Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Alan Jones Evans, E. Selwyn Griffiths, Siân Wyn Hughes, Dewi Owen, Peter Read, Mair Rowlands (Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc), Neil Foden a David Healey (Undebau
Athrawon) a
Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I ddatgan unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. . Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2015. Atgoffodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd am yr angen i’r
Pennaeth Addysg gyflwyno adroddiad
ysgrifenedig i’r Pwyllgor Craffu hwn yn deillio
o’r cofnod yn y cyfarfod diwethaf
dan y pennawd Materion Brys – Targed Arbedion Ysgolion. |
|
STRATEGAETH LLETYA POBL HYN PDF 289 KB Aelod Cabinet: Cyng. W. Gareth Roberts I ystyried adroddiad Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd ar yr
uchod. 10.00 a.m. – 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynwyd adroddiad gan yr
Aelod Cabinet Oedolion ac Iechyd ynghyd a strategaeth drafft lletya pobl hŷn
a thynnwyd sylw ganddo i brif flaenoriaethau’r strategaeth sef: ·
Cefnogi unigolion i aros yn eu
cartrefi cyn hired â phosib ·
Canfod ardaloedd daearyddol penodol ble mae’n debygol
y bydd galw uchel ·
Sicrhau lletya addas i bobl hŷn ·
Sicrhau bod pobl hŷn Gwynedd yn ymwybodol o’r opsiynau
lletya sy’n bodoli o fewn y Sir a bod gwybodaeth hygyrch ar gael (b) Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr
Tai at nod y strategaeth
sy’n gosod cyfeiriad o ran anghenion y boblogaeth. Edrychwyd ar ardaloedd
penodol a’r gwasanaeth sydd ar gael yn
barod. Atgoffwyd y Pwyllgor o’r heriau a wyneba’r
Cyngor ynghyd a’r twf yn y boblogaeth. Gwelir twf yn y boblogaeth
85+ gyda chanran uchel ohonynt yn
byw ar ben eu hunan ac yn
ddibynnol ar ofal cymdeithasol. Ymddengys os yw’r llety
yn addas ar gyfer unigolion
eu bod yn gallu aros yn
eu cartrefi gyda’r gost yn
llai i’r gwasanaeth. Ystyriwyd tueddiadau ac fe welwyd bod diffyg darpariaeth mewn rhai ardaloedd yn enwedig y cymunedau
arfordirol. Yn ogystal, nodwyd
bod twf sylweddol yn y cleifion gyda
dementia a bod hyn yn creu pryderon i’r
dyfodol ac fe geisir cael cydbwysedd
rhwng y ddarpariaeth sy’n bodoli a’r
hyn fydd ei angen i’r
dyfodol. Adnabuwyd 8 ardal o safbwynt pwysau o ran y boblogaeth ac fe welwyd mewn
rhai ardaloedd bod y boblogaeth yn hŷn,
rhai pobl ifanc yn symud
allan, a bod y patrwm mewnlifiad erbyn hyn yn weddol
gyson. O safbwynt yr 8 ardal,
ystyriwyd y math o ddarpariaeth
fyddai’n briodol ac a fyddai’n cwrdd â’r angen yn
llawn. Byddir yn edrych ar
y rôl sector preswyl i’r dyfodol gan
fod mwy o welyau preswyl / nyrsio na darpariaeth
tai gwarchod. (c) Nododd y Rheolwr Strategol Tai bod goblygiadau tymor hir ac ariannol i’r strategaeth ac y byddai’n rhaid ystyried partneriaeth gyda chymdeithas tai a fyddai yn ei
dro yn ddibynnol
ar grantiau, a.y.b. (ch) Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu’r strategaeth ac fe amlygwyd y pwyntiau
canlynol: ·
Paham na all y Cyngor ystyried cofrestriad deuol yn enwedig
gan fod y Bwrdd Iechyd / AGGCC yn gefnogol? ·
Pryder ynglŷn â lleihad mewn nifer
o welyau preswyl traddodiadol gyda’r gwelyau bellach wedi eu trosglwyddo
i’r Bwrdd Iechyd ac o ganlyniad nad oes lle
i bobl leol ym Mlaenau Ffestiniog
yn benodol, ac nad oes tir
ar gael i sefydlu tai gwarchod ychwanegol yno ar gyfer anghenion
y bobl leol. ·
Pryder pan fo cartrefi preswyl preifat yn cau,
bo’r cyfrifoldeb yn syrthio ar
y Cyngor i gadw’r cartref yn agored hyd
nes y gellir adleoli defnyddwyr y cartref · Bod yr ardaloedd a bennir yn y strategaeth yn rhai sydd o dan bwysau enfawr gyda phobl yn symud i mewn iddynt i ymddeol ac oni ddylai’r strategaeth gyfeirio at gydnabyddiaeth ariannol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
TROSOLWG PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015-16 (CHWARTER 2) - GOFAL PDF 396 KB Aelod Cabinet: Cyng. W. Gareth Roberts I ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ar yr uchod.
10.45 a.m. – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ymateb i gwestiynau
a godwyd gan Aelodau yn dilyn derbyn
Adroddiad Trosolwg o berfformiad y Cyngor Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe ymatebwyd iddynt gan y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant fel a ganlyn: (a) bod gofynion newydd mewn perthynas â dyletswyddau lles ond nad oedd
dim byd pendant wedi ei dderbyn gan
y Llywodraeth hyd yma. Bydd rhaid ymgymryd
á’r dyletswyddau o fewn adnoddau presennol
ac y byddai’n rhaid cydymffurfio a’r ail-strwythuro ehangach o fewn yr Adran. Hyderir y byddir yn penodi
Rheolwr Llesiant o fewn y mis nesaf. (b) mai oddeutu 20 o fyfyrwyr y flwyddyn sydd yn mynychu’r
cwrs MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mangor. Bu i’r
Adran hysbysebu am staff yn ardal Meirionnydd yn ddiweddar ac roedd yr ymateb
yn dda. (c) Eglurwyd ar y bwriad
o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o Her Gofal ac y byddir fel cam cyntaf yn arbrofi
gyda Chyngor Tref ac yna yn ddibynnol
ar yr ymateb
gellir penderfynu ar raglen waith
ehangach i gwrdd â grwpiau penodol. Nodwyd bod apêl i ymweld ag ardal Penllyn lle
mae 5 o Gynghorau Cymuned yn cydweithio
a’i gilydd. Sicrhawyd y byddir yn codi
ymwybyddiaeth
Aelodau Lleol o’r ymweliadau arbrofol fel eu bod yn
ymwybodol os oes unrhyw ymweliadau
yn eu hardal. (ch) addawyd y byddir yn cylchredeg ffigyrau
i’r Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones o’r nifer sydd
ar restr aros y Gweithwyr Cymdeithasol (a)
Bod llawer iawn o waith ymchwil
wedi ei wneud
parthed llwybrau gyrfaoedd, ond bod llawer iawn o waith
eto i’w gyflawni. Cydnabuwyd ei bod yn anodd
recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol a gweithwyr gofal mewn ardaloedd
gwledig a bod rhai o’r darparwyr allanol
yn recriwtio gweithwyr gofal o dramor. Fodd bynnag, sicrhawyd
bod llawer o ymdrech wedi cael ei
wneud i gysylltu á’r Colegau Addysg Bellach i godi proffil o ran y cyfleoedd ond nad oedd
gofal yn yrfa yn atyniadol
o safbwynt y cyflog. Rhaid rhoi mwy
o sylw i sicrhau bod unigolion yn adnabod
y maes yn fuan a bod cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ymhellach. Cadarnhawyd bod llawer iawn yn
cael ei wneud
ar lefel broffesiynol er mwyn datblygu unigolion
yn eu gyrfa. Cydnabuwyd bod strwythurau hyfforddi rhai darparwyr allanol yn ymddangos
yn gryfach nag eraill. Nodwyd efallai y dylai’r Cyngor ystyried gosod cymalau pendant mewn contractau er mwyn
sicrhau elfen o fuddsoddiad i ddatblygu llwybrau gyrfa. (dd) O safbwynt y toriadau bod y prif elfennau o ran effaith wedi cael eu cyflwyno a bod rhai ohonynt yn mynd i gael effaith ar y gwasanaeth megis effaith ar ymweliadau ac asesiadau amserol, a.y.b. ac yn golygu dewisiadau anodd. Fodd bynnag, o wneud yr ymdrech i gael gwared â gwastraff, hyderir y bydd yr effaith yn llai ar unigolion ond y byddir yn arafach o ran ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Aelod Cabinet: Cyng. W. Gareth Roberts I ystyried
adroddiad mewn ymateb i adroddiad gwerthuso perfformiad yr Arolygaeth Goal a Gwasanethau Cymdeithasol (AGGCC).
11.30 a.m. – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd Rhaglen
Waith a luniwyd mewn ymateb i Adroddiad Gwerthuso Perfformiad 2014/15 yr
Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rhoddwyd cyfle i
Aelodau graffu’r rhaglen waith ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol ganddynt ac
fe ymatebwyd iddynt gan y swyddogion perthnasol: (a) teimlwyd bod y
materion dan sylw yn rhai a drafodwyd eisoes ac nad oedd cynnydd o ran amserlen Eglurwyd bod y rhaglen
waith yn ymateb yn benodol i’r hyn a ofynnir gan yr Arolygaeth. Derbyniwyd y sylw ei fod yn ymddangos bod
arafwch dros y misoedd diwethaf ond
roedd hyn am resymau penodol a’r ffaith bod staff yn gorfod edrych ar ffurf
eraill o weithio. Ategodd Aelod bod
2/3 prosiect wedi bod yn araf ond roedd hyn yn ddibynnol ar
benderfyniadau. Rhaid cofio bod llawer
o’r newidiadau yn newid ymwneud â diwylliant i’r Adran ond byddir yn croesawu
amserlen sy’n nodi dyddiadau penodol yn y cynllun gweithredu. (b) Pam bod yr Arolygaeth yn mynd o amgylch
mudiadau / unigolion ar hyn o bryd? Eglurwyd bod yr
Arolygaeth wedi dewis Gwynedd fel un o 6 awdurdod ar draws Cymru sydd yn derbyn
archwiliad ar wasanaeth anableddau dysgu yn benodol a’u bod angen trafod hefo mudiadau / teuluoedd ac
unigolion. (b) Beth sydd wedi digwydd i drigolion Cartref
Plas y Bryn, Bontnewydd? Esboniwyd bod y
Cyngor a’r Bwrdd Iechyd wedi trefnu i
adleoli trigolion cartref Plas y Bryn i
wardiau penodol mewn ysbytai ac i leoliadau ar draws Gogledd Cymru yn ddibynnol
ar y gofal roeddynt angen. Yn ogystal
roedd rhai wedi symud i gartref Bryn Seiont Newydd. Mewn ymateb bellach i sylw ynglyn a ffioedd
Bryn Seiont, bod gwaith negodi wedi digwydd rhwng y Cyngor, y Bwrdd Iechyd a’r
cartref ynglyn a ffi safonol am unigolion sydd yn cael eu lleoli yno. (ch) Bod y
sefyllfa o gau Cartref Bryn Llifon yn broses wahanol ac yn ymwneud a hyfywdra
ariannol a phroblem recriwtio staff. (d) O safbwynt
morâl staff yr Adran, cadarnhaodd y Pennaeth ei fod o’r farn ei fod yn isel ond rhaid cofio bod yr Adran
yn mynd drwy newidiadau sylweddol o ran diwylliant, ffurf a phrosesau gwaith
gyda’r ail-strwythuro yn creu ansicrwydd i staff. Hyderir, unwaith y bydd eglurder o’r
newidiadau, y byddir yn gallu symud ymlaen ac y bydd morâl yn gwella. O ran amserlen ac o gofio bod y newidiadau ar
raddfa sylweddol, rhagwelir y byddai’r sefyllfa yn cymryd oddeutu 12-15 mis i
setlo. (dd) awgrymir y byddai’n fanteisiol i enwebu 2 neu
3 aelod o blith y Pwyllgor Craffu hwn i gynorthwyo gyda llunio briff i’r
cynllun strategol o safbwynt trefniadau cymorth i ofalwyr. (e) Pwysigrwydd i gadw golwg a rhoi sylw i
gefnogi gofalwyr ac o gofio bod rhai
ohonynt yn blant ysgol yn enwedig pan fo unigolion yn cael eu hanfon o ysbytai heb
dderbyn asesiad. (f) Mynegwyd pryder gan aelodau, o ystyried y
toriadau arfaethedig, na fyddai’r Adran yn gallu ymdopi a holl ofynion y Ddeddf
Llesiant ac y byddai’r Cyngor yn cael ei roi mewn sefyllfa o fesurau arbennig. |
|
PANEL RHIANT CORFFORAETHOL I ethol
aelod i wasanaethu ar y Panel Rhiant Corfforaethol i olynu y Cyng. Elin Walker
Jones yn dilyn ei ymddiswyddiad diweddar o’r Panel. 12.15 p.m. – 12.25 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Siân Wyn
Hughes i wasanaethu ar y
Panel Rhiant Corfforaethol
i olynu’r Cynghorydd Elin Walker Jones yn dilyn ei
ymddiswyddiad diweddar o’r Panel. |