Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd am 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Eric Merfyn Jones yn gadeirydd am 2016/17.

 

Llofnododd y Cynghorydd Eric Merfyn Jones ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2016/17.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd am 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Annwen Daniels yn is-gadeirydd am 2016/17.

 

Llofnododd y Cynghorydd Annwen Daniels ddatganiad yn derbyn y swydd o is-gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2016/17.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr: Craig ab Iago, Endaf Cooke, Gwynfor Edwards, Alan Jones Evans, Jean Forsyth, Chris Hughes, Louise Hughes, Jason Humphreys, Dyfrig Jones, Christopher O’Neal, Glyn Thomas, Gethin Glyn Williams a Hefin Williams.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 500 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir  (ynghlwm):-

 

(i) 3 Mawrth, 2016

(ii) 18 Mawrth, 2016 (cyfarfod arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:-

 

(i)      3 Mawrth, 2016

(ii)      18 Mawrth, 2016 (cyfarfod arbennig)

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 14 ar y rhaglen – Cyflogau Aelodau.

 

Oherwydd natur yr adroddiad ar Gyflogau Aelodau, ac er mwyn cydymffurfio â gofynion y Cod Ymddygiad, datganodd y Cadeirydd fuddiant personol yn yr eitem ar ran yr holl aelodau oedd yn bresennol, ond gan nad oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu, byddai gan yr aelodau yr hawl i gymryd rhan yn y drafodaeth ac i bleidleisio ar y mater.

 

6.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Cydymdeimlad

 

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd John Brynmor Hughes ar farwolaeth ei fam.

·         Y Cynghorydd Linda A.W.Jones ar farwolaeth ei mam.

 

(2)     Llongyfarchiadau

 

Llongyfarchwyd y canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd Alan Jones Evans a’i wraig ar eu priodas yn ddiweddar.

·         Y Cynghorydd Christopher O’Neal a’i wraig ar enedigaeth efeilliaid – dwy ferch fach.

·         Y Cynghorydd Sian Gwenllian a’r Arglwydd Elis-Thomas ar eu hethol yn Aelodau Cynulliad.  Rhoddodd y Cynghorydd Sian Gwenllian anerchiad byr gan ddiolch i’w chyd-aelodau a’r swyddogion am bob cymorth a chefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.

·         Arfon Jones ar gael ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru.

 

7.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

8.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

9.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 221 KB

(a)        Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

 

(b)        Derbyn cyflwyniad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Huw Lloyd Jones a Jeremy Evans o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – Adroddiad Gwella Blynyddol 2015-16 Cyngor Gwynedd ynghyd â blaen adroddiad gan y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn gosod y cyd-destun.

 

Rhoddwyd arweiniad byr gan yr Arweinydd ac yna gwahoddwyd Huw Lloyd Jones i roi cyflwyniad llafar ar Adroddiad Gwella Blynyddol 2015-16.

 

Yn ei gyflwyniad, eglurodd Huw Lloyd Jones nad oedd yr adroddiad yn ymgais i gyflwyno darlun hollol gynhwysfawr o waith y Cyngor, eithr yn crynhoi’r holl waith archwilio a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn yng Ngwynedd, ynghyd â sylwadau Estyn, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.  Rhoddodd amlinelliad o’r prif resymau oedd wedi arwain at farn yr Archwilydd Cyffredinol fod y Cyngor yn debygol o wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus ar gyfer 2016-17 ac ymhelaethodd ar brif ganfyddiadau tair thema’r gwaith, sef perfformiad mewn rhai meysydd penodol, y ffordd mae’r Cyngor yn defnyddio ei adnoddau ac agweddau o lywodraethiant.

 

Gwahoddwyd cwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.  Codwyd nifer o faterion, gan gynnwys:-

 

·         Y gofyn i sicrhau gwelliant parhaus mewn cyfnod o doriadau.

·         Y ffioedd a godir gan y Swyddfa Archwilio am eu gwaith.

·         Atebolrwydd yr Asiantaeth Cefnffyrdd a’r angen i’r Gweinidog hefyd fod yn fwy atebol a thryloyw a pheidio atal gweithwyr Gwynedd yn yr Asiantaeth Cefnffyrdd rhag ymateb yn uniongyrchol i ymholiadau gan drigolion a chynghorwyr lleol.

·         Y rhaniad presennol rhwng gwaith y Cabinet a chraffu.

·         Manteision posib’ trefn Cabinet Cysgodol / Aelodau Cabinet Cysgodol.

·         Yr her sy’n wynebu’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau o ystyried bod tua 75% o gyllideb y Cyngor yn cael ei wario yn y meysydd sy’n cael eu craffu gan y pwyllgor hwnnw.

·         Boddhad o ddeall bod y Cyngor yn parhau i wella mewn meysydd o flaenoriaeth a bod ganddo drefniadau rheoli arian cadarn.

·         Y gydnabyddiaeth bod yna wendidau yn y trefniadau craffu, yr argymhellion ar sut i wella a’r amserlen ar gyfer hynny.

·         Boddhad bod argymhelliad adroddiad cenedlaethol 2015-16 parthed datblygu arweinwyr effeithiol a denu’r dalent orau yn cydnabod y broblem o ddenu arweinwyr safonol.

·         Y cynnydd arafach na’r disgwyl yn y maes addysg anghenion arbennig.

 

Diolchwyd i Huw Lloyd Jones a Jeremy Evans am eu harweiniad i’r aelodau ynglŷn â sut i wella Gwynedd.

 

11.

Y REFFERENDWM AR AELODAETH O'R UNDEB EWROPEAIDD pdf eicon PDF 165 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ymneilltuodd y Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol / Swyddog Monitro o’r cyfarfod oherwydd ei swyddogaeth statudol fel Swyddog Monitro.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn:-

(a)     Ceisio safbwynt y Cyngor ar fater y refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, ac yn benodol y cwestiwn a fyddai mwy o fudd yn deillio i drigolion Gwynedd o fod yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ai peidio.

(b)     Argymell bod y Cyngor yn datgan ei fod o’r farn y byddai yna fwy o fudd yn deillio i drigolion Gwynedd o fod yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad, nododd yr Arweinydd:-

 

·         Bod Gwynedd wedi elwa o £158m o gronfeydd Ewropeaidd ers 2000 a bod hynny wedi creu buddsoddiad o £300m i’r sir yn ystod y cyfnod yma.

·         Na chredai y byddai modd i Wynedd ddenu’r fath symiau o arian o unrhyw ffynhonnell arall.

·         Bod rhai o’r prosiectau yng Ngwynedd sydd wedi elwa o arian Ewropeaidd yn cynnwys Pont Briwet (gwerth bron i £20m); Plas Heli, Pwllheli (bron i £9m), Cynllun Adfywio Blaenau Ffestiniog (£4.5m), Canolfan Ragoriaeth Eryri (£4.5m) a Llwyddo’n Lleol (cyfwerth â £3.2m o fuddsoddiad i Wynedd).

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Mai hwn oedd yr un mater pwysicaf i wynebu’r DU mewn cenhedlaeth.

·         Bod gan fusnesau yng Nghymru fynediad at 500,000 o gwsmeriaid yn yr Undeb Ewropeaidd.  Hyd yma, bu hynny’n rhydd o dariff, ond petai’r DU yn gadael yr UE, byddai tariff yn cael ei godi ar yr holl fasnach sy’n mynd i Ewrop fel allforion a mewnforion, fyddai’n golygu mwy o gost i’r defnyddiwr, costau uwch i fusnesau a difrod i’r economi.

·         Bod 71% o fusnesau sy’n aelodau o’r CBI yn dweud bod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi cael effaith bositif ar fusnesau a bod 67% o’r holl aelodau sy’n fusnesau bach a chanolig hefyd yn rhannu’r un farn.

·         Y gellid dadlau ein bod yn derbyn £10 am bob £1 ‘rydym yn ei dalu i’r Undeb Ewropeaidd, nid o reidrwydd yn uniongyrchol fel arian, ond ar ffurf y manteision sy’n deillio o fasnachu gyda’r UE, e.e. prisiau isel, twf swyddi a masnach.

