Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr
Linda Ann Wyn Jones, Peter Read a Gareth A. Roberts, Ann Williams, W. Gareth
Roberts (Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd Gareth
James, Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu fuddiant yn Eitem 5 – Adroddiad Blynyddol
y Gwasanaeth Addysg, oherwydd bod ei ferch yn athrawes Cyfnod Sylfaen yn Ysgol
Bethel, Caernarfon. Roedd y swyddog
o’r farn ei fod yn fyddiant
sy’n rhagfarnu ac fe adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem dan
sylw. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym
marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2017, fel rhai cywir. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2017 yn
ddarostyngedig i’r cywiriadau canlynol: (a) Eitem 2 (a) - Datganiad
gan y Cadeirydd Mynegodd y
Cynghorydd Alwyn Griffith y dylai’r
cofnod gyfeirio’n benodol at y ffaith bod y Pennaeth Addysg wedi ei benodi i
reoli GwE yn rhan amser dros dro yn ogystal â chyfeirio at y gwaith o ymchwilio
i drefniadaeth GwE. (b) Eitem
6 – Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg – Adroddiad Cynnydd Mynegodd y Cynghorydd Alwyn Griffith: (i)
ei ddymuniad i gynnwys y ffaith ei fod wedi nodi yn
y cyfarfod diwethaf wrth drafod cyfeiriadau a gwahanol sylwadau yn adroddiad Mr
Alun Charles, Ymgynghorydd allanol, yn deillio o’i astudiaeth i weithrediad
polisi iaith y Cyngor, “ei fod yn wrthun y gellir
cael addysg Gymraeg o’r Cyfnod Sylfaen hyd at radd yng Nghaerdydd
ond ni cheir hyn yn Wynedd”. (ii) ei anfodlonrwydd i ddefnydd y gair
“cymeradwyo” yn y penderfyniad ac mai “derbyn” yr adroddiad fyddai mwyaf
priodol oherwydd nad oedd yr astudiaeth uchod wedi ymestyn y ddadl o gwbl ond
yn hytrach yn cyfiawnhau’r “status quo”. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol mai ei ddealltwriaeth ef ydoedd bod y Pwyllgor wedi
diolch am yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion heblaw am un argymhelliad sef 9.1 yn ymwneud
â diffinio ysgolion uwchradd Gwynedd yn ôl iaith y cyfrwng addysg a dysgu dan
un categori, sef ysgolion dwyieithog - a
bod angen gwaith pellach yn y maes hwn.
Fe brofwyd hyn gyda’r Pwyllgor Craffu ar y diwrnod ac fe gymeradwywyd
cynnwys yr adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r Cadeirydd ac Aelodau’r
Pwyllgor Craffu ymateb i’r sylwadau uchod a phe na fyddir yn cyflwyno cynnig
gwahanol roedd penderfyniad y cyfarfod diwethaf ar y mater hwn yn gywir yn unol
â phenderfyniad y Pwyllgor Craffu ar y diwrnod hwnnw. Yn dilyn trafodaeth pellach, cadarnhaodd y
Pwyllgor Craffu bod y cofnod yn gywir. (c) Eitem 6 (ii) pwynt
(i) Diddymu’r geiriau “Teimlwyd nad oedd Popdy – Canolfan Iaith Bangor ...... a newid geiriad y sylw
wnaed i egluro ac i ddarllen: “Mai swyddogaeth Popdy
– Canolfan Iaith Bangor, yw datblygu menter iaith gymunedol i gyfarch yr iaith
ymhob mathau o gyd-destunau. Nodwyd mai
pwynt y drafodaeth ydoedd bod angen Canolfan Drochi yn ymwneud ag addysg yn
benodol ym Mangor”.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH ADDYSG PDF 1 MB Aelod Cabinet: Y Cyng. Gareth Thomas I ystyried
adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Addysg gan yr Aelod
Cabinet Addysg.
(Copi’n
amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad blynyddol y Gwasanaeth
Addysg gan yr Aelod Cabinet Addysg gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol: (i) Perfformiad ·
Cynnydd sylweddol yn y
dangosydd TL2+ ·
Gwelliant ym mherfformiad
disgyblion Prydau Ysgol am Ddim a’r bwlch wedi lleihau rhwng dysgwyr PYD / Dim
PYD ·
Perfformiad dysgwyr ar
ddiwedd cyfnod allweddol 3 yn enwedig yn y dangosydd pwnc craidd ·
Cynnydd mewn presenoldeb
dysgwyr yn yr uwchradd a’r cynradd O safbwynt datblygu perfformiad, nodwyd bod angen: ·
Rhoi sylw buan i’r Cyfnod
Sylfaen ·
Gwella perfformiad yn y
Gymraeg ymhob cyfnod allweddol ·
Gwella perfformiad dysgwyr
Prydau Ysgol am Ddim ·
Gwella perfformiad dysgwyr
ôl-16 mewn cyrsiau penodol (i)
Darpariaeth Addysg ·
Hyrwyddo lles a diogelwch
disgyblion ·
Cefnogaeth i arweinwyr a rheolwyr ·
Modelau arweinyddiaeth a
fydd yn cynnig amodau i dynnu pwysau enfawr oddi ar Benaethiaid ·
Proffil arolygiadau wedi
amlygu gwelliant gyda ‘run Ysgol mewn categori statudol ·
Cyflwyno rhaglen
Moderneiddio Addysg ar gyflymder da ·
Polisi Iaith y Sir –
sicrhau adnoddau i ehangur’r Siarter Iaith i’r sector uwchradd ·
Gwella seilwaith TGCh
ymhellach ·
Data Perfformiad – tracio
yn holl bwysig i fedru adnabod disgyblion sydd yn llithro ·
Cefnogi llywodraethwyr i
fod yn effeithiol Cyfeiriwyd at yr argymhellion o safbwynt sicrhau’r safonau uchaf posibl
ymhob cyfnod allweddol a thynnwyd sylw at yr hyn a ofynnir i GwE ei wneud ar
ran yr awdurdod addysg o ran y ddarpariaeth addysgu, strategaeth anghenion
dysgu ychwanegol a chynwysiad ac arweinyddiaeth a rheolaeth ysgolion. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau unigol: (i)
O brofiad
diweddar o Aelodau Etholedig yn cysgodi Ymgynghorwyr Her GwE, gwelwyd
tystiolaeth bod ysgolion yn derbyn llawer o gymorth a chefnogaeth gan GwE. Nodwyd ymhellach bod y profiadau wedi bod yn
fuddiol iawn i Aelodau ac i uchafu eu dealltwriaeth o waith a threfniadaeth GwE
(i)
Drwy fynd oddi wrth ddefnyddio’r gair “herio”
gwelir bod ysgolion yn barod i gydweithio a nodwyd pwysigrwydd parhau i wella’r
berthynas rhwng GwE a’r ysgolion (ii)
Bod
athrawon y sir i’w llongyfarch am y safonau da. Gofynnwyd am elgurder ar
rai o’r pwyntiau isod ac sydd angen sylw pellach ac ymatebodd y Pennaeth Addysg
iddynt: (iii)
Croesawyd yr adroddiad cynhwysfawr gerbron a
chanmolwyd y cynnydd a wnaed ond pryderwyd bod rhai ysgolion yn y
category coch a gofynnwyd pa gamau a wneir i gefnogi’r ysgolion hyn? ·
Bod
diwylliant yr adroddiad gerbon yn adnabod cryfderau a hefyd yn adnabod lle i wella ac o ran y broses, fel y byddir yn
datblygu gellir mynd i’r rafael a’r materion hynny lle mae angen gwella. Gwelir yma ganfyddiadau fydd yn ffurfio
manyleb ar gyfer cynllun busnes rhwng yr awdurdod a GwE ar gyfer y flwyddyn i ddod ·
Bod yr adroddiad yn adnabod cryfderau’r Gwasanaeth ac yn gosod sail
gadarn i weithio fel Tim ac mewn partneriaeth.
Nodwyd ymhellach bod Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn wedi ychwanegu gwerth
drwy herio a chraffu’n effeithiol. · Beth bynnag fydd y drefn bydd wastad ysgolion da, ac ysgolion sydd angen fwy o gefnogaeth a nodwyd bod gweithdrefnau yr awdurdod a GwE wedi bod yn dda yn hyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Aelod Cabinet: Y Cyng.
Gareth Thomas I ystyried adroddiad ar yr uchod. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad ar ganfyddiadau’r
adolygiad a gomisiynwyd o drefniadau gweithredu GwE. Esboniodd y Pennaeth Addysg bod ymadawiad
Rheolwr Gyfarwyddwr blaenorol GwE wedi cynnig cyfle i adolygu effeithiolrwydd a
chysondeb yr arfer bresennol o ran gwella ysgolion y rhanbarth a hefyd i
ymchwilio pa mor addas i bwrpas oedd trefniadau arwain a llywodraethu. O’r dystiolaeth gwelwyd bod: ·
Aneglurder o ran
cyfeiriad strategol GwE ·
Strwythur atebolrwydd
presennol ar lefel swyddogion yn aneglur ·
Anghysondeb ym
mherfformiad awdurdodau unigol ·
Angen newid y model
presennol ar gyfer y sector uwchradd i ffocysu ar CA4 ·
Asesiadau athrawon yn
anghyson ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol ·
Angen strategaeth glir
ar gyfer gweithio gyda’r sector Ysgolion Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion Mewn ymateb i ymholiadau gan Aelodau unigol,
nododd y Pennaeth Addysg fel a ganlyn: ·
Bod rhai prosesau o ran
yr argymhellion yn rhwydd i’w cyflawni ac mai’r gwaith mwyaf ydoedd mynd i’r rafael â’r anghysondebau ·
Nodwyd bwysigrwydd i
rannu arferion da o awdurdod i awdurdod.
·
O ran capasiti GwE, byddai’n rhaid ystyried beth fyddai angen i
gefnogi ysgolion a rhaid i’r awdurdodau lleol sicrhau tim
o unigolion sydd yn gallu cyflawni blaenoriaethau. ·
O safbwynt y tymor hir,
ni ragwelir y byddir yn creu un gwasanaeth ar draws y 6 awdurdod Penderfynwyd: Derbyn, a
diolch am yr adroddiad a dymuno’n dda i’r Pennaeth Addysg i’r dyfodol yn ei
swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr GwE. |
|
YMCHWILIAD CRAFFU I DDARPARIAETH GOFALWYR PDF 201 KB Aelodau Cabinet: Y
Cyng. W. Gareth Roberts Y Cyng. Mair Rowlands I dderbyn adroddiad
terfynol yr Ymchwiliad Craffu i ddarpariaeth gofalwyr. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu i’r ddarpariaeth Gofalwyr ac fe
gymerodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd R H Wyn Williams, y cyfle i
ddiolch i’r aelodau a swyddogion canlynol am eu cyfraniad i’r adroddiad
cynhwysfawr gerbron: Y Cyng. E. Selwyn
Griffiths Y Cyng. Siân Wyn
Hughes Y Cyng. Linda Ann
Wyn Jones Y Cyng. Eryl
Jones-Williams Y Cyng. Ann
Williams Y Cyng. Eirwyn
Williams Gareth James –
Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu Bethan Adams –
Swyddog Cefnogi Aelodau Ymhelaethodd y
Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu bod y gwaith ymgymerwyd gan yr Ymchwiliad
yn waith cryno ond er hynny yn cynnwys llawer o wybodaeth defnyddiol. Tynnwyd sylw RRbod
227 o unigolion wedi ymateb i holiadur manwl ac fod hyn yn gymorth i roi hygrededd
i ganfyddiadau’r Ymchwiliad. Nodwyd bod
cyfraniad oddeutu 20 unigolyn a gyfwelwyd wedi bod yn werthfawr iawn a bod yr
Ymchwiliad yn croesawu’r cyfle i gydweithio gyda’r Weithrediaeth
o ran datblygu polisi a fydd yn cyfrannu at wella’r ddarpariaeth ar gyfer
gofalwyr yn y Sir. Mewn ymateb,
diolchodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc am y gwaith gyflawnwyd gan yr
Ymchwiliad ac fe nododd y prif bwyntiau canlynol (i)
Nad oedd yn hollol eglur
os oedd pob un o’r argymhellion yn cael eu cyfeirio at 2 Aelod Cabinet sef
Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc ac Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant.
(ii)
O safbwynt argymhelliad
1 tra’n cytuno bod llawer o waith i’w gyflawni nodwyd bod gwaith yn cael ei
wneud i geisio adnabod y gofalwyr cudd. (iii)
Yng nghyd-destun
argymhelliad 4, nodwyd bod angen sylw o ran cael y darlun ehangach ond
cwestiynwyd a fyddai comisiynu gwaith yn cyflawni hyn. Hyderir y gellir
rhannu / hyrwyddo gwybodaeth yn fwy effeithiol a thrwy hyn y byddai gennym well
trefniadau ar gyfer adnabod y gofalwyr. (iv)
O ran ymgysylltu â phawb
ac yn enwedig rhieni plant anabl, nodwyd bod angen mwy o waith yn hyn o
beth. Amlygwyd y
pwyntiau ychwanegol isod gan Aelodau unigol: ·
Er bod yr ymchwiliad
wedi ei gyflawni mewn cyfnod byr, croesawyd mwy o ymchwiliadau o’r fath i’r
dyfodol. ·
Pryderwyd am y toriadau
i wasanaeth cerbydau i gario unigolion am ofal ysbaid
a nodwyd enghraifft megis Cartref Preswyl Plas Pengwaith,
Llanberis. ·
Sicrhau bod y gwasanaeth
yn ddwyieithog ac oni fyddai’n berthnasol i Bwyllgor Iaith y Cyngor ymgymryd âg ymchwiliad pellach yn hyn o beth. ·
Diolchwyd i’r Adran am y
gwariant ar gyfer estyniad yn Llys Cadfan, Tywyn ar gyfer gwasanaeth gofal dydd
ac ysbaid. ·
Dylid cydweithio’n agos
gyda Cholegau lleol i hyrwyddo gyrfa ym maes gofal. ·
Bod ymyrraeth buan yn
holl bwysig ac y dylid cydweithio mewn partneriaeth gyda asiantaethau /
awdurdodau fel y gellir cyflwyno dadleuon ar y cyd
i’r Llywodraeth i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i ymateb i
sefyllfaoedd. Mewn ymateb
i rai o’r sylwadau uchod, nododd y
Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant: (a) Bod yr Adran wedi edrych ar ddefnydd effeithiol y fflyd cerbydau a thrwy wneud hyn darganfuwyd nad oedd parhau defnyddio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |