Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: |
|
CAU ALLAN Y WASG AR CYHOEDD Bydd y cadeirydd yn cynnig y dylid cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithredig fel y’i diffinir ym
Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn
â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod
sydd yn dal yr wybodaeth hynny) a Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â’r sawl y byddai modd cynnal hawl o fraint
cyfreithiol proffesiynol mewn achos cyfreithiol. Mae’r adroddiad ynglŷn a sefyllfa ac
opsiynau ar gyfer rheolaeth elusen y mae’r Cyngor yn ymddiriedolwr ohono. Felly,
mae’r swyddogaeth yma ar wahân oddi wrth sefyllfa y Cyngor fel awdurdod cyhoeddus
statudol ac yn ddarostyngedig i ofynion a chyfrifoldebau penodol rheolaeth elusen.
Mae budd cyhoeddus mewn cael gwybodaeth am sut mae’r Cyngor yn
gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath. Fodd bynnag mae hyn yn cael ei gyfarch drwy
gyfraith elusennau, Mae’r adroddiad yma ynglŷn a thrafodion busnes ac
opsiynau y dylai’r ymddiriedolwyr gael cyfle priodol i’w trafod a chloriannu mewn modd rhydd ac
agored cyn dod i gasgliad gorau er budd yr elusen. Byddai cynnal y drafodaeth yn
gyhoeddus yn tanseilio eu gallu i gyflawni hyn. Y Cabinet yn eistedd fel
ymddiriedolwyr yw’r unig fforwm priodol ar gyfer gweithredu hyn. Felly mae’r budd
cyhoeddus o blaid eithrio. Dogfennau ychwanegol: |
|
ADNABOD YR OPSIWN FFAFRIEDIG AR GYFER DYFODOL AMGUEDDFA LLOYD GEORGE Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd i wneud cyfraniad un tro am
gostau blwyddyn yr Amgueddfa er mwyn prynu amser i Ymddiriedolaeth Elusen
Amgueddfa Lloyd George i edrych ar y newidiadau all eu gwneud er mwyn i’r
Amgueddfa fod yn hyfyw i’r dyfodol. I’r Adran Economi a Chymuned adrodd yn ôl i’r Cabinet yn
eitsedd fel Ymddiriedolwr yn fuan er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r bwriad
ar gyfer gwireddu’r cynllun i roddi’r elusen ar droed mwy masnachol fel yr
argymhellwyd eisoes gan yr adroddiadau ymgynghorwyr a dderbyniwyd. Gofyn i’r adran a’r Gwasaneth Cyfreithiol adolygu
trefniadau’r Elusen er mwyn sicrhau bod materion yr ymddiriedolaeth yn hollol
glir ac ar wahân i faterion y Cyngor. |