Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Richardson
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
Materion yn codi o Bwyllgorau Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu. |
|
Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2015 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet
a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2015. |
|
Datblygu Safle Frondeg Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Roberts. Eiliwyd gan y Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Ymgynghori yn ffurfiol ar ddyfodol cartref Y Frondeg
gan adnabod yr opsiwn isod (Opsiwn 5) fel yr opsiwn a ffafrir o fewn yr
ymgynghoriad – ·
Datblygu model Llety Cefnogol newydd wrth ymyl Cartref
Frondeg ar gyfer 16 preswylydd (6 achos dwys, 10 cymedrol). |
|
STRATEGAETH FFORDD GWYNEDD Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: The report was
submitted by Cllr Peredur Jenkins. It was seconded by Cllr
Dafydd Meurig. DECISION To adopt the draft ‘Ffordd
Gwynedd’ Strategy as the Council’s operational Strategy. To review the implementation of
the Ffordd Gwynedd Strategy in a year’s time, and assess whether additional
resources are needed to realise the strategy in less time. 4.
STRATEGAETH FFORDD GWYNEDD Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD Mabwysiadu’r Strategaeth ddrafft ‘Ffordd Gwynedd’ yn
Strategaeth weithredol ar gyfer y Cyngor. Adolygu gweithrediad Strategaeth Ffordd Gwynedd ymhen blwyddyn,
ac asesu a fydd angen adnoddau ychwanegol er mwyn ei gwireddu o fewn llai o
amser. |
|
Cyllideb Refeniw 2015-16 - Adnabod Risgiau Cynnar Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd gan y Cyng. John Wynn Jones. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod, gan
nodi’r risgiau cyllideb sydd wedi’u hadnabod yn gynnar yn 2015/16 a chytuno i’r
Aelodau Cabinet a’r Penaethiaid Adrannau perthnasol gymryd camau priodol
ynglŷn â materion o dal eu rheolaeth. Comisiynu
adroddiad drwy’r Aelodau Cabinet Adnoddau ac Addysg er mwyn adolygu telerau polisi
ymddeol cynnar athrawon ynghyd ag ail-ystyried trefniadau ariannu costau
ymddeol cynnar a diswyddo athrawon a staff ategol ysgolion. |
|
Rhaglen Gyfalaf 2015-16 Adolygiad Chwarter Cyntaf Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd gan y Cyng. Mair Rowlands. PENDERFYNIAD Yn dilyn adolygu gwariant chwarter cyntaf 2015/16,
derbyn y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu
perthnasol. |
|
Ardal Gwella Busnes Bangor a Chaernarfon Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mandy
Williams-Davies. Eiliwyd gan y Cyng. John Wynn Jones. PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r bwriad o gynnal pleidlais ymysg
busnesau canol dinas Bangor a chanol tref Caernarfon ar y bwriad o sefydlu
Ardal Gwella Busnes o fewn y ddwy ardal. Pan agorir y
bleidlais, cytunwyd i ddirprwyo natur y bleidlais i’r Aelod Cabinet Economi
mewn cysylltiad â swyddogion perthnasol. |
|
Strategaeth Gaffael y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mandy
Williams-Davies. Eiliwyd gan y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNIAD Mabwysiadu Strategaeth Gaffael y Cyngor gan dderbyn
argymhellion y Pwyllgor Craffu Corfforaethol i’w addasu yn unol â pharagraffau
3.1(a) hyd 3.1(d) yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod. Bod yr
Aelod Cabinet Economi yn pwyso ar Lywodraeth Cymru y dylid sefydlu mesur cyson
ar draws cynghorau Cymru ar gyfer ‘gwariant lleol’. |