Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Cyng. Craig ab Iago. |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod:
|
|||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid
oedd unrhyw faterion brys. |
|||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid
oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|||
PRYDLES CANOLFAN HENBLAS Y BALA I GWMNI PUM PLWY PENLLYN PDF 317 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd i: -
ddefnyddio grymoedd Caniatâd Gwaredu
Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu Adeilad Henblas, Y Bala, yn uniongyrchol i
Gwmni Pum Plwy Penllyn Cyf am lai na gwerth y farchnad er mwyn sicrhau
buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. -
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Adran Eiddo i
gytuno ar y telerau gyda’r cwmni. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD Penderfynwyd
i: -
ddefnyddio
grymoedd Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu Adeilad Henblas,
Y Bala, yn uniongyrchol i Gwmni Pum Plwy Penllyn Cyf. am lai na gwerth y
farchnad er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. -
Dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Adran Eiddo i gytuno ar y telerau gyda’r cwmni. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y mater hwn yn
fater gweddol syml. Mynegwyd fod Cwmni Pum Plwyf Penllyn Cyf. a phrydles 5
mlynedd ar yr adeilad yn y Bala ers 2013 maent wedi gwneud gwaith adeiladu
sylweddol i’r adeilad ers cael y brydles. Bellach mae’r Cwmni yn awyddus i
dderbyn y brydles am 25 mlynedd er mwyn cael cyflwyno cais i ariannu’r gwaith o
uwchraddio gweddill yr adeilad. Pwysleisiwyd fod yr adeilad yn cynnig gofod addas sydd
yn hwyluso presenoldeb gwasanaethau iechyd, lles ac eiriolaeth wirfoddol yn yr
ardal. Drwy’r adeilad mae modd i drigolion ardal Y Bala gael mynediad am
wasanaethau a ddarperir gan gyrff trydydd sector. Pwysleisiwyd fod y cais hwn
yn gofyn i’r Cyngor benderfynu fod yr eiddo yn cael ei osod yn benodol er mwyn
hwyluso partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chwmni Pum Plwy Penllyn i ddarparu
gwasanaethau cyhoeddus yn ardal pum plwyf. Yn ychwanegol at hyn mae hawl
cyfreithiol gan y Cyngor yn unol â grymoedd Caniatâd Gwaredu Cyffredinol
(Cymru) 2003 i osod am lai na phris y farchnad. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth - Nodwyd fod trigolion Y Bala a chwmnïau lleol yn gefnogol iawn o’r cais. Awdur: Dafydd Gibbard |
|||
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD PDF 210 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad gan ofyn i’r Cyfarwyddwr godi’r
mater presenoldeb gan yr Heddlu mewn cynadleddau achos yn y Bartneriaeth Diogelwch Gogledd
Cymru ac adrodd yn ôl os na cheir datrysiad addas. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan Cyng. Dilwyn Morgan PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad gan
ofyn i’r Cyfarwyddwr godi’r mater presenoldeb gan yr Heddlu mewn achosion achos
yn y Bartneriaeth Diogelwch Gogledd Cymru ac adrodd yn ôl os na cheir datrysiad
addas . TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar y cyfan
fod yr Aelod Cabinet yn fodlon a’r mwyafrif o brosiectau. Pwysleisiwyd fod
nifer o’r mesuryddion perfformiad yn dangos cynnydd cyffredinol o ganlyniad i
gynnydd mewn nifer plant mewn gofal sydd yn cael ei weld yn genedlaethol. Nodwyd fod yr adran yn wynebu cyfnod cyffroes
wrth lunio gwasanaeth ffres i’r dyfodol. Yn y gorffennol mae grantiau
Llywodraeth Cymru wedi cael gwario, yn orfodol, mewn pocedi o feysydd neu
ardaloedd. Mynegwyd y bydd Strategaeth newydd yr adran yn sicrhau mwy o
integreiddio ac yn galluogi’r adran i roi blaenoriaethau a chyfeiriad newydd
fydd yn un uchelgeisiol ac arloesol. Bydd y strategaeth yn trawsnewid meysydd
traddodiadol o ddarparu gwasanaethau a fydd yn canolbwyntio ar ymyrraeth
gynnar. Mynegwyd fod gwaith yn mynd rhagddi ar gyfer
ail gomisiynau rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, mae’r darparwyr gwasanaeth a’r
Cyngor wedi bod yn cyfarfod i drafod bwriad y Cynllun Newydd ac mae’r broses
dendro yn cael ei ddilyn ar hyn o bryd. Nodwyd ar y cyfan wrth edrych ar berfformiad
fod yr Aelod Cabinet yn eithaf bodlon, a ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei
wneud i wella gwasanaeth ble mae angen. Mae’r adran wedi bod yn gweithio ar
greu pwrpasau newydd er mwyn miniogi a sicrhau fod mesurau yn mesur y pethau
cywir. Nodwyd fod perfformiad y Cynadleddau Amddiffyn Plant wedi dangos
dirywiad, ac amryw o resymau dros hyn ond nodwyd fod diffyg ymrwymiad yr Heddlu
i fynychu’r Cynadleddau yn brif reswm. Pwysleisiwyd wrth leoli plant fod
cynnydd yn y perfformiad, ond o ganlyniad i anghenion gofal mwy dwys mae hyn yn
dylanwadu ar y ffigyrau. Ond pwysleisiwyd nad yw hyn yn sefyllfa unigryw i
Wynedd a bod y mater wedi ei uchafu i’r Bwrdd Comisiynau Rhanbarthol. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth - Holwyd pam fod
Asesiadau SOGS bellach yn amherthnasol, a nodwyd mai penderfyniad y Llywodraeth
oedd gollwng y Mesur. -
Trafodwyd y dirywiad mewn
Cynadleddau Amddiffyn Plant. Pwysleisiwyd mai o ganlyniad i ddiffyg ymrwymiad
yr Heddlu i fynychu mae wedi arwain at gyfarfodydd heb ‘Cworwm’ sydd angen bod
yn eu lle er mwyn iddynt ddigwydd. Nodwyd fod hyn wedi ei uchafu i’r Bwrdd
Diogelu Rhanbarthol yn barod. Ystyriwyd sut y byddai modddatrus y mater ac a
ddylid anfon at y Comisiynydd . Awgrymwyd y byddai’n syniad yn y lle cyntaf i
ofyn i’r Cyfarwyddwr godi’r mater presenoldeb gan yr Heddlu mewn achosion achos
yn y Bartneriaeth Diogelwch Gogledd Cymru ac adrodd yn ôl os na cheir datrysiad
addas. -
Croesawyd defnydd o’r
system wybodaeth ‘Capita’ sydd yn cynorthwyo i adnabod anghenion ac i wella
trefniadau trosglwyddo plentyn o addysg Meithrin i Gynradd. Nodwyd fod system
tracio wedi ei greu ac mae’r adran mewn trafodaeth gyda’r Adran Addysg i
gynorthwyo i ddatblygu’r system. Awdur: Morwena Edwards |
|||
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a
nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNIAD Derbyn a
nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn
fodlon gyda’r perfformiad yn yr Adrannau. Nodwyd fod gwaith Uned Gwasanaeth
Stryd yn sirchau fod strydoedd yn lan a thaclus, ond mae gostyngiad yn y
perfformiad wedi bod yn bendodol wrth edrych ar Lendid ac Edrychiad Strydoedd.
Gellir priodoli’r gostyngiadau hyn i effaith y toriadau. Wrth edrych ar lefelau gwastraff mynegwyd fod
gostyngiad wedi bod mewn cyfraddau ailgylchu/compostio gan fusnesau. Mae
gofynion cenedlaethol wedi ei gwneud yn orfodol i fasnachwyr ddidoli eu
gwastraff, mae Grŵp Tasg wedi ei sefydlu er mwyn edrych ar y broses a
chynllun gwaith er mwyn ei wneud yn fwy deniadol yn ariannol i’r cwmni er mwyn
codi perfformiad y mesur hwn. Pwysleisiwyd gyda chynllun Leihau Amlder
Torri a Threfn Casglu Gwair Trefol, fod pryder y byddai goblygiadau parhau i
dorri’r gyllideb yn debygol o fod yn fwy na’r hyn y rhagwelwyd. O ganlyniad i
hyn bydd trafodaeth gan y Pwyllgor Craffu ar gyfer opsiynau amgen er mwyn
gwireddu’r arbediad. Nodwyd fod tafluniad y sefyllfa NET
ddiweddaraf yr Adran Ymgynghoriaeth yn dangos elw uwch na’r targed o £9,470, ac
o ganlyniad mae’r sefyllfa gadarnhaol. Diolchwyd i staff am eu gwaith da yn
benodol yn ei ward - Y Felinheli - yn dilyn tirlithriad cyn y Nadolig. Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth -
Diolchwyd i weithwyr yr adran ac yn benodol am fynd y
filltir ychwanegol. -
Trafodwyd lefelau ailgylchu/compostio masnachol a
pwysleisiwyd mai bwyd yn benaf sydd yn cael ei gompostio. Nodwyd er fod y
perfformiad yn 40% a fod hynny yn dda, mae lle i wella. Nodwyd ei bod yn anodd
cael busnesau i ailgylchu mwy ond yn y broses o edrych ar y ffioedd i weld os
oes modd ei wneud yn fwy dieniadol i’r cwmniau. -
Wrth edrych ar ganlyniadau
ailgylchu, mae’n dangos fod trigolion y sir yn barod i ailgylchu. Nodwyd y bydd
llosgi gwastraff yn dod a’r sir ar y targed ailgylchu. Nodwyd er bod y
niferoedd yn dda mae lle i wella yn enwedig wrth edrych ar gasgliadau bwyd. Awdur: Dilwyn Williams |
|||
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABIENT DROS GYLLID PDF 160 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a
nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn gyfforddus gyda pherfformiad y prosiect
gweithredu’r Strategaeth Technoleg
Gwybodaeth. Nodwyd fod datblygiadau wedi bod yn Sianel Ddigidol y Cyngor gan ei
fod wedi ei lansio yn ddiweddar. Cam nesaf y datblygiad fydd rhyddhau ‘”app” a
fydd yn galluogi’r cyhoedd i yrru lluniau gan gynnwys gwybodaeth ddaearyddol er
mwyn adrodd ar broblemau. Nodwyd fod y
System Reoli Dogfennau a Chofnodion Electronig yn parhau i fynd rhagddi, ond
mae lledaenu’r defnydd i’r Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phlant a
Chefnogi Teuluoedd wedi golygu gwaith mwy cymhleth nac oedd wedi ei ragweld.
Golyga hyn fod yr amserlen wedi llithro a gobeithir y bydd y system iGwynedd
wedi ei ledaenu i holl adrannau’r Cyngor erbyn diwedd haf 2018. Nodwyd yn
ogystal fod problemau cyfrifiadurol yn ystod yr Haf, a nodwyd mai problemau
gyda chyfnewidfeydd ffon oedd wedi achosi dau o’r pedwar problem. Esboniwyd fod
gwaith ar wella gwydnwch y rhwydwaith yn parhau. Nodwyd fod cynnydd
wedi bod wrth edrych ar berfformiad mesur Amddiffyn budd ariannol y trethdalwr:
Canran o hawliadau atebolrwydd cyhoeddus a wnaed gan yr Uned Yswiriant. Nodwyd
fod yr adran wedi amddiffyn 6 allan o 7 hawliad yn llwyddiannus, roedd 1
hawliad yn ymwneud a difrod wnaed i gerbyd un o drigolion Gwynedd wrth wneud
gwaith cyfagos. Awdur: Dilwyn Williams |