Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r
Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Catrin Wager. |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|||
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5 TACHWEDD 2019 PDF 77 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod:
|
|||
CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2020-24 PDF 75 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd
cymeradwyo’r ddogfen Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 fel drafft ar gyfer
ymgysylltu gyda’r cyhoedd. Cofnod: Cyflwynwyd gan y
Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Penderfynwyd
cymeradwyo’r ddogfen Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 fel drafft ar gyfer
ymgysylltu gyda’r cyhoedd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai dyma drydydd Cynllun Cydraddoldeb y Cyngor, gan
ychwanegu y bu i’r cyntaf gael ei gyhoeddi yn 2012. Pwysleisiwyd mai pwrpas yr Cynllun yw i
leihau anghydraddoldeb ar y draws y Cyngor yn unol â’r dyletswydd dan Ddeddf
Cydraddoldeb 2010. Ychwanegwyd fod y
Cyngor yn ceisio sicrhau fod cydraddoldeb wedi ei wreiddio yn ddwfn i holl
waith y Cyngor. Mynegwyd fod y cynllun yn un uchelgeisiol ond yn ymarferol.
Nodwyd fod y cais yn gofyn i fynd i ymgynghoriad ar y cynllun ac fod yr adran
yn edrych ymlaen i gael clywed barn unigolion. Pwysleisiodd y
Swyddog Cydraddoldeb bwysigrwydd yr ymgynghoriad i sicrhau fod y cynllun yn
diwallu anghenion unigolion ac yn ymgeisio i wella diwylliant ymhellach o fewn
y Cyngor o ran cydraddoldeb. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Tynnwyd
sylw nad yw’r Gymraeg yn nodwedd sydd wedi’i gwarchod yn benodol gan y Ddeddf
Gydraddoldeb ond nodwyd balchder fod y Cyngor yn ei chynnwys ac fod y Cyngor yn
arwain y ffordd o ran y iaith. ¾
Cefnogwyd
yr adroddiad gan nodi fod angen i’r Cyngor feddwl am annog mwy o amrywiaeth o
ran Cynghorwyr ac o ran arweinyddiaeth o fewn y Cyngor. ¾
Amlygwyd
fod Asesiad Cydraddoldeb yn cyd fynd â’r Cynllun Cydraddoldeb ac fod hyn yn
wers i adrannau eraill am bwysigrwydd creu Asesiad. ¾
Holwyd
am y cynllun gweithredu a nodwyd y bydd y cynllun yn aeddfedu ac symud ymlaen o
ganlyniad i gasglu gwybodaeth yn gychwynnol. Awdur: Delyth Gadlys |
|||
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU PDF 98 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi
adroddiad blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r cynnydd yn 2018-19 ar y meysydd gwaith sy’n
cael eu dwyn ymlaen drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Derbyn a nodi adroddiad blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Gogledd Cymru a’r cynnydd yn 2018-19 ar
y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Gogledd Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bu i’r Bwrdd gael ei sefydlu yn dilyn
cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Nodwyd ei bod
yn ofynnol yn rhan 9 o’r ddeddf i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo
cydweithrediad at ddibenion Gwasanaethau Cymdeithasol ac eu bod yn adrodd ar eu
gwaith yn flynyddol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Croesawyd
yr adroddiad gan bwysleisio pwysigrwydd y maes. Holwyd faint o newid mae’r
Bwrdd wedi ei wneud, pwysleisiwyd mae’r prif werth yw fod modd i rhanbarth
ddysgu oddi wrth ei gilydd. Ychwanegwyd fod fforymau lleol yn cael ei cynnal yn
ogystal ac fod y fforymau yn fwy gweithredol nac y Bwrdd. ¾
Mynegwyd
fod cyfnodau anodd wedi bod pan gychwynnwyd y Bwrdd ond bellach fod
aeddfedrwydd gan fod gweithio fel rhanbarth bellach yn anorfod. ¾
Tynnwyd
sylw at faint aelodaeth y Bwrdd gan nodi ei fod trafodaethau yn rhai pwysig ond
fod y cynnydd mwyaf wedi digwydd o ran cydweithio lefel leol. Ychwanegwyd fod
angen amlygu weithiau i aelodau fod yn rhan o’r Fforymau Lleol gweithredol yn
hytrach na’ cheisio bod yn rhan o’r Bwrdd. ¾
Diolchwyd
i’r Cynghorydd W Gareth Roberts am ei waith fel Cadeirydd y Bwrdd yn ystod y
dyddiadau cyntaf i osod cyfeiriad a sail gadarn. ¾
Mynegwyd
yn sicr fod angen i drafodaethau gael eu cynnal ar lefel rhanbarthol ond
mynegwyd pwysigrwydd i’r prif waith gael ei wneud ar lefel leol. Tynnwyd sylw
at y panel dinasyddion gan nodi fod y nifer mor isel ei fod yn gwrth ddweud
diwylliant sydd i’w weld yng Nghyngor Gwynedd – sef nad proses ticio bocsus yw
ymgysylltu go iawn ond sicrhau ein bod yn gwybod beth sy’n bwysig i bob
unigolyn yr ydym yn eu gwasanaethu. Ychwanegwyd fod hyn yn pwysleisio
pwysigrwydd y gwaith ar lefel leol er mwyn mynd i’r afael a anghenion pobl
Gwynedd. Awdur: A Morwena Edwards |