Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan yr Aelodau Cabinet - Cyng. Craig
ab Iago, Cyng. W Gareth Roberts a’r Cyng. Ioan Thomas. Derbyniwyd ymddiheuriad gan yr Aelodau Lleol - Cyng. Gareth
A Roberts, Cyng. Mair Rowlands a Cyng. Elin Walker-Jones ar gyfer eitem 7. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr Aelodau etholedig ar yr
Awdurdod Tan - Cyng. Annwen Daniels,
Cyng. John B Hughes a Cyng. Dilwyn Lloyd ar gyfer eitem 10. |
||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a
chraffu. |
||
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 A'R 18 MEDI PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y
11 a 18 Medi 2018, fel rhai cywir |
||
CYNLLUN TWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: Y DDOGFEN GYNNIG PDF 134 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn ddarostyngedig nad yw’r penderfyniad
yn ymrwymo’r Cyngor i fuddsoddiad ariannol ar y pwynt hwn a bod y risgiau a
buddion ariannol i’w ystyried yn llawn pan gaiff y Cynllun terfynol ei gyflwyno
i’r Cyngor am gymeradwyaeth: Fod y Cabinet yn cadarnhau’r Ddogfen
Gynnig i’w chymeradwyo i’r Cyngor ei mabwysiadu fel 1. Sail
strategaeth ranbarthol tymor hwy ar gyfer twf economaidd 2. Cais
rhanbarthol ar gyfer rhaglenni a’r prosiectau blaenoriaeth a ddefnyddir i
ffurfio cynnwys Cynllun Twf ar y cam Penawdau’r Telerau gyda’r Llywodraeth. Awdurdodi’r Arweinydd i ymrwymo’r
Cyngor i Benawdau’r Telerau gyda’r Llywodraethau law yn llawn ag arweinyddion
gwleidyddol a phroffesiynol o’r naw partner statudol arall a chynrychioli ar
Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru a
Merswy Dyfrdwy, gyda’r Ddogfen Gynnig yn gosod y ffiniau ar gyfer y cytundeb
Penawdau’r Telerau. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNWYD Yn ddarostyngedig nad yw’r penderfyniad yn ymrwymo’r Cyngor i
fuddsoddiad ariannol ar y pwynt hwn a bod y risgiau a buddion ariannol i’w
ystyried yn llawn pan gaiff y Cynllun terfynol ei gyflwyno i’r Cyngor am
gymeradwyaeth: Fod y Cabinet yn cadarnhau’r Ddogfen Gynnig i’w chymeradwyo i’r Cyngor
ei mabwysiadu fel 1. Sail strategaeth ranbarthol tymor hwy ar
gyfer twf economaidd 2. Cais rhanbarthol ar gyfer rhaglenni a’r
prosiectau blaenoriaeth a ddefnyddir i ffurfio cynnwys Cynllun Twf ar y cam
Penawdau’r Telerau gyda’r Llywodraeth. Awdurdodi’r Arweinydd i ymrwymo’r Cyngor i Benawdau’r Telerau gyda’r
Llywodraethau law yn llawn ag arweinyddion gwleidyddol a phroffesiynol o’r naw
partner statudol arall a chynrychioli ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, gyda’r Ddogfen Gynnig
yn gosod y ffiniau ar gyfer y cytundeb Penawdau’r Telerau. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Ddogfen Gynnig yn ffrwyth llafur misoedd o waith rhanbarthol dros y gogledd.
Ychwanegwyd fod y Cynllun yn brosiect partneriaeth sydd yn cynnwys 6 Awdurdod
Lleol, 2 Brifysgol a 2 o Golegau Addysg Uwch. Ategwyd fod rôl y sector breifat
yn ganolog i’r Cynllun gyda sawl sesiwn wedi ei gynnal i drafod y Cynllun gyda
hwy. Mynegwyd yn hanesyddol fod 15 i 20 Cynllun
Economaidd ar draws y rhanbarth, ond o ganlyniad i’r Cynllun TWF dim ond un
Cynllun fydd. Pwysleisiwyd fod y weledigaeth a’r uchelgais y cynllun yn glir
sef i ledaenu prosiectau a chynlluniau TWF ar draws rhanbarth y Gogledd.
Ychwanegwyd fod y Ddogfen sail i annog adnoddau pellach i fuddsoddi er mwyn
datblygu economi’r Gogledd am y blynyddoedd i ddod. Nodwyd fod 16 prosiect yn sail i’r cynllun,
a drwy hyn mae’n sicrhau y bydd buddsoddiad yn cael ei rannu ar draws y
gogledd. Manylwyd ar y prosiectau gan nodi y bydd rhai ar gyfer safleoedd
penodol a rhai ar gyfer y rhanbarth gyfan. Esboniwyd fod y Ddogfen wedi bod yng
nghyfarfod Craffu Addysg ac Economi a bod y craffwyr wedi ei gymeradwyo ar ôl
trafodaeth adeiladol a chwestiynau heriol. Ychwanegwyd fod sesiynau wedi eu
cynnal ar sector breifat, sydd wedi dangos brwdfrydedd i’r cynllun. Mynegwyd y bydd y Ddogfen Gynnig yn
mynd o flaen y Cyngor Llawn cyn diwedd y mis, ond pwysleisiwyd mai cefnogaeth
i’r ddogfen y bydd angen gan y Cyngor ac ni fydd y penderfyniad cyfredol yn
golygu ymrwymiad ariannol, a daw argymhelliad dilynol gerbron y Cyngor eto,
gyda gwybodaeth mwy pendant am y gost.
Drwy gefnogi’r Ddogfen Gynnig bydd modd sbarduno’r drafodaeth am y Cynllun gyda
Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru, ac y bydd un llais cryf yn trafod
yr economi dros ranbarth y Gogledd. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth - Nodwyd cefnogaeth i’r cynllun a bod angen denu arian a swyddi i Wynedd, ond codwyd y cwestiwn o sut y bydd modd denu adnoddau yn benodol i Dde'r sir. Ategwyd mai amcan y Cynllun yw bod prosiectau yn cael eu lledaenu ar draws y Gogledd. Ychwanegwyd fod rhai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Iwan Trefor Jones |
||
COD GWIRFODDOL ARWYDDION AR OSOD BANGOR PDF 80 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadwyd y Cod
Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth o arwyddion ar osod ym Mangor a dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwyr Gwasanaeth Cynllun a Gwarchod y Cyhoedd i roi trefniadau yn eu
lle ar gyfer gweithredu’r Cod Gwirfoddol. Bod llwyddiant y
Cod Gwirfoddol yn cael ei fonitro a’i asesu cyn diwedd Mawrth 2020 a’r
casgliadau’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet cyn Medi 2020. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD Mabwysiadwyd y Cod Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth o arwyddion
ar osod ym Mangor a dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwyr Gwasanaeth Cynllun a
Gwarchod y Cyhoedd i roi trefniadau yn eu lle ar gyfer gweithredu’r Cod Gwirfoddol.
Bod llwyddiant y Cod Gwirfoddol yn cael ei fonitro a’i asesu
cyn diwedd Mawrth 2020 a’r casgliadau’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet cyn
Medi 2020. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod
poblogaeth Bangor yn dyblu yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i fyfyrwyr yn symud
i’r ddinas. O ganlyniad i hyn, ychwanegwyd, mae’r nifer o dai ar gael i’w
gosod. Mynegwyd fod trigolion lleol yn teimlo fod yr arwyddion i fyny drwy
gydol y flwyddyn ac o ganlyniad yn cael effaith negyddol difrifol ar ardaloedd
penodol ac effaith negyddol ar ddelwedd y Ddinas a’r Brifysgol fel lle i fyw,
gweithio ac astudio. Mynegwyd fod ymgyrchoedd lleol wedi ei
chynnal i newid hyn ac yn dilyn gwaith pellach mae’r adran bellach mewn lle i
fabwysiadau Cod i Asiantaethau Tai. Ychwanegwyd nad yw rheoliadau wedi’u
diweddaru ers 1992 ac felly nid ydynt wedi ymateb i’r newidiadau sydd wedi bob
i’r math o lety sydd yn cael ei osod na’r drefn o hysbysebu. Esboniwyd fod
gwaith ymgynghori wedi ei gynnal yn trafod y cod gyda’r asiantaethau sydd wedi
nodi pryd fydd modd hysbysebu, pa strydoedd y bydd y cod yn ei effeithio a ble
fydd modd hysbysebu ar dai. Ychwanegwyd na fydd cost ychwanegol i’r Cyngor o
ganlyniad i’r Cod ond bydd angen monitro’r sefyllfa a bydd yr adran yn dod ag
adroddiad yn nodi’r newidiadau ym mis Medi 2020. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth - Ychwanegodd yr
Aelod Lleol - fod trigolion yn teimlo yn gryf am yr eitem hon. Nodwyd fod rhai
strydoedd ble mae arwyddion Ar Osod i’w gweld ym mhob tŷ gan ategu ei fod
yn anfon y ddelwedd anghywir o Fangor. Esboniwyd nad yw’r tai ble mae'r
arwyddion i’w gweld gan amlaf yn wag, a bod yr arwyddion yn cael eu defnyddio
fel hysbysebion yn unig. Mynegwyd fod tai sydd a’r arwyddion Ar osod o flaen eu
tai yn ddwywaith fwy tebygol o gael rhywun yn torri i mewn i’w tŷ.
Mynegwyd ei bod yn gobeithio y bydd y
cynllun yn gweithio gan fod Bangor yn hwb economaidd angen sicrhau nad yw’n
edrych fel bod pob tŷ Ar Osod. - Nodwyd ei fod yn syniad da a bod sut mae’r
adran yn ymdrin â’r broblem yn ffordd lesol. Trafodwyd sut y bydd y cynllun yn
cael ei fonitro, a sut y bydd sicrhau y bydd yr hysbysebion yn rhai dwyieithog.
Ychwanegwyd y bydd monitro yn digwydd gan yr adran. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
||
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu Strategaeth Gogledd Cymru ar
gyfer Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn
ffurfiol fel un o’r awdurdodau cyfrifol a ddynodwyd dan ddeddfwriaeth. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Mabwysiadu Strategaeth Gogledd Cymru ar gyfer Trais yn Erbyn Merched,
Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn ffurfiol fel un o’r awdurdodau
cyfrifol a ddynodwyd dan ddeddfwriaeth. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod y
Ddeddf Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015,
yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol, Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth
Ambiwlans Cymru a’r Gwasanaethau Tan ac Achub i weithredu ar y ddeddfwriaeth
hon. Nodwyd fod y Llywodraeth yn ffafrio dull rhanbarthol o ran y gofynion
deddfwriaethol ac felly mae’r strategaeth ar gyfer Gogledd Cymru. Nodwyd gweledigaeth y strategaeth, sef i
bobl Gogledd Cymru allu byw bywydau diogel, cyfartal, di-drais, mewn cymunedau
heb drais, yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ychwanegwyd
fod natur y ddeddf gan Lywodraeth Cymru yn pwysleisio fod angen i gymdeithas
fod yn ymwybodol o beth sydd yn dderbyniol o fewn cymdeithas. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth - Trafodwyd sut y bydd codi ymwybyddiaeth,
nodwyd fod cynllun gweithredu wedi ei greu sydd yn nodi cynlluniau a
hyfforddiant fydd yn cael ei gynnal a bydd y strategaeth yn cael ei roi ar y
wefan. Awdur: Catherine Roberts |
||
TREFNIADAU AR GYFER CYNNAL YR ADOLYGIAD RHEOLAETHOL PDF 65 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y syniad fod y Cabinet yn
eistedd mewn ar sesiynau herio y mae’r Prif Weithredwr yn bwriadu eu cynnal a'u
bod yn cydsynio i’r syniad o wahodd Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion y
Pwyllgorau Craffu (gan gynnwys y Pwyllgor Archwilio) i’r sesiynau hyn. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia
Jeffreys PENDERFYNIAD Derbyn y
syniad fod y Cabinet yn eistedd mewn ar sesiynau herio y mae’r Prif Weithredwr
yn bwriadu eu cynnal a'u bod yn cydsynio i’r syniad o wahodd Cadeiryddion ac Is
Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu (gan gynnwys y Pwyllgor Archwilio) i’r
sesiynau hyn. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi yn y
Cabinet 22 Mai eleni, trafodwyd rhagolygon ar gyfer sefyllfa ariannol y Cyngor
am y cyfnod i ddod. Comisiynwyd Adroddiad Rheolaethol er mwyn ystyried a oes
angen cyfyngu mwy ar y swyddogaeth reolaethol o fewn y Cyngor. Nodwyd fel rhan o lunio adroddiad bydd y
Prif Weithredwr yn cynnal sesiynau herio priodol gyda Phenaethiaid Adran eu mwy
herio'r trefniadau perthnasol. Ychwanegwyd er mwyn bod mor gynhwysol â phosib
nodwyd fod y Prif Weithredwr yn awyddus i’r aelodau Cabinet, Cadeiryddion ac Is
Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu fod yn rhan o’r sesiynau herio er mwyn cael eu
barn cyn llunio ei argymhellion. Awdur: Dilwyn Williams |
||
YMGYNGHORIAETH YR AWDURDOD TAN PDF 79 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bu i’r Cabinet adnabod egwyddorion ar
gyfer ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus gan Awdurdod Tan ac Achub Gogledd
Cymru, a phenderfynwyd y bydd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn llunio ymateb
llawn i’r ymgynghoriad o fewn yr amserlen. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn PENDERFYNIAD Bu i’r Cabinet adnabod egwyddorion ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad
cyhoeddus gan Awdurdod Tan ac Achub Gogledd Cymru, a phenderfynwyd y bydd yr
Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn llunio ymateb llawn i’r ymgynghoriad o fewn yr
amserlen. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
Awdurdod Tan wedi bod yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor Llawn yn trafod eu
hymgynghoriad cyhoeddus. Ychwanegwyd cyd-destun yr ymgynghoriad yw, gan fod yr
Awdurdod dan bwysau ariannol, yw cynyddu’r ardoll o 6%. Ychwanegodd yr Aelod Etholedig sydd yn
cynrychioli’r Cyngor ar yr Awdurdod Tan fod yr awdurdod dan bwysau yn ariannol
a bod angen dod o hyd i £1.9miliwn os bydd y gwasanaeth yn parhau ar yr un
lefel. Ychwanegwyd os na fydd yr Awdurdod yn dod o hyd i’r arian ychwanegol
bydd angen lleihau'r gwasanaeth sydd ar gael. Ategwyd fod yr ymgynghoriad yn
ysgogi trafodaeth o beth yw gwerth y gwasanaeth, ac os yw’r cyhoedd am barhau
ar yr un lefel o wasanaeth neu leihau. Nodwyd drwy godi’r ardoll o 6% gall
olygu 0.5% ychwanegol ar y dreth Cyngor. Esboniwyd fod y setliad sydd wedi ei
gyhoeddi yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi nodi gostyngiad i’r Cyngor a all
olygu y y bydd angen i’r Cyngor ddod o hyd i fwlch ariannol o hyd at
£13miliwn yn ystod 2019/20. Pwysleisiwyd y bydd unrhyw doriadau yn gwneud
gwahaniaeth mawr i lefel y gwasanaeth sydd ar gael i drigolion Gwynedd. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Nodwyd
fod y gwaith mae’r Awdurdod tan yn waith gwych ond teimlwyd fod angen i’r
Awdurdod wneud gwaith pellach yn edrych ar arbedion effeithlonrwydd. Awdur: Dilwyn Williams |
||
ADRODDIAD PERFFORIMAD AELOD CABINET DROS ADDYSG PDF 107 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr holl
faterion eisoes wedi bod yn destun trafodaeth ac wedi ei graffu mewn cyfarfodydd
Herio Perfformiad yr Adran. Ychwanegwyd fod yr adran wedi cychwyn gweithredu
Cynllun y Cyngor. Tynnwyd sylw at y sefyllfa ariannol gan nodi
fod llithriad mewn gweithredu’r cynllun codi ffi ar gyfer gofal cyn amser
cychwyn brecwast am ddim 2017/18 a rhagwelir cyflawni’r targed incwm ffi gofal
yn llawn erbyn 2018/19. Ychwanegwyd fod £3,738,010 wedi ei wireddu o’r cynllun
‘Arbedion Effeithiolrwydd Ysgolion o’r £4.3m. Ategwyd fod y Cabinet eisoes wedi
cytuno i ohirio gweithredu arbediad Ysgolion Uwchradd o £298,990 o’r flwyddyn
gyllidol 2017/18 i 2019/20. Ychwanegwyd fod yr ysgolion yn gwbl ymwybodol o
amseriad diwygiedig y toriad. Nodwyd fod y Maes Cludiant yn un cymhleth,
gan fod yr adran yn parhau i orwario yn y maes. Nodwyd fod amrywiol resymau pam
fod plant yn cael cludiant i’r ysgolion ac ychwanegwyd eu bod yn rhesymau
teilwng. Mynegwyd fod yr adran wedi comisiynu gwaith i roi sylw manwl i’r
gorwariant ac mae argymhellion cychwynnol mewn lle a chamau gweithredu. Ategwyd
fod gwaith ychwanegol angen ei wneud ac edrych yn drawsadrannol ar y
ddarpariaeth o gludiant. Trafodwyd canlyniadau'r Haf a nodwyd fod
gostyngiad cenedlaethol yng nghanlyniadau’r cyfnod sylfaen. Ychwanegwyd fod
Cyfnod Allweddol 2 a 3 a pherfformiad da ar y cyfan. Er hyn, nodwyd fod
newidiadau sylweddol i batrwm a chanlyniadau TGAU Saesneg gyda gostyngiad o
12.1%. Mae hyn o ganlyniad i newidiadau i’r ffin marciau o 20 marc. Ychwanegwyd
fod trafodaethau wedi bod gyda Chymwysterau Cymru am y mater. Materion yn codi o’r drafodaeth - Trafodwyd canlyniadau TGAU Saesneg - gan
nodi fod holl benaethiaid Gwynedd, Awdurdodau Cymru a GwE wedi cysylltu â
Chymwysterau Cymru am y mater. Ychwanegwyd fod ymatebiad wedi ei dderbyn sydd
yn nodi nad oedd yr 20 marc o wahaniaeth yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl ifanc.
Ychwanegwyd y bydd y mater yn mynd ymhellach at Lywodraeth Cymru, gan nodi fod
y sefyllfa yn un annheg ac anffodus sydd yn ei gwneud yn anodd i ysgolion a'r
adran i gymharu un flwyddyn i’r llall. - Tynnwyd sylw ar y ffaith nad yw cynnig
presennol ar gyfer datblygu arweinyddiaeth yn addas i bwrpas gan ategu fod yr
adran yn gweithio gyda GwE er mwyn datblygu cynllun hyfforddiant. Ychwanegwyd
fod llawer o’r swyddi arweiniol o fewn ysgolion yn rhai newydd o fewn y 10
mlynedd diwethaf. - Tynnwyd sylw at Ysgol Tywyn a enillodd Wobr
Daily Post ar gyfer Ysgol Orau yn y Gymuned a’r ganmoliaeth sydd wedi ei wneud
i’r ethos o gynyddu’r defnydd o Gymraeg o fewn yr ysgol. -
Gwaith
yn parhau i annog ysgolion i chwifio'r Faner Genedlaethol tu allan i’r
ysgolion. Awdur: Iwan Trefor Jones |
||
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DAI, DIWYLLIANT A HAMDDEN PDF 171 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Cymeradwyo i ail-broffilio
arbedion cyfleusterau hamdden am swm o £157k oherwydd na fydd yr arbedion yn
cael ei gyflawni yn 2018-19 gan nad yw Cwmni Byw’n Iach yn weithredol tan
Ebrill 1af 2019. Cofnod: Cyflwynwyd gan Morwena Edwards ac Iwan
Trefor Jones PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cymeradwyo i ail-broffilio arbedion cyfleusterau hamdden am
swm o £157k oherwydd na fydd yr arbedion yn cael ei gyflawni yn 2018-19 gan nad
yw Cwmni Byw’n Iach yn weithredol tan Ebrill 1af 2019. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr holl
faterion wedi ei drafod yn y cyfarfodydd perfformiad. Ychwanegwyd mai’r brif
elfen wrth edrych ar y maes tai yw'r bwriad o ddod a Strategaeth Tai i’r
Cabinet. Ychwanegwyd fod y cynllun yn rhedeg hwyr a gobeithir y bydd yn cael ei
drafod yn y misoedd nesaf. Mynegwyd fod angen cael dealltwriaeth glir o
anghenion ardaloedd gan sicrhau fod y strategaeth amlinellu’r brif flaenoriaeth
ar gyfer y Maes Tai. Cydnabuwyd fod angen edrych yn fanylach yn benodol ar y
maes Digartrefedd. Tynnwyd sylw ar y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a
Gwybodaeth gan bwysleisio fod y Llyfrgell ar ei newydd wedd wedi agor yn Y
Bala. Mynegwyd fod ymateb positif wedi bod i’r Llyfrgell newydd. Nodwyd fod
Llyfrgelloedd wedi bod yn treialu peiriannau hunanwasanaeth a bod hyn yn
rhyddhau amser staff. Mynegwyd fod y gwasanaeth wedi bod yn casglu gwybodaeth
am yr ymholiadau maent yn eu cael mewn llyfrgelloedd sydd wedi dangos fod
hanner y bobl sydd yn dod i’r Llyfrgelloedd ddim yn dod i fenthyg llyfr.
Esboniwyd fod y llyfrgelloedd bellach yn cael ei defnyddio fel ‘siop un stop’ i
bob pwrpas. Nodwyd fod caran o blant sydd yn 11 oed sydd
wedi cyrraedd safon nofio’r Cwricwlwm yn codi yn flynyddol a bod gwaith
arbennig wedi ei gyflawni yn nalgylch Canolfan Bro Dysynni. Ychwanegwyd fod
gofyn i’r Cabinet gymeradwyo ail-broffilio arbedion cyfleusterau hamdden
oherwydd na fyddant yn cael eu cyflawni yn 2018-19 gan nad yw’r Cwmni Byw’n
Iach yn weithredol tan Ebrill 2019. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth - Tynnwyd sylw at y dangosydd nifer o ddyddiau
calendr ar gyfartaledd a gymerwyd i roi grant cyfleusterau anabl a nodwyd yn
170 o ddyddiau. Ychwanegwyd fod y nifer o ddyddiau yn rhai hir ac ychwanegwyd
fod angen edrych yn fanylach ar y nifer o ddyddiau gan ychwanegu fod yr adran
yn awyddus i ddod o hyd i'r ffordd symla o weithio. - Trafodwyd niferoedd sydd yn ymweld â’r
Llyfrgell gan nodi fod angen adolygu’r ffigwr. Ychwanegwyd fod angen
cyd-weithredid a chymunedau lleol i weld parhad i ddarpariaeth y Llyfrgelloedd.
Awdur: Iwan Trefor Jones a Morwena Edwards |
||
CYLLIDEB REFENIW 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 77 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: - Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2018
o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth. - Gofyn i’r Aelodau Cabinet ar gyfer gwasanaethau
Plant, Addysg a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol sicrhau fod yna gynllun gweithredu
clir gan yr adrannau i gymryd camau i leihau’r diffyg ariannol ac i drafod y
cynlluniau hynny gyda mi er mwyn cael hyder eu bod yn rhesymol. - Digolledu’r Adran Economi a Chymuned £40k sef y
golled incwm yn dilyn cau pwll nofio Arfon dros yr haf. - Cynaeafu (£1,904) o’r tanwariant net ar gyllidebau
Corfforaethol, gyda (£40k) i’w defnyddio i ddigolledu’r Adran Economi a
Chymuned am y golled incwm tra bu Pwll Nofio Arfon ar gau. Gyda’r gweddill sef
(£1,864) i’w drosglwyddo i Gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i
gynorthwyo gyda phwysau anochel un tro ar gyllidebau’r Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNIAD . Derbyn yr
adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2018 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y
sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. - Gofyn i’r
Aelodau Cabinet ar gyfer gwasanaethau Plant, Addysg a Phriffyrdd a
Bwrdeistrefol sicrhau fod yna gynllun gweithredu clir gan yr adrannau i gymryd
camau i leihau’r diffyg ariannol ac i drafod y cynlluniau hynny gyda mi er mwyn
cael hyder eu bod yn rhesymol. - Digolledu’r
Adran Economi a Chymuned £40k sef y golled incwm yn dilyn cau pwll nofio Arfon
dros yr haf. - Cynaeafu
(£1,904) o’r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol, gyda (£40k) i’w
defnyddio i ddigolledu’r Adran Economi a Chymuned am y golled incwm tra bu Pwll
Nofio Arfon ar gau. Gyda’r gweddill sef (£1,864) i’w drosglwyddo i Gronfa
Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un tro ar
gyllidebau’r Cyngor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw'r Cyngor
ynghyd a rhagolygon ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol. Ychwanegwyd ers 2015
fod y Cyngor wedi cael cyfnod heriol gydag arbedion o £27miliwn yn ystod y
cyfnod. Ategwyd fod y cyllidebau diwedd Awst yn
dangos darlun cymysg gyda rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau.
Ychwanegwyd fod y rhagolygon yn nodi erbyn diwedd Mawrth y bydd 5 adran yn
gorwario a 5 adran yn tanwario. O ganlyniad i orwariant, nodwyd y bydd angen i
rai adrannau gynnig camau gweithredu pendant er mwyn sicrhau rheolaeth o’u
cyllidebau erbyn 31 Mawrth 2019, sef Adran Addysg, Plant a Chefnogi Teuluoedd,
a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol. Nodwyd fod yr aelod Cabinet dros yr adran Addysg
wedi nodi ei sylwadau am y tan wariant yn yr adroddiad perfformiad. Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Blant a
Theuluoedd fod cyllideb yr adran yn un hynod heriol. Ychwanegwyd nad yw’r gyllideb
ddim yn ymarferol yn benodol wrth edrych ar achosion dwys a chymhleth,.
