Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sophie Hughes 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a
Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y
Prif Weithredwr, Dilwyn Williams a’r Swyddog Monitro, Iwan Evans. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganwyd buddiant personol gan y Cynghorydd Gareth Thomas ar Eitem 7 “Strategaeth “Mwy na Llyfrau”
y Gwasanaeth Llyfrgell” oherwydd
fod ganddo berthynas sy’n gyflogedig gan y Gwasanaeth Llyfrgelloedd. Gadawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth
ar yr eitem
hon. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12FED O ORFFENNAF 2016 PDF 120 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 12fed o Orffennaf 2016. |
|
GWELEDIGAETH AR GYFER TWF YR ECONOMI YNG NGOGLEDD CYMRU PDF 116 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mandy Williams-Davies Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo’r “Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru” fel sail ar gyfer cynnal trafodaethau gyda Llywodraethau Prydain a Chymru am gais “Cynllun Twf” i’r rhanbarth. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan y Cyng. Mandy
Williams-Davies. Eiliwyd yr eitem
gan y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r “Gweledigaeth ar gyfer Twf yr
Economi yng Ngogledd Cymru” fel sail ar gyfer cynnal
trafodaethau gyda Llywodraethau Prydain a Chymru am gais “Cynllun Twf” i’r rhanbarth. TRAFODAETH Croesawyd y ddogfen “Gweledigaeth ar gyfer Twf yr
Economi yng Ngogledd Cymru” gan nifer helaeth o’r
Aelodau Cabinet gan nodi’n gryf y dyhead i gydweithio ac adeiladu perthynas ymysg y nifer o awdurdodau. Pwysleisiwyd yr angen
i sicrhau budd i Ogledd Orllewin Cymru yn benodol drwy
ymdrechu’n galed i dynnu buddsoddiad i’r ardal. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet cyfrifol bod Gwynedd yn flaenoriaeth ac y gobeithir y bydd argaeledd arbenigedd yn y Sir yn cryfhau gydag
amser wrth i ni sicrhau gwell
gydlynu trafodaethau a chydweithio. Ychwanegodd Iwan
Trefor Jones mai gwasgaru twf ar draws y Gogledd yw’r nod er mwyn sicrhau
bod y budd yn lledaenu. Nodwyd pryder nad
oes cyfeiriad amlwg tuag at gydweithio
gyda Llywodraeth Cymru a pwysleisiwyd yr angen i gryfau’r berthynas rhwng y Llywodraeth a’r Gogledd. Cadarnhaodd Iwan Trefor Jones bod trafodaethau
parhaus wedi eu cynnal gyda’r
Gweinidogion Mark Drakeford
AC a Ken Skates AC a bod dyhead i gryfhau’r
berthynas rhwng Llywodraeth San Steffan a Swyddfa
Cymru yn Llundain. Eglurwyd mai’r cam nesaf fydd i drafod
ymhellach gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth
Cymru gan obeithio y bydd y Canghellor yn darparu ei
gefnogaeth i’r egwyddor yn ei
ddatganiad ar 23 Tachwedd 2016. Awdur: Iwan Trefor Jones |
|
STRATEGAETH "MWY NA LLYFRAU" Y GWASANAETH LLYFRGELL PDF 412 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu Strategaeth “Mwy na Llyfrau” ar gyfer Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Gwynedd. Cofnod: Datganwyd buddiant gan y Cyng. Gareth Thomas a gadawodd y cyfarfod. Cyflwynwyd yr eitem
gan y Cyng. Ioan Thomas. Eiliwyd yr eitem
gan y Cyng. Dyfrig Siencyn. PENDERFYNIAD Mabwysiadu Strategaeth “Mwy na Llyfrau”
ar gyfer Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Gwynedd. TRAFODAETH Nodwyd bod dyletswydd ar y Cyngor yn
sgil toriadau gan Lywodraeth y DU a phenderfyniad y Cyngor i dorri 25% o’r gyllideb
prynu llyfrau i weithredu o fewn y gyllideb sydd ar
gael. Pwysleisiwyd, yn benodol
o ystyried y sefyllfa ariannol anodd, bod y Strategaeth yn golygu gallu darparu
gwasanaeth i drigolion
Gwynedd a fydd yn gynaliadwy i’r dyfodol. Cydnabuwyd fodd bynnag er bod y strategaeth yn un Sirol sy’n golygu
y bydd darpariaeth yn newid i bawb
ar draws y Sir, bod yr effaith i’w deimlo
yn amlycach mewn rhai cymunedau. Cydnabuwyd bod amharodrwydd cyffredinol tuag at y newidiadau i’r ddarpariaeth wedi bod yn amlwg ond
wrth drafod ymhellach fod y rhan fwyaf o ardaloedd
yn fodlon trafod ymhellach a negydu’r manylion. Datganwyd cefnogaeth penodol i’r cyfeiriadau at gryfhau’r gwasanaeth Llyfrgell deithiol gan nodi ei
budd, yn enwedig yn yr
ardaloedd fwyaf gwledig ar draws y Sir. Nodwyd fod Llyfrgell
Porthmadog sydd bellach wedi ei
lleoli yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn yn enghraifft gadarnhaol
o sut gellir defnyddio ased arall gan y Cyngor
i gynnal y ddarpariaeth, ac
er nad yw’r
math yma o addasiad yn bosibl ymob
ardal, fe gadarnhawyd fod yr Aelod Cabient
a’r Swyddogion yn gwyntyllu unrhyw
gyfleoedd sy’n codi. Croesawyd y strategaeth fel ffordd ymlaen gan nodi bod trafodaethau sydd dal i’w cael mewn rhai cymunedau. Diolchwyd i bartneriaid a thrigolion Gwynedd am eu parodrwydd i gydweithio, ac i’r Swyddogion am eu gwaith. Awdur: Catrin Thomas |
|
SYMUD TUAG AT SWYDDFEYDD ARDAL ADDYSG PDF 522 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo gweithredu model Swyddfeydd Ardal Addysg. Cymeradwyo cais am gostau o oddeutu £275,000 blynyddol am
hyd at dair blynedd, gan awdurdod i’r Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad â’r
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Aelod Cabinet Adnoddau i gadarnhau y
cyfanswm yn sgil canlyniadau arfarnu swyddi’r staff. Cymeradwyo i’r Adran Gefnogaeth Gorfforaethol a’r Adran Addysg greu Cytundeb Lefel Gwasanaeth ym maes Adnoddau Dynol er mwyn diffinio natur y gwasanaeth Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Gareth Thomas. Eiliwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Dyfrig Siencyn. PENDERFYNIAD Cymeradwyo gweithredu model Swyddfeydd Ardal Addysg. Cymeradwyo cais am gostau
o oddeutu £275,000 gan awdurdod i’r Pennaeth
Cyllid mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Aelod Cabinet Adnoddau i gadarnhau y cyfanswm yn sgil canlyniadau
arfarnu swyddi’r staff. Cymeradwyo i’r Adran
Gefnogaeth Gorfforaethol a’r Adran Addysg
greu Cytundeb Lefel Gwasanaeth ym maes Adnoddau Dynol
er mwyn diffinio
natur y gwasanaeth. TRAFODAETH Eglurodd y Pennaeth Addysg, Arwyn Thomas bod angen rhagor o gefnogaeth ar lefel fwy
lleol er mwyn cefnogi Prifathrawon
i arwain eu hysgolion a’u rhyddhau
i wneud hynny, a chefnogi athrawon i ganolbwyntio ar yr addysgu, a fydd
yn ei dro
yn arwain at wella safon addysg
i blant y Sir. Croesawyd y cynnig gan bwysleisio bod pwysau gormodol wedi bod ar ysgolion,
Prif Athrawon a Llywodraethwyr ers rhai blynyddoedd heb gefnogaeth ganolog digonol a bod angen buddsoddi er mwyn cryfhau
addysg y disgyblion. Nodwyd y gall ysgolion fod yn gystadleuol
yn aml a pwysleisiwyd yr angen i annog cydweithio
a rhannu arfer da. Eglurodd y Prif Swyddog
Cyllid, Dafydd Edwards petai’r
Cabinet yn cymeradwyo’r cais am gostau y bydd angen adolygu’r
cyllidebau er mwyn cael y ffigwr
untro a byddai’n rhaid ei adfer
o’r balansau petai adrannau yn gorwario. Fodd bynnag, gobeithir y bydd yr adran
Addysg yn eu tro yn
gwneud arbedion er mwyn cyllido’r
costau i’r dyfodol. Nodwyd bod llwyddiannau sylweddol ein hysgolion
yng nghanlyniadau Haf 2016 yn gosod y cyd-destun
ar gyfer cryfhau’n strwythurau ac annog gwelliant pellach. Llongyfarchwyd holl ddisgyblion a staff y Sir ar eu gwaith caled
drwy’r flwyddyn. Awdur: Arwyn Thomas |
|
TREFNIADAU NEWYDD Y GWASANAETH ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD GWYNEDD A MÔN PDF 220 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Mabwysiadu un Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a
Chynhwysiad gyffredin ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn a fydd yn cyfarch anghenion
y disgyblion a’r bobl ifanc mewn modd effeithiol ac effeithlon i fod yn
weithredol erbyn Medi 2017. 2. Ymuno mewn partneriaeth ffurfiol efo Cyngor Sir Ynys Môn
i weithredu’r Strategaeth a mabwysiadu trefn llywodraethu newydd y cyfeirir ato
yn yr adroddiad hwn, a fydd yn disodli’r Cydbwyllgor Anghenion Addysgol
Arbennig (CBAAA). 3. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad
efo’r Pennaeth Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gytuno a chwblhau Cytundeb
Ffurfiol gyda Chyngor Sir Ynys Môn ar gyfer y bartneriaeth. 4. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad efo’r Pennaeth Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gwblhau cytundeb/memorandwm o ddealltwriaeth ar gyfer y cyfnod interim cyn arwyddo’r Cytundeb ffurfiol, fydd yn datgan ymrwymiad y ddau awdurdod i weithredu’r drefn newydd, ac yn caniatáu gwneud y gwaith sydd ei angen er mwyn cyrraedd y pwynt hynny. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Gareth Thomas. Eiliwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Mair Rowlands. PENDERFYNIAD 1. Mabwysiadu
un Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad gyffredin ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn a fydd yn cyfarch
anghenion y disgyblion a’r bobl ifanc
mewn modd effeithiol ac effeithlon i fod yn weithredol
erbyn Medi 2017. 2. Ymuno
mewn partneriaeth ffurfiol efo Cyngor
Sir Ynys Môn i weithredu’r Strategaeth
a mabwysiadu trefn llywodraethu newydd y cyfeirir ato yn
yr adroddiad hwn, a fydd yn
disodli’r Cydbwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (CBAAA). 3. Dirprwyo’r
hawl i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad efo’r Pennaeth Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gytuno a chwblhau Cytundeb Ffurfiol gyda Chyngor
Sir Ynys Môn ar gyfer y bartneriaeth. 4. Dirprwyo’r
hawl i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad efo’r Pennaeth Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gwblhau cytundeb/memorandwm o ddealltwriaeth ar gyfer y cyfnod interim cyn arwyddo’r Cytundeb
ffurfiol, fydd yn datgan ymrwymiad
y ddau awdurdod i weithredu’r drefn newydd, ac yn caniatáu
gwneud y gwaith sydd ei angen
er mwyn cyrraedd
y pwynt hynny. TRAFODAETH Eglurwyd bod trafodaethau cadarnhaol iawn wedi eu cynnal
gyda Chyngor Sir Ynys Môn i
fabwysiadu strategaeth ar y cyd a fyddai
yn ei dro
yn galluogi i’r ddau awdurdod
gyrraedd y disgyblion priodol yn llawer
cynt. Eglurwyd y bydd adroddiad cyffelyb yn cael ei
gyflwyno i Bwyllgor Gwaith Ynys Môn yn y dyfodol agos am eu cymeradwyaeth hwy. Croesawyd y cydweithio sydd wedi ei
amlygu rhwng y ddau awdurdod a’r
cyfle sydd yma i greu arbenigedd
a chyfleoedd gyrfa yn ogystal â rhannu’r
heriau. Cwestiynwyd beth fyddai’r
system graffu a mesur perfformiad wrth i ni gydweithio â Môn a cadarnhaodd Arwyn Thomas y bydd Penaethiaid adrannau Addysg Gwynedd a Môn ynghyd a’r ddau Aelod
Cabinet/Deilydd Portffolio priodol yn craffu’n
ddyddiol ond y bydd cyfle i graffwyr
Gwynedd alw i mewn petaent yn gweld
yr angen. Cadarnhawyd y bydd y Gwasanaeth ar y cyd hwn yn
atebol i’r ddau awdurdod. Diolchodd y Cyng. Gareth Thomas i’r Swyddogion yn y ddau awdurdod
am eu gwaith a’u parodrwydd i gydweithio. Awdur: Eleri Owen |
|
ADRODDIAD AR WAITH Y PANEL STRATEGOL DIOGELU PLANT AC OEDOLION BREGUS PDF 134 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a gyflwynwyd ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac Oedolion. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Mair Rowlands. Eiliwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad
a gyflwynwyd ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac Oedolion. TRAFODAETH Amlygwyd y cynnydd sydd wedi bod mewn
ymwybyddiaeth a cyfeiriadau
sydd wedi eu gwneud gan
staff rheng flaen o dan y prosiect D1,
sy’n awgrymu llwyddiant mewn ymdrechion i godi ymwybyddiaeth. Pwysleisiwyd bod y maes diogelu plant lawer fwy aeddfed na’r
maes diogelu oedolion ble mae’r
gwaith yn fwy newydd. Fodd bynnag, nodwyd bod gwaith yn mynd
rhagddo i adeiladu ar ein trefniadau
ym maes oedolion
a gobeithir gallu cyflwyno rhagor o wybodaeth i sylw’r Aelodau
Cabinet yn fuan. Nodwyd mai Gwynedd yw un o’r Siroedd
cyntaf i roi trefniadau diogelu mewnol ar waith,
a thra’n cydnabod fod llawer o waith
dal i’w wneud i sicrhau bod ein trefniadau’n glir a chryf, ac yn fwy
effeithiol o fewn yr adran oedolion,
pwysleisiodd Morwena Edwards i’r
Cyngor wneud gwaith llwyddiannus hyd yn hyn. Pwysleisiodd y Cyng. John Wynn Jones pa mor effeithiol oedd yr hyfforddiant
diogelu a dderbyniodd fel Llywodraethwr ysgol yn ei
ward. Cytunodd
Aelodau eraill bod diogelu ym mlaen eu
meddyliau lawer mwy erbyn hyn. Cwestiynwyd sut mae’r
Cyngor yn bwriadu ymdrin â’r defnydd o dechnoleg
a nododd Morwena Edwards bod ymdrechion
yn digwydd i godi ymwybyddiaeth defnyddwyr technoleg a sicrhau bod rhieni ac athrawon yn ymwybodol
o’r risgiau a bod ganddynt y sgiliau i reoli’r peth. Nodwyd nad oes ateb
amlwg i’r peryglon o ddefnyddio technoleg ond bod llawer o gydweithio yn digwydd gyda’r
Heddlu i rannu’r ymarferion gorau. Cwestiynwyd a yw’r Cyngor
yn bodloni bod y gwaith rhanbarthol sy’n mynd rhagddo
yn effeithiol ac yn dylanwadu ar
weithredu ar lefel leol. Cydnabuwyd ei bod yn anoddach
sicrhau’r gwaith ar lefel rhanbarthol
a bod y trefniadau sy’n ein cyrraedd o dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref yn gallu creu
gorgyffwrdd, ond nodwyd bod y Cyngor yn fodlon fod
y trefniadau rhanbarthol yn cryfhau’r agenda. Awdur: Morwena Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015/16 PDF 163 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Edwards Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2015/16 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan y Cyng. Dyfed Edwards. Eiliwyd yr eitem
gan y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNIAD Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd
2015/16 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei
fod yn ei
fabwysiadu. TRAFODAETH Nodwyd balchder bod Cyngor Gwynedd wedi ymddangos ymhlith yr uchaf am berfformiad
effeithiol mewn cymhariaeth â Chynghorau eraill a chroesawyd yr adroddiad gweladwy,
dealladwy i danlinellu’r perfformiad hwnnw. Ategwyd bod Cyngor Gwynedd ymysg y gorau yng Nghymru
ym myd addysg,
a bydd yn ymfalchïo yn hynny. Noder mai’r prawf
mewn gwirionedd yw profiad y dinesydd
a chroesawyd yr adborth a roddir am hyn wrth adrodd
ar y Panel Trigolion. Cydnabuwyd bod lle i wella mewn sawl
maes ond bod perfformiad Cyngor Gwynedd yn dda ar
y cyfan. Pwysleisiwyd y byddai’n ddogfen ddefnyddiol iawn i Aelodau’r Cyngor ddefnyddio yn eu cymunedau. Gofynnwyd a oes modd derbyn
rhai o’r delweddau sydd wedi eu defnyddio
yn yr adroddiad
i’r perwyl o’u defnyddio i gyfathrebu negeseuon allweddol a sicrhau dealltwriaeth o’r sialensiau sy’n wynebu’r Cyngor a’i allu i ddelio
â hwy. Cytunwyd
bod angen ystyried bob dull
bosibl o gyfathrebu’r neges, gan gydnabod
nad yw pawb
yn defnyddio Technoleg Gwybodaeth. Cadarnhawyd bod y Cabinet yn fodlon bod yr adroddiad
yn adlewyrchiad teg a chytbwys am berfformiad y Cyngor. Diolchwyd i holl staff y Cyngor am eu hymroddiad i’r
gwaith. Awdur: Hawis Jones |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET DROS YR AMGYLCHEDD PDF 327 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. John Wynn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. John Wynn Jones. Eiliwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyfeiriwyd at y mesur perfformiad WMT/004 Canran y gwastraff trefol yrrwyd i’w dirlenwi
ble nodir bod y cyfleuster Triniaeth Biolegol Fecanyddol wedi torri ers
mis Ebrill, a chwestiynwyd pam nad yw wedi ei
drwsio ynghynt. Nododd y Cyng. John Wynn Jones y byddai’n holi am eglurhad fel sy’n briodol. Cyfeiriwyd at y mesur perfformiad PB59 Canran Arolwg Bodlonrwydd Cwsmer wedi eu
bodloni gydag ymateb yr Adran
a chwestiynwyd pam nad oes data wedi ei
gofnodi. Awgrymwyd y gall fod o ganlyniad i’r canran
uchel sydd wedi ei nodi
ar gyfer mesurydd PB57 Canran galwad Bwrdeistrefol a ddiwallwyd tro cyntaf, ond cadarnhaodd y Cyng. John Wynn
Jones y bydd yn sicrhau eglurdeb ar hyn. Cyfeiriwyd at y ffigurau yn yr adroddiad
sy’n nodi’r nifer o gasgliadau gwastraff/ailgylchu sy’n cael eu
methu, a chwestiynwyd a oes patrwm i’r
rhesymau bod hyn yn digwydd. Gan fod y mesur yn
un newydd sy’n cael ei ddatblygu,
nododd y Cyng. John Wynn
Jones ei bod yn ddyddiau cynnar ond fod yr
adran yn edrych ar hyn
ar hyn o bryd. Ychwanegwyd bod technoleg GPS mewn lorïau yn
golygu y gallent dracio eu bod wedi
bod ar eu teithiau priodol, ac mae hyn gam ymlaen. Cyfeiriwyd at fesurydd THS/011c Canran ffyrdd (dosbarth C) sydd mewn cyflwr gwael
a chwestiynwyd o ystyried y
toriadau sy’n wynebu’r adran, a fydd yn bosibl
cynnal y ffigwr a nodir ar gyfer
2015-16 neu a yw’r ffyrdd yn debygol
iawn o ddirywio yn raddol. Cydnabuwyd
y risgiau a chadarnhaodd y Cyng. John Wynn Jones y bydd yr adran yn
monitro’r ffigwr yma i sicrhau nad
ydynt yn colli rheolaeth arno. Diolchwyd i’r Cyng. John Wynn Jones am ei waith. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET DROS GYNLLUNIO A RHEOLEIDDIO PDF 197 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig. Eiliwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Mandy
Williams-Davies. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Tynnodd y Cyng. Dafydd Meurig sylw at y cynnydd sylweddol ym mesurydd
PLA004b Canran
yr holl geisiadau
Cynllunio perthnasol wedi eu penderfynu o fewn 56 diwrnod a pa mor sydyn meant yn cael eu
penderfynu ar gyfartaledd gan nodi ei fod
yn falch iawn o’r canlyniad. Cyfeiriwyd ar fesur
Cludiant02 Canran o gwsmeriaid
a ddywedodd eu bod yn fodlon â’r
lefel gwasanaeth a nodir nad yw’r
ffigwr o 43% yn ddymunol. Eglurodd y Cyng. Dafydd Meurig
bod y mesur yn cymryd i ystyriaeth y teithiau mae’r Cyngor yn eu
sybsideiddio a’r rheiny sy’n gwbl
fasnachol. Nid oes gan
yr uned drafnidiaeth
unrhyw reolaeth dros y teithiau masnachol ac felly gall hyn wyro’r ffigurau. Cadarnhaodd ei fod wedi gwneud
cais i’r adran fod yn
ystyried y rhain ar wahân i’r
dyfodol. Cyfeiriwyd at y mesurydd Parcio4 Canran o apeliadau i’r beirniad annibynnol
sy’n cael eu caniatáu. Nodwyd pryder bod y ffigwr o 100% yn awgrymu bod y gost wedi bod yn afresymol
i ddechrau. Cadarnhawyd bod
y Cyng. Dafydd Meurig wedi codi’r mater ac yn disgwyl ymateb ar hyn o bryd. Cyfeiriwyd at fesurydd Eiddo2 Canran cwsmeriaid y ddesg gymorth cynnal
a chadw sy’n fodlon gyda’r gwasanaeth
a dderbyniwyd dros y 6 mis diwethaf a chwestiynwyd a yw’r adran yn defnyddio’r
data yna ymhellach wedyn. Cadarnhawyd bod yr adran yn holi’r
cwsmeriaid yn gyson am y rhesymau nad oeddent yn
hapus gyda’r gwasanaeth ac yn ceisio dysgu gwersi
ohono. Ychwanegwyd bod yr Aelodau
Cabinet yn cael cyfarfodydd rheoli perfformiad yn gyson ac mae hwnnw’n
ffordd o sicrhau bod trafodaeth yn cymryd
lle a bod negeseuon yn cyrraedd y Penaethiaid. Cyfeiriwyd at fesurydd Eiddo 6 Canran o adeiladau newydd (neu addasiadau) sy’n cael eu
cyflawni o fewn yr amserlen a’r
gyllideb. Llongyfarchwyd
yr adran ar y cynnydd sylweddol
i 100% ar y mesurydd hwn. Diolchwyd i’r Cyng.
Dafydd Meurig am ei waith. Awdur: Dilwyn Williams |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Cyfeiriodd y Cyng. Ioan Thomas at y prosiect T7 – Cydymdrechu yn erbyn tlodi. Nododd bod tlodi yn flaenoriaeth i Llywodraeth Cymru ac mae angen i’r Cyngor
gyfarch yr agenda. Nodwyd nad yw’n gwbl
gyfforddus bod y Cabinet yn
mynd i allu sicrhau ein bod yn deall yr
oblygiadau i wahanol adrannau/meysydd portffolio. Yn sgil hynny, mae
bwriad i’r Cyng. Thomas drafod gyda’r Aelod Cabinet a’r Swyddog perthnasol
er mwyn ystyried
beth yn union mae’r adran yn
ei wneud i gyfarch yr agenda. Bydd hyn yn caniatau’r
Cabinet i sicrhau bod cynlluniau’n
cael eu cyflwyno
ac yn eu galluogi i fonitro eu llwyddiant. Wrth gyfeirio at y prosiect T9 – Strategaeth Cyflenwad Tai a’r ddarpariaeth ar gyfer unigolion
digartref, nododd y Cyng. Ioan Thomas bod y Pwyllgor Craffu perthnasol wedi nodi bod angen
ystyriaeth pellach yn y maes ac annog
mwy o ddatblygiadau oherwydd mae yno
gryn alw am ddarpariaeth. Nodwyd pryder am y mesurydd Gofal Cwsmer CYSCW02 Canran y gwalwadau ffôn sy’n cael eu
hateb o fewn 15 eiliad ar draws y Cyngor gan ei fod yn
gostwng. Cwestiynwyd a yw’r ffaith bod galwadau allan o swyddfeydd y Cyngor i gyd yn
dangos rhif ffôn Galw Gwynedd yn hytrach na
rhif ffôn y swyddog a geisiodd gysylltu yn creu
problemau. Ychwanegwyd bod angen hyfforddi staff i drosglwyddo eu llinellau ffôn
a sicrhau ymateb. Nodowyd bod y gwaith yn mynd rhagddo
ar hyn o bryd ond ei
bod yn gynamserol adrodd arno. Diolchwyd i’r Cyng.
Ioan Thomas am ei waith. Awdur: Morwena Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET DROS YR ECONOMI A CHYMUNED PDF 151 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mandy Williams-Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Mandy
Williams-Davies. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad. TRAFODAETH Croesawodd yr Aelodau Cabinet y cyfle a gafwyd yn ddiweddar i gwrdd â’r Athro
Dermot Cahill o Brifysgol Bangor gan
nodi’r gwerth a gawsant o’r cyflwyniad. Cyfeiriwyd at y cynllun peilot i ddarparu wi-fi cyhoeddus yn Aberdaron o dan y prosiect T3 Gwynedd Digidol gan nodi bod data’n cael ei gofnodi
yno ynghylch y math o ddefnyddwyr gwasanaeth a bod hynny yn caniatáu
i fusnesau ei ddefnyddio i dargedu cwsmeriaid pan fod angen. Wrth drafod Gŵyl
Rhif 6 2016, pwysleisiwyd yr angen i gofio gwahaniaethu rhwng yr ŵyl a oedd
yn llwyddiant mawr a’r trafferthion
a ddaeth yn sgil y trefniadau parcio. Nodwyd bod gwyliau o’r fath yn
boblogaidd iawn ar hyn o bryd,
ond bod angen cadw mewn cof
y gallai’r diddordeb ddirywio i’r dyfodol
ac felly bod angen ffocysu ar amrywiaeth eang
o ddigwyddiadau. Wrth drafod y mesurau, croesawyd y nifer o swyddi sydd wedi eu
creu gyda chefnogaeth yr adran a chwestiynwyd a oes gan yr
adran wybodaeth am natur y swyddi ac ym mha sectorau
maen nhw. Nododd y Cyng. Mandy Williams-Davies bod rhai
ohonynt yn y maes technoleg ym Mharc Menai. Ychwanegodd bod gostyngiad wedi bod yn y ffigurau o ganlyniad i ddiffyg adnodd o fewn yr
adran, ond ei bod yn bwysig
ffocysu ar y potensial i greu swyddi rŵan ac ystyried y ffyrdd gorau bosibl o wneud hynny. Ychwanegodd y Cyng. Mandy
Williams-Davies ei bod yn awyddus i edrych ar brofiadau dydd
i ddydd y cwsmer a busnesion sydd angen cyngor gan
yr adran ac fe fydd yn
trafod y posibiliadau ymhellach. Diolchwyd i’r Cyng.
Mandy Williams-Davies am ei gwaith. Awdur: Iwan Trefor Jones |
|
BLAENRAGLEN WAITH CABINET CYNGOR GWYNEDD PDF 293 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Edwards Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r
cyfarfod, yn amodol ar wneud yr addasiadau isod:- - Cyng. Dyfed
Edwards ddim i gyflwyno eitem ‘Cynllun Strategol 2017/18 ar 4 Hydref 2016. - Cyng. Dafydd Meurig ddim i gyflwyno eitem ‘Goblygiadau Penderfyniad y Cyngor i gau swyddfeydd Frondeg, Pwllheli a Felinheli ar 4 Hydref 2016, ond ei ohirio i gyfarfod y Cabinet ar 1 Tachwedd 2016. Cofnod: Cyflwynwyd y flaenraglen gan y Cyng. Dyfed Edwards. PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod,
yn amodol ar wneud yr
addasiadau isod:- -
Cyng. Dyfed Edwards ddim i gyflwyno eitem ‘Cynllun Strategol 2017/18 ar 4 Hydref 2016. -
Cyng. Dafydd Meurig ddim i gyflwyno eitem ‘Goblygiadau Penderfyniad y Cyngor i gau swyddfeydd
Frondeg, Pwllheli a Felinheli’ ar 4 Hydref 2016, ond ei ohirio i gyfarfod
y Cabinet ar 1 Tachwedd
2016. Nodwyd bod cais wedi cyrraedd i drafod materion Hamdden yn Harlech
ac Ardudwy ond bod trafodaethau ar y ffordd ymlaen yn
parhau ar hyn o bryd. |