skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Penderfynu ar ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21.

Penderfyniad:

Peidio symud ymlaen i benodi Cadeirydd, a chaniatáu i’r Cadeirydd presennol barhau mewn swydd hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021.

 

Cofnod:

Gofynnwyd i’r Cyngor benderfynu ar ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020, mewn ymateb i’r argyfwng, yn caniatáu ystod o newidiadau yn y ffordd y gweinyddir trefniadau democrataidd y Cyngor, gan gynnwys caniatáu i’r Cyngor ymestyn cyfnod y Cadeirydd ac Is-gadeirydd presennol.  Gan hynny, gellid hepgor yr angen i benodi a chaniatáu i’r Cadeirydd ac Is-gadeirydd presennol barhau mewn swydd hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021 fan bellaf.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i beidio symud ymlaen i benodi Cadeirydd, a chaniatáu i’r Cadeirydd presennol barhau mewn swydd hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y cynigydd mai’r rhesymeg y tu ôl i’w gynnig oedd  nad oedd y Cadeirydd presennol wedi cael blwyddyn lawn yn y swydd oherwydd y pandemig, ac y byddai penodi cadeirydd newydd yn golygu na fyddai’r person hwnnw ond yn cael 6 mis o gadeiryddiaeth.

 

PENDERFYNWYD peidio symud ymlaen i benodi Cadeirydd, a chaniatáu i’r Cadeirydd presennol barhau mewn swydd hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Penderfynu ar ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21.

Penderfyniad:

Peidio symud ymlaen i benodi Is-gadeirydd, a chaniatáu i’r Is-gadeirydd presennol barhau mewn swydd hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021.

 

Cofnod:

Gofynnwyd i’r Cyngor benderfynu ar ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21.

 

PENDERFYNWYD peidio symud ymlaen i benodi Is-gadeirydd, a chaniatáu i’r Is-gadeirydd presennol barhau mewn swydd hyd at Gyfarfod Blynyddol 2021.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr: Freya Bentham, Anwen Davies, Charles W.Jones, Elwyn Jones, Dewi Owen a Cemlyn Williams.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 406 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2020 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2020 fel rhai cywir.

 

Gan gyfeirio at eitem 4 o’r cofnodion - Cyhoeddiadau’r Cadeirydd, nododd aelod nad oedd yn hoffi’r defnydd o’r gairPrydeinwr wrth gyfeirio at lwyddiant Elfyn Evans yn Rali Sweden, gan mai Cymro o Ddinas Mawddwy ydoedd.

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

6.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd fod pawb wedi profi newid mawr yn eu ffordd o fyw dros y chwe mis diwethaf.  Roedd nifer fawr o deuluoedd Gwynedd wedi colli anwyliaid.  Hyd yn hyn, roedd 83 o drigolion Gwynedd wedi marw o’r aflwydd difrifol hwn, aflwydd a oedd, yn anffodus, yn dal o’n cwmpas o hyd.

 

Nodwyd hefyd bod sawl un o aelodau’r Cyngor hwn wedi colli anwyliaid ers i’r Cyngor gyfarfod ddiwethaf, a chydymdeimlwyd â phawb oedd wedi cael profedigaeth.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Charles Wyn Jones, oedd ar hyn o bryd yn yr ysbyty.

 

Llongyfarchwyd y canlynol:-

·         Y Cynghorydd Craig ab Iago a’r teulu ar enedigaeth merch;

·         Y Cynghorydd Freya Bentham a’r teulu ar enedigaeth merch.

 

 

7.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

8.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

9.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad.

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

A oes modd i’r Cyngor ddwyn perswâd ar Un Llais Cymru i gynnwys, nid yn unig y Cadeirydd a’r clerc, ond yn ogystal pob Aelod o Gyngor Tref a Chymuned, yn y drefn o gynghori cyfreithlon?  Rwy’n gofyn oherwydd mae’r gŵyn yn aml yn ymwneud â ffrae rhwng Clerc a neu Gadeirydd ac Aelodau Cynghorau Tref a Chymuned.  Ar hyn o bryd, nid oes bosibi Aelodau unigol gael cyngor gan Un Llais Cymru parthed materion sydd yn ymwneud â Chynghorau Cymuned, megis camweinyddu ar ran y Clerc a neu'r Cadeirydd.”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Mae pob un o’r 64 Cyngor Tref a Chymuned yng Ngwynedd yn gorfforaeth sydd yn atebol a chyfrifol am ei weithdrefnau ei hun.  Ac eithrio rôl Pwyllgor Safonau ynglŷn â materion Cod Ymddygiad, nid oes gan Gyngor Gwynedd swyddogaeth drosolwg ffurfiol  ynglŷn â rhedeg y cyrff yma.  Fodd bynnag, fel partneriaid allweddol mewn sawl agwedd o’n gwaith, rydym yn awyddus bod ganddynt y trefniadau llywodraethu priodol.

 

Yn ôl eu gwefan:-

 

“Un Llais Cymru yw’r prif gorff ar gyfer cynghorau cymuned a thref Cymru, ac mae’n sicrhau llais cryf i gynrychioli diddordebau’r cynghorau, a darparu ystod o wasanaethau o safon i gefnogi eu gwaith”.

 

Mae agos i 740 o gynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru.  Ond, deallaf fod Un Llais Cymru yn darparu gwasanaeth ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned hynny sydd yn dewis talu tâl aelodaeth iddynt.  Gwneir hynny drwy’r pwynt cyswllt arferol, sef y Clerc neu’r Cadeirydd ar ran y Cyngor Tref neu Gymuned.  Yn amlwg mae ystod y gwasanaethau sydd yn cael eu darparu a’r hyn a gynigir gan Un Llais Cymru yn fater busnes iddynt hwy.

 

Nid oes gennyf ffigyrau am sawl Cyngor Cymuned sydd yn dewis aelodi ag Un Llais Cymru.  Ar y llaw arall gallaf ddyfalu fod darparu gwasanaethau cynghori a chefnogi ar gyfer oddeutu 8,000 o gynghorwyr Tref a Chymuned yng Nghymru yn golygu dipyn o adnoddau a chapasiti.

 

Efallai, o ystyried y darpariaethau ynglŷn â Chynghorau Cymuned Cymwys o fewn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2019, ei bod yn amserol i gael y drafodaeth ynglŷn a natur y gefnogaeth mae Cynghorau Tref a Chymuned ei angen i’r dyfodol.  Ond, yn fy marn i, y ffordd briodol o fynd â’r mater yma ymlaen fyddai i’r Cynghorau Tref a Chymuned a’u haelodau wneud yr achos yn uniongyrchol i Un Llais Cymru.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

“Oni fyddai’n cael mwy o rym petai’r cwestiwn yn mynd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan Gyngor Gwynedd, ar ran y cynghorau cymuned?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2019/20 pdf eicon PDF 115 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad fel adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2019/20, a’i fabwysiadu.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2019/20 fel darlun clir, cytbwys a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2019/20.

 

Nododd yr Arweinydd, oherwydd y pandemig, fod holl ymdrechion adrannau’r Cyngor wedi’u cyfeirio tuag at ymateb i’r argyfwng o ganol mis Mawrth, a’i bod yn rhyfedd edrych yn ôl ar adeg oedd yn normal.  Nododd fod yr argyfwng wedi amlygu pwysigrwydd llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaeth i’r trigolion, a diolchodd i staff yr holl wasanaethau am eu gwaith caled yn cefnogi cymunedau’r sir, ac i’r cynghorwyr am wneud gwaith arwrol ar ran eu hetholwyr. 

 

Nododd yr Arweinydd ymhellach nad oedd yr aelodau wedi cael y cyfle arferol i graffu mewn pwyllgorau eleni, a diolchodd iddynt am eu hamynedd yn ystod y cyfnod.  Eglurodd hefyd, gan ei fod yn ymwybodol o’r bwlch yn y ddeialog arferol rhwng yr aelodau i gyd a’r Weithrediaeth, ei fod yn bwriadu trefnu cyfres o gyfarfodydd briffio gyda’r aelodau cabinet a’r penaethiaid i ddiweddaru’r aelodau ynglŷn â’r gwaith oedd wedi digwydd yn y gwahanol feysydd, ac i roi cyfle i’r aelodau drafod a gofyn cwestiynau.

 

Diolchodd i Bethan Richardson (Swyddog Cefnogi Busnes) a Dewi Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor) am baratoi’r adroddiad mewn ffordd mor ddealladwy.

 

Dymunodd yr Arweinydd yn dda i’r Cynghorydd Cemlyn Williams (Aelod Cabinet Addysg), oedd yn methu bod yn bresennol yn y cyfarfod, gan iddo dderbyn triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar iawn.  Yna estynnodd wahoddiad i bob aelod cabinet arall ddweud gair yn eu tro.  Yn ystod eu cyflwyniadau, bu i’r aelodau cabinet uchafu rhai pwyntiau o’r adroddiad oedd yn berthnasol i’w meysydd gwaith, gan fanylu ar flaenoriaethau’r gwasanaethau dros y cyfnod nesaf a’r heriau oedd yn eu hwynebu.  Bu iddynt hefyd adrodd ar sut y bu i’r adrannau gyfrannu’n sylweddol at yr ymateb i’r argyfwng, gan ddiolch i’r penaethiaid a’r staff am eu holl waith caled.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Diolchwyd i holl staff y Cyngor am eu gwaith clodwiw yn ystod cyfnod yr argyfwng, a hefyd i’r cynghorwyr, y gwirfoddolwyr lleol, y trydydd sector, Mantell Gwynedd, a busnesau bach y sir.

·         Mynegwyd siomedigaeth ynglŷn â dymuniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i dynnu’r agos at 40 o welyau nyrsio o Ben Llŷn, a gofynnwyd i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant godi’r mater gyda’r Bwrdd Iechyd.

·         Diolchwyd i’r Aelod Cabinet Amgylchedd am ymweld â Phen Llŷn yn ddiweddar, a nodwyd ei bod yn dda gweld sut roedd bywyd gwyllt wedi ffynnu a llygredd wedi lleihau yn ystod y cyfnod clo.

·         Nodwyd y pryderid ynglŷn â’r hyn oedd o’n blaenau o ran y pandemig, a’r holl swyddi fyddai’n cael eu colli yma yng Ngwynedd dros y gaeaf.

·         Croesawyd yr adroddiad a nodwyd bod yr ystadegau’n dangos bod y gwaith sy’n cael ei roi i mewn gan Wynedd yn arwain at ganlyniadau da.

·         Nodwyd y gwelwyd cynnydd aruthrol yn y galw am  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD

Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

[Yn unol a gofynion adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor Llawn sydd i benodi cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli ar y weithrediaeth.]

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2020/21.

 

Cofnod:

Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2020/21.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2020/21.

 

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2019/20 pdf eicon PDF 203 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Fforwm Craffu, y Cynghorydd Beth Lawton, adroddiad blynyddol craffu ar gyfer 2019/20.  Diolchodd i bob aelod o’r pwyllgorau craffu am eu gwaith, ac i’r swyddogion am gefnogi’r aelodau a llunio’r adroddiad.

 

Pwysleisiodd ei bod yn bwysig bod pawb yn cael y cyfle i weld bod craffu’n cael ei gymryd o ddifriyng Ngwynedd, a nododd fod 40 o faterion wedi bod gerbron y craffwyr yn ystod y flwyddyn.  Ychwanegodd y cynhaliwyd cyfarfod o’r Fforwm Craffu yn ddiweddar, ynghyd â chyfres o gyfarfodydd rhwng Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y pwyllgorau craffu, yr aelodau cabinet a’r penaethiaid i adnabod materion i’w craffu.  Nododd na ddymunid rhoi pwysau ychwanegol ar yr adrannau yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond roedd dyddiadau wedi’u pennu ar gyfer ail-gychwyn y broses graffu, gan gyfyngu ar nifer y materion dan ystyriaeth, hyd oni fyddai pawb wedi ymgynefino â’r drefn.  Nododd, petai unrhyw aelod o’r farn bod mater angen sylw, bod croeso iddynt gysylltu â hi, neu un o’i chyd-gadeiryddion craffu.

 

Diolchwyd i Gadeirydd y Fforwm Craffu am gyflwyno’r adroddiad ar ran y cadeiryddion craffu.

 

13.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2019/20 pdf eicon PDF 196 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol yn cynnig trosolwg o berfformiad 2019/20 ac yn amlinellu’r daith yng Ngwynedd wrth ddarparu gwasanaethau i’r unigolion sydd angen cyngor, cefnogaeth neu ofal gan y Cyngor.

 

Nododd y Cyfarwyddwr ei bod yn hapus gyda pherfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2019/20, er bod yna rai heriau i’w goresgyn.  Roedd y flwyddyn dan sylw, oedd yn cyfeirio’n ôl at gyfnod cyn Covid, yn teimlo’n hen hanes bellach, ac fel roedd y flwyddyn honno’n dirwyn i ben, roedd yr argyfwng yn cychwyn.  Cydymdeimlodd â’r nifer o bobl oedd wedi’u heffeithio gan y firws.  Diolchodd o galon i holl staff y sector yng Ngwynedd am eu gwaith arwrol yn ystod y misoedd diwethaf, ac am eu gwaith dros y misoedd i ddod.  Diolchodd hefyd i eraill oedd wedi cefnogi’r ymdrech arwrol hon, yn wirfoddolwyr, gofalwyr, aelodau o’r trydydd sector a phartneriaid y Cyngor, a hefyd adrannau eraill y Cyngor am eu parodrwydd i ryddhau staff i gynorthwyo mewn sawl ffordd, fel bod modd i’r adrannau yn y maes gofal ganolbwyntio ar ymateb i’r argyfwng.  Nododd y bu’n her iddi ganfod yr amser i roi’r adroddiad blynyddol at ei gilydd eleni, a diolchodd i Sophie, Nia a Bethan am wirfoddoli i’w helpu gyda’r gwaith.

 

Manteisiodd y Cyfarwyddwr ar y cyfle hefyd i ddiolch i Marian Parry Hughes (Pennaeth Plant a Theuluoedd) ac Aled Davies (Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant) am eu gwaith arwrol dros y flwyddyn, ac i’r Aelodau Cabinet yn y maes gofal, y Cynghorwyr Dilwyn Morgan a Dafydd Meurig am eu cefnogaeth a’u cymorth parhaus.  Nododd fod croeso i’r aelodau gysylltu â’r ddau bennaeth ar ôl y cyfarfod gydag unrhyw gwestiynau manwl.

 

I gloi, nododd y Cyfarwyddwr fod y cyfnod hwn wedi caniatáu i’r ddwy adran wthio nifer o’u prosiectau a’u gweledigaeth ymlaen, a’u bod yn awyddus i barhau â’r gwaith da oedd wedi digwydd yn sgil sefyllfa mor drist.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Nodwyd bod dymuniad Llywodraeth Cymru i osod targed fel ffordd o sicrhau eu bod yn gweld lleihad yn nifer y plant mewn gofal yn cyfleu’r neges anghywir, ac y croesawid y ffaith nad oedd Gwynedd wedi gosod targed ar gyfer lleihau’r nifer, gan y byddai hynny’n arwain at risg o ostwng safonau o safbwynt diogelu’r mwyaf bregus, ac yn rhedeg y risg ein bod yn peidio gweithredu yr hyn oedd yn bwysig o ran y plant.

·         Croesawyd y ffaith bod yr unedau dementia yn mynd yn eu blaenau yn sgil blynyddoedd o frwydro am hynny.

·         Nodwyd bod yr adroddiad yn un clodwiw, oedd yn ategu’r gwaith gwych oedd wedi mynd ymlaen yn y ddwy adran.

·         Croesawyd yr arweiniad ieithyddol mewn 8 iaith ar gychwyn yr adroddiad, a llongyfarchwyd y Gwasanaethau Cymdeithasol am ddangos dychymyg trwy ddangos bod yna fwy nag un iaith bosib’ yn bodoli yn yr ardal hon.

·         Nodwyd bod y ddwy adran wedi bod trwy gyfnod caled iawn a bod y staff wedi gorfod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 416 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

(a)     Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn yr atodiad i’r adroddiad i’r Cyngor, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r hyn a nodir yn yr atodiad.

(b)     Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

(c)     Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:

 

          Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi                   Grŵp Plaid Cymru

          Pwyllgor Craffu Cymunedau                               Grŵp Annibynnol

          Pwyllgor Craffu Gofal                                          Grŵp Annibynnol

 

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar yr adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor a materion perthynol.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd bod Aelod Unigol yn colli ei sedd ar y Pwyllgor Craffu Gofal, er na fu gostyngiad yn nifer yr aelodau unigol.  Yn yr un modd, nodwyd bod Grŵp Llais Gwynedd yn colli un sedd ar y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, er na chollwyd aelod o’r Grŵp, ac nad oedd penderfyniad y Grŵp Busnes ar y cydbwysedd yn unfrydol.  Mewn ymateb, atgoffwyd yr aelodau o’r prif reolau ynglŷn â dyrannu seddau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

·         Holwyd a roddid ystyriaeth o gwbl i ddyrannu seddau gweigion ar bwyllgorau i grwpiau gwleidyddol eraill.  Mewn ymateb, eglurwyd mai cyfrifoldeb y grwpiau gwleidyddol oedd llenwi’r seddau ar bwyllgor, ond mai’r Cyngor llawn oedd yn gosod y fframwaith.  Petai grŵp heb benodi i sedd ar bwyllgor, roedd modd gofyn i’r Cyngor llawn ddyrannu’r sedd honno, ac nid oedd raid i’r penodiad hwnnw fod yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol. 

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn yr atodiad i’r cofnodion hyn, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r hyn a nodir yn yr atodiad.

(b)     Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

(c)     Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi            Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Cymunedau                          Grŵp Annibynnol

Pwyllgor Craffu Gofal                                     Grŵp Annibynnol

 

 

15.

ABSENOLDEB AELOD O'R CYNGOR pdf eicon PDF 298 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Charles W.Jones o gyfarfodydd y Cyngor am gyfnod o 6 mis o ddyddiad y cyfarfod hwn oherwydd amgylchiadau personol, yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, gan ei alluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Charles W.Jones o gyfarfodydd y Cyngor oherwydd amgylchiadau personol, yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, er mwyn ei alluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd.

 

Nodwyd bod y Cyngor yn anfon eu dymuniadau gorau at yr aelod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Charles W.Jones o gyfarfodydd y Cyngor am gyfnod o 6 mis o ddyddiad y cyfarfod hwn oherwydd amgylchiadau personol, yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, gan ei alluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd.

 

 

16.

RHYBUDDION O GYNNIG

17.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Glyn Daniels

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Glyn Daniels yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“‘Rwy’n cynnig fod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei hun.

 

Credaf y buasai hyn yn fanteisiol mewn mwy nag un ffordd:-

 

a) Buasai codi tâl sylweddol am gael mynd i gopa’r Wyddfa yn gallu chwyddo coffrau Cyngor Gwynedd a’r Parc ar adeg pan mae ansicrwydd economaidd yn ein wynebu oherwydd sgil-effeithiau Covid-19.

 

b) O ganlyniad i’r uchod, mae lle i gredu y buasai camau o’r fath yn gallu cyfrannu at leihau y problemau difrifol o ormodedd o geir yn cronni ac yn creu tagfeydd a pheryglon ar ffyrdd y cylch.”

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei hun.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Glyn Daniels o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifBod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei hun.

 

Credaf y buasai hyn yn fanteisiol mewn mwy nag un ffordd:-

 

a) Buasai codi tâl sylweddol am gael mynd i gopa’r Wyddfa yn gallu chwyddo coffrau Cyngor Gwynedd a’r Parc ar adeg pan mae ansicrwydd economaidd yn ein wynebu oherwydd sgil-effeithiau Covid-19.

 

b) O ganlyniad i’r uchod, mae lle i gredu y buasai camau o’r fath yn gallu cyfrannu at leihau'r problemau difrifol o ormodedd o geir yn cronni ac yn creu tagfeydd a pheryglon ar ffyrdd y cylch.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y cynnig, nodwyd:-

 

·         Y cytunid bod angen cael y drafodaeth gyda’r Parc Cenedlaethol, ond bod angen bod yn fwy pendant o ran yr hyn a olygir gyda ‘tâl sylweddol’.

·         Bod y diwydiant twristiaeth yn bwysig i Wynedd, ond y dymunir gweld y sir yn elwa o dwristiaeth gynaliadwy, gyda’r bobl hynny sy’n ymweld â’r ardal yn dangos parch i’r amgylchedd a’r gymuned leol.

·         Bod y cynnig yn amserol iawn, a’i bod yn bwysig mynd i’r afael â hyn ar fyr rybudd, gan gynnal cyfarfod ar y cyd â’r Parc Cenedlaethol cyn gynted â phosib’ gyda’r nod o gael system codi tâl yn weithredol erbyn tymor 2021.

·         Bod gan Wynedd asedau naturiol bendigedig, ond nad oedd y cymunedau’n cael budd llawn ohonynt ar hyn o bryd.

·         Ei bod yn bwysig sicrhau darpariaeth barcio ddigonol, gan ystyried creu rhwydwaith o feysydd parcio yn ein cymunedau.  Awgrymwyd y gellid ystyried creu cyfleuster parcio a theithio yng Nglyn Rhonwy, gan gynnig tocyn rhad ac am ddim i breswylwyr Llanberis.

·         Y gellid defnyddio technoleg megis Adnabod Rhifau Cerbydau Awtomatig (ANPR) a system synwyryddion newydd y Cyngor i fonitro a rheoli parcio yn yr ardal.  Gellid hefyd ddefnyddio technoleg megis system cofrestru ymlaen llaw ar gyfer ymweld ag ardal yr Wyddfa, gyda phobl leol yn talu pris llai, neu’n cael mynediad yn ddi-dâl.

·         Bod hon yn broblem sydd wedi amlygu ei hun ar draws Gwynedd, a bod Yr Wyddfa yn enghraifft glasurol or-dwristiaeth.

·         Bod llu o alwadau ar y Cyngor i ymateb i’r sefyllfa, e.e. roedd Cyngor Cymuned Llanllyfni ac eraill wedi galw ar Gyngor Gwynedd i drefnu cynhadledd i drafod hyn.  Er yn anodd oherwydd y pandemig, roedd yna fwriad i drefnu digwyddiad rhithiol maes o law.

·         Nad oedd yn gyfreithiol i godi tâl i fynd ar lwybrau cyhoeddus, ond y croesawid yr alwad i edrych i mewn i hyn ymhellach.

·         Bod adroddiad a gomisiynwyd gan y Parc Cenedlaethol ar drafnidiaeth o gwmpas Yr Wyddfa yn crybwyll rhai syniadau gwych, ond roedd angen ehangu’r drafodaeth i gynnwys Gwynedd gyfan.

·         Y cwblhawyd darn o waith i edrych ar enghreifftiau o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 17.

18.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol cael hawl cynllunio i drosi tŷ anedd yn dŷ haf /uned wyliau, ac yn addasu’r fframwaith bolisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal i ffigur na ddylai fod yn uwch nag oddeutu 5% o’r stoc dai.”  

 

 

 

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol cael hawl cynllunio i drosi anedd yn haf /uned wyliau, ac yn addasu’r fframwaith bolisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol cael hawl cynllunio i drosi annedd yn haf /uned wyliau, ac yn addasu’r fframwaith bolisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal i ffigur na ddylai fod yn uwch nag oddeutu 5% o’r stoc dai.

 

Ar gychwyn y drafodaeth, nododd aelod fod perchennog ail gartref yn ei ward wedi cysylltu â hi i ofyn pa gefnogaeth fyddai ar gael pe na chaniateid i ragor na 5% o dai fod yn ail gartrefi, ac y byddai’n pasio’r llythyr ymlaen i’r Aelod Cabinet Tai.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y cynnig, nodwyd:-

 

·         Bod y nifer uchel o ail-gartrefi yng Ngwynedd yn ei gwneud yn amhosib’ i bobl ifanc lleol gael tai.

·         Nad hwn oedd y tro cyntaf i’r Cyngor ddwyn hyn i sylw Llywodraeth Cymru.

·         Bod y broblem wedi cynyddu dros y blynyddoedd, a bod cyfle i wneud rhywbeth ynglŷn â’r sefyllfa drwy’r drefn gynllunio.  Roedd y Llywodraeth eisoes wedi rhoi’r hawl i gynghorau ei gwneud yn orfodol cael hawl cynllunio i drosi tŷ annedd yn dŷ aml-feddiannaeth, felly dylai fod yn eithaf syml cyflwyno’r un rheol yng nghyswllt tai haf ac ail gartrefi.  Roedd angen gwahaniaethu hefyd rhwng ail gartrefi a llety gwyliau, gan fod llety gwyliau yn dod â budd economaidd.

 

Nodwyd ymhellach, os oes pobl yn methu cael o gwbl, na ddylid caniatáu unrhyw dai haf o gwbl, a chynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ddileu cymal olaf y cynnig, sefi ffigur na ddylai fod yn uwch nag oddeutu 5% o’r stoc dai’, fel bod y cap ar y niferoedd yn cael ei bennu yn ôl doethineb cynllunwyr a chymunedau ar raddfa sy’n addas i’r ardal dan sylw.

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd:-

 

·         Nad oedd y broblem yn unigryw i Wynedd na’r cyfnod hwn.

·         Mai digon yw digon, a bod pobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai.

·         Bod mwy na 5% o’r tai yn dai haf mewn rhai pentrefi, a bod y ffigur hyd at 30% mewn rhai rhannau o Wynedd.

·         Y croesawid yr awgrym y dylai cymunedau lleol gael llais yn y penderfyniad.

·         Mai un o brif egwyddorion y system gynllunio ar adeg ei chreu oedd creu system oedd yn deg i bawb, ond pobl ariannog oedd yn rheoli’r system bresennol.  Roedd sefyllfa tai haf yn un elfen o’r hyn oedd o’i le gyda’r system gynllunio, sef system oedd yn gweithredu dan ddeddf a basiwyd yn 1990, ac mewn gwlad wahanol.

·         Y dylid rhybuddio pobl y gallai cais i drosi eiddo sydd wedi’i gofrestru fel busnes, megis  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 18.

19.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gareth Thomas

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gareth Thomas yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir. Hynny yw bod pob cerbyd dŵr personol yn gorfod cael trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr yn cael prawf ar ei allu i drin y peiriant ac ei wybodaeth o reolau mordrwyo.”

 

 

 

 

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol a badau pŵer ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir. Hynny yw bod pob cerbyd dŵr personol a bad pŵer yn gorfod cael trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr yn cael prawf ar ei allu i drin y peiriant ac ei wybodaeth o reolau mordrwyo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gareth Thomas o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir. Hynny yw bod pob cerbyd dŵr personol yn gorfod cael trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr yn cael prawf ar ei allu i drin y peiriant ac ei wybodaeth o reolau mordwyo.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y cynnig, nodwyd:-

 

·         Mai Prydain oedd yr unig wlad, ac eithrio’r Aifft, oedd heb reolaeth ar gerbydau dŵr personol.

·         Y gellid cymharu gyrru cerbyd dŵr personol i berson di-brofiad yn gyrru beic modur pwerus yng nghanol pobl.

·         Bod gwerthiant beiciau dŵr wedi cynyddu eleni yn sgil Covid, ac felly roedd y broblem yn debygol o fod hyd yn oed yn waeth flwyddyn nesaf.

·         Ei bod yn ymddangos nad oedd yr heddlu yn gallu erlid mewn achosion o yrru cerbydau dŵr personol yn anghyfrifol ac ymosodgar.

·         Bod hyn yn broblem ar hyd arfordir Gwynedd a bod gwir angen deddfwriaeth i sicrhau bod ein traethau’n ddiogel.

 

Nodwyd ymhellach nad oedd angen cofrestru na chael trwydded i yrru badau pŵer chwaith, a chynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnwys badau pŵer yn y cynnig.

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd:-

 

·         Nad oedd yna ddull o fonitro os yw gyrrwr cerbyd dŵr personol neu fad pŵer wedi bod yn yfed alcohol.

·         Bod diffyg rheolaeth yn thema gyffredin i’r tri chynnig gerbron y cyfarfod hwn o’r Cyngor, a phwysleisiwyd pwysigrwydd datganoli pwerau dros faterion o’r fath.

·         Bod yna App ar gael i reoli symudiadau cychod.

·         Y dylai pawb gael hyfforddiant cyn gyrru cerbydau o’r fath.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod ynglŷn â’r sefyllfa ar draethau’r Cyngor, eglurodd y Swyddog Monitro fod yna hawliau cyfyngedig o ran, er enghraifft, rheoli cyflymder mewn rhannau penodol o draeth, ayb, oedd wedi’u ddynodi mewn is-ddeddfau.  Fodd bynnag, nid oedd yn ofynnol cael yswiriant na chofrestru i ddefnyddio’r cerbydau hyn, a dyna’r bwlch yn y gyfraith roedd y cynnig yn cyfeirio ato.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe gariodd.

 

Gan i’r gwelliant gael ei dderbyn, eglurodd y Swyddog Monitro fod y cynnig gwreiddiol wedi’i addasu a bod angen pleidlais bellach gyda geiriad y gwelliant yn hytrach na’r geiriad gwreiddiol.  Pleidleisiodd mwyafrif o blaid y cynnig. 

 

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifPENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol a badau pŵer ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir. Hynny yw bod pob  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 19.

Atodiad pdf eicon PDF 298 KB