skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Dylan Bullard, Stephen Churchman, Louise Hughes, Anne Lloyd Jones, Dilwyn Morgan a Dyfrig Siencyn.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 161 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:-  

 

(a)        4ydd Hydref, 2018  (ynghlwm)

(b)        25ain  Hydref, 2018 – Cyfarfod Arbennig  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod 4 Hydref a chyfarfod arbennig 25 Hydref, 2018 o’r Cyngor fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 8 – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2019/20 ac eitem 9 – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm.

 

Atgoffwyd yr aelodau i ddychwelyd eu ffurflenni datgan buddiant.

 

(1)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2019/20 am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd oherwydd ei fod yn berchennog tŷ gwag.

·         Y Cynghorydd Dewi Roberts oherwydd bod ganddo gysylltiad clos â pherchennog ail dŷ yng Ngwynedd.

·         Y Cynghorydd Catrin Wager oherwydd ei bod yn derbyn gostyngiad treth cyngor.

 

Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(2)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm.

 

·         Y Cynghorydd Alwyn Gruffudd – oherwydd ei fod yn berchennog tŷ gwag.

·         Y Cynghorydd Peredur Jenkins – oherwydd ei fod yn rhentu dau eiddo mae’n gyfrifol amdanynt.

·         Y Cynghorydd Linda Ann Jones – oherwydd bod tŷ ei mam yn wag.

·         Y Cynghorydd Aled Wyn Jones – oherwydd bod gan berthynas agos iddo ail-gartref yng Nghaernarfon.

·         Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts – oherwydd bod ganddo gysylltiad clos â pherchennog ail dŷ yng Ngwynedd.

·         Y Cynghorydd Angela Russell – oherwydd ei bod yn gweithio i bobl tai haf.

·         Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams – oherwydd bod gan nifer o berthnasau iddo dai haf.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Hefyd, datganodd y Cynghorydd Gareth Thomas fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd bod gan ei ferch dŷ gwag, ond bu iddo dynnu’r buddiant hwnnw yn ei ôl yn ddiweddarach yn ystod y cyfarfod, gan iddo gofio bod y tŷ wedi’i werthu erbyn hyn.  Gan hynny, ni fu iddo adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(3)     Datganodd Rhun ap Gareth (Uwch Gyfreithiwr / Dirprwy Swyddog Monitro) fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm, oherwydd bod ei chwaer yn berchen ar ail-gartref o fewn y sir.

 

‘Roedd yr aelod staff o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd Dafydd Meurig ar golli ei fam-yng-nghyfraith.

·         Teulu’r diweddar gyn-gynghorydd Henry Jones, Cricieth.

 

Nodwyd bod y Cyngor hefyd yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

Nodwyd y bu amryw yn anhwylus yn ddiweddar ac anfonwyd cofion atynt gan obeithio y byddent yn teimlo’n well yn fuan.

 

Nodwyd y dyfarnwyd statws cig oen mwyaf blasus yng Nghymru i’r Oen mynydd Cymreig yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd.  Roedd hyn yn hwb sylweddol i’r diwydiant amaeth yn ucheldir Gwynedd ac yn profi bod ein cynnyrch gyda’r gorau yn y wlad.  Llongyfarchwyd pawb fu’n gysylltiedig â’r llwyddiant hwn.

 

Llongyfarchwyd Gareth Lanagan o Glwb Criced Dolgellau ar ddod yn fuddugol yn y dosbarth ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn’ yn seremoni Gwobrwyo Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar.  Nodwyd bod Gareth yn brif hyfforddwr, Capten y Tîm Cyntaf a Chadeirydd y Clwb a’i fod yn cyflwyno criced i bobl ifanc a merched cylch Dolgellau a Meirionnydd.

 

Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i bawb o’r ardal oedd wedi cael llwyddiannau mewn amrywiol feysydd yn ddiweddar.

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron Jones

 

“Hoffwn i’r Aelod Cabinet dros Gynllunio esbonio i’r Cyngor llawn os ydyw am gael cyngor bargyfreithiwr sy’n arbenigo yn y maes cynllunio ynglŷn â’r datblygiad sydd wedi’i ganiatáu gan swyddogion y Cyngor yma ym Mhlas Pistyll a bod hyn yn cael ei wneud yn ystod y mis hwn fel y caiff pwyllgor craffu wedyn drafod ac ystyried popeth sydd wedi mynd ymlaen yno?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Yn y bôn, rwy’n meddwl mai cwestiwn ynglŷn â threfn ddirprwyo’r Pwyllgor Cynllunio ydi hwn, mae’n debyg, ac mae hynny’n fater i’r Cyngor llawn.  Rwy’n meddwl bod y Pwyllgor Craffu wedi gwneud argymhelliad beth amser yn ôl ynglŷn â newid y drefn ddirprwyo a bod cyfansoddiad y Pwyllgor Cynllunio felly, o ganlyniad i hynny, wedi cael ei dderbyn gan y Cyngor.  O ran Plas Pistyll, efallai bod yna fwy y tu ôl i’r cwestiwn yma nag sydd ar y papur gan y Cynghorydd Aeron Jones.  O ganlyniad i amryw o sylwadau rydw i wedi dderbyn ynglŷn â’r penderfyniad ynglŷn â Phlas Pistyll, mi wnes i gomisiynu rhywun i edrych yn fanwl ar sut y cyrhaeddwyd at y penderfyniad hwnnw, ac mae yna bellach adolygiad o’r broses honno ar ffurf drafft.  I fod yn onest, rwy’n meddwl ei bod i bob pwrpas yn gyhoeddus bellach achos mae’r mater yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Craffu yr wythnos nesaf.  Mae’r eitem yma ar yr agenda yn y fan honno, ac i raddau helaeth, yr adroddiad hwnnw’n sy’n cael ei ddefnyddio i helpu’r crafwyr i ddod i benderfyniad ar hynny.  O ran defnyddio bargyfreithiwr, mater i’r ochr gyfreithiol ydi gwneud penderfyniad ar hynny, ond rwy’n meddwl, mewn amser lle mae yna heriau ariannol ofnadwy o’n blaenau, bod eisiau meddwl ddwywaith cyn anfon arian prin trethdalwyr Gwynedd allan o’r sir, o bosib’.  Felly, nid ar chwarae bach mae rhywun yn gwneud hynny, ond rwy’n meddwl mai mater i’r ochr gyfreithiol ydi penderfynu pryd mae hynny’n briodol.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Aeron Jones

 

“Gofynnaf eto i’r Aelod Cabinet ganiatáu cael bargyfreithiwr hollol annibynnol i mewn i weld os ydi’r adran wedi camweinyddu ac wedi mynd y tu hwnt i’r pwerau statudol?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Rwy’n meddwl mod i wedi ateb y cwestiwn yn barod i bob pwrpas.  Rwy’n meddwl y byddai’n ddoeth i ni ddisgwyl i weld beth sydd yn yr adroddiad yma, a bydd hwnnw yn gyhoeddus, os nad yw’n gyhoeddus yn barod, oherwydd bod hwnnw’n rhan o bapurau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yr wythnos nesaf.  Ynglŷn â’r mater o bwy sy’n galw ar fargyfreithiwr, a phryd mae hynny’n berthnasol ac yn briodol, rwy’n meddwl mai mater i’r ochr gyfreithiol ydi hynny.  Wn i ddim oes yna swyddog o’r ochr yna eisiau dod i mewn ar y pwynt yma, ond nid wy’n credu mai mater i mi ydi gwneud  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2019/20 pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Peredur Jenkins, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill, 2019.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2019 fel ag yr oedd yn ystod 2018/19.  Felly, bydd yr amodau canlynol (i – iii isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

 

(i)      Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

(ii)     Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sydd yn y Cynllun Rhagnodedig.

(iii)    Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

 

(b)     Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2019/20, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

 

9.

TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A / NEU GODI PREMIWM pdf eicon PDF 129 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gadawodd y Cynghorydd Gruffydd Williams y cyfarfod oherwydd buddiant.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Thomas, er iddo ddatgan buddiant yn yr eitem hon ar gychwyn y cyfarfod, ei fod yn tynnu’r buddiant hwnnw’n ôl.  Gan hynny, ni fyddai’n gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

Oherwydd buddiant yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Peredur Jenkins, yn y mater hwn, cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Dafydd Meurig, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2019/20 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac i godi Premiwm o 50% ar eiddo perthnasol o’r fath.

 

Codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd mai’r bwriad am 2019/20 hefyd fyddai neilltuo’r cyfan o’r swm a fyddai’n weddill o’r Premiwm Treth mewn cronfa benodol i’w ddefnyddio ar flaenoriaethau’r Cyngor, gan gynnwys darparu tai ar gyfer pobl ifanc.

·         Holwyd faint o arian ychwanegol mae’r premiwm o 50% wedi ddod i’r Cyngor.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr amcangyfrif diweddaraf yn nodi y disgwylid derbyn tua £2.7m o gymharu â’r £2m a ragwelwyd ar y cychwyn, ond na ellid darogan faint o dai fyddai’n trosglwyddo o’r gyfundrefn dreth gyngor i’r dreth fusnes rhwng hyn a diwedd mis Mawrth, na faint o’r cyfrifoldeb treth fyddai’n cael ei ôl-ddyddio.

·         Nodwyd, er bod yr egwyddor o godi premiwm i’w ganmol, bod y drefn yn ddiffygiol gyda rhai perchnogion yn trosglwyddo’u heiddo i’r dreth fusnes, yn cymhwyso am ryddhad llawn o’r dreth annomestig, ac yn derbyn gwasanaethau’r Cyngor yn ddi-dâl.  Awgrymwyd nad oedd neb yn plismona hyn a phwysleisiwyd bod angen adolygu’r sefyllfa.  Nodwyd hefyd petai pawb yn talu 100% o’r dreth, y byddai’r Cyngor mewn llawer gwell sefyllfa yn ariannol.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â’r gwaith plismona annigonol sy’n cael ei wneud gan Swyddfa’r Prisiwr, eglurwyd bod y corff hwnnw, fel cyrff cyhoeddus eraill, yn cael anhawster dygymod â’i gyfrifoldebau oherwydd prinder adnoddau.  Nodwyd, er y ceisiwyd dylanwadu ar Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd i newid rheolau’r gyfundrefn fel nad oes modd trosi eiddo’n fusnes heb hawl cynllunio, ni chafwyd llawer o glust hyd yma.  Fodd bynnag, roedd rhai cynghorau eraill wedi dod yn effro i’r sefyllfa erbyn hyn, ac wrth gael mwy o gynghorau i gefnogi safbwynt Gwynedd ar hyn, gobeithid cael y maen i’r wal cyn hir.  Ychwanegwyd na chredid bod Swyddfa’r Prisiwr yn gwneud digon o blismona’r eiddo sy’n trosglwyddo i’r rhestr dreth fusnes, ond roedd y gallu i ddylanwadu arnynt hyd yn oed yn llai na’r gallu i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru gan eu bod yn rhan o’r HMRC, sy’n asiantaeth o Lywodraeth San Steffan.  Roedd y Cyngor yn tynnu sylw Swyddfa’r Prisiwr at dai sydd ar y rhestr fusnes, ond ddim yn wir ar gael i’w gosod, ac yn dilyn yr achosion hynny i fyny ar hyn o bryd.

·         Mynegwyd pryder bod perchnogion eiddo sydd wedi trosglwyddo’u heiddo i’r rhestr treth fusnes yn byw yn y tai hynny, ac yn cael casgliadau gwastraff yn ddi-dâl.  Pwysleisiwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL - ADRODDIAD ARGYMHELLION TERFYNOL pdf eicon PDF 78 KB

Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn absenoldeb yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Dafydd Meurig, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo ymateb Cyngor Gwynedd i adroddiad argymhellion terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (Tachwedd 2018) fel y’i nodir yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

Diolchwyd i’r Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, y Prif Weithredwr a’r swyddogion am eu holl waith yn y maes hwn a mynegwyd cefnogaeth gref gan aelodau i ymateb y Cyngor i’r adroddiad ar y sail:-

 

·         Bod y bwriad i gyfuno wardiau Bethel a Felinheli yn canolbwyntio ar niferoedd etholwyr yn unig, heb roi unrhyw ystyriaeth i natur cwbl wahanol y cymunedau hynny. 

·         Bod aelodau Bangor yn unfrydol yn eu gwrthwynebiad i’r lleihad yn nifer y cynghorwyr fydd yn cynrychioli’r ddinas o 10 i 6 ac y byddai’r gostyngiad sylweddol hwn yn creu llawer o broblemau, yn enwedig o ystyried poblogaeth myfyrwyr Bangor a phwysigrwydd y ddinas fel cartref i nifer o sefydliadau, yn arbennig ym meysydd addysg ac iechyd.

·         Byddai cyfuno wardiau Garth, Menai, Hendre a rhan o Deiniol yn creu ward enfawr gyda llawer o broblemau ysbwriel, parcio, tai mewn aml-berchnogaeth ayb, fyddai’n rhoi baich sylweddol ar y ddau aelod lleol.

·         Nad yw’n gwneud synnwyr cyfuno ardaloedd Maesgeirchen, Hirael a rhan o ardal fasnachol y Stryd Fawr gan fod natur ac anghenion y tair ardal yn gwbl wahanol i’w gilydd.

 

Awgrymwyd hefyd y dylid gofyn i’r Comisiwn edrych eto ar gynigion gwreiddiol y Cyngor, oedd wedi eu seilio ar gwrdd â’r gofynion cyfartaledd fesul aelod, a hefyd ar ymwybyddiaeth gref o’r ardal leol a’r datrysiad gorau ar gyfer pobl leol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo ymateb Cyngor Gwynedd i adroddiad argymhellion terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (Tachwedd 2018) fel y’i nodir yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

11.

PENDERFYNIAD BRYS CABINET pdf eicon PDF 36 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys, adroddiad, er gwybodaeth yn unig, ar benderfyniad brys Cabinet yn unol â Rhan 7.25.2 o’r Cyfansoddiad i gymeradwyo’r drafft o Ddatganiad o Effaith Lleol ar gyfer ymchwiliad Gorchymyn Cydsyniad Datblygu Wylfa newydd gan fod rhaid cyflwyno’r datganiad i’r ymchwiliad erbyn y 4ydd o Ragfyr, 2018.

 

12.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

13.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Paul Rowlinson

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Paul Rowlinson yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae’r Cyngor yn mynegi pryder am gynigion Llywodraeth Cymru, “Brexit a’n tir: diogelu dyfodol ffermio yng Nghymru”.

 

Mae’r Cyngor yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru, a amlinellwyd yn ei dogfen ymgynghorol, i gefnogi busnesau fferm er mwyn eu gwneud yn fwy cystadleuol. Mae’r Cyngor hefyd yn cefnogi’r bwriad i gydnabod yn ariannol y cyfraniad ychwanegol amhrisiadwy y mae amaeth yn ei wneud i ardaloedd gwledig a Chymru gyfan.

 

Serch hynny, mae’r Cyngor yn gwrthwynebu cynigion presennol Llywodraeth Cymru, a all danseilio hyfywedd ein cymunedau gwledig a niweidio tirwedd, cymdeithas a phroffil ieithyddol Cymru.

 

Mae’r Cyngor felly yn cefnogi ymateb yr Arweinydd i’r ymgynghoriad ar ran y Cyngor yn arddel y gofynion canlynol:

 

    ddarparu amgylchedd sefydlog i fusnesau fferm wrth iddynt addasu i’r newidiadau anochel yng nghyflwr y farchnad wedi Brexit, drwy barhau i roi cefnogaeth uniongyrchol i ffermydd fel ag ar hyn o bryd, am gyhyd ag sy’n briodol, heblaw am fesurau i symleiddio gweinyddiaeth y drefn;

    peidio â gweithredu unhyw newidiadau wedyn heb wneud ymchwil a modelu manwl, ar lefel ddaearyddol sy’n ddigon mân i sicrhau y byddant yn cael canlyniadau cadarnhaol i amaethwyr, i’r economi, i gymunedau gwledig ac i’r iaith Gymraeg, gan roi ystyriaeth ddigonol i’r gwahanol ffyrdd y defnyddir tir;

    sicrhau bod cefnogi amaethwyr i gynhyrchu bwyd yn elfen allweddol o unrhyw gyfundrefn gwneud taliadau yn y dyfodol; sicrhau bod unrhyw arian a delir i gydnabod gwerth ehangach amaeth yn ychwanegol i hyn; diffinio’r gwerth ychwanegol hwn yn eang i gynnwys gwerth economaidd, cymdeithasol a diwylliannol amaeth yn ogystal â’i rôl o ran gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol.

    sicrhau y rhoddir cefnogaeth i’r rhai sy’n gweithio ar y tir a’i reoli yn unig, gan ganolbwyntio ar ffermydd teulu bach a chanolig;

    darparu arian wedi’i neilltuo ar gyfer ei fuddsoddi mewn datblygu gwledig, yn arbennig i gefnogi prosiectau sy’n ymateb i’r heriau economaidd y mae Cymru wledig yn eu hwynebu. Dylid cyfeirio’r arian i’r ardaloedd hynny y mae eu heconomi fwyaf bregus oherwydd eu bod yn ardaloedd ymylol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Paul Rowlinson o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Mae’r Cyngor yn mynegi pryder am gynigion Llywodraeth Cymru, “Brexit a’n tir: diogelu dyfodol ffermio yng Nghymru”.

 

Mae’r Cyngor yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru, a amlinellwyd yn ei dogfen ymgynghorol, i gefnogi busnesau fferm er mwyn eu gwneud yn fwy cystadleuol. Mae’r Cyngor hefyd yn cefnogi’r bwriad i gydnabod yn ariannol y cyfraniad ychwanegol amhrisiadwy y mae amaeth yn ei wneud i ardaloedd gwledig a Chymru gyfan.

 

Serch hynny, mae’r Cyngor yn gwrthwynebu cynigion presennol Llywodraeth Cymru, a all danseilio hyfywedd ein cymunedau gwledig a niweidio tirwedd, cymdeithas a phroffil ieithyddol Cymru.

 

Mae’r Cyngor felly yn cefnogi ymateb yr Arweinydd i’r ymgynghoriad ar ran y Cyngor yn arddel y gofynion canlynol:

 

·         Ddarparu amgylchedd sefydlog i fusnesau fferm wrth iddynt addasu i’r newidiadau anochel yng nghyflwr y farchnad wedi Brexit, drwy barhau i roi cefnogaeth uniongyrchol i ffermydd fel ag ar hyn o bryd, am gyhyd ag sy’n briodol, heblaw am fesurau i symleiddio gweinyddiaeth y drefn.

·         Peidio â gweithredu unrhyw newidiadau wedyn heb wneud ymchwil a modelu manwl, ar lefel ddaearyddol sy’n ddigon mân i sicrhau y byddant yn cael canlyniadau cadarnhaol i amaethwyr, i’r economi, i gymunedau gwledig ac i’r iaith Gymraeg, gan roi ystyriaeth ddigonol i’r gwahanol ffyrdd y defnyddir tir.

·         Sicrhau bod cefnogi amaethwyr i gynhyrchu bwyd yn elfen allweddol o unrhyw gyfundrefn gwneud taliadau yn y dyfodol; sicrhau bod unrhyw arian a delir i gydnabod gwerth ehangach amaeth yn ychwanegol i hyn; diffinio’r gwerth ychwanegol hwn yn eang i gynnwys gwerth economaidd, cymdeithasol a diwylliannol amaeth yn ogystal â’i rôl o ran gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol.

·         Sicrhau y rhoddir cefnogaeth i’r rhai sy’n gweithio ar y tir a’i reoli yn unig, gan ganolbwyntio ar ffermydd teulu bach a chanolig.

·         Darparu arian wedi’i neilltuo ar gyfer ei fuddsoddi mewn datblygu gwledig, yn arbennig i gefnogi prosiectau sy’n ymateb i’r heriau economaidd y mae Cymru wledig yn eu hwynebu. Dylid cyfeirio’r arian i’r ardaloedd hynny y mae eu heconomi fwyaf bregus oherwydd eu bod yn ardaloedd ymylol.”

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Er bod y ddogfen ‘Brexit a’n Tir’ yn swnio’n dda ar yr olwg gyntaf, gwelir wrth ddarllen ymlaen, nad oes llawer o fanylion yma o gwbl.  Pryderir am effaith Brexit ar ffermwyr llai a ffermwyr mynyddig, yn enwedig o ddeall y bydd ffermwyr yn gorfod cystadlu am arian gyda chyrff eraill ym maes gwarchod yr amgylchedd.  Mae ffermwyr, yn enwedig rhai llai a rhai mynyddig, dan straen eisoes ac ni ddymunir gweld dim yn ychwanegu at hynny.  Hefyd, er bod y ddogfen yn cydnabod cyfraniad ffermwyr i’n cymdeithas, nid yw’n taclo hynny yn y ffordd gywir.

·         Bod Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd yn lladd ffermydd bychain drwy wrthod caniatáu i bobl ifanc adeiladu tŷ ar y fferm deuluol.  Er hynny, caniateir trosi hen feudai yn llety ar gyfer ymwelwyr, ac ati.

·         Nid yw’r cynnig yn dweud yr holl stori gan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Judith Humphreys

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Judith Humphreys yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Pleidlais y Bobl 

 

Noda’r Cyngor:  

 

·         Bod mwyafrif sylweddol o boblogaeth Gwynedd wedi pleidleisio i Aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

·         Fod swyddi, cyflogau a gobeithion yng Ngwynedd a Chymru mewn perygl o ganlyniad i’r DG yn gadael yr Undeb Ewropeaidd 

·         Fod potensial y bydd y DG yn peidio â dod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd ar delerau gadael ac fod perygl y bydd hwn yn achosi difrod economaidd a chymdeithasol anadferadwy yn syth. Mae hyn yn cynnwys materion hawliau dinasyddion Ewropeaidd yn y DG a dinasyddion y DG yn yr Undeb Ewropeaidd, cyflenwad bwyd a mynediad at feddyginiaethau, ond nid y materion hyn yn unig

·         Nad yw San Steffan yn llwyddo i warchod swyddi, cyflogau na gobeithion Cymru trwy negydu parhad ein haeoldaeth o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd neu’r Undeb Tollau yn dilyn unrhyw ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd 

·         Ers y bleidlais wreiddiol i adael yr Undeb Ewropeaidd y cafwyd mwy o eglurder ynghylch sut y byddai gadael y bloc yn effeithio ar bobl Cymru   

·         Fod prosesau democrataidd cywir yn mynnu fod pobl Cymru yn cael cyfle i fwrw pleidlais ddeallus ynghylch ein perthynas yn y dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn trafodaethau ar y mater 

 

Cynigia’r Cyngor:  

 

Y dylid cynnal refferendwm ledled y DG ar berthynas y DG yn y dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn unrhyw gytundeb ar ymadawiad y DG, neu os na fydd y trafodaethau yn arwain at gytundeb ar delerau ymadawiad y DG o’r Undeb Ewropeaidd 

• Dylai’r refferendwm gynnwys y dewis i aros yn yr Undeb Ewropeaidd 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(2)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Judith Humphreys o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Noda’r Cyngor:

 

·         Bod mwyafrif sylweddol o boblogaeth Gwynedd wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

·         Fod swyddi, cyflogau a gobeithion yng Ngwynedd a Chymru mewn perygl o ganlyniad i’r DG yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

·         Fod potensial y bydd y DG yn peidio â dod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd ar delerau gadael a bod perygl y bydd hwn yn achosi difrod economaidd a chymdeithasol anadferadwy yn syth. Mae hyn yn cynnwys materion hawliau dinasyddion Ewropeaidd yn y DG a dinasyddion y DG yn yr Undeb Ewropeaidd, cyflenwad bwyd a mynediad at feddyginiaethau, ond nid y materion hyn yn unig.

·         Nad yw San Steffan yn llwyddo i warchod swyddi, cyflogau na gobeithion Cymru trwy negydu parhad ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd neu’r Undeb Tollau yn dilyn unrhyw ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd.

·         Ers y bleidlais wreiddiol i adael yr Undeb Ewropeaidd y cafwyd mwy o eglurder ynghylch sut y byddai gadael y bloc yn effeithio ar bobl Cymru.

·         Fod prosesau democrataidd cywir yn mynnu fod pobl Cymru yn cael cyfle i fwrw pleidlais ddeallus ynghylch ein perthynas yn y dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn trafodaethau ar y mater.

 

Cynigia’r Cyngor:

 

·         Y dylid cynnal refferendwm ledled y DG ar berthynas y DG yn y dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn unrhyw gytundeb ar ymadawiad y DG, neu os na fydd y trafodaethau yn arwain at gytundeb ar delerau ymadawiad y DG o’r Undeb Ewropeaidd.

·         Dylai’r refferendwm gynnwys y dewis i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Cafwyd pleidlais y bobl yn 2016 a phleidleisiwyd dros adael yr Undeb Ewropeaidd.  Nid oes diben cyfeirio at ffeithiau a ffigurau di-sail.  Bydd Brexit yn digwydd y flwyddyn nesaf a bydd yn llwyddiant yn y pen draw.  Rhaid i bawb gefnogi hyn bellach.  Mae’r penderfyniad wedi’i wneud ac nid oes modd troi’n ôl.

·         Nid oes dadl o gwbl o ran y dymuniad y tu ôl i’r cynnig, ond rhaid gochel rhag yr hyn a ddymunir gan y byddai cynnal ail refferendwm yn gwneud llawer mwy o lanast o’r sefyllfa.

·         Bod pobl Cymru wedi pleidleisio yn y 1970au i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ond na chawsant ddewis o ran bod yn rhan o Undeb Prydain ai peidio.  Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ochr dde cymdeithas wedi ymwrthod â’r syniad o fod yn Ewropeaidd, ond petai pawb wedi bod y tu cefn i hyn, efallai y byddai wedi gweithio.

·         Er y pleidleisiwyd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, roedd y canlyniad hwnnw’n seiliedig ar ffantasi a gafodd ei werthu i bobl.  Dywedwyd y byddem yn gallu mwynhau holl fanteision bod yn Ewrop, heb ddim o’r cyfrifoldebau ynghlwm â hynny.  Bellach, rydym yn wynebu goblygiadau hynny.  Bydd rhwystrau sylweddol ar ein hawl i fasnachu.  Bydd y 700 o gytundebau masnachu sydd gennym drwy Ewrop yn mynd, neu’n gorfod cael eu ail-negydu, ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.

15.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL

Dogfennau ychwanegol:

16.

Ymateb i Rybudd o Gynnig Blaenorol y Cynghorydd Catrin Wager pdf eicon PDF 184 KB

Cyflwynoer gwybodaethllythyr gan y Swyddfa Gartref mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Catrin Wager i gyfarfod 4 Hydref, 2018 ynglŷn â chanolfannau cadw i fewnfudwyr (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – llythyr gan y Swyddfa Gartref mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Catrin Wager i gyfarfod 4 Hydref, 2018 ynglŷn â chanolfannau cadw i fewnfudwyr.