Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn Gadeirydd am 2022/23.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn Gadeirydd am 2022/23.

 

Darllenodd a llofnododd y Cynghorydd Elwyn Jones ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2022/23 ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd R.Medwyn Hughes yn Is-gadeirydd am 2022/23.

 

Cofnod:

Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd R.Medwyn Hughes a’r Cynghorydd Beth Lawton.

 

          PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd R.Medwyn Hughes yn Is-gadeirydd am 2022/23.

 

Darllenodd y Cynghorydd R.Medwyn Hughes ddatganiad yn derbyn y swydd o Is-gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2022/23. 

 

Gan fod yr Is-gadeirydd yn bresennol o bell, nodwyd y rhoddid trefniadau mewn lle iddo arwyddo’r datganiad derbyn swydd ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Elfed Williams.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 516 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2022 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

6.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn-gynghorydd a chyn-gadeirydd y Cyngor hwn, Glyn Owen, a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Ioan Thomas.

 

Cydymdeimlwyd hefyd â’r Cynghorydd Nia Jeffreys ar golli ei thad a’i modryb yn ddiweddar.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Llongyfarchwyd yr aelodau ar eu llwyddiant yn yr etholiad yn ddiweddar, a chroesawyd aelodau newydd i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyngor.

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Louise Hughes ar dderbyn Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw am ei brwdfrydedd a’i hymroddiad i Gadetiaid y Fyddin.

 

7.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

8.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Eglurodd y Cadeirydd bod yr eitem hon wedi ei thynnu oddi ar y rhaglen gan nad oedd yr Aelodau Cabinet na’r cadeiryddion pwyllgorau mewn lle eto i ateb unrhyw gwestiynau.  Byddai modd i’r aelodau gyflwyno cwestiwn i gyfarfod nesaf y Cyngor ar 23 Mehefin.

 

 

9.

ARWEINYDD Y CYNGOR

Penodi Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Arweinydd y Cyngor. 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Arweinydd y Cyngor.

 

Rhoddodd yr Arweinydd anerchiad byr gan hysbysu’r Cyngor y byddai’n cyfweld ar gyfer aelodaeth o’r Cabinet yr wythnos nesaf, a’i fod yn mawr obeithio y byddai yna gymysgedd da o brofiad a gwaed newydd, a merched hefyd.

 

10.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 283 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.       Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol 2022/23 fel a nodir yn Atodiad A i’r adroddiad, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau a nodir yn yr atodiad.

 

2.       Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol

 

3.       Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi - Grŵp Annibynnol

Pwyllgor Craffu Cymunedau Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Gofal - Grŵp Annibynnol

 

4.       Mabwysiadu’r uwch-gyflogau ar gyfer 2022/23 gan ofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth adolygu ar gyfer 2023/24.

 

5.       Cadarnhau’r dyraniad swyddi ac oriau ar gyfer Swyddogion cefnogi grwpiau gwleidyddol a hynny am dymor y Cyngor, oni bai bod newid sylweddol yng nghydbwysedd gwleidyddol y Cyngor, neu bod grŵp gwleidyddol â llai na 10% o aelodau.

 

6.       Mabwysiadu’r dyraniad seddau ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru am dymor y Cyngor hwn oni bai fod adolygiad yn ofynnol oherwydd newid i’r cydbwysedd gwleidyddol neu ddiffyg ymrwymiad gan aelod unigol.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth adroddiad ar yr adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor (a gyhoeddwyd fel papur ychwanegol i gyd-fynd â’r adroddiad gwreiddiol a gynhwyswyd yn y rhaglen).

 

Nododd y Pennaeth ymhellach, yn dilyn trafodaethau rhwng y ddau arweinydd grŵp yn gynharach yn yr wythnos, bod dwy gadeiryddiaeth y Grŵp Annibynnol yn cael eu rhoi i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi a’r Pwyllgor Craffu Gofal, a bod cadeiryddiaeth y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cael ei rhoi i Grŵp Plaid Cymru.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

Nododd Arweinydd y Grŵp Annibynnol ei bod yn falch bod y grŵp wedi cael cadeiryddiaeth dau o’r pwyllgorau craffu, a chadeiryddiaeth y Cyngor yn ogystal.  Nododd hefyd, wrth ystyried yr adroddiad, bod angen cofio y bu lleihad o 75 i 69 yn nifer yr aelodau ar y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD

 

1.       Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol 2022/23 fel a nodir yn Atodiad A i’r adroddiad, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau a nodir yn yr atodiad.

 

2.       Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol

 

3.       Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi - Grŵp Annibynnol

Pwyllgor Craffu Cymunedau    Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Gofal - Grŵp Annibynnol

 

4.       Mabwysiadu’r uwch-gyflogau ar gyfer 2022/23 gan ofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth adolygu ar gyfer 2023/24.

 

5.       Cadarnhau’r dyraniad swyddi ac oriau ar gyfer Swyddogion cefnogi grwpiau gwleidyddol a hynny am dymor y Cyngor, oni bai bod newid sylweddol yng nghydbwysedd gwleidyddol y Cyngor, neu bod grŵp gwleidyddol â llai na 10% o aelodau.

 

6.       Mabwysiadu’r dyraniad seddau ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru am dymor y Cyngor hwn oni bai fod adolygiad yn ofynnol oherwydd newid i’r cydbwysedd gwleidyddol neu ddiffyg ymrwymiad gan aelod unigol.

 

11.

ADDASIADAU I'R CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 214 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.         Mabwysiadu yr addasiadau i’r Cyfansoddiad (Atodiad 1 i’r adroddiad) er caniatáu gweithredu Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru ) 2021.

 

2.         Derbyn er gwybodaeth yr addasiadau a wnaethpwyd i’r Cyfansoddiad (Atodiad 1) gan y Swyddog Monitro er ymgorffori darpariaethau Adran 58 Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru ) 2021.

 

3.         Awdurdodi y Swyddog Monitro i wneud newidiadau i’r Cyfansoddiad sydd yn deillio o ganlyniad i’r newid yma.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn argymell i’r Cyngor fabwysiadu addasiadau i’r Cyfansoddiad er caniatáu penodi cynorthwyon i Aelodau ac Arweinydd Cabinet a gwneud trefniadau sy’n galluogi rhannu swyddi Aelodau Cabinet ac Arweinydd Cabinet, yn unol ag Adrannau 57 a 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

·                Ar fater o gywirdeb, nodwyd bod angen cywiro’r fersiwn Saesneg o Adran 5.9.7 yn yr atodiad i’r adroddiad i ddarllen “For the avoidance of doubt presence shall presence will include presence through electronic means which allow the member to hear and speak at the meeting.”  Awgrymwyd y dylai’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth fod wedi cael cyfle i edrych ar faterion golygyddol fel hyn cyn i’r mater ddod gerbron y Cyngor llawn.

·                Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog Monitro na fyddai yna unrhyw gyflog ychwanegol yn deillio o sefydlu trefn rannu swyddi Aelodau Cabinet ac Arweinydd Cabinet.

 

1.         Mabwysiadu yr addasiadau i’r Cyfansoddiad (Atodiad 1 i’r adroddiad) er caniatáu gweithredu Adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru ) 2021.

 

2.         Derbyn er gwybodaeth yr addasiadau a wnaethpwyd i’r Cyfansoddiad (Atodiad 1) gan y Swyddog Monitro er ymgorffori darpariaethau Adran 58 Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru ) 2021.

 

3.         Awdurdodi y Swyddog Monitro i wneud newidiadau i’r Cyfansoddiad sydd yn deillio o ganlyniad i’r newid yma.

 

12.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 160 KB

(a)  Cyflwyno, er gwybodaeth – Llythyrau gan S4C, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y cyn-Gynghorydd Judith Humphreys i gyfarfod 3 Mawrth, 2022 o’r Cyngor ynglŷn â merched mewn chwaraeon.

 

(b)  Cyflwyno, er gwybodaethLlythyr gan Llywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Beca Brown i gyfarfod 3 Mawrth, 2022 o’r Cyngor ynglŷn â FareShare.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth:-

 

(a)     Llythyrau gan S4C, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y cyn-gynghorydd Judith Humphreys i gyfarfod 3 Mawrth, 2022 o’r Cyngor ynglŷn â merched mewn chwaraeon. 

 

(b)     Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Beca Brown i gyfarfod 3 Mawrth, 2022 o’r Cyngor ynglŷn â FareShare.