Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Richardson
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd W Gareth Roberts fuddiant personol yn Eitem 6 ar y
rhaglen oherwydd bod ei ferch yn gweithio i Adran Eiddo’r Cyngor, a
mab-yng-nghyfraith yn gweithio i’r Adran Ieuenctid. Gan na thrafodwyd fater yn
effeithio’n benodol ar yr adrannau hyn, ac nad oedd yn fuddiant oedd yn
rhagfarnu, ni adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Datganodd y Cynghorydd Ioan Thomas fuddiant personol ym mhwynt 3.8.22 yn
Eitem 6 (Pont yr Aber) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn aelod o Ymddiriedolaeth
yr Harbwr. Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a
gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y pwynt hwn. Datganodd y Cynghorydd Gareth Thomas fuddiant personol yn Eitem 6 ar y
rhaglen oherwydd bod ei fab-yng-nghyfraith yn gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd
y Cyngor. Gan na thrafodwyd fater yn effeithio’n benodol ar y Gwasanaeth hwn,
ac nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ni adawodd y Siambr yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. Datganodd y Cynghorydd Mair Rowlands fuddiant personol yn Eitem 6 gan ei
bod yn aelod o Fwrdd Derwen a Bwrdd Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid. Roedd yr
aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac fe gymerodd ran yn y
drafodaeth ar yr eitem. Datganodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies fuddiant personol ym mhwynt
3.8.1 yn Eitem 6 (Brecwast am ddim) gan bod ei phlant yn derbyn y ddarpariaeth.
Roedd yr aelodau o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac fe gymerodd
ran yn y drafodaeth ar yr eitem. Datganodd Dilwyn Williams fuddiant personol, ar ran holl Uwch Swyddogion y
Cyngor, ym mhwynt 3.8.60 yn Eitem 6 (Uwch Reolaeth y Cyngor). Gan na thrafodwyd
fater yn effeithio’n benodol ar y Gwasanaeth hwn ni adawodd y Siambr yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. Datganodd Dilwyn Williams fuddiant personol ym mhwynt 3.8.53 yn Eitem 6
(Cyllid a Chyfrifeg) gan bod ei fab yn gweithio yn Adran Gyllid y Cyngor. Gan
na thrafodwyd fater yn effeithio’n benodol ar y Gwasanaeth hwn ni adawodd y
Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Datganodd Dafydd Edwards
fuddiant personol ym mhwynt 3.8.60 (fel uchod) ac ym mhwynt 3.8.28 o Eitem 6
(Cefnogol-Derwen) gan bod ei wraig yn gweithio’n achlysurol i Derwen. Gan na
thrafodwyd fater yn effeithio’n benodol ar y Gwasanaeth hwn ni adawodd y Siambr
yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Datganodd Iwan Evans fuddiant personol gan bod cyfeiriad at ei Swydd yn
Atodiad 1 i Eitem 6. Gan na thrafodwyd fater yn effeithio’n benodol ar y
Gwasanaeth hwn ni adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
Materion yn Codi o Bwyllgorau Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu. |
|
Eitem 5 - 20150730 Cofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet
a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2015. |
|
Eitem 6 - Adroddiad - Canfod barn y cyhoedd ar doriadau posib Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd gan y Cyng. W Gareth Roberts. TRAFODAETH Trafodwyd cynnwys y tabl
yn rhan 3.8 o'r adroddiad mewn clystyrau gwahanol. Trafodwyd eitemau 1 i 26 yn
gyntaf, yna trafodwyd eitemau 27 i 52, ac yna eitemau 53 i 65. Isod mae’r sylwadau ar gyfer pob eitem yn unigol yn y clwstwr cyntaf o
eitemau rhwng 1 a 26 – 1. Brecwast am ddim Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau
yn yr adroddiad, ond gan nodi’r canlynol - Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod hwn yn ddarpariaeth statudol ond bod
yna amodau iddo. Dyw’r amodau hyn ddim yn rhwystr rhag ymgynghori â’r cyhoedd. 2. Ieuenctid Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau
yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol - Mae gofyn statudol i ddarparu gwasanaeth ar gyfer ieuenctid ond nid oes
raid i hynny ddigwydd drwy’r Gwasanaeth Ieuenctid o anghenraid. Byddai
trafodaeth gyda’r trydydd sector yn cael ei groesawu yn ystod y cyfnod
ymgynghori ar ddulliau amgen o ddarparu gwasanaeth. 3. Arlwyaeth Cynradd Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau
yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol – Cytunwyd i amlygu unrhyw dystiolaeth sy’n bodoli ar
y cyswllt rhwng maeth a chyflawniad addysgol yn ystod y cyfnod ymgynghori. 4. Darparu – Canolfannau Chwaraeon a Byw’n Iach Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau
yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol - Nodwyd y bydd mwy o wybodaeth ar gael yn dilyn
cwblhau’r broses o ganfod arbedion effeithlonrwydd, a bod angen caniatáu amser
i weld os fedr y Canolfannau fod yn hunangynhaliol. 5. Mynwentydd Cytunwyd i dderbyn argymhelliad yr Aelodau yn dilyn
y Gweithdai Craffu Aelodau. 6. Archifau Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau
yn yr adroddiad. 7. Adfywio Cymunedol Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau
yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol - Cytunwyd y bydd angen rhannu gwybodaeth, wrth
ymgynghori, ynghylch beth yw gwaith a swyddogaeth yr Uned. Bydd y dogfennau
ymgynghori yn cynnwys gwybodaeth am effaith torri’r gwasanaeth hwn. 8. Morwrol a Pharciau Gwledig Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau
yn yr adroddiad, ond nodwyd y canlynol - Cytunwyd i geisio canfod o ble, yn ddaearyddol, mae sylwadau yn dod yn
ystod y broses ymgynghori. Gall hyn fod yn bwysig gan bod rhai eitemau yn
dylanwadu’n fwy ar rai ardaloedd yn uniongyrchol nag eraill. 9. Bioamrywiaeth Derbyniwyd argymhelliad yr Aelod Cabinet Adnoddau
yn yr adroddiad, ond gan nodi’r sylwadau canlynol - Yn y dogfennau ymgynghori, dylid egluro’n llawn
beth fydd effaith toriad mewn gwasanaeth. Yn yr achos hwn, dylid deall effaith
torri 2 swydd mewn uned o 3 swydd. Cytunwyd hefyd, yn ystod y cyfnod
ymgynghori, i drafod gydag asiantaethau allanol am sut i ddarparu gwasanaeth. 10. Cyllideb Awtistiaeth Cytunwyd i dderbyn argymhelliad yr Aelodau yn dilyn
y Gweithdai Craffu Aelodau. 11. Ôl-16 Cytunwyd i dderbyn argymhelliad yr Aelodau yn dilyn
y Gweithdai Craffu Aelodau. Dylid sicrhau bod ymgynghori’n digwydd gyda’r bobl
ifanc sy’n derbyn y gwasanaeth. Dylid hefyd sicrhau bod effaith torri’r
gwasanaeth yn cael ei amlygu. 12. Rheoli ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |