Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Simon Glyn yn gadeirydd am 2021/22.

 

Darllenodd a llofnododd y Cynghorydd Simon Glyn ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2021/22 ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn Is-gadeirydd am 2021/22.

 

Cofnod:

Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Elwyn Jones a’r Cynghorydd Peter Read.

 

          PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn is-gadeirydd am 2021/22.

 

Darllenodd y Cynghorydd Elwyn Jones ddatganiad yn derbyn y swydd o Is-gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2021/22. 

 

Eglurodd y Swyddog Monitro, gan fod yr Is-gadeirydd yn bresennol o bell, y rhoddid trefniadau mewn lle iddo arwyddo’r datganiad ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr:- Dylan Bullard, Dylan Fernley, Peredur Jenkins, W.Roy Owen, Jason Parry, Peter Read a Cemlyn Williams.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 432 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:-

 

·         4 Mawrth, 2021

·         23 Ebrill, 2021 (Cyfarfod Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod fel rhai cywir:-

 

·         4 Mawrth, 2021

·         23 Ebrill, 2021 (Cyfarfod Arbennig)

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

6.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddwyd teyrnged gan y Cynghorydd Selwyn Griffiths i’r diweddar Maldwyn Lewis, Porthmadogcyn aelod o’r Cyngor hwn a chyn-Gyngor Sir Gwynedd.

 

Nododd y Cadeirydd mai, gyda thristwch, y clywyd hefyd am farwolaeth sydyn y cyn-Gynghorydd Dewi Llewelyn, fu’n frwdfrydig iawn wrth gynrychioli pobl leol a’i gymuned ym Mangor.  Mynegwyd cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’i deulu a’i ffrindiau.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Gwahoddwyd yr Arweinydd i ddweud gair ynglŷn â’r Etholiadau Senedd diweddar.  Nododd:-

 

·         Mai dyma’r Cyfarfod Blynyddol diwethaf o’r Cyngor cyn i’r aelodau wynebu etholiadau ym mis Mai y flwyddyn nesaf, a daliodd ar y cyfle i ddiolch i bob aelod am eu cyfraniad gwerthfawr i waith y Cyngor.  Nododd hefyd y bu’n bleser ac yn anrhydedd bod yn Arweinydd dros y 4 blynedd ddiwethaf, ac y byddai’n gwneud ei orau eto dros y flwyddyn sy’n weddill o dymor y Cyngor presennol.

·         Y dymunai longyfarch Sian Gwenllian a Mabon ap Gwynfor ar gael eu hethol i gynrychioli Arfon a Dwyfor Meirionnydd yn yr Etholiadau Senedd diweddar.  Mynegodd ei obaith y byddai’r ddau, fel cyn-gynghorwyr sir, yn cofio am lywodraeth leol yn eu gwaith, ac yn cefnogi pob ymdrech i rymuso ac amddiffyn llywodraeth leol, ac i sicrhau y byddwn yn derbyn cyllid digonol i ymgymryd â’n dyletswyddau.

·         Y dymunai ddatgan gwerthfawrogiad i’r aelodau hynny o’r Cyngor oedd wedi sefyll yn yr Etholiadau Senedd, gan ddiolch iddynt am gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

·         Yr hoffai ddymuno’n dda i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar ei ymddeoliad o’r Senedd ar ôl oes o wasanaeth i Gymru, ac yn arbennig i Feirionnydd.  Nododd y bu ei waith fel Llywydd y Cynulliad yn allweddol i osod sylfeini cadarn ac i roi statws i’r corff, a diolchodd iddo am ei holl waith, ac am ein cynrychioli cyhyd.

·         Bod pobl Cymru wedi rhoi pleidlais o hyder yn y Blaid Lafur, a bod llawer o’r diolch am hynny i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, am y ffordd bwyllog a gonest y bu iddo ein harwain drwy gyfnod hynod anodd.  Roedd y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos y gallai Cymru weithio yn fwy effeithiol, ac yn ddoethach, na Llywodraeth San Steffan, a dangoswyd hefyd yn glir yr angen am lawer iawn mwy o bwerau i Gymru.  Roedd her i’r Blaid Lafur ddangos eu bod yn barod i sefyll yn gadarn dros Gymru, gan fynnu mwy o bwerau, ac i sefydlu eu hunain fel plaid annibynnol Gymreig, gan dorri’n rhydd oddi wrth eu cymheiriaid yn Lloegr.  Fel Arweinydd y Cyngor dros y flwyddyn nesaf, byddai’n manteisio ar bob cyfle i fynegi’r her yma iddynt.

·         Y dymunai groesawu Dafydd Gibbard i’w Gyngor llawn cyntaf fel Prif Weithredwr.  Dymunodd iddo bob llwyddiant yn y swydd, gan nodi ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gydag ef dros y flwyddyn nesaf.

 

Llongyfarchwyd Andy Dunbobbin ar gael ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

8.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

9.

PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH

Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth.

 

[Yn unol a gofynion adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor Llawn sydd i benodi cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli ar y weithrediaeth.]

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2021/22.

 

Cofnod:

Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar gyfer 2021/22.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am 2021/22.

 

Diolchodd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth, y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith a staff y Gwasanaeth Democratiaeth am eu holl gefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL GAN Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH pdf eicon PDF 572 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ei adroddiad blynyddol ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yng nghyswllt cefnogaeth i aelodau.

 

Diolchodd y Pennaeth i holl aelodau’r pwyllgor, ac i swyddogion y Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith, am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Cyfeiriodd yn arbennig at ymdrechion arwrol Arweinydd a staff y Tîm Cyfieithu i sicrhau cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd rhithiol, nid yn unig o fewn y Cyngor hwn, ond ar draws y rhanbarth hefyd gyda sefydliadau cyhoeddus eraill.  Roedd gwaith y swyddogion Technoleg Gwybodaeth wedi bod yn allweddol hefyd, ac wedi galluogi i bawb gymryd y dechnoleg mor ganiataol bellach.  Diolchodd hefyd i swyddogion y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu’r Sefydliad am gydgordio’r hyfforddiant, ac i aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth a’r Cynghorwyr Dewi Owen ac Anne Lloyd Jones fel cadeiryddion y pwyllgor dros gyfnod yr adroddiad dan sylw.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Mynegwyd pryder y gallai’r gost ychwanegol o weithio’n rhithiol o gartref fod yn rhwystr i rai sefyll etholiad i fod yn gynghorydd, ac y dylid sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gyngor cynhwysol.  Mewn ymateb, nodwyd bod y Gwasanaeth yn fyw i’r bygythiad hwn, ac y byddai’n destun trafodaeth bellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ym Mehefin.

·         Holwyd a roddwyd ystyriaeth i gynnig gwasanaeth cyfieithu i awdurdodau eraill, fel ffordd o ddod ag incwm ychwanegol i goffrau’r Cyngor.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y Gwasanaeth Cyfieithu eisoes yn darparu gwasanaeth cyfieithu i nifer o sefydliadau eraill.  Dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd y gwasanaeth hefyd wedi cynorthwyo nifer o awdurdodau lleol eraill, ayb, er mwyn cyflwyno systemau sy’n caniatáu cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd rhithiol.  Roedd incwm yn dod i mewn eisoes gan sefydliadau am y gwasanaeth cyfieithu a ddarperir gan Wynedd, ond roedd lle i ystyried ymestyn hynny ymhellach.

·         Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn flaengar yn symud i gynnal cyfarfodydd rhithiol yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf, a’i fod yn esiampl i gyrff eraill ar draws Cymru.

·         Nodwyd bod cynnal cyfarfodydd yn rhithiol yn arbed llawer o gostau teithio i’r Cyngor ac amser teithio i’r aelodau, ac y dylid ystyried hyn fel y ffordd ymlaen i’r dyfodol.

·         Mynegwyd y farn y dylai’r Pwyllgor Cynllunio gyfarfod wyneb yn wyneb er mwyn cynnal ei statws fel pwyllgor teg a chadarn.  Nodwyd hefyd na fu’n bosib’ i’r aelodau fynd ar ymweliadau safle, oedd mor bwysig o safbwynt gwneud y penderfyniadau cywir ar geisiadau cynllunio.

·         Mynegwyd y farn y dylai’r Cyngor llawn a’r Pwyllgorau Craffu gyfarfod wyneb yn wyneb, ond y dylid rhoi’r dewis i aelodau fynychu cyfarfodydd eraill yn rhithiol neu wyneb yn wyneb.  Mewn ymateb, eglurwyd bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ymgorffori’r drefn rithiol o weithio, yn ogystal â hybrid a chyffredin, ac y byddai’n ofynnol i’r Cyngor fabwysiadu polisi ynglŷn â’r drefn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2020/21 pdf eicon PDF 190 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Gwynedd yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

Nododd y Cyfarwyddwr, oherwydd y pandemig, fod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn i’r blynyddoedd a fu, ac yn flwyddyn na ddymunid gweld ei thebyg fyth eto.  Cydymdeimlodd â phawb oedd wedi colli anwyliaid i’r firws, a diolchodd i bob un o weithwyr gofal y sir, oedd wedi mynd tu hwnt i’r gofyn i roi’r gofal gorau bosib’ i’r trigolion.  Nododd hefyd fod y cydweithio ar draws Gwynedd wedi bod yn ysbrydoliaeth i bawb, ac y gwelwyd y gorau o bobl yng Ngwynedd, yn staff, gwirfoddolwyr, pencampwyr yn y cymunedau ac aelodau etholedig.

 

Nododd ymhellach, er gwaetha’r heriau a wynebwyd yn sgil y pandemig, ei bod yn falch o nodi fod perfformiad gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn a fu wedi bod yn gadarnhaol unwaith eto.   Fodd bynnag, wrth ganolbwyntio ar ymdopi gyda’r argyfwng Cofid, roedd rhai blaenoriaethau wedi llithro rhywfaint, neu wedi eu rhoi o’r neilltuo am y tro.  O ganlyniad, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y ffordd yr ymatebwyd i’r pandemig a’r modd y parhawyd i gynnal a darparu’r gwasanaethau hanfodol, yn ogystal â datblygu a darparu gwasanaethau newydd.

 

Eglurodd fod llu o staff a rheolwyr gweithgar ac ymroddedig y tu ôl i’r perfformiad yma, yn ogystal â gofalwyr sy’n deulu neu ffrindiau, rhieni maeth a gwirfoddolwyr.  Roedd y pandemig wedi dangos bod gwasanaethau gofal cadarn yn y cymunedau yn hollol hanfodol, a mawr obeithid y byddai polisïau a threfniadau, ayb, i’r dyfodol yn amlygu bod y sector gofal cyn bwysiced â’r gwasanaethau iechyd.

 

Pwysleisiodd y byddai hi a’r penaethiaid yn cadw golwg barcud ar effaith y flwyddyn ddiwethaf ar y staff yn yr hir dymor a’r tymor byr / canolig.  Roedd cefnogaeth iechyd meddwl ar gael i’r staff, ac roedd rhaid bod yn byw i anghenion staff unigol, a cheisio rhagweld y problemau i’r dyfodol.  Roedd y pandemig hefyd wedi gadael effaith ar boblogaeth y sir o ran cyflogaeth, unigrwydd, iselder, ayb, ac roedd y Bwrdd Cefnogi Pobl yn edrych ar faterion llesiant, ac wedi dysgu o’r profiadau Cofid er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb yn y ffordd orau bosib’. 

 

Ychwanegodd nad oedd perfformiad da yn bosib’ heb y gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol, a diolchodd i bawb o’r aelodau am eu gwaith drwy gydol bob blwyddyn yn cefnogi, herio a chynnig sylwadau a syniadau newydd.  Diolchodd i’r ddau Aelod Cabinet yn y maes gofal, y Cynghorwyr Dafydd Meurig a Dilwyn Morgan, ac i’r Arweinydd a gweddill y Cabinet a Chadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal am eu cymorth parhaus a’u cefnogaeth i’r maes.  Manteisiodd hefyd ar y cyfle i ddiolch i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Plant a Theuluoedd a’r uwch reolwyr a’r rheolwyr.  Diolchodd hefyd i adrannau eraill y Cyngor am eu parodrwydd i gamu i mewn a chefnogi’r gwaith gofal cymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf.  Diolchodd yn arbennig i Dilwyn Williams am ei arweiniad a’i gefnogaeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

YMESTYN PENODIAD AELOD LLEYG O'R PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 140 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ymestyn penodiad Mrs Sharon Warnes fel aelod lleyg o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am flwyddyn ychwanegol, hyd at etholiad Mai 2022.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn gofyn i’r Cyngor ymestyn penodiad Mrs Sharon Warnes fel aelod lleyg o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am flwyddyn ychwanegol, hyd at etholiad Mai 2022, gan fod y cyfnod llywodraeth leol presennol yn dod i ben yn 2022, a gyda newidiadau cyfansoddiadol yn golygu y bydd newidiadau eithaf sylweddol i aelodaeth y pwyllgor yn dod yn weithredol o Fai 2022, yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid, Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, ac aelodau o’r pwyllgor, fod Mrs Sharon Warnes wedi bod yn aelod gweithgar iawn dros y blynyddoedd.

 

          PENDERFYNWYD ymestyn penodiad Mrs Sharon Warnes fel aelod lleyg o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am flwyddyn ychwanegol, hyd at etholiad Mai 2022.

 

 

13.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 509 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a)     Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn yr atodiad i’r adroddiad i’r Cyngor, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r hyn a nodir yn yr atodiad.

(b)     Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

(c)     Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi            Grŵp Annibynnol

Pwyllgor Craffu Cymunedau              Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Gofal                         Grŵp Annibynnol

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth adroddiad ar yr adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth fod y Cynghorydd Freya Bentham, Aelod Harlech / Talsarnau, wedi cyflwyno ei hymddiswyddiad ers cyhoeddi’r adroddiad, ac y bwriedid adrodd ymhellach ar unrhyw newid i’r cydbwysedd gwleidyddol yn sgil hynny i’r Cyngor ym mis Gorffennaf, yn dilyn cynnal isetholiad.

 

Nododd hefyd y cydnabyddid bod y fformiwla dyrannu seddau ar bwyllgorau yn gymhleth, ond bod hyn yn drefn statudol oedd yn cael ei gweithredu’n gyson ar draws cynghorau Cymru.  Gan hynny, roedd y Tîm Democratiaeth a’r Tîm Cyfathrebu yn y broses o gynhyrchu fideo byr er mwyn cynorthwyo pawb i ddeall y drefn yn well.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn yr atodiad i’r cofnodion hyn, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r hyn a nodir yn yr atodiad.

(b)     Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

(c)     Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi              Grŵp Annibynnol

Pwyllgor Craffu Cymunedau                            Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Gofal                                        Grŵp Annibynnol

 

14.

YMATEB I RYBUDD O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, llythyr gan Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Glyn Daniels i gyfarfod 1 Hydref, 2020 ynglŷn â’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr am ymweld â rhannau o’r Parc Cenedlaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaethllythyr gan Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Glyn Daniels i gyfarfod 1 Hydref, 2020 ynglŷn â’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr am ymweld â rhannau o’r Parc Cenedlaethol.

 

Nododd aelod ei anfodlonrwydd ei bod wedi cymryd pum mis a hanner i gyflwyno’r ymateb i aelodau’r Cyngor.

 

Atodiad pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol: