyngor a’i Ddirprwy

·         Aelod o Gyngor Gwynedd (sydd yn berthnasol i bob aelod)

·         Aelod o Bwyllgor Archwilio

·         Cadeirydd Pwyllgor Archwilio

·         Aelod o Bwyllgor Craffu

·         Cadeirydd Pwyllgor Craffu

·         Aelod Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

·         Cadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

·         Aelod Pwyllgor Safonau

·         Cadeirydd Pwyllgor Safonau

·         Aelod Pwyllgor Trwyddedu

·         Cadeirydd Pwyllgor Trwyddedu

·         Aelod Pwyllgor Cynllunio

·         Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio

·         Cadeirydd y Cyngor

·         Arweinydd Gwrthblaid a’i Ddirprwy

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r ‘disgrifiadau o rolau’ ar gyfer y rolau a restrir uchod.

 

18.

CADEIRYDDIAETHAU CRAFFU YN SEILIEDIG AR GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad ar yr angen i adnabod pa grwpiau sydd i benodi Cadeirydd i ba bwyllgor craffu ac yn argymell ar lafar bod y cadeiryddiaethau yn cael eu dyrannu fel a ganlyn:-

 

·         Pwyllgor Craffu Gofal – Cadair – Annibynnol; Is-gadair - Annibynnol

·         Pwyllgor Craffu Cymunedau – Cadair – Plaid Cymru; Is-gadair - Annibynnol

·         Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi – Cadair – Annibynnol; Is-gadair – Plaid Cymru

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r dyraniad cadeiryddiaethau uchod.

 

19.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

20.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Peter Read

Yn unol â’r rhybudd o gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Peter Read yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Yn fy marn i mae angen adolygu’r system o ddosbarthu cadeiriau olwyn yng Ngogledd Cymru lle cafwyd nifer o achosion lle nad yw’r cadeiriau hyn yn addas i’r unigolion.  Er nad cyfrifoldeb uniongyrchol y Cyngor yw’r maes gwaith yma, mae gennym gyfrifoldeb i wrando ar bryderon dinasyddion bregus y Sir.

 

Cynnig

 

Bod y Cyngor yn cyfeirio’r cwestiwn o addasrwydd trefniadau darparu cadeiriau olwyn i drigolion Gwynedd i’w ystyried ar gyfer y rhaglen craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Peter Read o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Yn fy marn i mae angen adolygu’r system o ddosbarthu cadeiriau olwyn yng Ngogledd Cymru lle cafwyd nifer o achosion lle nad yw’r cadeiriau hyn yn addas i’r unigolion.  Er nad cyfrifoldeb uniongyrchol y Cyngor yw’r maes gwaith yma, mae gennym gyfrifoldeb i wrando ar bryderon dinasyddion bregus y Sir.

 

Cynnig

 

Bod y Cyngor yn cyfeirio’r cwestiwn o addasrwydd trefniadau darparu cadeiriau olwyn i drigolion Gwynedd i’w ystyried ar gyfer y rhaglen craffu.”

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig.

 

 

21.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Owain Williams

Yn unol â’r rhybudd o gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Owain Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Bod y Cyngor yn gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg ystyried annog ysgolion y Sir i arddangos ein baner genedlaetholsef y Ddraig Goch ar dir neu adeiladau’r ysgol.  Mae’r arferiad hwn eisoes yn cael ei wireddu gan amryw o’n hysgolionond nid y cyfan o bell ffordd.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(2)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Owain Williams o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Bod y Cyngor yn annog ysgolion y Sir i arddangos ein baner genedlaethol – sef y Ddraig Goch ar dir neu adeiladau’r ysgol.  Mae’r arferiad hwn eisoes yn cael ei wireddu gan amryw o’n hysgolion – ond nid y cyfan o bell ffordd.”

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod geiriad y cynnig ychydig yn wahanol i’r rhybudd ysgrifenedig a dderbyniwyd gan yr aelod, oedd yn darllen fel a ganlyn:-

 

“Bod y Cyngor yn gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg ystyried annog ysgolion y Sir i arddangos ein baner genedlaethol – sef y Ddraig Goch ar dir neu adeiladau’r ysgol.  Mae’r arferiad hwn eisoes yn cael ei wireddu gan amryw o’n hysgolion – ond nid y cyfan o bell ffordd.”

 

Cydsyniodd y Cyngor i’r cynigydd addasu geiriad ei gynnig gwreiddiol drwy hepgor y geiriau “gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg ystyried”.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan sawl aelod, ond pwysleisiwyd hefyd mai’r gwaith sy’n digwydd ar lawr y dosbarth sy’n cyfrannu fwyaf at hyrwyddo’r ymwybyddiaeth o hunaniaeth Gymreig.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig diwygiedig.

 

22.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Glyn Daniels

Yn unol â’r rhybudd o gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Glyn Daniels yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“’Rwyf yn cynnig bod Cyngor Gwynedd yn cefnogi Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty a thrigolion Blaenau Ffestiniog i bwyso ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac awdurdodau perthnasol er sicrhau bod cyfleusterau priodol ac angenrheidiol yn yr ysbyty newydd sy’n cael ei godi yn y dref. 

 

I’r perwyl hyn, golygaf fod cyfleusterau sy’n arferol i’w canfod mewn ysbytai lleol, megis uned pelydr x, mân ddamweiniau a nifer ddigonol o welyau i gleifion preswyl.  O ystyried fod Blaenau Ffestiniog y drydedd dref fwyaf yng Ngwynedd, ac hefyd fod ymateb y mwyafrif llethol o’r trigolion mewn refferendwm diweddar yn mynnu fod y dref yn haeddu gwell triniaeth, credaf nad oes unrhyw reswm i’r Cyngor beidio cefnogi’r cynnig hwn.”  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(3)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Glyn Daniels o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“’Rwyf yn cynnig bod Cyngor Gwynedd yn cefnogi Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty a thrigolion Blaenau Ffestiniog i bwyso ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac awdurdodau perthnasol er sicrhau bod cyfleusterau priodol ac angenrheidiol yn yr ysbyty newydd sy’n cael ei godi yn y dref. 

 

I’r perwyl hyn, golygaf fod cyfleusterau sy’n arferol i’w canfod mewn ysbytai lleol, megis uned pelydr x, mân ddamweiniau a nifer ddigonol o welyau i gleifion preswyl.  O ystyried fod Blaenau Ffestiniog y drydedd dref fwyaf yng Ngwynedd, ac hefyd fod ymateb y mwyafrif llethol o’r trigolion mewn refferendwm diweddar yn mynnu fod y dref yn haeddu gwell triniaeth, credaf nad oes unrhyw reswm i’r Cyngor beidio cefnogi’r cynnig hwn.” 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at achos llys y llynedd aeth i wrandawiad Adolygiad Barnwrol ar gefn rhybudd o gynnig fu gerbron y Cyngor gan nodi fod penderfyniadau ar rybuddion o gynnig yn benderfyniadau o sylwedd, ac nad ydynt yn wahanol i unrhyw benderfyniadau eraill a gymerir gan y Cyngor o ran statws ac arwyddocâd.  Eglurodd fod rhaid i’r Cyngor wneud ei benderfyniadau ar sail tystiolaeth sy’n seiliedig ar ffeithiau, ond nad oedd o’r farn bod y dystiolaeth sy’n angenrheidiol i’r Cyngor ddod i gasgliad ar natur y ddarpariaeth iechyd ym Mlaenau Ffestiniog wedi ei chyflwyno yn yr achos hwn.

 

Yn wyneb yr arweiniad uchod, awgrymwyd y dylid cyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Craffu Gofal, gan wahodd cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd a’r Pwyllgor Amddiffyn i ddod i’r pwyllgor i gyflwyno tystiolaeth.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant bod y mater yn cael ei gyfeirio’n syth i’r Pwyllgor Craffu Gofal a’i drafod cyn gynted ag y bo’r modd.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r gwelliant gan sawl aelod, er i bryder gael ei ddatgan hefyd ynglŷn â llwyth gwaith y Pwyllgor Craffu Gofal.

 

Nodwyd nad oedd amser o blaid y Cyngor, os am roi pwysau ar y Bwrdd Iechyd, a mynegodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal, y Cynghorydd Eryl Jones-Williams, ei barodrwydd i alw cyfarfod arbennig o’r pwyllgor i roi sylw i’r mater hwn ar fyrder.

 

PENDERFYNWYD cyfeirio’r mater yn syth i’r Pwyllgor Craffu Gofal a’i drafod cyn gynted ag y bo’r modd.