Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Nigel Pickavance a Gareth A. Roberts.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 432 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2020 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2020 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 8 ar y rhaglenTreth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2021/22.

 

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglenTreth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2021/22:-

 

·         Y Cynghorydd Aled Wyn Jones oherwydd bod teulu agos yn berchnogion ail gartref a thai gwyliau yng Ngwynedd.

·         Y Cynghorydd Elfed Roberts oherwydd bod cyswllt agos iddo yn talu’r dreth ar ail gartref.

·         Y Cynghorydd Menna Baines oherwydd ei bod yn gydberchennog ar gwag.

·         Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams oherwydd bod gan gysylltiadau agos iddo dai gwag ac ail gartrefi.

·         Y Cynghorydd Angela Russell oherwydd ei bod yn berchen ar ail gartref.

·         Y Cynghorydd Linda Morgan oherwydd bod ganddi deulu sy’n berchen ar ail gartref a chyswllt gyda rhywun sy’n talu’r premiwm.

·         Y Cynghorydd Anwen Daniels oherwydd bod gan deulu agos iddi ail gartref yn ei ward.

·         Y Cynghorydd Peredur Jenkins oherwydd ei fod wedi cofrestru mewn dau gartref, sef Hafod a’r Hendre.

·         Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn oherwydd bod ganddo gyswllt agos â rhywun sy’n talu’r premiwm ail gartref ac eiddo gwag.

·         Y Cynghorydd Dewi Roberts oherwydd bod ganddo gyswllt agos â rhywun sydd ag ail gartref.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd y Swyddog Monitro fuddiant personol yn eitem 9 - Adolygiad BlynyddolPolisi Tâl y Cyngor 2021/22 - ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol, gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau.

 

Ynghyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, gadawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â theulu Lucille Hughes, cyn Bennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gwynedd a fu farw’n ddiweddar.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr deyrnged i Gwenan Parry, cyn Bennaeth Gofal Cwsmer, a chyn Bennaeth Oedolion Iechyd a Llesiant y Cyngor, a fu farw’n ddiweddar, a mynegodd ei gydymdeimlad dwysaf â’i theulu yn eu profedigaeth.

 

Rhoddwyd teyrnged i’r diweddar John B.Jenkins gan y Cynghorydd Owain Williams.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Croesawyd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd i’r cyfarfod yn dilyn anhwylder diweddar.

 

Nodwyd, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth, bod y Cyngor yn bwriadu lansio tudalen ar fewnrwyd y Cyngor, sy’n rhan o waith y Grŵp Prosiect Merched Mewn Arweinyddiaeth, lle byddai gwybodaeth berthnasol am y pwnc yn cael ei rannu gyda staff y Cyngor.  Byddai Morwena Edwards, Cyfarwyddwr Corfforaethol, yn gwneud fideo i bwysleisio pwysigrwydd y dyddiad, a byddai’r Tîm Cyfathrebu yn cylchredeg fideo i ddathlu cyflawniadau merched adnabyddus o’r sir.

 

Nodwyd y byddai’r Cyngor yn dathlu ei ben-blwydd yn bump ar hugain oed ddechrau mis Ebrill, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n ffodus iawn i gael tri Phrif Weithredwr dawnus, sef Geraint R.Jones, Harry Thomas, a Dilwyn Williams, y Prif Weithredwr presennol.  Ond gyda Mr Williams wedi datgan ei fwriad i ymddeol, byddai’r Cyngor yn symud ymlaen i’r pum mlynedd ar hugain nesaf, dan arweiniad Prif Weithredwr newydd.

 

Rhoddodd yr Arweinydd air o ddiolch i Dilwyn Williams, ar ran yr holl aelodau, am ei wasanaeth ar hyd y blynyddoedd, a dymunwyd iddo bob hapusrwydd ar ei ymddeoliad.

 

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

8.

TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A / NEU GODI PREMIWM 2021/22 pdf eicon PDF 673 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ar gyfer 2021/22, bod Cyngor Gwynedd yn:

·         Caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·         Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2021/22 i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar anheddau gwag, ac i godi Premiwm o 100% ar eiddo perthnasol o’r fath.

