Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Richardson
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ymddiheuriadau – Cyng. Peredur Jenkins, Cyng. Louise Hughes (Aelod Lleol – ar gyfer eitem
6). Yr Aelodau Lleol canlynol yn ymddiheuro a datgan buddiant ar eitem 6 –
Linda Morgan, Gethin Glyn Williams, John Pughe Roberts. Dilwyn Williams (Prif Weithredwr), Morwena Edwards (Cyfarwyddwr
Corfforaethol), Dafydd Edwards (Prif Swyddog Cyllid),
Arwyn Thomas (Prif Swyddog Addysg). |
|
Datgan Buddiant Personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn fuddiant personol yn eitem 6 ar y
rhaglen (Dyfodol Darpariaeth Addysg yn Nalgylch y Gader), oherwydd bod ei Fab
yn ddisgybl yn Ysgol y Gader Dolgellau, ei fod yn Gadeirydd Bwrdd
Llywodraethwyr Ysgol y Gader Dolgellau ac yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol
Gynradd Dolgellau. Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
Materion Brys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
Materion yn Codi o Bwyllgorau Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu. |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 5ed o Fai 2015 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet
a gynhaliwyd ar 5 Mai 2015. |
|
Dyfodol Darpariaeth Addysg yn Nalgylch Ysgol y Gader - penderfyniad statudol Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas. Eiliwyd gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD Gweithredu ar y cynnig i gau Ysgol Y Gader,
Ysgol Gynradd Dolgellau, Ysgol Brithdir, Ysgol Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Ysgol
Dinas Mawddwy, Ysgol Llanelltyd, Ysgol Friog, Ysgol Clogau (Bontddu) ac Ysgol
Ganllwyd ar 31 Awst 2017 a sefydlu un Ysgol Ddilynol Ddalgylchol cymunedol
cyfrwng Cymraeg 3-16 oed ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader, Cynradd
Dolgellau, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Dinas Mawddwy, Llanelltyd a Friog ar 1
Medi 2017. Yn sgil pwysigrwydd penodi pennaeth a’r angen
iddo/iddi gael ei b/phenodi ymlaen llaw, cymeradwyo sefydlu corff llywodraethol
cysgodol yn ystod Tymor yr Haf 2015 ac yna cyllido pennaeth yr Ysgol Ddilynol
Ddalgylchol o arbedion y cynllun cyn gynted a phosibl. Gohirio cadarnhau rhybudd statudol Ysgol
Machreth (Llanfachreth) er mwyn cael mwy o eglurdeb yn dilyn datblygiadau
diweddar. Gellir ail gyflwyno cais i gadarnhau rhybudd statudol i Ysgol
Machreth ger bron y Cabinet yn y dyfodol heb amharu ar yr amserlen a nodir
uchod. |
|
Mabwysiadu a Hyrwyddo Enw Parth .cymru Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas Eiliwyd gan y Cyng. Mair Rowlands . PENDERFYNIAD Prynu www.gwynedd.llyw.cymru a www.gwynedd.gov.wales pan fyddant ar gael. Hyrwyddo www.gwynedd.llyw.cymru yn unig ar gyfer y
wefan. Parhau i ddefnyddio terfyniadau
Cymraeg a Saesneg. Cyfeiriadau cyfeillgar er mwyn
cyfeirio cwsmeriaid i’r dudalen yn eu dewis iaith ar y wefan. (e.e. www.gwynedd.gov.uk/cynllunio a www.gwynedd.gov.uk/planning). Mabwysiadu cyfeiriadau uniaith
Gymraeg yn unig (@gwynedd.llyw.cymru) ar
gyfer e-byst. Mabwysiadu cyfeiriadau uniaith
Gymraeg yn unig ar gyfer blychau e-bost generig sydd ar dudalennau Cymraeg a
Saesneg y wefan (e.e.trethcyngor@gwynedd.llyw.cymru) . Disodli cyfeiriadau www.gwynedd.gov.uk ar ddeunyddiau a
chyhoeddiadau gyda www.gwynedd.llyw.cymru pan fyddant yn dod i
ben. |