Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sophie Hughes 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dyfed Edwards a Ioan Thomas. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O BWYLLGORAU CRAFFU PDF 345 KB Arbedion Effeithlonrwydd Pellach – Adran Rheoleiddio Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig. Eiliwyd yr
adroddiad gan y Cyng. W Gareth Roberts. PENDERFYNIAD Yn dilyn iddynt gael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu yn unol â’r gofyn, cymeradwyo i’r Adran Rheoleiddio fwrw ymlaen â’r camau canlynol: 1. Ymrwymo i wneud yr Uned Difa Pla mor hunan gyllidol a phosib drwy gynyddu incwm o oddeutu £40,000 y flwyddyn, yn hytrach na diddymu’r gwasanaeth Difa Pla yn ei gyfanrwydd. 2. Diddymu swydd Uwch Reolwr Gwarchod y Cyhoedd ac addasu swydd gyfredol yr Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd i gynnwys cyfrifoldeb am y Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn ogystal, er mwyn cwrdd â’r arbediad Cam 2 Gwarchod y Cyhoedd (£69,000). 3. Bwrw ymlaen i gyfarfod arbediad o £278,440 fel y manylir yn 5.2 o’r adroddiad a gyflwynwyd, drwy weithredu ar gynllun amgen. Fe fydd y cynllun amgen yn canolbwyntio ar gynyddu incwm (yn deillio yn bennaf o’r ymdrechion i sefydlu Gorchymyn Parcio newydd), newid strwythur a lleihau risgiau sydd yn rhwystro arbedion sydd wedi eu cymeradwyo rhag cael eu gwireddu. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 MEHEFIN 2016 PDF 208 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28ain o Fehefin 2016. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2016/17 - ADNABOD RISGIAU CYNNAR PDF 57 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd yr
adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD Nodi’r risgiau cyllidebol sydd wedi’u hadnabod yn gynnar yn 2016/17 a gofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu rheolaeth. Awdur: Dafydd Edwards |
|
RHAGLEN GYFALAF 2016/17 - ADOLYGIAD CHWARTER 1 PDF 170 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd yr
adroddiad gan y Cyng. Mair Rowlands. PENDERFYNIAD Derbyn yr
adroddiad ar adolygiad y chwarter gyntaf (sefyllfa 30 Mehefin 2016) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod, sef: •
cynnydd £3,276,000 mewn amryw ffynhonnell
i ariannu gwir lithriadau o 2015/16 •
cynnydd £3,459,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau •
cynnydd £29,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf •
cynnydd £82,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw • cynnydd £441,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill Awdur: Dafydd Edwards |
|
EGWYDDORION CYFUNDREFN ADDYSG ADDAS I BWRPAS PDF 796 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas Eiliwyd yr
adroddiad gan y Cyng. W Gareth Roberts. PENDERFYNIAD Caniatáu’r Aelod
Cabinet Addysg i ymgynghori
gyda Llywodraethwyr ac ysgolion am addasrwydd yr egwyddorion a fydd yn sylfaen
i gyfundrefn addysg ar gyfer y dyfodol
i Wynedd. Derbyn yr adroddiad ar Arweinyddiaeth fel sail i hyrwyddo trafodaeth am gyfundrefn addysg addas i bwrpas. Awdur: Arwyn Thomas |
|
GORCHYMYN PARCIO ODDI AR Y STRYD PDF 201 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig. Eiliwyd yr
adroddiad gan y Cyng. Mair Rowlands. PENDERFYNIAD Yn dilyn
ystyriaeth o’r sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, symud ymlaen i gwblhau’r broses statudol i gadarnhau’r Gorchymyn Parcio newydd ar gyfer
Gwynedd. Sefydlu Tocyn Parcio Lleol newydd a fydd yn caniatáu i breswylwyr brynu tocyn parcio blynyddol ar gyfer y maes parcio agosaf at eu cartref am bris gostyngedig o £60 y flwyddyn. Awdur: Dafydd Wyn Williams |