 

Manylodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) ar ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnydd i gynyddu’r Premiwm ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor i hyd at 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, ynghyd â’r gofynion cyfreithiol.  Tynnwyd sylw ganddo hefyd at bwysigrwydd yr Asesiad Ardrawiad Cydraddoldeb, ac atgoffwyd yr aelodau fod rhaid iddynt ei ystyried wrth ddod i benderfyniad.  Rhoddwyd esboniad ac arweiniad ar y canfyddiadau, gan dynnu sylw penodol at honiad y gall y bwriad wahaniaethu yn anuniongyrchol ar grwpiau gyda nodweddion gwarchodedig, a’r angen i’r aelodau gydbwyso hyn wrth ddod eu penderfyniad.

 

Diolchwyd i aelodau o staff y Cyngor, o fwy nag un adran, am sicrhau llwyddiant yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Nododd aelod, er y cytunai â barn y Cabinet fod pwysau cynyddol ar y stoc dai lleol a bod gan berchnogion tai gwyliau'r modd i dalu ychydig mwy, pryderai fod y bwriad i gynyddu argaeledd tai fforddiadwy drwy gynyddu’r Premiwm yn golygu bod y Cabinet wedi camddeall y sefyllfa.  Roedd risg y byddai cynyddu’r Premiwm i 100% yn cymell hyd yn oed mwy o berchnogion ail gartrefi i drosglwyddo i’r Dreth Fusnes, a olygai golli’r tai hynny am byth, gan nad oedd yna bwerau i’w cael yn ôl i’r Dreth Ddomestig.  Ni chredai fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon ynglŷn â’r sefyllfa, a chredai y dylai fod yn ofynnol cael caniatâd cynllunio i drosi tai i’r Dreth Fusnes.  Mynegodd ei bryder y byddai’r Cyngor yn colli llawer iawn o incwm yn y pen draw, ac roedd o’r farn ei bod yn gynamserol i gynyddu’r Premiwm i 100%, ac y byddai’n well aros i weld beth fyddai’r sefyllfa yn dilyn Etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.  Ar sail hynny, cynigiodd welliant i ymlynu at y drefn bresennol o godi Premiwm o 50% ar gyfer 2021/22, gan addasu ail a thrydedd pwynt bwled yr argymhelliad yn yr adroddiad fel a ganlyn:-

 

“Ar gyfer 2021/22, bod Cyngor Gwynedd yn:

·                Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 50% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·                Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 50% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.”

 

Eiliwyd y gwelliant.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, cefnogwyd y gwelliant gan aelodau ar y sail:-

 

·         Mai twristiaeth yw un o brif gyflogwyr y sir, a byddai cynnydd pellach yn y Premiwm yn arwain at golli swyddi yn y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2021/22 pdf eicon PDF 272 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2021/22, yn cynnwys y penderfyniad i godi cyflog swydd y Swyddog Monitro yn syth i uchafswm o tua £70,000.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2020/21, yn cynnwys y penderfyniad i godi cyflog swydd y Swyddog Monitro yn syth i uchafswm o tua £70,000, gan nad yw cyflog presennol y swydd yn gystadleuol â swyddi sydd yn ymgymryd â’r cyfrifoldebau cyfatebol mewn awdurdodau lleol rhanbarthol eraill, a bod hynny yn cyflwyno risg sydd yn annerbyniol i weithrediad effeithiol y Cyngor.

 

Nododd aelod na chredai mai nawr oedd yr amser i godi cyflogau, gyda llawer o bobl y sir yn colli eu gwaith, heb siawns o gael gwaith arall.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2021/22, yn cynnwys y penderfyniad i godi cyflog swydd y Swyddog Monitro yn syth i uchafswm o tua £70,000.

 

10.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018-23 - ADOLYGIAD 2021/22 pdf eicon PDF 360 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2021/22 er mwyn ei weithredu yn ystod 2021/22.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun y Cyngor 2018-23: Adolygiad 2021/22 er mwyn ei weithredu yn ystod 2021/22.

 

Diolchodd yr Arweinydd i bob aelod o staff y Cyngor am gyfrannu at yr ymateb i argyfwng y pandemig, drwy fod mor barod i addasu i ddulliau gwahanol o weithio, i newid gwaith ac i ymroi i ymateb ac i ddarparu gwasanaethau i drigolion Gwynedd.  Nododd fod y cynghorau sir wedi ymateb yn arwrol ac yn effeithiol i’r clefyd, a bod y llywodraethau bellach yn sylweddoli pa mor hanfodol, a pha mor barod i weithredu, y mae awdurdodau lleol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2021/22 er mwyn ei weithredu yn ystod 2021/22.

 

11.

CYLLIDEB 2021/22 pdf eicon PDF 224 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1. Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-

(a)  Sefydlu cyllideb o £275,669,610 ar gyfer 2021/22 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £194,793,140 a £80,876,470 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.7%.

(b)  Sefydlu rhaglen gyfalaf o £47,085,960 yn 2021/22 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

2. Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 18 Tachwedd 2020, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a) 51,885.56 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.

 

(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned –

 

Aberdaron

     542.74

 

Llanddeiniolen

  1,832.32

Aberdyfi

     980.22

Llandderfel

     496.58

Abergwyngregyn

     117.00

Llanegryn

     157.54

Abermaw (Barmouth)

   1,148.25

Llanelltyd

     288.90

Arthog

     617.37

Llanengan

  2,105.34

Y Bala

     771.50

Llanfair

     311.58

Bangor

   3,844.96

Llanfihangel y Pennant

     223.75

Beddgelert

     296.64

Llanfrothen

     224.08

Betws Garmon

     130.44

Llangelynnin

     407.39

Bethesda

   1,696.45

Llangywer

     137.01

Bontnewydd

     433.07

Llanllechid

     336.00

Botwnnog

     448.54

Llanllyfni

  1,407.84

Brithdir a Llanfachreth

     426.50

Llannor

     905.46

Bryncrug

     325.38

Llanrug

  1,127.82

Buan

     224.84

Llanuwchllyn

     304.53

Caernarfon

   3,596.36

Llanwnda

     789.27

Clynnog Fawr

     446.26

Llanycil

     198.76

Corris

     296.99

Llanystumdwy

     864.34

Criccieth

     931.77

Maentwrog

     283.93

Dolbenmaen

     603.77

Mawddwy

     346.60

Dolgellau

   1,233.10

Nefyn

  1,458.93

Dyffryn Ardudwy

     831.65

Pennal

     215.54

Y Felinheli

   1,136.66

Penrhyndeudraeth

     779.36

Ffestiniog

   1,713.50

Pentir

  1,260.20

Y Ganllwyd

       86.79

Pistyll

     259.32

Harlech

     769.40

Porthmadog

  2,016.47

Llanaelhaearn

     449.24

Pwllheli

  1,729.10

Llanbedr

     336.30

Talsarnau

     325.03

Llanbedrog

     720.36

Trawsfynydd

     499.20

Llanberis

     768.82

Tudweiliog

     457.21

Llandwrog

   1,027.80

Tywyn

  1,624.58

Llandygai

   1,000.88

 

Waunfawr

     558.03

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2021/22 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

 

 

 

 

(a)           

£409,390,260

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

 

(b)          

£131,672,530

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

 

(c)           

£277,717,730

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

 

(ch)

£194,297,483

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.

 

(d)          

£1,532.26

Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei  ...  view the full Penderfyniad text for item 11.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:-

 

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2021/22;

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 3.7%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Gan i’r Cyngor benderfynu codi Premiwm o 100% ar ail gartrefi a chartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy (dan eitem 8 uchod), gofynnodd y Pennaeth Cyllid i’r Cyngor gymeradwyo’r fersiwn Premiwm 100% o’r argymhelliad, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Atgoffwyd yr aelodau o rai o’r prif risgiau yn Atodiad 10 i’r adroddiad, a chadarnhaodd y Pennaeth Cyllid, wedi ystyried yr holl risgiau a’r camau lliniaru, ei fod o’r farn bod Cyllideb y Cyngor am 2021/22 yn gadarn, yn ddigonol, ac yn gyraeddadwy.

