Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. W Gareth Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYDRADDOLEB 2017-18 PDF 77 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn ddyletswydd statudol ar y Cyngor, yn ôl Deddf
Cydraddoldeb 2010, i ddiddymu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ac i
hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng y rhai sydd yn
rhannu nodwedd warchodedig, nai rhai sydd ddim yn rhannu’r nodweddion rhain.
Mynegwyd ei bod yn ddyletswydd ar y Cyngor i greu Cynllun Cydraddoldeb Strategol
pob pedair blynedd ac adrodd yn flynyddol ar y mater. Esboniwyd fod y Cyngor wedi creu Cynllun
Cydraddoldeb Strategol yn 2016 a bod pedwar amcanion y Cyngor wedi ei nodi yn y
Cynllun. Pwysleisiwyd er bod angen Cynllun ei bod yn ogystal yn bwysig sicrhau
fod diwylliant o gydraddoldeb yn cael ei wreiddio yn ddwfn i mewn i
wasanaethau’r Cyngor. Ychwanegwyd fod cydraddoldeb yn ganolog i holl
benderfyniadau’r Cyngor ac ategwyd fod e-fodiwl wedi ei greu i greu i godi
ymwybyddiaeth staff. Cafwyd crynodeb yn nodi rhai o
uchafbwyntiau’r flwyddyn gan bwysleisio fod pumed amcan wedi ei hychwanegu i’r
Cynllun Cydraddoldeb sef i “Wella ein darpariaeth gwybodaeth ar gyfer pobl sydd
ddim yn defnyddio Cymraeg a Saesneg fel iaith gyntaf neu sydd angen gwybodaeth
mewn fformatau gwahanol”. Mynegwyd fod peth gwaith wedi ei wneud ond fod angen
mwy o wybodaeth ynghylch â’r mater.
Mynegwyd fod bwriad i ymgysylltu â mudiadau perthnasol i ganfod y gofyn ac i
fod yn ymwybodol o unrhyw rwystrau. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth - Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi fod ychydig dros draean o staff y Cyngor dros hanner cant, a gofynnwyd ai adlewyrchiad o’r gymdeithas yw hyn neu a yw’n golygu fod llai o gyfleoedd i bobl ifanc. Mynegwyd fod Cynllunio Gweithlu yn un o’r elfennau mae’r Tîm Dysgu a Datblygu yn canolbwyntio arno. Nodwyd fod gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn enwedig gyda Chynlluniau Prentisiaethau, Hyfforddeion ac Arbenigwyr at y dyfodol i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc. Awdur: Delyth Gadlys |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG PDF 92 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo’r Cynllun
Hybu’r Gymraeg a'r Rhaglen Waith cychwynnol ar gyfer gweithredu’r
blaenoriaethau. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r Cynllun Hybu’r Gymraeg a'r Rhaglen Waith
cychwynnol ar gyfer gweithredu’r blaenoriaethau. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw ar
fformat y cynllun, gan nodi fod y fformat newydd yn glir o ran trefn, yn gryno
ac yn hawdd i’w ddeall. Ychwanegwyd fod gofyn
Statudol ar y Cyngor o dan Safon 145 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1)
2015 i gynhyrchu strategaeth 5 mlynedd ynglŷn â hybu’r Gymraeg. Nodwyd fod
hanes hir gan Gyngor Gwynedd o hybu’r defnydd o’r Iaith Gymraeg gan nodi yng
nghyfrifiad 2011, fod 65% o boblogaeth Gwynedd yn gallu siarad Cymraeg. Ategwyd
fod cynnydd o ran canran siaradwyr Cymraeg i’w gweld yn rhai ardaloedd o Wynedd
gan dynnu sylw at y ffaith fod y cynnydd dros y trothwy o 70% yn ward Clynnog. Er y cynnydd, nodwyd fod
gostyngiad yn gyffredinol yn nifer y wardiau lle mae dros 70% o’r boblogaeth yn
gallu siarad Cymraeg, gyda 39 o 71 ward ar ôl yn ôl y cyfrifiad. Pwysleisiwyd
heriau hybu’r Gymraeg gan bwysleisio heriau ynghyd a dylanwad technoleg.
Pwysleisiwyd beth yw gobaith tymor hir y Cyngor ynghyd a beth yr hoffai’r adran
i weld yn ystod cyfnod y Strategaeth gan nodi fod y Cynllun Gweithredu yn cyd-fynd
â’r cynlluniau. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth -
Nodwyd
fod cwymp wedi bod yn y nifer o siaradwyr Cymraeg dros 65 oed ond fod y cynnydd
mwyaf i’w weld ymysg y trigolion ieuengaf un, yn y grwpiau oed 3-4 oed a 5-15
oed. Ychwanegwyd fod angen parhau â’r gwaith da ac i weithio yn agos â
Phrifysgolion a Chyrff eraill. -
Mynegwyd
fod y Siarter Iaith wedi bod yn ganolog i hybu’r iaith o fewn ysgolion.
Esboniwyd fod y Siarter Iaith Gynradd bellach i’w gweld ar draws Cymru a bod
gwaith yn parhau gyda Siarter Iaith Uwchradd. Nodwyd pwysigrwydd nid yn unig
dysgu’r iaith i blant ond yn hytrach eu hannog i ddefnyddio’r iaith yn
gymdeithasol. -
Holwyd
sut y bydd y gwaith o hybu’r Gymraeg yn cael ei fesur a’i fonitro, nodwyd y
bydd y Swyddog yn adrodd yn ôl drwy’r gyfundrefn herio perfformiad. Ychwanegwyd
ei bod yn mynd i fod yn anodd mesur ond mai'r cam cyntaf fydd i gael y prif
bartneriaid o amgylch bwrdd er mwyn rhannu gwybodaeth ac adnoddau Awdur: Gwenllian Mair Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH CORFFORAETHOL PDF 112 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi, fel Aelod Cabinet newydd ar gyfer yr adran, ei bod wedi
treulio’r haf yn mynd i ymweld â thimau a chyfarfod staff. Diolchwyd i’r staff
am eu croeso cynnes. Tynnwyd sylw at rai o brosiectau Cynllun y Cyngor. Nodwyd
fod y gwaith o ddefnyddio’r Gymraeg o fewn gwasanaethau’r Cyngor yn parhau ond
nodwyd fod gwendidau wedi eu hamlygu yn y broses recriwtio. Mynegwyd nad yw
gofynion iaith swyddi yn eglur bob tro ac mae camau yn eu lle er mwyn helpu’r
sefyllfa. Ychwanegwyd fod cefnogaeth ar gael i staff sydd eisiau gwella neu
loywi eu hiaith. Esboniwyd fod
rheolwyr a rhai swyddogion bellach wedi derbyn hyfforddiant er mwyn eu harfogi
i roi Ffordd Gwynedd ar waith. Pwysleisiwyd yr angen am ddilyniant ac anogwyd
yr aelodau i herio eu hadrannau er mwyn galluogi’r Cyngor i roi pobl Gwynedd yn
ganolog i’r hyn y maent yn ei wneud. Trafodwyd
perfformiad yr adran a nodwyd fod y Gwasanaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn
parhau i dderbyn sylwadau positif iawn. Ychwanegwyd fod y gwasanaeth yn teimlo
yn ogystal nad oeddent yn mesur effeithlonrwydd cyfathrebu’r Cyngor ac mae’r
gwasanaeth, o ganlyniad, am fod yn edrych ar ffyrdd o fesur effaith datganiadau
cyhoeddus y Cyngor. Mynegwyd fod Gwasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg y Cyngor yn
datblygu ymhellach ac yn ddiweddar wedi ennill cytundeb tendr gan GwE. Esboniwyd
datblygiad diweddaraf y Cyngor, yn dilyn cynnydd yn y nifer sydd yn defnyddio
gwasanaeth ar-lein, sef “ap Gwynedd”. Ychwanegwyd fod yr ap bellach yn fyw a
bod unigolion wedi dechrau lawr lwytho’r ap. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth - Trafodwyd mesur llwyddiant Ffordd Gwynedd.
