Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Elin Walker Jones a Peter Read. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd eitemau brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion o’r Pwyllgor
hwn a gyn haliwyd ar 26 Mai 2016, fel rhai cywir.
(Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 26 Mai 2016. |
|
TROSOLWG PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015-16 - MEYSYDD PLANT A PHOBL IFANC A GOFAL PDF 411 KB Aelodau Cabinet : Y Cynghorwyr Mair Rowlands, Gareth
Roberts, Gareth Thomas (a)
I
ystyried adroddiad Arweinydd y Cyngor. (Copi’n amgaeedig) (b)
I
dderbyn ymateb i gwestiynau craffu penodol: (i)
Ymateb gan yr Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden
(Gweler Atodiad
1 a 2) (ii) Ymateg gan yr Aelod
Cabinet Addysg (Gweler Atodiad 1) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd: (a)
Trosolwg o berfformiad y
Cyngor hyd yma ym maes Plant a Phobl Ifanc a Gofal ac sy’n cyfarch y cynlluniau
trawsnewidiol sydd yng nghynllun strategol y Cyngor. (b)
Ymatebion ysgrifenedig
yr Aelodau Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden a’r Aelod Cabinet Addysg i
gwestiynau penodol gan Aelodau’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau. (i)
Cymerwyd y cyfle i
longyfarch Aled Davies ar ei benodiad i’r swydd o Bennaeth Adran Oedolion a
Llesiant yn barhaol a dymunwyd yn dda iddo i’r dyfodol. (ii)
Yn deillio o gynnwys yr
adroddiad a chwestiynau ar lafar,
ymatebwyd fel a ganlyn: ·
Cydnabyddai'r Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc y
gwelwyd dirywiad yn y canrannau addysg bersonol
i blant mewn gofal ond roedd yn hyderus bod y problemau wedi eu datrys o
ran prosesau gyda pherthynas rhwng yr Adran Addysg a’r Gwasanaeth Cymdeithasol
yn dda a rhagwelir y bydd cynnydd yn y targed erbyn blwyddyn nesaf. ·
O safbwynt cynnydd yn y nifer o waharddiadau
parhaol yn ysgolion cynradd, eglurodd yr Aelod Cabinet Addysg yn dilyn gorfod
cau uned arbenigol yn y Felinheli oherwydd materion diogelwch, roedd yn
ffyddiog y byddai’r nifer o waharddiadau yn gostwng gan fod trefniadau amgen
wedi eu rhoi mewn lle o fewn ysgolion i gynnal y disgyblion gydag ymddygiad
dwys ac emosiynol. Sicrhawyd y byddir yn
ceisio lleihau’r niferoedd a waharddir. Nodwyd
ymhellach bod ysgolion wedi gallu ymdopi yn dda iawn ar ôl cau’r uned ac
roeddynt i’w canmol am y gwaith a wneir gyda’r plant. ·
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â chefnogaeth i
ddisgyblion 3*, esboniodd yr Aelod Cabinet Addysg o ganlyniad i newidiadau yn y
ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad bod llawer o bwyslais ar
ymyrraeth gynnar ac o ganlyniad fe fydd pob plentyn yn derbyn cynllun unigol. ·
Mewn ymateb i bryder amlygwyd yng nghyd-destun
gostyngiad yng nghyllideb y gwasanaethau ataliol ac yn benodol y Tîm o Amgylch
y Plant, esboniodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc bod y Grŵp Tasg Amlasiantaethol yn ystyried ffrydiau o waith penodol ac yn
cael eu hariannu gan grant. Ategodd y Pennaeth
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd bod yr arian yn parhau gydag ychydig o
ostyngiad a bod cyfeiriad a’r weledigaeth yn newid o ran mynediad i’r
ddarpariaeth yn unol â’r anghenion sydd wedi eu
hadnabod dros y cyfnod diwethaf. Nodwyd
ymhellach bod y strategaeth ataliol wedi adnabod bylchau yn seiliedig ar
anghenion lleol yn y meysydd isod: o Oediad llefaredd
ac Iaith o Rhiantu o Ymddygiad o Mynediad i wasanaeth iechyd meddwl ar lefel
isel i blant a phobl ifanc ac oedolion Cytunodd y Grŵp
Tasg ar y ffordd ymlaen gan lunio rhaglen weithredu ar gyfer comisiynu’r
gwasanaeth i’r dyfodol. Cydnabuwyd bod
risgiau o safbwynt lleihad i’r prosiectau i’r dyfodol. ·
Nodwyd bod y Pwyllgor
Craffu Gwasanaethau yn gefnogol i’r gwasanaeth ataliol uchod a gofynnwyd i’r
Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc gyfleu ddymuniad y Pwyllgor i sicrhau bod
unigolion yn derbyn y gefnogaeth haeddiannol.
· Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglyn a chodi ymwybyddiaeth rhieni o’r trefniadau diogelu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Aelodau Cabinet: Y Cyng. Gareth
Roberts I dderbyn adroddiad ar yr uchod.
(Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau anableddau dysgu yng
Ngwynedd, adolygiad o’r trefniadau i fedru gwireddu’r
weledigaeth ynghyd a gwybodaeth am brif ganfyddiadau’r arolygiad a chynllun
gweithredu. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i sylwadau'r Aelodau fel a ganlyn: ·
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn
a’r gwaith o ddatblygu cysylltiadau strategol ar y cyd rhwng gwasanaethau
iechyd a chymdeithasol, esboniodd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
bod y gwaith ar lefel rhanbarthol yn symud ymlaen ac yn adrodd i’r Pwyllgor
Craffu Gwasanaethau fel rhan o’r broses cyn ei gyflwyno i’r Llywodraeth. ·
Mewn ymateb i bryder amlygwyd gan y Cyng. Linda Ann
Wyn Jones o leihad yn y nifer o weithwyr cymdeithasol, addawodd y Pennaeth
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y byddai’n ceisio cael gwybodaeth i’r Aelod
o’r strwythur yn cynnwys nifer o weithwyr cymdeithasol a fodolai 4 blynedd yn ôl. Nodwyd ymhellach wrth edrych ar strwythurau
blaenorol a’r rhai presennol rhaid cadw mewn cof sut mae’r gwasanaeth wedi
datblygu a gorfod ymdopi gyda newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg, a.y.b. ·
Nodwyd bod mynychu hyfforddiant Amddifadu o ryddid (DoLs) wedi bod yn agoriad llygaid ac fe nodwyd pryder
enfawr ynglyn a diffyg aseswyr a bod oddeutu 200 o
achosion yn disgwyl ar restr aros a phryderwyd y gall hyn gostio
oddeutu £1,000 yr wythnos i’r Cyngor ·
Mewn ymateb i’r uchod, esboniodd y Pennaeth Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant bod y Cyngor wedi cymryd camau i roi arian unwaith
ac am byth i ymdrin â’r achosion ar y rhestr aros,
ond y tebygolrwydd ydoedd y byddai’n rhaid cyflwyno cais am gyllideb barhaol i
ymdrin â’r rhestr aros. Cadarnhawyd bod cydlynydd wedi ei phenodi
ynghyd a threfniadau mewn lle i
hyfforddi gweithwyr cymdeithasol i fod yn gymwys i ymdrin á’r achosion. Ar hyn o bryd credir bod o leiaf 13 o swyddogion wedi eu hyfforddi i wneud
asesiadau ac anelir i geisio hyfforddi 20 dros gyfnod
o amser. Roedd y mater yn derbyn sylw
pellach a thrafodaeth gyda’r Aelod Cabinet perthnasol o ran ceisio rhoi
strwythur yn ei le ar gyfer ymdrin â materion Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd yn
ehangach. Tra’n cydnabod bod risgiau yn gysylltiedig gyda’r gwaith yma, rhaid
bod yn ofalus i beidio gorymateb heb wybod beth yw’r
darlun cyflawn a natur y gymhariaeth gydag awdurdodau eraill. ·
Mewn ymateb i bryder wnaed gan Aelod ynglyn a sicrwydd bod cyllid digonol ar gyfer yr asesiadau,
nododd y Rheolwr Sirol Anableddau Dysgu, er bod mwy o unigolion yn derbyn
asesiadau a mwy o bwysau ar weithwyr, bod y dull asesu wedi newid yn unol â’r Ddeddf Iechyd a Llesiant a bellach bod mwy o bwyslais
ar waith arbedol a deilliannau ac yn awr yn darparu gwasanaethau mewn dull mwy credigol. Nodwyd
pwysigrwydd yn rôl y trydydd sector a’r angen i’r gwasanaeth sicrhau dilyniant
i gyfarch anghenion a datblygu cyfleon unigolion megis drwy raglen OPUS,
a.y.b. · Yng nghyswllt sefydlu Uned Diogelu ar gyfer gwasanaethau oedolion, cadarnhawyd bod swydd ychwanegol wedi ei hysbysebu ac fe gyflwynir bid ariannol i gryfhau’r Tîm er ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DATBLYGIAD Y SWYDDFEYDD ARDAL PDF 222 KB Aelod Cabinet: Y Cyng.
Gareth Thomas I dderbyn adroddiad ar yr uchod.
(Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu’r bwriad o
ddatblygiad y Swyddfeydd Ardal. (a) Gosododd yr
Aelod Cabinet gefndir i’r bwriad drwy nodi bod arbenigwyr yn y maes addysg wedi
nodi bod arweinyddiaeth yn bwysig i gynnal safonau addysg. Nodwyd bod arweinyddion
ysgolion o dan bwysau sylweddol drwy orfod rheoli staff, adeiladau, gweinyddu,
arwain yr addysgu o fewn yr ysgol, ac mewn rhai achlysuron yn dysgu. Prif bwrpas datblygu Swyddfeydd Ardal fyddai
i fedru tynnu rhywfaint o faich oddi ar arweinyddion ysgolion er mwyn galluogi
athrawon i addysgu ac i Benaethiaid arwain. Tynnwyd sylw y byddai’r swyddfeydd ardal arfaethedig yn wahanol i’r
swyddfeydd ardal a fu yn y gorffennol a’r prif nod ydoedd hybu cydweithio rhwng
ysgolion ar nifer o lefelau. (b) Nododd y
Pennaeth Addysg bod mwy o bwyslais ar ranbartholi
gwasanaethau'r dyddiau hyn ac fel gwasanaeth addysg nid oeddynt yn awyddus i
bellhau’r gwasanaeth oddi wrth yr unigolion.
Wrth fod gofynion y tair ardal yng Ngwynedd yn
dra gwahanol, nodwyd pwysigrwydd i greu cyfundrefn sy’n atebol yn lleol ac i
sicrhau'r math cywir o adnoddau. Dros y blynyddoedd
roedd mwy o bwysau wedi ei roi ar yr ysgolion a thrwy sefydlu Swyddfa Ardal
rhagwelir y gellir tynnu’r elfennau o weinyddiaeth a
rheolaeth drwy gyfundrefn lle gall athrawon rannu cyfrifoldeb dros fwy nag un
safle. Nodwyd bod Penaethiaid yn
teimlo'r pwysau yn drwm yn enwedig mewn ysgolion gwledig a lleiaf ac yn sgil y
toriadau o £4.3m yng nghyllideb ysgolion byddai’r strwythur arfaethedig yn
sylfaen o ran cefnogaeth ac yn galluogi athrawon a Phenaethiaid i ganolbwyntio
ar addysgu plant. (c) Derbyniwyd
amlinelliad o’r strwythur gan y Swyddog Addysg Ardal a oedd yn cynnwys
is-grwpiau, sef ail-sefydlu Bwrdd Ansawdd Sirol a fyddai’n goruchwylio materion
yn ymwneud a lles, diogelu a gwella ansawdd addysg. Yn ogystal, er mwyn sicrhau atebolrwydd
lleol, bwriedir sefydlu Pwyllgor Craffu Ardal er mwyn creu partneriaid yn lleol
i gynnwys Swyddog Ardal / Swyddog Busnes a Gwasanaethau, Ymgynghorydd Her
Ysgol, Pennaeth, Cadeirydd Llywodraethwyr a dau aelod etholedig er mwyn medru
craffu ar thema benodol yn lleol. Nodwyd bod
llywodraethwyr yn greiddiol i lwyddiant ysgol ac er mwyn hybu cydweithrediad
strategol bwriedir sefydlu Bwrdd Strategol Dalgylch i gynnwys Cadeiryddion
cyrff llywodraethol y dalgylch a
fyddai’n cwrdd dwywaith y tymor ar gyfer cynnal hyfforddiant, trafod cynlluniau
datblygu dalgylchol mewn meysydd penodol er mwyn
tynnu baich gwaith oddi ar unigolion mewn sefydliadau ar wahân. Hyderir y byddai
hyn yn cryfhau perthynas agosach ac atebolrwydd lleol er mwyn hyrwyddo safonau
addysg yn yr ysgolion. Byddai’r uchod yn atebol i’r Tim Rheoli
Addysg. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y prif bwyntiau canlynol gan
Aelodau unigol: (a)
Bod y strwythur yn
ymddangos yn gymhleth ac yn creu haen arall o weinyddiaeth. (b)
Tra yn croesawu newid,
gofynnwyd sut yr ariannir y strwythur newydd yn enwedig yn yr hinsawdd o
doriadau sydd ohoni Mewn ymateb, nodwyd bod cyllid wedi ei gymeradwyo am y 3 blynedd gyntaf gyda buddsoddiad unwaith ac am byth. Wedi hynny byddai’n ofynnol i’r gyfundrefn addysg ganolog fedru ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CANLYNIADAU ARHOLIADAU HAF 2016 PDF 613 KB Aelod Cabinet: Y Cyng. Gareth Thomas I dderbyn adroddiad ar yr uchod.
(Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn amlinellu gwybodaeth
gynnar ar berfformiad diwedd cyfnodau allweddol y flwyddyn addysgol 2015/16. (a)
Pwysleisiodd y Pennaeth Addysg bod angen
parchu cynnwys yr adroddiad gan mai gwybodaeth gychwynnol amodol am ganlyniadau
CA4 a rannwyd gan nad oedd mynediad hyd yma at ddata cymharol a meincnodol ar gyfer pob cyfnod allweddol. (b)
Nodwyd bod y canlyniadau
yn dda yng Ngwynedd a thynnwyd sylw yn benodol at y
canlynol: ·
gwelwyd gwelliant sylweddol yng Nghyfnod Allweddol
4 ar draws ystod y dangosyddion ·
Bod canlyniadau CA3 yn
parhau yn gadarn (yn yr ail safle eleni) ·
Bod canlyniadau Cyfnod Sylfaen / Cyfnod Allweddol 2
yn weddol sefydlog ac angen ymgymryd â darn o waith o ran y trothwyon yn yr
oedrannau yma i ganfod arferion da, cymhariaeth gydag ardaloedd de ddwyrain
Cymru, asesiadau athrawon, a.y.b. ·
Bod angen rhoi sylw i
CA3/CA4 ym meysydd Cymraeg, Saesneg a
Mathemateg ·
Angen gwella ansawdd y
ddarpariaeth a safonau cyflawniad yn CA5
·
Bod presenoldeb wedi
gwella’n sylweddol yn CA4 ac roedd y Pennaeth Addysg yn ddiolchgar i’r ysgolion
a’r gwasanaeth addysg am y gefnogaeth sydd yn cael ei adlewyrchu yn y
canlyniadau (c)
Ategodd yr Aelod Cabinet
Addysg ganmoliaeth a gwerthfawrogiad i staff ysgolion a’r swyddogion canolog yr
Adran Addysg am eu gwaith caled mewn cynnal y perfformiad a chyfeiriodd yn
benodol at fesurydd TL2+ (68.5%) a oedd yn gynnydd o 5% ar berfformiad 2015 ac
sydd wedi gwella 13.5% ers cychwyn y Cyngor hwn. (ch) Mewn
ymateb i ymholiadau gan Aelodau unigol,
nodwyd: ·
bod y berthynas gyda GwE
wedi aeddfedu dros y 2 flynedd diwethaf a bod modd trafod anghenion penodol
lleol i Wynedd drwy’r cynllun
busnes e.e. gwnaed penodiad newydd ar gyfer Mathemateg yn CA4 sydd wedi bod yn
llwyddiant ·
Gellir cynnal trafodaeth am natur y gefnogaeth sydd ei angen yn lleol a
hyderir y bydd yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth i’r canlyniadau ·
Bod canlyniadau arolygiadau
Gwynedd wedi gwella’n sylweddol Penderfynwyd: Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. |