 

Yn ystod y drafodaeth, cefnogwyd y cynnig gan aelodau ar y sail:-

 

·         Y byddai cynyddu’r Dreth Gyngor 3.7% yn galluogi i’r Cyngor osgoi’r risg o fethu ymateb i ofynion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd ar y sail na chafwyd adnoddau gan Lywodraeth Cymru i gwrdd â’r cynnydd mewn angen am ddarpariaeth statudol.

·         Pe na fyddai’r Cyngor yn cynyddu’r Dreth Gyngor 3.7%, byddai’n rhaid torri ar y gwasanaethau i’r bobl sydd fwyaf o angen cymorth.  Roedd gwaith aruthrol wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi busnesau yn sgil Cofid a Brexit, ac ni ddymunid gweld torri ar y Gwasanaeth Cefnogi Busnes.

·         Er na ddymunid codi’r dreth, byddai canlyniadau peidio gwneud hynny yn waeth, ac yn bendant ni ddymunid gweld mwy o dorri ar wasanaethau.

·         Bod cymorth ar gael gan y Cyngor i rai sy’n cael anhawster talu’r Dreth Gyngor.

·         Na fyddai’n ddarbodus codi llai ar y dreth, yn y gobaith y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian ychwanegol dros y misoedd nesaf.

·         Y byddai cynnydd is na 3.7% yn y Dreth Gyngor yn golygu y byddai’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd mewn peryg’ o roi plant mewn risg.

·         Mai 3.7% yw’r cynnydd lleiaf y gellir ei osod i gadw’r gwasanaethau i fynd, heb sôn am eu datblygu.

 

Gwrthwynebwyd y cynnig gan aelodau eraill ar y sail:-

 

·         Mai’r bobl hynny sydd ar gyflogau isel, ond fymryn uwchlaw’r lefel hawlio budd-daliadau sy’n dioddef fwyaf, a bod angen cynllun i helpu’r bobl hynny.

·         Y byddai’n anodd iawn cynyddu’r Dreth Gyngor eleni, o ystyried bod busnesau wedi methu bod yn agored, pobl wedi colli eu gwaith a gweithwyr ar ffyrlo wedi colli 20% o’u hincwm.

·         Os yw cynghorau am gael mwy o arian gan y Llywodraeth dros y misoedd i ddod, dylid ystyried cynnydd llai yn y Dreth.

·         Bod y cynnydd o 3.7% yn frawychus o uchel, a rhwng y pandemig a’r llifogydd a phopeth, y disgwylid y byddai wedi bod yn agosach at 2.7% eleni. 

·         Y gallai’r Cyngor fod wedi arbed degau o filoedd petai wedi atal staff rhag mynd â cherbydau’r Cyngor adref, a bod angen edrych ble mae’r gwastraff a’i stopio.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau unigol, eglurwyd:-

 

·         Ei bod yn gynamserol i ddweud  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

STRATEGAETH GYFALAF 2021/22 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) pdf eicon PDF 466 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2021/22.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn rhoi trosolwg lefel uchel ar y modd y mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheolaeth trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o sut y rheolir risgiau cysylltiedig, a’r goblygiadau i gynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu fod y pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r mater yn dilyn cyflwyniad gan gwmni Arlingclose, Ymgynghorwyr Rheolaeth Trysorlys y Cyngor, a diolchodd i Arlingclose am eu hadroddiad calonogol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2021/22.

 

13.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 pdf eicon PDF 557 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.  Derbyn yr wybodaeth.

2.  Gofyn i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gymeradwyo a monitro rhaglen waith ymateb i ddarpariaethau’r Ddeddf.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn manylu ar ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac yn argymell gofyn i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gymeradwyo a monitro rhaglen waith ymateb i’r darpariaethau hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, eglurwyd:-

 

·         Nad oedd y ddeddf yn effeithio ar y cyfnod cyn etholiad, ond ar gyfer Etholiad Senedd Cymru ym mis Mai, roedd y cyfnod yn cychwyn ar 22 Mawrth ac yn parhau tan ddiwrnod yr etholiad ar 6 Mai.  Er y gallai hyn effeithio ar fusnes y Cyngor, oherwydd y gofyn i geisio peidio rhoi cyhoeddusrwydd i faterion gwleidyddol sensitif mewn cyfnod cyn etholiad, nid oedd yr effaith yn sylweddol fel arfer.

·         Bod y ddeddf yn ffurfioli mewn ffordd newydd rôl arweinyddion grwpiau i fod yn atebol am ymddygiad eu haelodau.  Ni olygai hynny dorri’r Cod, ond roedd yn rhoi lefel o gyfrifoldeb am ymddygiad ar arweinydd y grŵp.  Ar hyn o bryd, nid oes fawr o arweiniad statudol o ran sut byddai hynny’n gweithio’n ymarferol, ond mae’n debygol y byddai cael trefn statudol yn nodi rôl clir i’r arweinydd petai mater yn codi o ran ymddygiad aelodau.  Gallai hefyd, o bosib’, fod yn gyfrwng i ddatrys y mater ac i roi cyd-destun mwy cadarn i’r disgwyl yma.

·         Pan ddeuai’r trefniadau rhannu swyddi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion i rym, byddai modd i fwy nag un person ymgymryd â’r rolau hyn.  Eto, roedd angen gweld yr arweiniad o ran sut y byddai’r gyfundrefn yma’n gweithio’n ymarferol, ond roedd yn rhan o’r gofynion newydd o ran trefniadau democrataidd.

 

PENDERFYNWYD

1.  Derbyn yr wybodaeth.

2.  Gofyn i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gymeradwyo a monitro rhaglen waith ymateb i ddarpariaethau’r Ddeddf.

 

14.

AIL-BENODI AELODAU ANNIBYNNOL I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 183 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ail benodi David Wareing fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau i wasanaethu am dymor pellach o bedair blynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn nodi fod tymor aelodaeth David Wareing, aelod annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, yn dod i ben ar 4 Mawrth, 2021, ac yn argymell i’r Cyngor ei ail-benodi i wasanaethu am dymor pellach o bedair blynedd.

 

Nododd aelod fod Mr Wareing yn aelod gweithgar iawn o’r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD ail benodi David Wareing fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau i wasanaethu am dymor pellach o bedair blynedd.

 

 

15.

CALENDR PWYLLGORAU 2021/22 pdf eicon PDF 181 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2021/22.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd galendr ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2021/22.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2021/22.

 

16.

RHYBUDD O GYNNIG

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Walker Jones yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Bod y Cyngor hwn:

a) yn credu bod y system fudd-daliadau gyfredol yn methu ein dinasyddion ac yn achosi caledi i lawer o gymunedau yng Ngwynedd;

b) yn nodi'r cysyniad o Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) lle mae dinasyddion yn derbyn swm heb fod yn seiliedig ar brofion modd gan y wladwriaeth i dalu costau byw sylfaenol, a delir i'r holl ddinasyddion yn unigol, waeth beth yw eu statws cyflogaeth, eu cyfoeth, neu statws priodasol;

c) yn credu bod angen profi UBI, gan fod gan UBI y potensial i fynd i'r afael â heriau allweddol megis adferiad ôl-bandemig, anghydraddoldeb, tlodi, cyflogaeth ansicr, a cholli cymuned trwy:

 i) rhoi gweithlu mwy hyblyg i gyflogwyr wrth roi mwy o ryddid i weithwyr newid eu swydd;

 ii) gwerthfawrogi gwaith di-dâl, megis gofalu am aelodau'r teulu a gwaith gwirfoddol;

 iii) cael gwared ar effeithiau negyddol sancsiynau budd-daliadau ac amodoldeb;

 iv) rhoi mwy o adnoddau cyfartal i bobl yn y teulu, y gweithle a'r gymdeithas.

 

ch) yn nodi gwaith Rhwydwaith Lab UBI wrth ddatblygu cynigion i beilota profi UBI;

 

d) yn credu na ddylid mesur llwyddiant peilot UBI yn unig yn ôl yr effaith ar y nifer sy'n manteisio ar waith â thâl, ond hefyd yr effaith ar gymunedau a'r hyn y mae'r bobl ynddynt yn ei wneud, sut maen nhw'n teimlo, a sut maen nhw'n uniaethu ag eraill a’r amgylchedd o'u cwmpas;

 

dd) yn credu bod Gwynedd mewn sefyllfa ddelfrydol i dreialu UBI;

 

e) yn gofyn i’r Cabinet ymchwilio i’r ymrwymiad fyddai ei angen ac ystyried a ddylid gwirfoddoli i gydweithio gyda chyrff megis  UBI Lab Cymru;

 

f) yn penderfynu anfon copi o'r Cynnig hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, y Canghellor, arweinydd y Blaid yn y Llywodraeth, eu cymheiriaid ym mhob plaid wleidyddol wrthblaid yn y Senedd, Prif Weinidog Cymru ac at holl ASau Gwynedd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r cynnig, sef bod y Cyngor hwn:

a) yn credu bod y system fudd-daliadau gyfredol yn methu ein dinasyddion ac yn achosi caledi i lawer o gymunedau yng Ngwynedd;

b) yn nodi'r cysyniad o Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) lle mae dinasyddion yn derbyn swm heb fod yn seiliedig ar brofion modd gan y wladwriaeth i dalu costau byw sylfaenol, a delir i'r holl ddinasyddion yn unigol, waeth beth yw eu statws cyflogaeth, eu cyfoeth, neu statws priodasol;

c) yn credu bod angen profi UBI, gan fod gan UBI y potensial i fynd i'r afael â heriau allweddol megis adferiad ôl-bandemig, anghydraddoldeb, tlodi, cyflogaeth ansicr, a cholli cymuned trwy:

 i) rhoi gweithlu mwy hyblyg i gyflogwyr wrth roi mwy o ryddid i weithwyr newid eu swydd;

 ii) gwerthfawrogi gwaith di-dâl, megis gofalu am aelodau'r teulu a gwaith gwirfoddol;

 iii) cael gwared ar effeithiau negyddol sancsiynau budd-daliadau ac amodoldeb;

 iv) rhoi mwy o adnoddau cyfartal i bobl yn y teulu, y gweithle a'r gymdeithas.

ch) yn nodi gwaith Rhwydwaith Lab UBI wrth ddatblygu cynigion i beilota profi UBI;

e) yn credu na ddylid mesur llwyddiant peilot UBI yn unig yn ôl yr effaith ar y nifer sy'n manteisio ar waith â thâl, ond hefyd yr effaith ar gymunedau a'r hyn y mae'r bobl ynddynt yn ei wneud, sut maen nhw'n teimlo, a sut maen nhw'n uniaethu ag eraill a’r amgylchedd o'u cwmpas;

f) yn credu bod Gwynedd mewn sefyllfa ddelfrydol i dreialu UBI;

g) yn gofyn i’r Cabinet ymchwilio i’r ymrwymiad fyddai ei angen ac ystyried a ddylid gwirfoddoli i gydweithio gyda chyrff megis UBI Lab Cymru;

h) yn penderfynu anfon copi o'r Cynnig hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, y Canghellor, arweinydd y Blaid yn y Llywodraeth, eu cymheiriaid ym mhob plaid wleidyddol wrthblaid yn y Senedd, Prif Weinidog Cymru ac at holl ASau Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Bod y Cyngor hwn:

a) yn credu bod y system fudd-daliadau gyfredol yn methu ein dinasyddion ac yn achosi caledi i lawer o gymunedau yng Ngwynedd;

b) yn nodi'r cysyniad o Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) lle mae dinasyddion yn derbyn swm heb fod yn seiliedig ar brofion modd gan y wladwriaeth i dalu costau byw sylfaenol, a delir i'r holl ddinasyddion yn unigol, waeth beth yw eu statws cyflogaeth, eu cyfoeth, neu statws priodasol;

c) yn credu bod angen profi UBI, gan fod gan UBI y potensial i fynd i'r afael â heriau allweddol megis adferiad ôl-bandemig, anghydraddoldeb, tlodi, cyflogaeth ansicr, a cholli cymuned trwy:

 i) rhoi gweithlu mwy hyblyg i gyflogwyr wrth roi mwy o ryddid i weithwyr newid eu swydd;

 ii) gwerthfawrogi gwaith di-dâl, megis gofalu am aelodau'r teulu a gwaith gwirfoddol;

 iii) cael gwared ar effeithiau negyddol sancsiynau budd-daliadau ac amodoldeb;

 iv) rhoi mwy o adnoddau cyfartal i bobl yn y teulu, y gweithle a'r gymdeithas.

ch) yn nodi gwaith Rhwydwaith Lab UBI wrth ddatblygu cynigion i beilota profi UBI;

d) yn credu na ddylid mesur llwyddiant peilot UBI yn unig yn ôl yr effaith ar y nifer sy'n manteisio ar waith â thâl, ond hefyd yr effaith ar gymunedau a'r hyn y mae'r bobl ynddynt yn ei wneud, sut maen nhw'n teimlo, a sut maen nhw'n uniaethu ag eraill a’r amgylchedd o'u cwmpas;

dd) yn credu bod Gwynedd mewn sefyllfa ddelfrydol i dreialu UBI;

e) yn gofyn i’r Cabinet ymchwilio i’r ymrwymiad fyddai ei angen ac ystyried a ddylid gwirfoddoli i gydweithio gyda chyrff megis UBI Lab Cymru;

f) yn penderfynu anfon copi o'r Cynnig hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, y Canghellor, arweinydd y Blaid yn y Llywodraeth, eu cymheiriaid ym mhob plaid wleidyddol wrthblaid yn y Senedd, Prif Weinidog Cymru ac at holl ASau Gwynedd.”

 

Yn ystod y drafodaeth, cefnogwyd y cynnig gan aelodau ar y sail:-

 

·         Bod UBI yn ddatrysiad real iawn i helpu pobl allan o dlodi a chynorthwyo’r economi, tra’n lleihau’r anghydraddoldeb amlwg o fewn ein cymdeithas, sydd wedi dyfnhau yn ystod argyfwng y pandemig. 

·         Bod UBI hefyd yn arf sy’n gallu cael gwared ar y stigma a’r straen ar bobl sy’n hawlio budd-daliadau, gan fod pawb yn derbyn yr un faint, a dylai pawb gael eu talu ddigon i ofalu amdanynt eu hunain, a’u teuluoedd, yn arbennig mewn cyfnod o argyfwng fel hwn.

·         Er y cydnabyddid bod yna heriau a chwestiynau ynglŷn ag incwm sylfaenol, bod nifer o wahanol fodelau i ddod â hyn yn ei flaen, a nifer ohonynt yn cael eu treialu mewn gwahanol lefydd.

·         Bod yr achos dros dreialu UBI wedi’i gryfhau yn ystod cyfnod y pandemig, ac er bod yna lawer o gynlluniau i helpu pobl yn ariannol, roedd llawer o bobl hunangyflogedig  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 16.

17.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL

Dogfennau ychwanegol:

17a

Ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams pdf eicon PDF 262 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth – llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams i gyfarfod 1 Hydref, 2020 ynglŷn â defnyddio’r system gynllunio i reoli’r niferoedd o ail-gartrefi yng Nghymru (ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaethllythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Gruffydd Williams i gyfarfod 1 Hydref, 2020 ynglŷn â defnyddio’r system gynllunio i reoli’r niferoedd o ail-gartrefi yng Nghymru.

 

18.

Ymatebion i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Paul Rowlinson pdf eicon PDF 260 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth – llythyrau gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Paul Rowlinson i gyfarfod 3 Rhagfyr, 2020 ynglŷn â rheoli tân gwyllt (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaethllythyrau gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Paul Rowlinson i gyfarfod 3 Rhagfyr, 2020 ynglŷn â rheoli tân gwyllt.

 

 

Atodiadau 1-3 pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol: