Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH and Zoom
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 MEDI 2021 PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn dilyn y
drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datglir gwybodaeth
eithriedig o dan Baragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal yr wybodaeth hynny) a Paragraff 16 o
Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â’r sawl y
byddai modd cynnal hawl o fraint cyfreithiol proffesiynol mewn achos
cyfreithiol. Mae’r adroddiad
ynglŷn a sefyllfa ac opsiynau ar gyfer rheolaeth elusen y mae’r Cyngor yn
ymddiriedolwr ohono. Felly, mae’r swyddogaeth yma ar wahân oddi wrth sefyllfa y
Cyngor fel awdurdod cyhoeddus statudol ac yn ddarostyngedig i ofynion a
chyfrifoldebau penodol rheolaeth elusen. Mae budd cyhoeddus mewn cael
gwybodaeth am sut mae’r Cyngor yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath. Fodd
bynnag mae hyn yn cael ei gyfarch drwy gyfraith elusennau, Mae’r adroddiad yma
ynglŷn a thrafodion busnes ac opsiynau y dylai’r ymddiriedolwyr gael cyfle
priodol i’w trafod a chloriannu mewn modd rhydd ac agored cyn dod i gasgliad
gorau er budd yr elusen. Byddai cynnal y drafodaeth yn gyhoeddus yn tanseilio
eu gallu i gyflawni hyn. Y Cabinet yn eistedd fel ymddiriedolwyr yw’r unig
fforwm priodol ar gyfer gweithredu hyn. Felly mae’r budd cyhoeddus o blaid
eithrio. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIRIEDOLAETH ELUSEN AMGUEDDFA LLOYD GEORGE Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Cymerawydwyd cwblhau’r Cytundeb o Ddealltwriaeth
ddrafft sy’n gosod trefniadau cydweithio ffurfiol rhwng Ymddiriedolwyr
Ymddiriedolaeth Elusen Amgueddfa Lloyd George (Yr Ymddiriedolaeth) a Chyngor
Gwynedd (Y Cyngor), sy’n darparu’r gefnogaeth arbenigol a’r gwasanaethau atodol
i redeg a gweithredu’r Amgueddfa ar ran yr elusen. 2.
Cymeradwywyd cwblhau’r Cytundeb o Ddealltwriaeth
drafft sy’n gosod y trefniadau cydweithio rhwng Yr Ymddiriedolaeth, Y Cyngor a
Chyfeillion Amgueddfa Lloyd George. 3.
Derbyn diweddariad ar weithredu’r Achos busnes a
chyfaniad Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George. 4.
Ymateb i’r prosiect SPF a’r cynlluniau
amlinellol i ail-ddehongli a moderneiddio’r Amgueddfa. |