Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Cemlyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR ARWEINYDD A DIRPRWY ARWEINYDD AR Y BYRDDAU RHAGLEN PDF 115 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn a'r Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y Cabinet wedi penderfynu ffurfio dau ffwrdd
trawsadrannol yn edrych ar ddau faes penodol – Adfywio a Cefnogi Pobl. Mynegwyd o ran y
Maes Adfywio eu bod wedi casglu gwybodaeth am y sir ac wedi rhannu’r sir yn 13
ardal. Ychwanegwyd fod angen ystyried pa waith sydd angen ei wneud ym mhob
cymuned er mwyn anelu at y ‘gymuned berffaith’. Ategwyd fod angen ymgysylltu a
thrigolion er mwyn bod yn ymwybodol o’u blaenoriaethau ac y bydd y gwaith
ymgysylltu yn cychwyn yn fuan. Nodwyd o ran y Maes
Cefnogi Pobl ei bod wedi bod yn ddiddorol i weld y mapio ffrydiau gwaith yn y
maes hwn. Ychwanegwyd ar rai adegau nad oedd yna gysylltiadau digonol rhwng y
ffrydiau ond fod llawer o’r gwaith yn tynnu pobl at ei gilydd yn fwy effeithlon
er mwyn edrych ar y gefnogaeth yr ydym yn ei roi drwy safbwynt y dinesydd. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Mynegwyd
pwysigrwydd o ffocysu ar y trigolion yn y byrddau rhaglen a holwyd o ran y
Bwrdd Cefnogi Pobl os oedd asiantaethau neu awdurdodau eraill yn rhan o’r
drafodaeth. Mynegwyd fod y Cyngor yn mynychu Byrddau’r Gogledd mewn amryw faes
ond fod y bwrdd hwn yn canolbwyntio ar waith y cyngor yn y lle cyntaf cyn ei
ymestyn yn ehangach er y byddai hynny yn angenrheidiol maes o law. ¾
Nodwyd
fod y byrddau yma yn mynd at wraidd Ffordd Gwynedd gan nodi y bydd yn
trawsnewid y ffordd o weithio a sut mae adrannau yn edrych ar wasanaethau a
ffrydiau gwaith. ¾
Nodwyd
y bydd argymhelliad yn dod ger bron y Cabinet i newid yr Is Grwp Hinsawdd sydd
yn cyfarfod ar hyn o bryd yn fwrdd newydd a fydd yn canolbwyntio ar yr Argyfwng
Hinsawdd yn drawsadrannol. Mynegwyd y bydd trafodaeth bellach ar y mater bryd
hynny. Awdur: Dilwyn Williams a Morwena Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH CORFFORAETHOL A CHYFRIETHIOL PDF 142 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi y bydd yn canolbwyntio ar rai penawdau yn yr adroddiad.
Nodwyd y bu i’r Cabinet dderbyn Cynllun Cydraddoldeb Drafft ym mis Tachwedd ac
fod y gwaith ymgynghori ar y ddogfen yn mynd rhagddi. Tynnwyd sylw fod cynnydd
yn nifer y digwyddiadau ble mae gwybodaeth am unigolion wedi ei ddwyn neud
golli. Pwysleisiwyd fod gwaith ar droed i edrych ar y polisïau gweithredu er
mwyn ymateb i’r achosion. Nodwyd fod
adolygiad wedi ei wneud o drefniadau ceisiadau Bathodynnau Glas. Ychwanegwyd
fod y Cyngor wedi bod yn cynorthwyo’r Llywodraeth er mwyn gwella’r
gwasanaeth. Diolchwyd i staff yr adran
gyfreithiol am eu gwaith caled dros gyfnod yr etholiad. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Holwyd
pam fod y Cyngor wedi bod yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i sicrhau fod
gwasanaeth ar gael yn ddwyieithog. Mynegwyd fod y ffurflenni Bathodynnau Glas
wedi bod ar gael yn ddwyieithog ond fod y Cyngor wedi bod yn eu cynorthwyo i
sicrhau eu bod yn defnyddio Cymraeg clir fel fod trigolion yn eu deall. ¾
Trafodwyd y maes Caffael gan nodi pwrpas yr
uned sef i gael y prisiau gorau i’r cyngor ynghyd a chadw’r budd yn lleol.
Mynegwyd os nad yw contract yn mynd i fusnesau lleol, yna rydym wedi methu ar
yr ail bwrpas, a bod felly angen gwneud adolygiadau yn gofyn pam. Awdur: Dilwyn Williams |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Catrin Wager PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod targed o wastraff a gesglir sydd yn cael ei
ailddefnyddio, ailgylchu neu compostio oed gan y Cyngor wedi ei gyrraedd ac y
bydd y targed yn codi o 64% i 70% erbyn 2025. Amlygwyd fod canran y gwastraff
sydd yn cael ei anfon i dirlenwi yn ogystal wedi lleihau i 18% a mynegwyd y
bydd y ffigwr am leihau unwaith eto gan y bydd yn cael ei anfon i’r Parc Adfer
unwaith y bydd yn agor. Esboniwyd y bydd y gwastraff yn cael ei losgi i greu
egni yn y parc hwn ac o ganlyniad ni fydd yn cael ei anfon i dirlenwi o gwbl. Tynnwyd sylw at y
maes casgliadau gwastraff gan nodi ymddiheuriad fod problemau wedi codi yn
dilyn newid trefniadau casglu gwastraff yn Arfon. Ychwanegwyd fod cyfnod y
Nadolig, tywydd gwael a problemau cerbydau wedi arwain at lawer o gasgliadau yn
cael eu methu. Pwysleisiwyd mai cyfnod trosiannol yw’r cyfnod hwn ac eu bod yn
gobeithio y bydd yn gwella. Mynegwyd o ran
Newid Hinsawdd fod newid goleuadau stryd i dechnoleg LED yn parhau ac mae 1,700
o lampau wedi ei newid yn ystod 2019/20. Pwysleisiwyd fod hyn yn lleihau
allyriadau carbon i lawr o 3,435 yn 2014.15 i 685 erbyn eleni. Nodwyd fod y
cynllun i foderneiddio Teledu Cylch Cyfyng yn dirwyn i ben a diolchwyd i staff
am eu gwaith caled. Ychwanegwyd ei fod yn ogystal wedi dod i mewn o dan
gyllideb. Tynnwyd sylw at y
maes Ymgynghoriaeth gan nodi fod diffyg ariannol mewn incwm am eleni ac fod hyn
oherwydd ansicrwydd yn y maes o ganlyniad i Brexit. Er hyn pwysleisiwyd fod yr
Adran Dŵr ac Amgylchedd wedi llwyddo i gael grantiau ar gyfer ardaloedd
llifogydd. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Tynnwyd sylw at y methiannau yn y maes casglu
Gwastraff gan bwyslesio fod y niferoedd mor isel yn y miliynau o gasgliadau
sydd yn cael eu casglu. Pwysleisiwyd fod y niferoedd sydd yn cael eu methu
oddeutu 0.01% o’r holl gasgliadau. ¾
Mynegwyd
fod codi gwastraff sydd yn cael eu hailgylchu i 70% yn darged realistig ond
efallai fod angen pwysleisio i gwmnïau fod angen lleihau y defnydd o blastig ac
annog pobl i ail ddefnyddio yn hytrach ‘na prynu o’r newydd. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD PDF 132 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad gan ofyn i’r Prif Weithredwr ystyried y sefyllfa
gyda swyddi sy’n cael eu hariannu o grantiau blynyddol a’r trafferthion y mae
hynny yn ei greu i wasanaethau ac i’r staff eu hunain. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Dilwyn Morgan PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad gan ofyn i’r Prif Weithredwr ystyried y sefyllfa gyda swyddi sy’n
cael eu hariannu o grantiau blynyddol a’r trafferthion y mae hynny yn ei greu i
wasanaethau ac i’r staff eu hunain. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn adrodd ar waith y Cyngor ac ar y cyfan fod yr
Aelod Cabinet yn hapus ar cynnydd mewn prosiectau. Ychwanegwyd ei bod yn her
i’r adran i wireddu’r cynlluniau arbedion. Tynnwyd sylw at y
Strategaeth Cefnogi Teuluoedd gan fynegi fod y gwaith o adnabod y galw a mapio
pa gefnogaeth sydd ar gael wedi ei gwblhau. Ategwyd fod yr adran wedi cyflawni
eu rhaglen waith tymor byd, wrth sefydlu Hwb Teulu Gwynedd sy’n rhoi gwybodaeth
am y gefnogaeth sydd ar gael. Amlygwyd blaenoriaeth yr adran am weddill y
flwydd sef i gytuno ar weledigaeth glir gyda’r partneriaid allweddol i er mwyn
sicrhau cyd-gynllunio yn y gwasanaethau i deuluoedd. Mynegwyd o ran
Perfformiad yr adran fod y trefniadau diogelu yn rhai cadarn. Nodwyd fod
ymestyn gwaith sgrinio teclyn Welcomm yn y maes Blynyddoedd Cynnar yn cael ei
wneud a fydd yn ceisio gwella datblygiadau iaith plentyn. Amlygwyd llwyddiant
cynllun Pontio’r Cenedlaethau ble mae sesiynau wedi eu cynnal rhwng trigolion
cartref gofal Bryn Seiont ynghyd â phlant meithrinfa Plas Pawb. Pwysleisiwyd
fod pryder am gynlluniau sydd yn cael ei ariannu gan grantiau. Ychwanegwyd fyn
aml fod yr arian yn cael ei dderbyn am gyfnod byr ac ei bod yn mynd yn anos i gadw
staff profiadol gan nodi oes modd cael cytundeb tymor hir neu barhaol.
Gofynnwyd am greu darn o waith i ystyried y sefyllfa. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Mynegwyd
bod y nifer swyddi sydd yn cael eu hariannu o grantiau blynyddol yn ei gwneud
yn anodd i gadw staff ac yn creu anesmwythdod blynyddol iddynt. Mae angen anfon neges i Lywodraeth Cymru yn
nodi ein pryderon am y swyddi sy’n cael eu hariannu o grantiau blynyddol.
Gofynnwyd i’r Prif Weithredwr i ystyried y sefyllfa a’r trafferthion mae hynny yn
ei greu i wasanaethau ac i’r staff eu hunain er mwyn gallu cyflwyno tystiolaeth
gadarn i’r Llywodraeth. ¾
Gofynnwyd
am ddiweddariad o waith y Gwasanaeth Ieuenctid o ran gweithio a mudiadau
ieuenctid eraill. Mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud a’r mudiadau ac fod y
ddarpariaeth ieuenctid bellach yn cyrraedd mwy o lefydd ac erioed o’r blaen. ¾
Trafodwyd
sefyllfa ariannol yr adran gan fynegi fod pwysau ariannol i’w gweld ar draws y
wlad. Ychwanegwyd fod nifer y lleoliadau all-sirol yn uwch o’i gymharu a blynyddoedd
diwethaf, ac fod y gost yn uchel. Mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei cynnal
er mwyn gweld os oes modd dod a darpariaeth yn nes at adref ar draws rhanbarth
y Gogledd. Yn ychwanegol at hyn mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud a Chyngor
Ynys Môn er mwyn datblygu gwasanaeth i weithio a teuluoedd a drwy hyn lleihau’r
angen am leoliadau all sirol. Awdur: Morwena Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABIENT DROS ADDYSG PDF 116 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad, a chymeradwyo’r cynlluniau arbedion amgen sydd yn
rhan 5 o’r adroddiad, sef defnyddio tan wariant y gyllideb ‘Disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n mynychu
Ysgolion All-Sirol’ Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad, a
chymeradwyo’r cynlluniau arbedion amgen sydd yn rhan 5 o’r adroddiad, sef
defnyddio tan wariant y gyllideb ‘Disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol
sy’n mynychu Ysgolion All-Sirol’ TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r penderfyniad gan yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd yn
absenoldeb yr Aelod Cabinet Addysg. Ychwanegwyd i nodi fod yr Aelod Cabinet
dros Amgylchedd wedi bod yn eistedd yn y cyfarfodydd herio perfformiad gyda’r
Aelod Cabinet Addysg ac wedi cael bore
diddorol yn edrych ar waith yr adran. Tynnwyd sylw at yr prosiect TRAC gan nodi fod yr cynllun
wedi cael ei weithredu ers oddeutu tair blynedd ac y bydd y grant yn dod i ben.
Mynegwyd fod angen adroddiad pellach er mwyn edrych yn fanylach ar y
mater. Os yw’n effeithiol mae’n rhaid
i’r cyngor ystyried a ddylid parhau – grant neu beidio – ond mae angen
tystiolaeth i gefnogi hynny. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Codwyd
pryderon am y Siarter Iaith yn parhau i greu baich gwaith benaethiaid. Mynegwyd
fod lefel y gwaith papur bellach wedi codi yn dilyn y cynllun yn cael ei
fabwysiadau yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd gobeithio y bydd
cyfle i ail edrych ar hyn yn sgil Fframwaith Siarter iaith a fydd yn dod i rym
ym Medi 2020. ¾
Mynegwyd
pryder am gynllun TRAC a fydd yn dod i ben ymhen dwy flynedd. Ymhelaethwyd gan
nodi fod y plant sydd yn rhan o’r cynllun hwn yn bobl ifanc bregus ac yr angen
i amlygu hyn. ¾
Nodwyd
fod niferoedd sydd yn cael cinio ysgol yn tueddu i fod yn is a gofynnwyd a oes
oblygiadau i hyn. Ategwyd fod tystiolaeth yn dangos fod codi’r pris yn y
gorffennol wedi bod yn rhannol reswm dros y lleihad. Ychwanegwyd fod yr adran
yn awyddus i edrych yn fanylach ar hyblygrwydd yn y maes. Amlygwyd yn ogystal
fod gostyngiad mewn demograffi cynradd yn ogystal sydd yn amlwg yn golygu
lleihad mewn niferoedd. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS DAI AC EIDDO PDF 114 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adran yn gobeithio y bydd modd mynd a Strategaeth Tai
i’r Pwyllgor Craffu yn ystod yr
wythnosau nesaf ac i’r Cabinet cyn y Pasg. Nodwyd fod y nifer o bobl sydd yn
cyflwyno eu hunain yn ddigartref yn parhau i godi. Pwysleisiwyd fod y
gwasanaeth yn ddibynnol ar grantiau ac o ganlyniad ei bod yn anodd cynllunio.
Ychwanegwyd fod angen arian i sicrhau ateb hir dymor sydd yn mynd at wraidd
problemau. Nodwyd fod prosiect
newydd ar y cyd â’r asiantaeth trydydd sector Cais a Grŵp Cynefin
wedi bod yn llwyddiannus yng Ngwobrau
Cymorth Cymru yn y categori atal digartrefedd. Amlygwyd mai cynnig cefnogaeth i
bobl sy’n gadael carchar a phobl ag anghenion dwys sydd wedi bod yn cysgu allan
oedd y prosiect hwn. Nodwyd fod derbyn y wobr hon yn amlygu'r gwaith sydd yn
gallu cael ei wneud. Amlygwyd fod gwaith Ffordd Gwynedd angen ei wneud yn y Gwasanaeth
Cyflenwad a Gorfodaeth Tai sydd yn gyfrifol am ddarparu grantiau addasu tai ar
gyfer pobl ag anableddau. Gobeithir drwy gynnal adolygiad Ffordd Gwynedd y bydd
modd ymchwilio i’r llif gwaith i adnabod rhwystrau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Mynegwyd pwysigrwydd o greu adolygiadau Ffordd
Gwynedd ar y gwasanaethau gan, yn y maes hwn, yn holl bwysig i feddwl am
dyheadau a anghenion yr unigolion. Pwysleisiwyd gyda chynnydd mewn digartrefedd
ac yn benodol digartrefedd cudd fod angen sicrhau fod y pecynnau sydd ar gael
yn benodol i’r unigolyn. ¾
Amlygwyd fod maes tai yn faes anodd pan fo 10% o
stoc tai yr ardal yn dai haf. Mynegwyd fod angen cyflenwad o dai sydd ar gael
ar gyfer byw ynddynt. Ychwanegwyd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi
codi sylw am hyn a’r gobaith yw y byddai’n cael ei drafod yng Nghyfarfod nesaf
o Gabinet y Gogledd. Awdur: Dilwyn Williams |
|
TROSOLWG ARBEDION 2019/20 - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 284 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag ar wireddu cynlluniau
arbedion 2019/20 a blynyddoedd blaenorol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag
ar wireddu cynlluniau arbedion 2019/20 a blynyddoedd blaenorol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod gwerth £32m o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu
yn ystod cyfnod 2015/16 i 2019/20. Ychwanegwyd drwy nodi fod yr atodiad yn nodi
cyrhaeddiad pob adran yn erbyn y targed arbedion oedd wedi ei osod sydd yn
gyfanswm o bron i £27m. Amlygwyd fod
risgiau sylweddol i gyflawni arbedion 2019/20 gan yr Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd sef Adolygiad Dechrau i’r diwedd. Mynegwyd fod Tasglu Cyllideb Plant
wedi ei gomisiynu er mwyn rhoi sylw i faterion ariannol yn yr Adran sydd yn
cynnwys y maes yma. Tynnwyd sylw ar risgiau o gyflawni arbedion yn yr Adran Tai
yn ogystal yn y cynllun Adolygu’r Strwythurau a Lleoliadau presennol gan nodi
fod yr adran yn edrych i ddod o hyd i gynlluniau amgen. Nodwyd fod atodiad dau yn crynhoi’r sefyllfa o ran gwireddu cynlluniau arbedion 2019/20. Pwysleisiwyd fod 48% wedi eu gwireddu a 23% ar drac. Amlygwyd fod 22 o gynlluniau yn llithro neu a risgiau i gyflawni. Mynegwyd fod y cyfnod yn gyfnod heriol ond fod y cynlluniau ar y cyfan yn rhai boddhaol. Awdur: Dafydd Edwards |