·         Y gallai aros yn yr UE greu 790,000 o swyddi ychwanegol yn yr UE dros y 15 mlynedd nesaf.

·         Bod asesiad annibynnol yn cyfrifo bod 190,000 o swyddi yng Nghymru gyda chysylltiadau masnach â’r UE, sef un swydd ymhob wyth.

·         Bod mwy na 50,000 yn cael eu cyflogi mewn amaethyddiaeth yng Nghymru ac amaethyddiaeth yw un o’r enillwyr mwyaf drwy’r polisi amaethyddol cyffredin.

·         Y byddai gadael yr UE yn arwain at golli’r holl gymorthdaliadau ac yn golygu mewnforion ac allforion mwy costus.  Hefyd, o bosib’ y byddai yna dariff o 40% ar ffermio.

·         Bod y swm a delir i’r Undeb Ewropeaidd yn hynod fach o gymharu â’r hyn a delir am wasanaethau hanfodol eraill, ond bod yr enillion yn nhermau masnach a chyfleoedd am swyddi yn llawer mwy na’r hyn mae’n gostio.

·         Bod angen cryfhau pwerau Pwyllgor y Rhanbarthau a galwyd ar yr Arweinydd a’r Aelod Cynulliad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

DIWYGIADAU I'R COD YMDDYGIAD ENGHREIFFTIOL pdf eicon PDF 94 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu cyfres o newidiadau i rai elfennau allweddol o’r Cod Ymddygiad presennol, yn sgil cyflwyno Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016 ar 1 Ebrill, 2016.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r newidiadau i’r Cod Ymddygiad ar Gyfer Aelodau yn unol â’r adroddiad.

 

13.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CADEIRYDD Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD YNG NGHYSWLLT CEFNOGAETH I AELODAU pdf eicon PDF 330 KB

(a)        Cyflwyno adroddiad y Cynghorydd Thomas G.Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

 

(b)        Dewis Cadeirydd ar gyfer 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas G.Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd adroddiad blynyddol yn diweddaru’r aelodau ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael, y datblygiadau sydd wedi’u gwireddu a’r datblygiadau sydd ar waith.

 

(b)     Adroddwyd bod angen dewis Cadeirydd ar gyfer 2016/17.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Thomas G.Ellis yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2016/17.

 

14.

CYFLOGAU AELODAU pdf eicon PDF 73 KB

Cyflwyno adroddiad y Cynghorydd Thomas G.Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas G.Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar ran is-grŵp o’r pwyllgor yn argymell y ffordd ymlaen o ran cyflogau aelodau etholedig.

 

Gan gyfeirio at yr argymhelliad i gadw lefelau cyflogau Aelodau Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau ar Lefel 1, cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ostwng y lefelau cyflogau i Lefel 2, ar y sail y byddai hynny’n arbed oddeutu £40,000 i’w wario mewn meysydd eraill ac yn dangos i drigolion y sir fod y Cyngor yn fodlon rhannu’r boen yn y cyfnod presennol o galedi.

 

Mynegodd rhai aelodau eu gwrthwynebiad i’r gwelliant ar y sail:-

 

·         Er bod lle bob amser i edrych ar gyflogau’r holl aelodau, mai camgymeriad fyddai gwahanu dyletswyddau’r Aelodau Cabinet oddi wrth y cyflog gan y byddai’r dyletswyddau yn aros yr un fath, ond y cyflog yn gostwng.

·         Bod yr Aelodau Cabinet wedi eu penodi i’r swyddi’n llawn-amser a bod rhai wedi rhoi’r gorau i swyddi eraill neu wedi gorfod gwneud trefniadau arbennig er mwyn gallu ymgymryd â’r rôl.

·         Nad dyma’r adeg i adolygu cyflogau, eithr ar ddechrau tymor newydd y Cyngor.

·         Os oes awydd i ail-ymweld â chyflogau, dylid edrych ar gyflogau’r holl aelodau, ac nid yr Aelodau Cabinet yn unig.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe ddisgynnodd.

 

Gan gyfeirio at yr argymhelliad i beidio talu uwch-gyflog i Gadeirydd y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth o hyn allan, mynegodd Cadeirydd presennol y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth (fyddai’n sefyll i lawr y mis hwn) ei wrthwynebiad i’r argymhelliad ar y sail:-

 

·         Bod y pwyllgor yn gweithredu ar ran 6,000 – 7,000 o staff y Cyngor ac yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ac emosiynol dros ben, e.e. i ddiswyddo staff.

·         Bod nifer y cyfarfodydd wedi cynyddu gyda’r pwyllgor yn cyfarfod o leiaf unwaith y mis, ac weithiau ddwywaith.

·         Bod y cyfarfodydd yn rhai trwy’r dydd a bod un cyfarfod wedi mynd ymlaen am ddau ddiwrnod a chyfarfod arall wedi mynd ymlaen o 9.30yb tan 7.00yh.

·         Nad oedd yr is-grŵp fu’n edrych ar gyflogau aelodau wedi trafod y llwyth gwaith gydag ef nag aelodau’r Pwyllgor cyn llunio eu hargymhelliad.

·         Pe na bai’r Cyngor yn fodlon gwrthod yr argymhelliad, y byddai’n fodlon cynnig bod yr is-grŵp yn gwneud rhagor o waith ymchwil ar y mater, fyddai’n cynnwys holi cadeiryddion ac aelodau’r Pwyllgor Apelau Cyflogaeth a’r Pwyllgor Pensiynau ynglŷn â’r llwyth gwaith.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gadw at y drefn bresennol oherwydd llwyth gwaith y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd:-

 

·         Y gallai’r gwaith ychwanegol sy’n wynebu Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau olygu 17 cyfarfod mewn blwyddyn, gan gynnwys aros dros nos ar rai achlysuron, a gallai olygu ymrwymo o leiaf 19 diwrnod yn y cyswllt hwn.

·         Bod aelodau’r Pwyllgor Pensiynau yn gorfod ymgymryd â hyfforddiant ac asesiadau parhaus.

·         Y gobeithid bod yr is-grŵp wedi edrych yn fanwl ar y llwyth gwaith sydd ynghlwm â’r ddwy rôl, ac wedi eu cymharu a dod i ddealltwriaeth.

·         Bod gan Gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau lawer o waith i’w wneud y tu allan i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.

15.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 237 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn manylu ar yr adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.

 

Eglurwyd bod y dyraniad seddau ar bwyllgorau (Atodiad A i’r adroddiad) yn gyson â’r hyn a fabwysiadwyd ar 3ydd Mawrth, 2016, ac er mwyn cymeradwyo’r argymhelliad, a hynny oherwydd nad yw’r rheolau yn cael eu gweithredu’n llawn, y byddai’n rhaid i’r Cyngor eu cymeradwyo’n ddiwrthwynebiad (fel y gwnaethpwyd yn y gorffennol).

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu dyraniad seddau ar bwyllgorau’r Cyngor yn unol â’r tabl isod:-

 

PWYLLGORAU CRAFFU

 

 

  Plaid

  Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

Corfforaethol

 

9

5

2

1

1

 

Cymunedau

 

10

5

1

1

1

 

Gwasanaethau

 

10

4

2

1

 

1

Archwilio

 

10

5

2

1

 

 

 

PWYLLGORAU ERAILL

 

 

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

 

Gwasanaethau Democratiaeth

 

8

4

2

1

 

 

 

Iaith

 

8

4

2

1

 

 

 

Cynllunio

 

8

4

1

1

1

 

 

Trwyddedu Canolog

8

5

2

 

 

 

 

Apelau Cyflogaeth

 

3

1

1

1

 

1

 

Penodi Prif Swyddogion

8

4

1

1

1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nifer y seddau

82

41

16

9

4

2

154

 

 

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

 

Pensiynau

 

3

2

0

1

1

 

 

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

6

2

1

2

 

 

 

Cydbwyllgor Addysg Anghenion Arbennig

3

2

1

 

 

1

 

Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd

4

(3 sedd ac un eilydd)

2

1

1

 

 

 

CYSAG

 

4

2

1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm y Seddau

102

51

20

13

5

3

194

 

(a)       Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

(b)       Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:-

 

Pwyllgor Craffu Corfforaethol – Llais Gwynedd

Pwyllgor Craffu Cymunedau – Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau – Annibynnol

 

16.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

17.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Owain Williams

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Owain Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Bod y Cyngor yn gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd ystyried ail-edrych ar eu polisi ynglŷn â gosod contractau allan i gyflenwyr bwyd yn ein hysgolion a’r flaenoriaeth a roddir i gwmniau bach lleol.  

 

Y rhesymeg tu ôl i hyn yw’r ffaith eu bod yn honni eu bod yn rhoi blaenoriaeth i gwmnïau bach lleol yn hytrach na chwmnïau mawr.  Mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd bod rhai cwmnïau yn cyflenwi bwydydd a fewnforiwyd yn arbennig felly cigoedd. Ni ellir pwysleisio’n ormodol y pwysigrwydd o allu olrhain tarddiad pob math o gig gan gofio am helyntion a pheryglon i blant ac oedolion o fwyta cig a heintiwyd e.e. clefyd y gwartheg gwallgof.  Oferedd a sinicrwydd ydyw dadlau fod pris y cigoedd a gyflenwir gan gwmnïau mawr yn rhatach wedyn; pa bris a roddir ar ddiogelwch ac iechyd plant?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Owain Williams o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Bod y Cyngor yn gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd ystyried ail-edrych ar eu polisi ynglŷn â gosod contractau allan i gyflenwyr bwyd yn ein hysgolion a’r flaenoriaeth a roddir i gwmnïau bach lleol.

Y rhesymeg tu ôl i hyn yw’r ffaith eu bod yn honni eu bod yn rhoi blaenoriaeth i gwmnïau bach lleol yn hytrach na chwmnïau mawr.  Mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd bod rhai cwmnïau yn cyflenwi bwydydd a fewnforiwyd yn arbennig felly cigoedd.  Ni ellir pwysleisio’n ormodol y pwysigrwydd o allu olrhain tarddiad pob math o gig gan gofio am helyntion a pheryglon i blant ac oedolion o fwyta cig a heintiwyd e.e. clefyd y gwartheg gwallgof.  Oferedd a sinicrwydd ydyw dadlau fod pris y cigoedd a gyflenwir gan gwmnïau mawr yn rhatach wedyn; pa bris a roddir ar ddiogelwch ac iechyd plant?”

 

Galwodd aelod ar y cynigydd i ddileu ail baragraff ei gynnig ar y sail:-

 

·         Bod y cynnwys yn ffeithiol anghywir gan fod gwybodaeth glir ynglŷn â tharddiad pob cig ar y labeli y dyddiau hyn.

·         Bod gwneud haeriad bod modd i’r Cyngor fynd heibio’r holl reoliadau tynn ynglŷn â gwerthu cig yn gwbl afresymol.

 

Nododd y cynigydd nad oedd yn fodlon dileu’r ail baragraff.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ddileu’r ail baragraff ac i ddiwygio’r paragraff cyntaf i ddarllen fel a ganlyn:-

 

“Bod y Cyngor yn gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd ddwysau yn eu hymdrechion i gadw’r budd yn lleol gan gydweithio hefo, a grymuso cwmnïau bach lleol i allu cystadlu am y tendrau.”

 

Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nododd yr Aelod Cabinet Economi:-

 

·         Nad mater o ddewis oedd hyn, eithr proses fusnes gyfreithiol, ac er y byddai wedi bod yn ddewis hawdd i Wynedd bwrcasu ar lefel Gogledd Cymru, ‘roedd y Cyngor wedi llwyddo yn eu hachos busnes i symud oddi wrth hynny gan nad oedd y drefn yn gweddu i fusnesau llai eu maint yn y sir.

·         Ymhellach i hyn, y rhannwyd y sir yn dalpiau llai er mwyn rhoi cyfle i fusnesau dendro a chafwyd sesiynau cyfarfod y prynwyr, ac ati, i godi ymwybyddiaeth, a bu cryn dipyn o waith gan swyddogion y Cyngor hwn i rymuso’r busnesau.

·         Nad oedd yn bosib’ yn gyfreithiol i’r Cyngor roi mewn cytundeb bod cwmni yn cael y gwaith oherwydd ei fod yn gwmni lleol, ond ‘roedd modd gwyro’r drefn tuag at roi amodau ffafriol iddynt.

·         Bod ail baragraff y cynnig gwreiddiol yn anghyfiawn ac yn codi bygythion ymhlith rhieni plant yn yr ysgolion.

·         Er bod rhai cwmnïau bychain wedi colli contractau, bod yna gwmni lleol yng Ngwynedd hefyd wedi ennill y contract a bod y math yma o ddatganiad mewn dogfen gyhoeddus gan y Cyngor yn sarhad i’w proffesiynoldeb hwy a’u cyfle i dyfu o fewn y sir hon.

 

Codwyd rhai pwyntiau gan aelodau eraill hefyd, megis:-

 

·         Bod modd olrhain tarddiad pob cig yn y wlad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 17.

18.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elwyn Edwards

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elwyn Edwards yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Yn dilyn penderfyniad y Cyngor 18/3/16 i fynd ati i fonitro ac asesu sefyllfa’r Gymraeg (o 2011) yng nghyd-destun y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, bod y Cyngor hwn yn gwahodd Cyngor Môn i fod yn rhan gyflawn o’r gwaith.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(b)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elwyn Edwards o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Yn dilyn penderfyniad y Cyngor 18/3/16 i fynd ati i fonitro ac asesu sefyllfa’r Gymraeg (o 2011) yng nghyd-destun y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, bod y Cyngor hwn yn gwahodd Cyngor Môn i fod yn rhan gyflawn o’r gwaith.”

 

Nododd aelod:-

 

·         Ei bod yn bwysig nodi yn gwbl glir mai ategu’r broses Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fydd gweithredu penderfyniad y cyfarfod arbennig o’r Cyngor, ac nad oedd hynny’n golygu ymyrryd yn y broses statudol nac yn ei thanseilio mewn unrhyw fodd.

·         Nad oedd gweithredu’r penderfyniad yn mynd yn groes i’r sefyllfa gyfreithiol na sefyllfa gyfansoddiadol y Cyngor nac yn newid dim o ran sefyllfa’r gofynion statudol.

·         Yn hytrach, y byddai gweithredu’r penderfyniad yn ychwanegiad hollbwysig a hanfodol at y broses, drwy gasglu tystiolaeth allweddol a fydd yn fodd o ddeall pa effaith y mae datblygiadau tai ers 2011, sef o gychwyn oes y cynllun, wedi gael ar y Gymraeg.

·         Bod derbyn yr wybodaeth hon yn gwbl angenrheidiol gan nad yw datblygiadau tai ers 2011 wedi eu monitro na’u hadolygu. 

·         Bod y penderfyniad wedi’i wneud ar y 18fed o Fawrth a’i bod yn rhesymol i wahodd Cyngor Ynys Môn i wneud yr un peth.

·         Ei fod yn cefnogi’r cynllun ac yn annog bod y gwaith yn dechrau nawr.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cynllunio fod y mecanwaith eisoes yn ei le ar gyfer gwneud yr hyn y gofynnir amdano, y byddai’r gwaith yn cychwyn yn eithaf buan a’i fod felly’n croesawu’r cynnig.

 

PENDERFYNWYD yn dilyn penderfyniad y Cyngor 18/3/16 i fynd ati i fonitro ac asesu sefyllfa’r Gymraeg (o 2011) yng nghyd-destun y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, bod y Cyngor hwn yn gwahodd Cyngor Môn i fod yn rhan gyflawn o’r gwaith.