Ymhelaethwyd gan nodi fod gorwariant yn yr adran Blant yn broblem Genedlaethol
a Rhanbarthol. Mynegwyd fod yr adran yn ceisio dod o hyd i ateb ac y bydd
adroddiad mawl yn cael ei baratoi i wynebu'r heriau er mwyn symud ymlaen. Nododd yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a
Bwrdeistrefol fod cynnydd wedi bod mewn costau gweithredol a bod gorwariant
cysylltiedig â salwch yn parhau i beri problemau. Ychwanegwyd fod yr adran wedi
cymryd camau i geisio datrysiad ond fod gwaith pellach i’w wneud. Ychwanegwyd
fod colled incwm wedi bod ar yr ochor gwastraff masnachol o ganlyniad i
gystadleuaeth allanol a busnesau yn cau. Nododd ei fod yn gobeithio fod modd
gweithredu o fewn y gyllideb bresennol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Awdur: Dafydd L Edwards |
||
RHAGLEN GYFALAF 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 164 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31
Awst 2018) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir
yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: -
£8,444,000 mewn amryw ffynonellau i ariannu gwir
lithriadau o 2017/18 -
£10,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca -
£10,988,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau -
£789,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf -
£187,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw -
£4,859,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31
Awst 2018) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir
yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: -
£8,444,000 mewn amryw ffynonellau i ariannu gwir
lithriadau o 2017/18 -
£10,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca -
£10,988,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau -
£789,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf -
£187,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw -
£4,859,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn cynnwys dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf am 3 blynedd
2018/19 - 2020/21 sydd yn £47.022m. Ychwanegwyd fod cynnydd net oddeutu
£25.277m ers y gyllideb agoriadol ac ategwyd fod £8.444m ohono o ganlyniad i
lithriadau o 2017/18. Mynegwyd mai grantiau a dderbyniwyd yn hwyr yn ystod y
flwyddyn i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Briffyrdd a
Bwrdeistrefol yw’r prif reswm dros y llithriadau. Nodwyd fod cynlluniau pendant mewn lle i
fuddsoddi tua £28.6m yn 2018/19 gyda 34% ohono wedi’i ariannu drwy ddenu
grantiau penodol. Diolchwyd i staff yr adrannau am eu gwaith caled. Awdur: Dafydd L Edwards |
||
TROSOLWG ARBEDION 2018/19 - ADRODDIAD CYNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 199 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag at
wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag at
wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod 95%,
sef £23m o’r £24m ar gyfer 2015/16 - 2017/18 bellach wedi ei gwireddu.
Ychwanegwyd fod ychydig o lithriad ar rai o’r cynlluniau gyda nifer ohonynt o’r
adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ble mae her o wireddu rhai cynlluniau yn
parhau. Nodwyd yn ogystal fod rhai llithriadau gan yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol, bu i’r Cabinet ar 11 Medi
2018 gymeradwyo rhai cynlluniau amgen a gohirio gweithredu ar y cynllun
Canolfannau Amgylchu, Mynegwyd wrth edrych ar gynlluniau adrannol
am 2018/19, nodwyd o’r 26 o gynlluniau fod 11 eisoes wedi eu gwireddu yn llawn
neu’n rhannol, ac yn galonogol dim ond dau gynllun a ragwelir yn llithro.
Ategwyd ar y cynlluniau a fydd yn llithro cynllun Dechrau i’r Diwedd a Chynllun
Hamdden. Ychwanegwyd o ran weddill y cynlluniau fod y rhagolygon o wireddu yn
gyffredinol addawol. Diolchwyd i staff am eu gwaith caled yn dod
o hyd i arbedion, gan ychwanegu fod yr adrannau wedi perchnogi’r cynlluniau
arbedion. Trafodwyd y sefyllfa ariannol Awdurdodau Lleol eraill gan nodi fod
gan Wynedd le i ymfalchïo yn eu hymdrech i ddod o hyd i arbedion. Awdur: Dafydd L Edwards |
||
BLAEN RAGLEN Y CABINET PDF 60 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r
cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Dyfrig Seicyn PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Cyflwynwyd y flaen
raglen. |