Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Craig ab Iago. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|
ADRODDIAD PERFFOMRIAD AELOD CABINET DROS AMGYLCHEDD PDF 215 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ac i leihau’r
targed arbedion ar gyfer arbedion teithio o £390,000 i £240,000 a symud y
flwyddyn cyflawni o 2018/19 i 2019/20 ond gan ofyn i’r cynllun gael ei
weithredu cyn 1 Ebrill 2019 os yw’n barod. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig PENDEFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad ac i leihau’r targed arbedion ar gyfer arbedion teithio o £390,000 i
£240,000 a symud y flwyddyn cyflawni o 2018/19 i 2019/20 ond gan ofyn i’r
cynllun gael ei weithredu cyn 1 Ebrill 2019 os yw’n barod. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn un sy’n nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adran.
Pwysleisiwyd wrth edrych ar sefyllfa ariannol fod yr adran bellach wedi
gwireddu neu ar drac gyda 97% o’r Cynlluniau Arbedion Cyfredol. Er hynny,
esboniwyd y bydd ychydig lithriad yn bosib mewn dau gynllun sef Adolygiad Rhent
Manddaliadau a Gwarchod y Cyhoedd - Codi Ffi am Gynnig Cyngor ond rhagwelir y
bydd yr arbedion wedi eu gwireddu yn
llawn erbyn 2018/19. Yn ychwanegol i
ddarganfod arbedion yr adran mae’r Adran Amgylchedd yn gyfrifol am arwain
prosiect ar draws y Cyngor i leihau costau teithio i’r dyfodol. Yn dilyn derbyn
Adolygiad Allanol o’r costau awgrymwyd gan gwmni allanol fod swm potensial o
arbediad o £390,000. Dengys gwaith ychwanegol a wnaed yn fewnol fod y swm yma
wedi ei or-ddatgan a bod angen gostwng y swm felly i £240,000 a nodwyd fod
gwaith pellach angen ei wneud cyn y gellir ei wireddu ac felly ‘roed angen ail
broffilio’r arbediad. Wrth edrych ar
berfformiad yr adran nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i ddatblygu graffiau wrth
edrych ar berfformiad. Edrychwyd yn benodol ar graff canran o gwsmeriaid a
ddywedodd eu bod yn fodlon neu’n fodlon iawn a’r lefel gwasanaeth Cynllunio.
Mynegwyd fod cwymp wedi bod yn ystod y cyfnod ond ar y cyfan mae’r ymateb
cronnus yn dangos darlun gwell os sut mae’r adran yn perfformio. Esboniwyd pan
mae newid mawr yn y graffiau fod modd gofyn pam ac edrych yn fanylach ar y
data. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth - Trafodwyd
bodlonrwydd cwsmeriaid a lefel gwasanaeth cynllunio, yn benodol pam fod rhai
ceisiadau wedi cymryd blynyddoedd. Pwysleisiwyd fod y ceisiadau yma yn rai mawr
a defnyddiwyd stad Redrow ym Mangor fel enghraifft. - Holwyd o ran
arolygu glendid bwyd, ble mae Gwynedd o ran staffio ac amser o’i gymharu â
siroedd eraill. Nodwyd y byddai’r Aelod Cabinet yn dlyn hyn fyny gyda’r
gwasanaeth. - Holwyd a oedd y
gostyngiad mewn perfformiad o ganlyniad i’r toriadau mae’r adran wedi ei wneud
yn ystod y blynyddoedd diwethaf a gofynnwyd a oedd hyn yn fater y dylem brydeu
amdano yn fwy cyffredinol. Nodwyd mai ychydig o dan y rhaglen oedd y gwasanaeth
yn yr enghraifft yma ac ni fyddem yn gallu gweld gwir effaith hyd nes y byddem
wedi cyrraedd diwedd y flwyddyn. Pe
byddem yn gweld perfformiadyn methu dal i fyny, yna efallai y byddai angen
gofyn a ydym wedi mynd rhy bell, ond os ydym yn gallu dygymod erbyn diwedd y
flwyddyn neu os ydym o fewn trwch blewyd i berfformiad blaenorol yna rhaid
derbyn fod lleihau adnodd am lesteirio perffomriad. Beth yw’r goblygiadau yw’r cwestiwn i ofyn.. - Tynnwyd sylw at y ffaith fod llawer ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS ADDYSG PDF 266 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ynghyd a
chymeradwyo i ail-broffilio gwireddu £263,000 o’r cynllun “Arbedion Ychwanegol
Ysgolion”, oedd i wireddu £4.3m o arbedion yn y cyfnod 2015/16 i 2018/19, trwy
lithro £65,000 i’w wireddu yn 2021/22 a £198,000 i’w wireddu yn 2020/21. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad ynghyd a chymeradwyo i ail-broffilio gwireddu £263,000 o’r cynllun
“Arbedion Ychwanegol Ysgolion”, oedd i wireddu £4.3m o arbedion yn y cyfnod
2015/16 i 2018/19, trwy lithro £65,000 i’w wireddu yn 2021/22 a £198,000 i’w
wireddu yn 2020/21. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr Aelod Cabinet yn gyffyrddus ar berfformiad ar y cyfan
ond fod rhai meysydd angen mwy o waith. Tywysodd yr Aelod drwy’r adroddiad gan
amlygu rhai materion. Nodwyd wrth edrych ar Wella a Chysoni Safonau Addysg y
Cyfnod Sylfaen fod canlyniadau’r haf 2017 yn statig am y drydedd flwyddyn a bod
Gwynedd wedi ei osod yn y 15 safle yn Genedlaethol. Mynegwyd y dylai Gwynedd
fod yn y 4ydd neu’r 5ed safle, ac felly fod y canlyniadau yn rhai siomedig.
Mae’r Adran wedi comisiynu GwE i ystyried y sefyllfa. Wrth edrych ar Raglen
Rhwydwaith o Ysgolion Hyfyw i’r Dyfodol: Prosiect Bangor nodwyd fod y
trafodaethau wedi ei gynnal gyda’r penaethiaid, llywodraethwyr a chynghorwyr yr
ardal i drafod opsiynau. Bellach mae opsiwn ffafredig wedi ei adnabod yn y
Pwyllgor Adolygu’r Dalgylch a bydd y yn cael ei gyflwyno yn y Cabinet ym mis
Chwefror. Trafodwyd canlyniadau’r haf gan nodi fod perfformiad Cynllun Allweddol 4 a
chanlyniadau TGAU yn siomedig eleni gan fod cwymp wedi bod yn y perfformiad.
Ond pwysleisiwyd fod y canlyniadau yma yn adlewyrchu’r cwymp yn Genedlaethol.
Prif reswm am y cwymp yma yw’r newidiadau i’r drefn arholi a’r fanyleb ar gyfer
pynciau megis Mathemateg a Saesneg sydd wedi effeithiol yn sylweddol ar y
canlyniadau TGAU i Gymru. Nodwyd fod yr arbedion disgwyliedig fyddai’n deillio o gynlluniau ad-drefnu
am wireddu yn hwyrach na’r disgwyl ond yn hytrach na gofyn i’r ysgolion
wynebu’r baich yn y cyfamser, nodwyd y byddai’n fwy synhwyrol i ail broffilio’r
arbediad disgwyliadwy. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth - Nodwyd fod Gwella
a Chysoni Safonau Addysg yn sylfaen i’r adran ac yn un o’r prif brosiectau.
Mae’r canlyniad yn isel yn benodol yn y Cyfnod Sylfaen a holwyd pryd y bydd
adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn sicrhau fod safon addysg yn
gwella. Mynegwyd fod yr adran wedi comisiynu GwE i edrych ar y mater ond fod
peth oedi wedi bod ar wneud y gwaith. Yn ychwanegol nodwyd wrth edrych ar
Safonau Cyfnod Sylfaen fod y canlyniadau yn is o ganlyniad i Iaith. Mae’r
addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae amryw o’r plant yn dod o gartrefi
di-gymraeg ac efallai heb gael gafael ar yr iaith erbyn eu bod yn 7 oed. Ond
nodwyd wrth edrych ar safonau plant 11 oed mae’r lefelau yn llawer yn uwch o
ganlyniad iddynt gael gafael ar yr iaith erbyn yr oed yma. - Holwyd os mai diffyg arweinyddiaeth glir yw’r rheswm dros rhai ysgolion ddim yn cyrraedd y safonau. Mynegwyd fod cynllun i Wella Arweinyddiaeth a Rheolaeth i ddatblygu arweinyddion da ond pwysleisiwyd yn ogystal diffyg yn y nifer sydd yn ymgeisio am y swyddi. Mae’r adran ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Iwan Trefor Jones |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y DIRPRWY ARWEINYDD PDF 176 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Mair Rowlands PENDERFYNIAD Er
mwyn sicrhau rheoli perfformiad effeithiol a thryloyw mae gofyn i Aelod Cabinet
adrodd ar berfformiad y maes y mae’n gyfrifol amdano i’r Cabinet yn gyfnodol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi yn gyffredinol mae’r Dirprwy Arweinydd yn hapus a’r cynnydd
yn y prosiectau'r adran Cefnogaeth Gorfforaethol. Tynnwyd sylw at y ffaith,
wrth edrych ar Gadw’r Budd yn Lleol, fod yr adran bellach yn adrodd ar wariant
refeniw yn unig ac yn eithrio gwariant cyfalaf. Nodwyd fod ychydig o
gynnydd wedi bod wrth edrych ar Awdit o Sefyllfa’r Gymraeg yng Nghyngor Gwynedd
a bod hynny oherwydd amgylchiadau staffio mewnol. Er hyn mae sesiynau
ymwybyddiaeth iaith wedi eu cynnal, holiaduron wedi eu rhannu a thrafodaeth i
gynllunio hyfforddiant addas. Pwysleisiwyd fod y gwaith o ddatblygu’r
Strategaeth Iaith yn parhau Mynegwyd fod sesiynau
hyfforddiant Ffordd Gwynedd ar gyfer rheolwyr yn parhau gyda 70 wedi mynychu erbyn
diwedd 2017. Nodwyd y bydd y rheolwyr wedi eu trwytho yn egwyddorion Ffordd
Gwynedd gan sicrhau dealltwriaeth o’r cysyniadau perthnasol. Bwriedir fod yr
holl reolwyr wedi bod ar y cwrs erbyn diwedd 2017/18. Ers i’r Cabinet
dderbyn Cynllun Busnes Prosiect Hunanwasanaeth yn ystod mis Hydref mae nifer o
wasanaethau ar gael i drigolion Gwynedd ar y we. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth -
Trafodwyd
hyfforddiant Ffordd Gwynedd a nodwyd ei bod yn hynod bwysig fod yr hyfforddiant
yn cael ei wreiddio yn iawn a holwyd os bydd hyfforddiant dilynol. Nodwyd fod
sesiynau yn cael ei gynnal 4 mis yn dilyn yr hyfforddiant er mwyn gweld sut mae
hi yn mynd. Mynegwyd mai un peth yw dealltwriaeth ond rhywbeth arall yw gwneud
rhywbeth am y peth. Pan fyddwn yn gwybod pa wahaniaeth y mae’r sesiynau
datblygu yn eu cael bydd angen ystyriedble ydan ni’n mynd nesaf. -
Holwyd os yw hi yn gyfrifoldeb ar Aelodau Cabinet yn y
Cyfarfodydd Herio Perfformiad i sicrhau fod gweithrediad o Ffordd Gwynedd yn
digwydd. Awgrymwyd ei bod yn syniad holi pa reolwyr sydd wedi bod ar yr
hyfforddiant felly pan mae cyfle i herio eu perfformiad a bod modd holi bryd
hynny beth sydd wedi ei wneud o ganlyniad i’r hyfforddiant. Mynegwyd fod Ffordd
Gwynedd yn ddiwylliant sydd angen ei dreiddio drwy’r Cyngor a bod gan aelodau
cabinet rôl i chwarae i ddangos ei fod yn bwysig iddynt hwy.. Awdur: Dilwyn Williams |