Esboniwyd fod hyn yn gwestiwn anodd gan mai newid diwylliant mae Ffordd
Gwynedd, a bod hyn am fod yn anodd ei fesur. Ychwanegwyd fod angen i reolwyr
ddeall fod angen gwreiddio'r diwylliant Ffordd Gwynedd yn eu timau gan
bwysleisio fod yr atebolrwydd gan y rheolwyr. Mynegwyd fod taith Ffordd Gwynedd
i’w weld mewn timau ar draws y Cyngor ond fod y timau ar gamau gwahanol ar y
daith. Esboniwyd mai gwir fesur Ffordd Gwynedd fydd fod yr holl unedau yn mesur
y pethau cywir ar gyfer Trigolion Gwynedd a bod y canrannau mor uchel ac y
gallant fod. - Nododd yr Aelod Cabinet dros Blant a
Chefnogi Teuluoedd fod y mesurydd “Nifer o ddiffygion sydd wedi eu canfod mewn
archwiliadau rhaglenedig” o safbwynt Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn awgrymu
fod bylchau mawr yn ei adran a holodd os yw’r adran yn ymwybodol o hyn. Nodwyd
fod hyn wedi ei godi o fewn adrannau ac y bydd angen eu trafod yn y Fforymau
adrannol i drafod Iechyd, Diogelwch a Llesiant. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DDATBLYGU'R ECONOMI PDF 127 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan C Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNWYD Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod i ffigyrau sydd ar gael yn yr adroddiad yn rhai ar gyfer
chwarter cyntaf y flwyddyn. Nodwyd fod Prosiectau Cynllun y Cyngor bellach wedi
dechrau. Codwyd pryder am nifer o swyddi gwrth uchel bellach wedi symud o Barc
Menai ym Mangor i Ynys Môn. Mynegwyd fod gwaith o ddatblygu safle Llanbedr yn
parhau ond bod y perchennog yn parhau i ddisgwyl am gadarnhad o arian gan
Lywodraeth Cymru. Ychwanegwyd
pryder am brosiect Arloesi Gwynedd wledig ar sut y bydd y prosiect yn symud
ymlaen. Nodwyd fod y prosiect WiFi am ddim yn Aberdaron wedi bod yn
llwyddiannus a bod ardaloedd eraill yn awyddus i dreialu’r prosiect. Mynegwyd siom fod
Gŵyl Rhif 6 yn cymryd hoe'r flwyddyn nesaf
ond gobeithir y bydd gŵyl arall yn cael ei gynnal yn ystod yr un
cyfnod. Ychwanegwyd fod digwyddiad Red Bull Hard Line wedi bod yn llwyddiannus
ac ategwyd fod ymroddiad a chydweithio agos wedi bod rhwng yr Uned Digwyddiadau
Mawrion a Red Bull. Esboniwyd fod yr
Adran Economi a Chymuned am gynnal gweithdy gyda’r sector dwristiaeth yn ystod
mis Medi er mwyn canfod eu barn ar wella a chynnal cyrchfannau Gwynedd a chodi
safonau’r sector twristiaeth. Ychwanegwyd fod trafodaeth yn cael ei gynnal
ynglŷn â Hafan a Harbwr Pwllheli ynghylch ei ddyfodol, ynghyd a Pharc
Gwledig Glynllifon. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth -
Ategwyd
at y gofid o golli Gŵyl Rhif 6, ond esboniwyd fod y trefnwyr eisiau ail
edrych ar y trefniadau. Mynegwyd ymroddiad y trefnwyr i Bortmeirion ac y bydd y
Cyngor yn cyd-weithio â’r trefnwyr ar gyfer pob opsiwn. -
Trafodwyd
fod tuedd swyddi wedi ei greu gan fentrau yn derbyn cymorth yn lleihau. Nodwyd
mai'r rheswm dros hyn yw lleihad yn yr adnoddau ac adeiladau sydd gan y Cyngor i’w gynnig i fusnesau sydd
eisiau ehangu. Mynegwyd fod hyn yn neges gyson sydd i’w weld ar draws y
gogledd, sef nad oes lleoliadau ac adeiladau pwrpasol ar gael ar gyfer busnesau
preifat. Ychwanegwyd fod Cynllun TWF Gogledd Cymru yn edrych ar hyn a bod
trafodaethau am gyd-fenter gyda’r Llywodraeth i wella'r cyflenwad o dir neu
adeiladau pwrpasol. Awdur: Iwan Trefor Jones |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 137 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNWYD Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr aelod Cabinet yn hapus gyda pherfformiad yr adran a
bod camau priodol wedi eu cymryd er mwyn gwella perfformiad. Esboniwyd fod oes
y Strategaeth Technoleg Gwybodaeth bresennol yn dod i ben a bod trafodaethau yn
cael eu cynnal er mwyn cynllunio strategaeth newydd. Yn ychwanegol at hyn
nodwyd fod yr adran yn cydweithio â swyddogion o’r Adran Addysg er mwyn
datblygu strategaeth newydd fydd yn canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth
cefnogi Technoleg Gwybodaeth orau i ysgolion Gwynedd. Nodwyd fod
perfformiad yr adran yn gyffredinol dda, ond tynnwyd sylw at rai problemau oedd
wedi codi. Nodwyd fod rhai o staff ategol ysgolion wedi derbyn cyflog anghywir
yn ystod mis Ebrill. Ychwanegwyd y adnabuwyd y broblem yn syth ac i’r
Gwasanaeth ymateb i’r broblem yn briodol. Esboniwyd fod camau yn eu lle bellach
i sicrhau na fydd yr un broblem yn digwydd eto. Mynegwyd fod tri
achlysur wedi codi yn ystod y flwyddyn ble gwelwyd amhariad sylweddol ar allu
staff y Cyngor i weithredu oherwydd colli mynediad at wasanaeth Technoleg
Gwybodaeth. Ategwyd fod hyn wedi arwain ar yr adran yn comisiynu asesiad
annibynnol er mwyn edrych ar bensaernïaeth y rhwydwaith TG ac fe fyddant yn
adrodd yn ôl ar y casgliadau ymhen amser. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth -
Nodwyd
fod y graff a ddangosir ar gyfer yr Uned Cyflogau yn dangos Diwylliant Ffordd
Gwynedd o fewn yr Adran drwy’r ffaith eu bod yn agored am eu perfformiad ac yn
dysgu o’r problemau sydd wedi codi. Ychwanegwyd fod esboniadau clir i’w gweld a
bod camau wedi eu cymryd i sicrhau na fydd yr un problemau yn codi eto. -
Nododd
yr Aelod Cabinet dros Addysg bu oedi cyn i ysgolion dalu anfonebau dros y
blynyddoedd, o ganlyniad i wyliau ysgol, ond bellach fod yr adran Addysg wedi
ei newid eu trefn ac o ganlyniad mae’r ffigyrau yn llawer gwell. -
Nodwyd
nad oedd ffigyrau ar gyfer Buddsoddi a Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y chwarter,
gan nad oeddent ar gael ar gyfer y cyfarfod herio perfformiad. Nodwyd bu
dychweliadau llawer gwell na’r disgwyl ar fuddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn a
gobeithir y bydd modd gallu cynnig gostyngiad mewn cyfraddau cyfraniad pensiwn
rhai cyflogwyr erbyn 2020. - Trafodwyd ansicrwydd Brexit a'i effaith ar y Gronfa Bensiwn. Nodwyd fod mwyafrif asedau’r Gronfa wedi eu buddsoddi tramor, a bod cwymp y bunt yn erbyn doler yr UDA yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi golygu fod gwerth yr asedau tramor wedi cynnyddu wrth i’r bunt wanhau. Mae’r Pennaeth Cyllid wedi gofyn am ddadansoddiad gan actiwari’r Gronfa faint o’r cynnydd yng ngwerth y Gronfa Bensiwn sydd oherwydd gwir gynnydd yng ngwerth yr asedau rhwng 2015 a 2018, a faint sydd oherwydd y newid yn y gyfradd gyfnewid, a bydd yn adrodd ar hynny i gyfarfod cyffredinol blynyddol y Gronfa Bensiwn ar 10 Hydref. Ategwyd fod y Gronfa Bensiwn bellach wedi ei hariannu’n llawn. Trafodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Dilwyn Williams |