Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr Linda Ann Wyn Jones, Peter Read, ac R H Wyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams fuddiant personol yn Eitem 7 – Ymchwiliad Gweithwyr Gofal, Iechyd a Gofalwyr
ond ni fyddai’n gadael y Siambr oni bai bod trafodaeth benodol ynghylch
gofalwyr yn ystod trafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 27 Medi 2016, fel rhai cywir. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 27 Medi 2016. |
|
Aelod Cabinet: Y Cyng.
Gareth Thomas I dderbyn adroddiad gan GwE mewn ymateb
i ymholiadau penodol gan y Pwyllgor Craffu. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Ymgynghorydd Her a Chefnogaeth GwE yn
ymateb i ymholiadau penodol gan aelodau’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau. Nododd yr Aelod Cabinet Addysg bod y berthynas rhwng GwE a’r awdurdod yn
hynod bwysig ac roedd yn ymfalchïo yn y gwaith a wneir drwy’r
Sir ac yn y ffaith nad oedd ‘run ysgol yng Ngwynedd o
fewn categori statudol Gwelliant Sylweddol/Mesurau Arbennig. Gwelwyd cynnydd o 5% ym mherfformiad
disgyblion o fewn trothwy TL2+ ac ers 2012 roedd y perfformiad wedi gwella
13.5% ers cychwyn y Cyngor hwn. Eglurwyd
bod gan GwE gynllun busnes ar draws rhanbarth y Gogledd a bod gan y 6 awdurdod fanylebau benodol.
Sefydlwyd Bwrdd Ansawdd Sirol lle mae swyddogion GwE a’r awdurdodau
addysg yn trafod ysgolion unigol. Amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol ac fe dderbyniwyd ymateb
iddynt fel a ganlyn: (a)
Faint o staff ysgolion
Gwynedd sydd ar secondiad gyda GwE ar hyn o bryd? Nodwyd bod 1
Pennaeth ac 1 Dirprwy ar secondiad hefo GwE ac yn gweithredu yng Ngwynedd/Mon. Eglurodd y Pennaeth Addysg bod hysbysebu am
swyddi i GwE yn broses agored ac
oherwydd yr elfen ieithyddol a’r gofyn am ddwyieithrwydd, ‘roedd y swyddi yn
ddeniadol i staff ysgolion Gwynedd. Ni ellir gwahardd staff rhag ymgeisio am
swyddi ond ar hyn o bryd 'roedd y cydbwysedd yn eitha’
cyfartal. Nid oedd yr awdurdod addysg yn
awyddus i weld Penaethiaid yn symud i
weithio i GwE ond ar yr un pryd ei fod yn fodd o allu rhannu arbenigedd a bod
hyn yn ei dro yn gallu bod yn werthfawr.
Y broblem a wynebai’r Sir ydoedd denu arweinwyr ysgolion a rhaid
meithrin arweinwyr a sicrhau safonau gwydn i’r dyfodol. Cyfeiriwyd at enghraifft hanesyddol o golli Pennaeth Adran Mathemateg ac
o’r herwydd bod y disgyblion yn dioddef, esboniodd y Pennaeth Addysg bod diffyg
athrawon yn y pynciau craidd yn bryder ac yn deillio o gyfarfod gyda Grŵp
y Sector Uwchradd yn ddiweddar penderfynwyd: ·
Cyd-benodi athrawon yn
ganolog uwchben yr hyn sydd ei angen fel y gellir
llenwi swyddi mewn achosion o absenoldebau salwch, absenoldebau mamolaeth, a.y.b. ·
Bod Grŵp o
Benaethiaid Uwchradd yn cyd-drafod gyda Phrifysgol Bangor y math o raglen a
ddymunir ar gyfer y dyfodol. Trwy
gyd-drafod a dechrau meithrin arbenigedd disgyblion yn y 6ed dosbarth efallai y
byddai’n ymateb diffyg athrawon pynciol yn y tymor hir. (b)
A oes cynrychiolaeth o’r ysgolion yn
gwasanaethu ar y Bwrdd Ansawdd Sirol? Atgoffwyd y Pwyllgor bod y model cenedlaethol yn seiliedig ar ranbarthau
wedi ei osod ar fframwaith penodol a threfniant llywodraethu. Eglurwyd bod 6 Aelod Cabinet Addysg ar draws
y Gogledd yn gwasanaethu ar Cydbwyllgor GwE sydd yn gosod cyfeiriad strategol i
GwE a bod y cynllun busnes bellach gyda chydbwysedd yn agos i’w le ac fe welwyd
hyn o’r canlyniadau diweddar. Nodwyd bod
y Bwrdd Ansawdd Sirol yn cyfarfod pob pythefnos i drafod ac adnabod ysgolion
sydd angen cefnogaeth. Mewn ymateb i honiadau bod capasiti GwE yn mynd i leihau, nid oedd y Pennaeth Addysg yn ymwybodol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DECHRAU I'R DIWEDD - GWASANAETH PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD PDF 235 KB Aelod Cabinet: Y Cyng.
Mair Rowlands I ystyried ymatebion i sylwadau aelodau o gyfarfod paratoi a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2016. (Copi’n
amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc mewn ymateb i gwestiynau
penodol godwyd gan aelodau yn y cyfarfod paratoi ar 18 Hydref 2016. Rhoddwyd cyfle i aelodau ofyn cwestiynau pellach i’r Pennaeth Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd ac fe ymatebodd fel a ganlyn: (a)
Bod 15 o blant mewn
gofal mewn unedau preswyl ac roedd y ffigwr yma yn sylweddol llai nag sydd wedi bod yn y gorffennol. Nodwyd bod y strategaeth o ran lleihau'r
nifer o blant sydd yn mynd i leoliadau all sirol i dderbyn gofal mewn unedau
preswyl yn weddol effeithiol. Pwysleisiwyd
bod rhai o’r achosion yn anorfod. (b)
Ei fod yn anodd rhagweld
os fyddai’r ffigwr uchod yn cynyddu ond cadarnhawyd nad oedd dim achos arall
o’r boblogaeth ar hyn o bryd sydd mewn gofal yn edrych am leoliad all-sirol. (c)
Byddai'r Uned Egwyl fer
sy’n atodol i Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth, yn cynnig darpariaeth i blant
anabl sydd yng Ngwynedd ac mai’n debygol y bydd yn
cyfrannu at gynyddu gallu’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd i gefnogi
teuluoedd yn sylweddol. (ch)
O safbwynt cynlluniau i ddatblygu darpariaeth ar gyfer ambell i
sector penodol megis awtistiaeth, esboniwyd bod y mater wedi ei drafod yn y
Grŵp Penaethiaid Plant rhanbarthol.
Cydnabuwyd bod carfan o blant yn syrthio rhwng dwy stôl yn sicr rhwng y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd o ran ei
anghenion, ond nid oedd awydd gan y Grŵp i fod yn sefydlu darpariaeth isranbarthol neu ranbarthol. Bwriad a blaenoriaeth y Penaethiaid ydoedd
ceisio cefnogi’r plant yn eu cartrefi yn hytrach na sefydlu darpariaeth
breswyl. (d)
Mewn ymateb i’r ymholiad
ynglyn a fyddai modd i’r awdurdod ddatblygu
darpariaeth eu hun ar gyfer plant mewn gofal, eglurwyd mai barn y Gwasanaeth
ydoedd ni ellir darparu ar gyfer pob angen yn sirol mewn Uned Breswyl. Esboniwyd bod gofal ysbaid drwy rieni maeth
yn cael ei ddarparu trwy’r gwasanaeth cefnogol ac yn
ogystal bod modd i’r plant dderbyn cefnogaeth mewn gweithgareddau
cymunedol. Nodwyd bod Gweithwyr Cefnogol
yn gweithio o fewn y Gwasanaeth sydd yn cynnig gwasanaeth i dros 300 o
blant. Strategaeth y Gwasanaeth ydoedd
darparu ar gyfer plant a theuluoedd yn eu cartrefi. O safbwynt y 15 plentyn a leolir yn all
sirol, heblaw am 3 neu 4, nodwyd bod y plant yn destun gorchmynion llawn i’r
awdurdod sy’n golygu bod angen eu symud er mwyn eu diogelu. (e)
O safbwynt trefniadau
craffu lleoliadau newydd, ymhelaethwyd nad oedd cost i’r drefn gan mai proses a
sefydlwyd yn fewnol o fewn y Gwasanaeth ydoedd a elwir yn Banel Craffu Lleoliadau sydd yn cael ei
gynnal yn fisol. Y Pennaeth Adran Plant
a Chefnogi Teuluoedd sydd yn cadeirio’r panel ac fe wahoddir yr uwch dim rheoli
a’r rheolwyr y timau i’r panel i graffu’n fanwl ar achosion unigol gan roi sylw
i: ·
A yw’r cynllun gofal yn
addas i’r plentyn ·
Bod y plentyn yn y
lleoliad cywir ·
Bod dim oedi o ran
cynllunio ac y ceir gwerth am arian yn y lleoliad · Bod y lleoliad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
YMCHWILIAD GWEITHWYR GOFAL, IECHYD A GOFALWYR PDF 211 KB Aelod Cabinet: Y Cyng.
W. Gareth Roberts I ystyried adroddiad ar yr uchod.
(Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd briff drafft ar gyfer ymchwiliad o ba mor effeithiol ydoedd
trefniadau’r Cyngor ar gyfer cefnogi gofalwyr di-dâl, a sut orau i gefnogi a
chynyddu’r gweithlu nyrsio a gofal. Gosododd y Rheolwr Aelodau a Chraffu'r cefndir gan dynnu sylw at y briff
a’r nod o ateb y cwestiwn “pa mor gynaliadwy yw’r ddarpariaeth o ran gweithlu a
gofalwyr (gan gynnwys gofalwyr di-dâl yng Ngwynedd
heddiw ac i’r dyfodol”? Roedd 7 aelod
eisoes wedi datgan diddordeb i wasanaethu ar yr Ymchwiliad. Croesawodd yr Aelod Cabinet Oedolion Iechyd a Lles y bwriad ond mynegodd
ychydig o bryder bod ystod y gwaith yn eang o ystyried amserlen weddill oes y
Cyngor ac y byddai’n rhaid cadw ffocws os am gwblhau yr ymchwiliad o fewn yr
amser sydd ar gael. Nododd y Pennaeth Adran Oedolion Iechyd a Llesiant bod gwaith yn mynd
rhagddo ar lefel rhanbarthol ac y gellir rhannu’r
dystiolaeth a gasglir gyda’r ymchwiliad ym mis
Ionawr. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, mynegodd sawl aelod bryder ynglyn a’r amserlen heriol ac y dylid penderfynu yntau
cynnal ymchwiliad ar lefel strategol neu roi ffocws ar un ffrwd gwaith penodol
o fewn y maes. Yn dilyn ystyriaeth o’r amserlen, awgrymwyd mai’r ffordd orau
ymlaen fyddai cynnal ymchwiliad fyddai yn canolbwyntio ar ddarpariaeth i
ofalwyr cefnogol a sut all y Cyngor helpu gofalwyr teuluol. Nodwyd y gellir
ehangu’r ymchwiliad ar lefel mwy strategol ar ddyfodiad y Cyngor newydd os y
byddai cyfiawnhad y gallai hynny ychwanegu gwerth. Pwysleisiwyd yr angen i gael
llais y defnyddiwr fel rhan o’r Ymchwiliad. Penderfynwyd: (a) Cymeradwyo: (i) i gynnal ymchwiliad
gan ganolbwyntio ar faes penodol sef darpariaeth i ofalwyr cefnogol (ii)bod
yr aelodau canlynol yn gwasanaethu ar yr Ymchwiliad: Y Cyng. Selwyn Griffiths, Siân Wyn Hughes, Linda Ann Jones, Eryl
Jones-Williams, Ann Williams, Eirwyn Williams ac R H Wyn Williams (b) Gofyn i’r Rheolwr Aelodau a Chraffu ail-lunio’r
briff, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet a Phennaeth Adran Oedolion Iechyd
a Llesiant, gan fwrw ymlaen yn ddi-oed yn wyneb yr amserlen heriol. |
|
YMCHWILIAD CRAFFU ALLTWEN PDF 198 KB Aelod Cabinet: Y Cyng. W. Gareth Roberts I ystyried adroddiad terfynol Ymchwiliad Craffu Alltwen. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad terfynol drafft yr Ymchwiliad Craffu Alltwen a oedd
yn amlinellu gwaith yr Ymchwiliad ynghyd ag argymhellion i’w cyflwyno i’r Aelod
Cabinet Oedolion, Iechyd a Lles er gweithrediad pellach. Yn absenoldeb Cadeirydd yr Ymchwiliad, cymerodd y Cynghorydd Selwyn
Griffiths y cyfle i ddiolch i aelodau’r Ymchwiliad am eu gwaith clodwiw ac yn
arbennig hefyd i’r rhai a restrwyd ar dudalen 51 o’r adroddiad, yn ogystal â
Gareth James (Rheolwr Aelodau Craffu) a Bethan Adams (Swyddog Cefnogi
Aelodau). Tynnodd sylw’r Aelod Cabinet at
yr argymhellion ac yn benodol gofyn iddo sicrhau gwasanaeth derbynnydd i ateb
ffôn yn ystod oriau gwaith craidd y tim integredig yn
Ysbyty Alltwen Ategodd yr Aelod Cabinet y diolchiadau i bawb a gymerodd ran yn yr
Ymchwiliad a thalodd deyrnged a llongyfarch staff y Bwrdd Iechyd a’r awdurdod
lleol am y cynllun arloesol hwn gyda’r canlyniadau wedi bod yn werthfawr tu
hwnt. ‘Roedd yn croesawu ac yn derbyn
yr argymhellion, yn enwedig yr argymhelliad i ymestyn y model gweithio’n
integredig i weddill y Sir gan ei fod o’r farn mai dyma’r ffordd i weithio i’r dyfodol. Roedd rhai o’r argymhellion yn rhai
gweithredol ac roedd nifer o elfennau gwaith i ddelio â’r
materion yma eisoes ar y gweill a/neu yn eu lle yn barod. Yn ystod y drafodaeth ddilynol gwnaed y sylwadau canlynol: (a)
derbyniwyd eglurhad o’r
term powlen pysgodyn gan nodi mai cyfarfod aml-asiantaethol
ydoedd ac iddo strwythur penodol a oedd yn cynnwys nyrs a ffisiotherapydd, ac
yn fodd gwerthfawr i ystyried datrysiadau.
Fodd bynnag, nid oedd modd ei gynnal gyda phob achos oherwydd dibyniaeth
ar amserlen. (b)
Er mwyn i argymhelliad
4.1 lwyddo, pwysleisiwyd yr angen i gael un system gyfrifiadurol er mwyn
cofnodi manylion cleifion fel bo staff y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau
Cymdeithasol yn gallu cael mynediad i’r un system. (c)
Gofynnwyd a oedd bwriad
i gael barn defnyddwyr y gwasanaeth fel atodiad i’r adroddiad? (d)
Mewn ymateb i’r uchod,
roedd y Tîm Alltwen yn casglu gwybodaeth ac yn ei nodi ar system RAISE. Hefyd, mae’r drefn wedi ei seilio ar
gael sgwrs wyneb yn wyneb gyda’r
defnyddwyr ac fe fyddir yn casglu barn defnyddwyr pan yn cynnal adolygiadau
gyda phawb. (e)
Gofynnwyd beth oedd
ymateb y Bwrdd Iechyd ac yn benodol a
oedd yr Uwch Reolwyr yn gefnogol? (f)
Mewn ymateb, nodwyd eu
bod yn gefnogol iawn a rhestrodd Cyfarwyddwr Rhanbarth y Gorllewin, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr wobrwyon a ddaeth i ran staff rhanbarth y Gorllewin ac ymysg oddeutu 50 o
wobrwyon braf ydoedd nodi'r buddugwyr
isod: ·
Tîm Ffordd Gwynedd -
Gwobr am Ffurf Newydd o Weithio ·
Ysbyty Alltwen – Gwobr
gwaith gyda Dementia ·
Ysbyty Dolgellau – Gwobr
Rhoi Arfer Dda i bractis ·
Fferyllfa Ysbyty Gwynedd
– Gwobr Gweithio’n Ddwyieithog ·
Prif Weinyddes Nyrsio
Ward y Plant Ysbyty Gwynedd – Gwobr Arweinyddiaeth (g)
Gwelir llawer o nyrsys
yn cymryd nodiadau wrth ymweld â chleifion ac yn gorfod bwydo’r wybodaeth i
gyfrifiadur wedi hynny - a oedd unrhyw symudiad i newid y dull hwn o weithio? (h) Mewn ymateb, nododd y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |