Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sophie Hughes 01286 679729
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dyfed Edwards. |
|||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Oherwydd natur Eitem 10, datganodd yr holl Aelodau
oedd yn bresennol fuddiant personol. Gan nad oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu,
byddai gan yr aelodau yr hawl i gymryd rhan yn y drafodaeth ac i bleidleisio ar
y mater. |
|||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion
brys. |
|||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|||||||||||||||||||||
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 22ain O DACHWEDD 2016 PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 22ain o Dachwedd, 2016, fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||
DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG YN NALGYLCH YSGOL Y BERWYN PDF 340 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Gohirio’r ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad er
mwyn ystyried yr ohebiaeth ddiweddaraf
a dderbyniwyd gan yr Eglwys yng
Nghymru ynghyd a’r farn gyfreithiol
a dderbyniwyd hefyd. Rhoi amser i swyddogion gynnal trafodaethau lleol pellach. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNWYD Gohirio’r ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad er
mwyn ystyried yr ohebiaeth ddiweddaraf
a dderbyniwyd gan yr Eglwys yng
Nghymru ynghyd a’r farn gyfreithiol
a dderbyniwyd hefyd. Rhoi
amser i swyddogion
gynnal trafodaethau lleol pellach. TRAFODAETH Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg y sefyllfa yn dilyn yr
ohebiaeth ddiweddar gyda’r Eglwys Yng
Nghymru. Nododd fod y Cabinet wedi penderfynu ar yr
2il o Fehefin
2015 i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant
ac Ysgol y Berwyn a sefydlu
Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg gyda statws Gwirfoddol
a Reolir, Eglwys yng Nghymru yn
ei le. Mae’r cynllun wedi bod yn mynd rhagddo
gyda’r effaith eisoes yn cael
ei weld yn Y Bala, gyda’r adnoddau
diwylliannol a’r cae 3G yn cael
eu defnyddio. Pwysleisiwyd mai mater llywodraethu sydd o dan sylw, a bod y cynllun
yn parhau. Ym Medi
2016 cyfarfu’r Pennaeth Addysg a’r Esgobaeth
er mwyn eu
diweddaru ar gynnydd y cynllun. Yn fuan wedi’r cyfarfod derbyniwyd llythyr bygythiol gan gynrychiolwyr
cyfreithiol yr Esgobaeth oedd yn gwneud dau
brif bwynt. Yn gyntaf: “The Diocese of St
Asaph will not be able to consider such a school so promoted as a Church in Wales school.” Ac yn ail: “For
a local authority to force site trustees into a position where their private
value is unnecessarily reverted is most improper.” Nododd yr
Aelod Cabinet fod y sefyllfa yn parhau
i ddatblygu, gyda’r Adran Addysg
yn cynnal deialog gyda’r Esgobaeth. Nododd y Swyddog Monitro ei fod
yn hyderus fod y broses gyfreithiol wedi ei dilyn
yn briodol. ‘Roedd wedi ceisio
eglurhad pellach ar rai pwyntiau a nodwyd, a phwysleisiodd bwysigrwydd ystyried y cyngor yma pan fyddai’n cael ei
dderbyn. Sylwadau
yn codi: - Syndod nad oedd
ystyriaeth wedi ei roi i Addysg y plant yng ngohebiaeth yr Eglwys, gan mai
hynny sy’n ganolog i’r cynllun. - Rhwystredigaeth fod oedi
yn y prosiect a’r buddion sy’n deillio
ohono. - Anghrediniaeth ar y
datblygiadau, gan bwysleisio mai mater o lywodraethiant
sydd yma, fydd ddim yn arafu’r gwaith adeiladu o gwbl. - Fod angen rhannu
gwybodaeth am y sefyllfa’n lleol. Awdur: Iwan T Jones |
|||||||||||||||||||||
MATER YN CODI O'R PWYLLGOR CRAFFU - ARBEDION EFFEITHLONRWYDD PELLACH PDF 213 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y rhaglen o wireddu’r arbedion a drafodwyd yn Cabinet y Cyngor ar 12 Gorffennaf
2016, gyda £278,000 i’w gwrdd o’r cynlluniau
amgen a nodir yn rhan 3.7 – 3.18 o’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNWYD Derbyn y rhaglen o wireddu’r arbedion a drafodwyd yng Nghabinet y Cyngor ar 12 Gorffennaf
2016, gyda £278,000 i’w gwrdd o’r cynlluniau
amgen a nodir yn rhan 3.7 - 3.18 o’r adroddiad. TRAFODAETH Nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau bod yr adroddiad wedi
ei gyflwyno i’r Cabinet o’r blaen, ac wedi bod trwy’r broses Craffu yn y cyfamser. Nododd
hefyd fod yma gynllun sy’n
diwallu anghenion am arbedion effeithlonrwydd yn yr Adran
Rheoleiddio, ond yn gwneud hynny
mewn ffordd wahanol i’r ffordd
a fwriadwyd yn wreiddiol. Yn wreiddiol
‘roedd bwriad i ddod a’r
Gwasanaeth Difa Pla i ben, ond
wedi i Craffu
alw’r penderfyniad i mewn penderfynwyd
ailedrych ar y sefyllfa. Wedi adolygu’r penderfyniad,
daethpwyd i’r canlyniad fod modd
i’r gwasanaeth gynyddu ei incwm
i gyfarch a’r arbedion angenrheidiol. Awdur: Dafydd W Williams |
|||||||||||||||||||||
CYD-LEOLI GWASANAETHAU PDF 311 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD Comisiynu’r Gwasanaeth Eiddo Corfforaethol i asesu’r portffolio Eiddo mewn lleoliadau
penodol ar draws y Sir, gyda’r nod o geisio adnabod cyfleoedd i gyd leoli
gwasanaethau er mwyn gallu gwneud
defnydd mwy effeithlon o adeiladau’r Cyngor. TRAFODAETH Nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau fod y Gwasanaeth Eiddo wedi bod yn gweithio
ers 2008 ar leihau’r nifer o adeiladau sydd yn eiddo i’r
Cyngor. Bu i’r gwaith fynd yn
anos wrth i’r portffolio eiddo leihau, felly wrth edrych ar
gyfleoedd i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o adeiladau’r Cyngor, byddai’r Gwasanaeth Eiddo yn edrych
am gyfleoedd i gydleoli gwasanaethau. Ategodd
yr Uwch Reolwr Eiddo Corfforaethol yr Aelod Cabinet, gan nodi fod y Gwasanaeth
Eiddo yn bwriadu cydweithio gyda phartneriaid eraill er mwyn cydleoli
gwasanaethau. Ychwanegodd hefyd fod stad y Cyngor 25% yn llai nac yn 2008. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth: - Croesawu’r cydweithio
a’r synnwyr cyffredin, ond bod angen gwneud yn
siŵr fod y cyd-leoli yn gweithio
i’r cymunedau. Awdur: Dafydd Gibbard |
|||||||||||||||||||||
PRYDLESU CYN YSGOL BRON Y FOEL, Y FRON PDF 168 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Defnyddio pwerau Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu cyn
safle Ysgol Bron y Foel, Y Fron yn uniongyrchol
i Canofan y Fron am lai na rhent y farchnad, er mwyn
sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD Defnyddio pwerau Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu
cyn safle Ysgol Bron y Foel,
Y Fron yn uniongyrchol i Canolfan y Fron am lai na rhent y farchnad, er mwyn sicrhau
buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. TRAFODAETH Nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau fod pwerau Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 yn caniatáu i’r
Cyngor lesu eiddo am lai na
phris y farchnad a hepgor y cyfle i waredu’r eiddo
a chynhyrchu derbynneb cyfalaf os oedd
buddion economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol yn cael eu darparu.
Nododd fod polisi Ôl-ddefnydd
Adeiladau Ysgolion a fabwysiadwyd gan Fwrdd y Cyngor yn 2009 yn rhoi’r
cyfle cyntaf i gymunedau sydd
wedi cael eu heffeithio gan
gynlluniau trefniadaeth ysgolion i gyflwyno
cynllun busnes er mwyn gwneud
defnydd cymunedol o’r adeiladau a’u
cadw yn rhan
o’r gymuned. Gwerth yr adeilad
ar y farchnad agored oedd oddeutu
£70,000, a chynigwyd y brydles
am 99 mlynedd. Yn
mis Hydref 2016, derbyniodd y grŵp grant o
£945,000 o arian CAT 2 y Loteri Genedlaethol. ‘Roedd yn un
o amodau creiddiol y grant yw nad oedd
posib ei ddefnyddio i brynu/prydlesu eiddo, a llwyddodd y cais ar y sail y byddai’r Cyngor yn cefnogi’r
fenter trwy ddarparu’r adeilad. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth: ·
Cydnabod fod ad-drefnu ysgolion yn medru bod yn broses
boenus i’r cymunedau a effeithir, a’i bod yn bwysig ceisio cadw defnydd
cymunedol i’r adeilad. ·
Ei fod yn
newyddion gwych fod buddsoddiad o’r fath wedi
ei ddenu i Wynedd, a llongyfarchiadau
i’r grŵp a’u hymrwymiad i’r cynllun. ·
Fod pryder am gynaliadwyedd y cynllun busnes, oes yno
sicrwydd na fydd yr adeilad yn cael ei ddychwelyd ymhen ychydig flynyddoedd? Mewn ymateb,
nododd yr Uwch Reolwr Eiddo
fod y cynllun busnes wedi ei
asesu’n drwyadl gan y Gwasanaeth Eiddo, yn ogystal
â’r Loteri Genedlaethol yn ystod y broses o ddyfarnu’r
grant. Awdur: Dafydd Gibbard |
|||||||||||||||||||||
BLAENORIAETHAU CYLLIDEBOL A CHYLLIDEBAU YSGOLION UWCHRADD PDF 306 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Edwards & Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNWYD
TRAFODAETH Nododd yr Aelod Cabinet Addysg ei bod yn
amlwg ers cryn amser fod
angen canfod datrysiad hir dymor
cynaliadwy i sefyllfa gyllido addysg Uwchradd yng Ngwynedd a bod gwaith ar droed
i wneud hynny. Yn
y cyfamser ‘roedd mwy o ysgolion yn anelu am y llinell
warchodaeth, chwestiynau yn codi hefyd
ynglŷn ag a yw’r llinell warchodaeth
honno yn y lle iawn. Roedd
yn amserol felly comisiynu cynllun er mwyn ystyried
eto lefel
y linell warchodaeth ar gyfer y Sector Uwchradd. Gan fod angen ystyried canlyniadau’r trafodaethau ar ddyfodol y sector Uwchradd byddai angen amser
ychwanegol i gyflawni targed arbedion y Sector Uwchradd os am wneud hynny
heb waethygu sefyllfa addysg Uwchradd o fewn y sir. Daeth i’r
amlwg hefyd fod y cyfanswm sirol o niferoedd disgyblion ysgolion uwchradd y sir yn disgyn yn 2017/18 ond yn codi
wedyn yn y ddwy flynedd ganlynol. Gan fod ariannu ysgolion unigol yn cael
ei ddyrannu yn ôl y nifer
o ddisgyblion, darbodus
felly fyddai pontio’r diffyg fydd yn
cael ei achosi
gan y gostyngiad yn niferoedd y disgyblion. Golyga hynny ei bod yn
bosib i’r ysgolion unigol osgoi diswyddo ac ail benodi staff mewn cyfnod cymharol fyr, gan osgoi
costau diswyddo ac aflonyddu ar addysg
y disgyblion. Ychwanegodd fod safonau
addysg wedi codi yn raddol
ers 2012, ac y byddai cynnal y cyllid yn galluogi’r gwelliant
yna barhau. Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth: - Ei bod yn
sefyllfa ddyrys pan mae niferoedd
disgyblion yn gostwng ac ysgolion yn wynebu colli
staff a pheryglu cynnydd mewn safonau. - Ei bod yn
well gwneud penderfyniad cynnar i bontio’r
diffyg cyn i’r sefyllfa fynd
yn argyfyngus. - Oes yno
le i ysgolion ddefnyddio eu balansau
i bontio’r diffyg? Mewn ymateb nododd y Pennaeth Cyllid fod lefel balansau ysgolion unigol yn mynd i gael ei ystyried wrth ddyrannu’r cyllid pontio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Dilwyn O Williams |
|||||||||||||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET PLANT, POBL IFANC A HAMDDEN PDF 219 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad. Cymeradwyo ail
broffilio gwireddu rhan o gynllun arbedion effeithlonrwydd ‘HAM4 - Rhedeg cyfleusterau
yn fwy effeithiol’ (cyfanswm o £256,500), o’r flwyddyn ariannol 2017/18 i
2018/19.
Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan y Cyng.
Mair Rowlands. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad. Cymeradwyo ail broffilio gwireddu rhan o gynllun arbedion effeithlonrwydd
‘HAM4 - Rhedeg cyfleusterau yn fwy effeithiol’ (cyfanswm o £256,500), o’r
flwyddyn ariannol 2017/18 i 2018/19.
TRAFODAETH Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden
ei hadroddiad perfformiad. Adroddodd na fyddai
grant Teuluoedd yn gyntaf yn cael
ei dorri ar gyfer 2017-18. Byddai cyllid ar
gael ar
gyfer cyfnod trosiannol hyd at Hydref 2017, pan fyddai gwasanaethau yn cael cynnig i
gael eu hail-gomisiynu gyda grant am dair neu bedair
blynedd. Nododd fod cynnydd cyffredinol yn y mesurau perfformiad, gyda’r nifer o bobl ifanc oedd
wedi derbyn achrediadau trwy’r gwasanaeth wedi cynyddu. ‘Roedd y gwaith o ail fodelu gwasanaethau ieuenctid wedi dechrau, gyda’r
gwaith ymgysylltu gyda’r bobl ifanc
yn mynd yn
ei flaen. Tynnodd
yr Uned Dechrau’n Deg sylw i’r ffaith nad oedd y mesuryddion perfformiad o
reidrwydd y ffordd orau i fesur eu perfformiad, yn benodol BC01, BC02, BC03 a
BC04. Bu’r uned yn gweithio ar fesurau newydd fydd yn adlewyrchu eu
perfformiad. ‘Roedd pryder ynglŷn â mesur SCC024 a
SCC025, gyda gwaith yn mynd rhagddo
i gyfathrebu pwysigrwydd y Cynllun Addysg Bersonol ymysg ysgolion er mwyn gwella
SCC024.
Cynyddodd
SCC025 oherwydd bod mwy o blant mewn gofal
yng Ngwynedd, ac roedd gwaith yn
mynd ymlaen i wella cofnodi
ymweliadau statudol yng ngwyneb y cynnydd
yn y galw. Adroddodd
fod cynlluniau arbedion yn yr adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn cael eu
cyflawni yn amserol, ond gan fod cynnydd yn y galw rhagwelwyd gorwariant o
£168,000. Nododd fod holl gynlluniau
arbedion 2016/17 yr adran Economi a Chymuned wedi eu
gwireddu, ond fod y Gwasanaeth Hamdden wedi cael
trafferth canfod yr arbedion pellach
yng nghynllun 2017/18. ‘Roedd
y datrysiad a ganfuwyd yn un heriol
a byddai angen mwy o amser i
wireddu’r arbedion yn llawn ac osgoi
gorwariant wrth drawsffurfio’r gwasanaeth. Awdur: Iwan Trefor Jones |
|||||||||||||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET ADDYSG PDF 183 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cymeradwyo’r ffigyrau
proffil amgen isod ar gyfer
Cynllun P7 Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cymeradwyo’r ffigyrau
proffil amgen isod ar gyfer
Cynllun P7 Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol:
TRAFODAETH Adroddodd yr Aelod Cabinet addysg fod perfformiad
yr adran Addysg yn gyffredinol
dda, yn enwedig
yn y sector uwchradd. Fodd bynnag
bu perfformiad y sector gynradd wedi bod yn statig, yn
enwedig yn y cyfnod sylfaen, ac felly ‘roedd amser edrych
yn fanylach ar hynny. Mae canlyniadau CA4
Gwynedd wedi bod y gorau yng Nghymru ers
4 mlynedd bellach ac mae hynny
i’w ganmol. Er mwyn parhau
gyda’r safonau uchel yma sefydlwyd
Bwrdd Ansawdd Sirol er mwyn
i’r Awdurdod a GwE gael
darlun cyflawno berfformiad y sector uwchradd a chynradd. ‘Roedd gweithredu’r model newydd o gefnogi ysgolion hefyd yn dwyn
ffrwyth, gyda 89.2% o ysgolion Gwynedd wedi eu categoreiddio
yn y dyfarniadau uchaf a dim un o ysgolion Gwynedd
mewn categori statudol. Nododd fod angen cysoni a gwella perfformiad ym
mhynciau mathemateg a Saesneg, gyda gwaith wedi dechrau gyda Phrifysgol Bangor
er mwyn adnabod darpar athrawon a’u hyfforddi. Bu rhywfaint o gynnydd wrth ganfod arbedion yn yr
adran, ond ‘roedd cydweithio gyda Môn i gyflawni arbedion cynllun
Trawsffurfio’r Ddarpariaeth Adnoddau Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad wedi achosi
llithro yn yr amserlen oherwydd trafodaethau i ymuno mewn partneriaeth
ffurfiol. Golyga’r llithriad yma fod angen ail broffilio’r cynllun arbedion. Awdur: Iwan Trefor Jones |
|||||||||||||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET ADNODDAU PDF 305 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a
nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Gyrru llythyr
i Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt sicrhau y bydd taliadau Lefi Prentisiaeth a
wneir yn dod yn ôl i’r Cyngor ar gyfer cyflogi prentisiaid. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Peredur Jenkins PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Gyrru llythyr i
Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt sicrhau y bydd taliadau Lefi Prentisiaeth a
wneir yn dod yn ôl i’r Cyngor ar gyfer cyflogi prentisiaid. TRAFODAETH Adroddodd yr Aelod
Cabinet Adnoddau ei fod yn gyffredinol gyfforddus gyda lefelau perfformiad ei
bortffolio. Nododd fod cwmni
Vanguard wedi bod i mewn i gynnal hyfforddiant a bod rhaglen datblygu arweinwyr
Ffordd Gwynedd ar waith. ‘Roedd cynnydd wedi
deillio o fabwysiadu’r Strategaeth TG, gan ganolbwyntio ar ddatblygu hunan
wasanaeth. Nododd fod £7.6 miliwn
o gynlluniau arbedion effeithlonrwydd yn cael sylw, a golyga hynny fod
strategaeth a sefyllfa ariannol y Cyngor tipyn cadarnach. Byddai’r Cyngor yn gorfod
talu Lefi Prentisiaeth i Lywodraeth San
Steffan yn y dyfodol, fydd oddeutu £600,000 o gost ychwanegol. ‘Roedd
yn aneglur faint ohono fydd yn
cael ei ddychwelyd
i Gymru trwy’r Fformiwla Barnett, ac nad
oedd y Cynulliad wedi rhannu unrhyw
gynlluniau am ei wariant gyda’r Cyngor. Er mwyn
ceisio cael eglurder ar y mater awgrymwyd gyrru llythyr i’r Cynulliad
i geisio mwy o wybodaeth. Awdur: Dilwyn O Williams |