Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Judith Humphreys, Nia Jeffreys, Keith Jones,
Eryl Jones-Williams, Beth Lawton, Dilwyn Morgan, Nigel Pickavance, Peter Read,
Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts a Catrin Wager. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (1) Cydymdeimlad Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Glyn Daniels a’r Cynghorydd Annwen Daniels ar golli tad a thad yng nghyfraith
yn ddiweddar. Safodd y Cyngor fel arwydd o barch. (2) Llongyfarchiadau I bawb o’r Sir a fu’n llwyddiannus yn y Sioe Frenhinol
yn ystod yr wythnos hon. I Arfon Pugh o Harlech ar gwblhau'r her o gneifio 900 mewn 24 awr. Fe gafodd 1,030 eu cneifio o fewn
yr amser a chodwyd swm sylweddol
tuag at elusen Tenovus sydd ar
hyn o bryd yn sefyll o gwmpas
£15,000 I Sian Ellis
Williams, Swyddog Dinesig a
Chefnogi Aelodau ar dderbyn aelodaeth o’r Urdd Fictorianaidd
(MVO0 yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw
ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan
gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD GWYNEDD A MÔN PDF 352 KB Ystyried y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fel a ddiwygiwyd gan newidiadau rhwymol yr Arolygydd a gwneud penderfyniad ynglŷn â’i fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd yn argymell i’r Cyngor fabwysiadu’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fel y diwygiwyd gan newidiadau rhwymol yr
Arolygydd. Rhoddwyd
eglurhad ar drefn yr adroddiad a thynnwyd sylw at gamgymeriad i fap Llanrug
oedd yn y fersiwn papur. Amlygodd bod yr adroddiad yn un manwl a chadarnhaodd
ei fod yn bodloni a chydymffurfrio gyda gofynion deddfwriaethol ( Deddf
Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf Cynllunio a Phryniant Gorfodol 2004, Rheoliadau Cynllunio Gwlad a
Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005, Polisi Cynllunio Cymru a Llawlyfr
Cynllun Datblygu Lleol (2015)). Byddai
mabwysiadu'r Cynllun yn gosod polisïau manwl i reoli datblygiadau hyd at 2026;
yn hwyluso darpariaeth datblygu newydd sydd ei angen i gwrdd ag anghenion cymunedau lleol; yn galluogi'r Cyngor i gyflawni ei strategaethau
tai a datblygiadau economaidd. Byddai gwrthod yn gadael yr Awdurdod heb gynllun
na pholisïau digonol i warchod tiroedd y Sir ac yn rhoi cyfleoedd i Ddatblygwyr
apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod ar sail nad oedd Cynllun / Polisïau yn eu
lle. Amlygwyd, ar sail
tystiolaeth leol, bod polisïau tai y Cynllun yn cynllunio ar gyfer 3712 i ardal
Awdurdod Cynllunio Gwynedd rhwng (2011-2026). Gyda'r Cynllun eisoes yn ei
chweched flwyddyn, cadarnhawyd bod y ffigwr yma yn cynnwys cartrefi sydd eisoes
wedi eu hadeiladu neu wedi derbyn caniatâd cynllunio. Y ffigwr gweddilliol ar
gyfer gweddill oes y Cynllun fydd 1366 sydd yn gyfartaledd o 137 o gartrefi
newydd y flwyddyn. Wrth gymharu'r hen
strategaeth gyda’r Cynllun newydd adroddwyd bod yr hen strategaeth yn dueddol o
ganolbwyntio ar sefydliadau mawr o fewn ein trefi, ond bellach bod y cynllun
yma yn canolbwyntio ar ddynodiadau llai.Tynnwyd sylw hefyd at y polisïau
arloesol oedd wedi eu cynnwys yn y Cynllun. Cynigiwyd ac eiliwyd, bod y Cyngor yn:
i.
mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
ac Ynys Môn 2011 i 2026 fel y diwygiwyd gan newidiadau a argymhellwyd gan yr
Arolygydd yn yr adroddiad ar yr Archwiliad (dyddiedig 30 Mehefin 2017)
ii.
cyhoeddi'r Cynllun a fabwysiadwyd, y Datganiad
Mabwysiadu, Adroddiad AG/AAS terfynol a'r adroddiad ARhC.
iii.
yn rhoi awdurdod
dirprwyedig i swyddogion i gywiro unrhyw wallau teipio a gramadegol, i ymdrin
ag unrhyw fân faterion cywirdeb neu gamgymeriadau, yn ogystal ag ymgymryd ag
unrhyw faterion cyflwyno eraill angenrheidiol a newidiadau canlyniadol (sydd eu
hangen yn dilyn y newidiadau argymhellir yn unol â pharagraff 1.10 yn adroddiad
yr Arolygydd), cyn cyhoeddiad terfynol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
ac Ynys Môn.
iv.
Bod y Canllawiau
Cynllunio Atodol a gafodd eu mabwysiadu i gefnogi’r cynlluniau datblygu
presennol, yn parhau i fod yn ystyriaethau perthnasol wrth benderfynu ar
geisiadau cynllunio, lle mae’n briodol, nes eu bod yn cael eu disodli gan rai
newydd neu’n cael eu tynnu’n ôl. Mewn
ymateb i bryderon a leisiwyd iddo nad oedd y canllawiau atodol newydd y
bwriedir eu sefydlu yn cael eu hadlewyrchu yn ddigonol yn y cynnig, cynigodd yr
Aelod Cabinet ychwanegu cymal v i’r argymhelliad i gyfarch hyn, sef v. Bod y Canllawiau Cynllunio Atodol sydd wedi eu hadnabod yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |